Imatges de pàgina
PDF
EPUB

byddent ar newynu o eisiau bwyd, drwy nad oedd y llong wedi cyrhaedd o Loegr gyda'r cyflen-heite), yr hon a elwid yn frenines Polynesia, a wadau arferol: ond yn mlaen yn eu gwaith yr aethant hwy, gan ymgysuro yn addewidion a nodded Duw, nes y bendithiwyd eu llafurwaith yn ddirfawr.

"Yn nesaf, o ran amser, yw Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr. Amryw o weinidogion y Bedydd wyr a benderfynasant neillduo awr ar y prydnawn neu y nos Lun gyntaf o bob mis, i weddio am lydaniad teyrnas Crist dros y ddaear. Dyma ddechreuad y cyfarfod gweddi misol, yr hwn yn awr a gyuelir gan lawer o Gristionogion yn ngwahanol barthau y byd. Y dymuniad am droedigaeth y paganiaid a arweiniodd yn fuan i ymdrechiadau gweithredol; o herwydd nid oes modd i ni hir ddymuno a gweddio am un gwrthrych, heb wneuthur ymdrechiadau cyfatebol i'w gyrhaeddyd. Mr. Carey, un o'r gweinidogion, a draddododd bregeth yn mha un y dangosodd fod yn rhaid i ni ddysgwyl pethau mawr oddiwrth Dduw, ac ymgeisio am wneuthur pethau mawr dros Dduw.

"Pan yr oedd y gwyr duwiol hyn yn ystyried a chwilio beth i wneud, Mr. Thomas, llaw-feddyg, yr hwn a fu yn preswylio yn yr India, a diriodd yn Lloegr, ac a roddodd ddarluniadau cynhyrfiol o'r trueni cysylltedig ag eilunaddoliaeth yn y parth hwnw o'r byd. Wedi ymchwiliad priodol, penderfynwyd gwneuthur ymdrechi anfon yr efengyl i drigolion India. Cyllid y gymdeithas yn y dechreu oedd dair-punt-ar-ddeg, dau swllt a chwech cheiniog; ond mae ei chyllidau yn awr yn llawer o filoedd yn y flwyddyn. Fel hyn yr ydym yn canfod fod yr Arglwydd yn gweled yn dda lwyddo yr ymgeisiau mwyaf egwau i ddwyn yn mlaen ei ogoniant. Mr. Thomas a Mr. Carey oedd y rhai cyntaf a anfonwyd ar y neges o drugaredd, yn 1793, a buan yr anfonwyd eraill i'w cynorthwyo. Buont yn llafurio am lawer o flynyddoedd cyn gweled yr un eilunaddolwr yn derbyn yr efengyl; o'r diwedd cafodd rhai o'r Hindwaid eu dychwelyd, ac o'r amser hwnw, caniatäwyd iddynt lawer o lwyddiant yn eu gwaith. Bu Dr. Carey byw i weled yr eglwys fechan a blanwyd yn yr India wedi ymganghenu i chwech ar hugain o eglwysi cenadol, a miloedd o baganiaid yn ymwrthod a'u heilunod, ac yn dyfod yn ddylynwyr Iesu, yr unig Iachawdwr. Yn benaf drwy ei lafur ef, cyfieithiwyd yr holl Ysgrythyrau i chwech o ieithoedd y Dwyrain, a'r Testament Newydd i dair ar hugain yn ychwaneg. Mae gan gymdeithas y Bedyddwyr genadaethau yn Bengal, Hindos tan, Assam, Ceylon, India y Gorllewin, Affrica, Deheudir America, a lleoedd eraill."

"Rhaid mai prawf chwerw iddynt oedd hir lafrio heb weled neb yn cael eu dychwelyd," meddai ARTHUR; "gallwn i feddwl eu bod o'r bron barod i roddi eu gwaith i fyny."

yn

[blocks in formation]

am yr ynysoedd hyn. Yr ynys Tahiti (neu Otaddarlunid fel Paradwys ddaearol, a'i thrigolion fel rhai mwyaf llariaidd o'r hil ddynol; ond hysbysrwydd cywirach a ddangosodd nad oedd yr ynys brydferth hon, ar ol y cyfan, ond un o dywyll-leoedd y ddaear a thrigfan trawsder. Y cenadau a ymadawsant â gwlad eu genedigaeth gyda gweddïau a dymuniadau da miloedd, a chyrhaeddasant yr ynys a ddymunent ar ddydd yr Arglwydd. Fel yr oeddynt yn syllu o'r llestr ar fryniau yr ynys, yr oeddynt yn ymhyfrydu yn yr olygfa deg, tra y teimlent dosturi dros y preswylwyr, y rhai oeddynt yn suddedig mewn anwybodaeth a phechod. Wrth edrych ar yr olygfa oedd o'u blaen, cydganasant yr emyn

'O'er those gloomy hills of darkness
Look my soul, be still, and gaze;
How the promises do travail
With a glorious day of grace!
Blessed jubilee !

Let thy glorious morning dawn.'
[Dros y bryniau tywyll niwliog
'N dawel, f' enaid, edrych draw;
Addewidion sydd yn esgor

Ar ryw ddyddiau braf gerllaw!
Nefol Jubil' !

Gad im' wel'd y boreu wawr!]

Wedi iddynt dirio, rhoddodd y brenin Otu dŷ iddynt, gyda darn o dir yn llawn o goed ffrwyth-bara a cocoanut; ac yn fuan drwy help cyfieithwyr, dechreuasant addysgu y trigolion, a gwasgu arnynt i roddi i fyny yr arferiad o blant-laddiad ac aberthau dynol. Wedi peth amser, cyfododd yn helbul arnynt; byddai y bobl yn lladrata oddi arnynt bob peth o fewn eu cyrhaedd; ac ar un achlysur, ymosodwyd ar bedwar o genadon, dyosgwyd hwy o'u dillad, a llusgwyd hwy drwy ffrwd o ddwfr. Ofnid mwy o drais, yr hyn a wnaeth i amryw adael yr ynys; ond y lleill a arosasant yn ffyddlawn yn eu lleoedd, ac a ddywedasant eu bod yn ewyllysgar i beryglu eu bywydau, er mwyn enw yr ArgIwydd Iesu, yn iachawdwriaeth y paganiaid. Am un mlynedd ar bymtheg, yr oeddynt yn ymddangos yn llafurio yn ofer, ac yn treulio eu nerth am ddim; ni ddychwelasid cymaint âg un o'r trigolion, ac yr oedd eilunaddoliaeth ac arterion creulawn Y bobl yn myned yn mlaen yn ddirwystr. Ond o'r diwedd, pryd yr oedd bwriad difrifol am roddi y genadaeth i fyny, gwelodd Duw yn dda ganiatân llwyddiant mawr. Yr eilunod a daflwyd i lawr, ac a anfonwyd i Loegr, a'r bobl a dderbyniasant addysgiadau y cenadon gyda llawenydd. Hyn ydoedd ddechreuad pethau daionus: ynys ar ol ynys a ddygwyd dan ddylanwad yr efengyl; ac yn mhen ychydig flynyddoedd, nid oedd un ynys o bwys o fewn dwy fil o filtiroedd i Tahiti, heb fod newyddion da iachawdwriaeth wedi eu cludo

[merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small]

DYLANWAD Y DYCHYMYG-TELEGRAFF TRYDANAWL.

un o feddwl bach. Myned heibio i gamwedd sydd yn dangos un o feddwl mawr. Y mae'r peth lleiaf yn gyru dyn bach i anesmwythder.

2. Y mae ysbryd ymddial yn hollol groes i grefydd Crist. Matt. 6. 15. Na feddylied neb eu bod yn perthyn i Fab Duw tra y byddont yn meithrin yr ysbryd dinystriol hwn. Un dyn a ddywed, "ni faddeuaf byth iddo," sydd yn annheilwng o'r enw Cristion.

3. I Dduw y mae dial yn perthyn, Rhuf. 12: 19. Nid oes neb ond efe yn gymhwys at hyn. Y mae'r dyn sydd yn ymddial yn cynyg at orsedd Duw, ac am gymeryd y cwbl i'w law ei hun. Y mae yn drugaredd i ni feddwl nad yw gallu llawer i ymddial yn ateb dim i'w hysbryd chwyddedig.

4. Tra y byddo un dyn dan lywodraeth yr ysbryd annymunol hwn, bydd yn amddifad o wir ddedwyddwch yn y byd hwn, ac ni chaith byth fwynhau hapusrwydd y duwiol mewn byd arall. Y mae dyn anfaddeugar ac ymddialgar yn dwyn delw ci dad diafol. Uffern fydd ei gartref.

CREFYDDWR IEU ANC.

Amrywiol.

DYLANWAD Y DYCHYMYG AR Y CYFAN

SODDIAD CORPHOROL.

365

teulu wedi bod yn pledio o flaen y Barnydd, ac wedi llwyddo ganddo i beidio eich gorfodi i ddringo esgynglwyd y grogfa ac ymddangos ger bron edrychiad dirmygus y werinos; a chan hyny y mae wedi cyfnewid eich dedfryd, ac yn rhoddi awdurdod i chwi gael eich gwaedu i farwolaeth o fewn cyffiniau y carchar. Eich ymddattodiad a fydd yn raddol a diboen." Ymostyngodd y criminal i'w dynged, meddyliodd y byddai yn llai o waradwydd ar ei deulu, ac ystyriodd mai ffafr oedd peidio ei orfodi i gerdded i'r dienyddle cyhoeddus. Arweiniwyd ef i ystafell lle yr oedd pob parotoad wedi ei wneud yn mlaen llaw-rhwymwyd cadachau am ei lygaid—sicrhawyd ef wrth fwrdd â chareiau ac ar ammaid rhagdrefnedig pigwyd pedair o'i wythienau yn ysgafn â blaen pin, Wrth bob un o bedair conglau y bwrdd yr oedd ffynon fechan wedi ei threfnu i ddylifo yn araf deg i lestri a ddodwyd i ddal y dwfr. Y dyoddefydd, gan gredu mai ei waed ei hun oedd yr hyn a glywai yn rhedeg, a wanychodd yn raddol; a'r ymddyddau rhwng y doctoriaid a'i sicrhaodd yn ei dybiaeth. "Mor brydferth yw ei waed,” ebai un, "Y fath drueni i'r dyn hwn gael ei gondemnio i farw buasai yn byw am hir amser." "Ust!" meddai y llall, ac yna gan ddynesu at y cyntaf, gofynai mewn llais isel, eto fel y clywai y drwg

corph dynol!" "Pedwar-ar-hugain. Chwi a welwch fod deg pwys wedi rhedeg allan eisoes, Mae y dyn yna mewn cyflwr o anobaith." Yna y meddygon a giliasant yn raddol, ac a barhausant i ostegu eu lleisiau. Y dystawrwydd oedd yn

teyrnasu yn yr ystafell, ond gan swn dyferiad y

iodd mor ddwys ar ymenydd y dyoddefydd truan, nes y llewygodd a bu farw heb golli dyferyn o wacd!

Y mae dylanwad y Darfelydd neu y Dychymygweithredwr, " Pa sawl pwys o waed sydd yn y ar iechyd y corph yn beth sydd yn dyfod dan sylw yn aml. Os bydd y meddwl yn glwyfus ac wedi ei lwytho â phrudd-der, y mae y corph yn cyd-ddyoddef; ac y mae afiechyd y meddwl yn peri afiechyd ar y corph. Yr hanes a ganlyn am ymbrawf a wnaed i gael allan nerth y dylanwad hwn, a gymerir allan o Gyhoeddiad Meddygolffynonau yr hwn a leihawyd yn raddol, a effeithSeisoneg. Gellir cymeryd rhybudd oddiwrtho, a dysgu y perygl o beri dychryn ar neb, yn enwedig ar blaut. Aiff pobl weithiau i gymaint o drafferth mewn dychrynu plant er mwyn difyrwch ag yr aeth y Doctor iddi wrth barotoi gogyfer a'i ymbrawf { TELEGRAFF TRYDANAWL A LLYTHYRrhyfeddol. Os oedd y dylanwad mor nerthol ar ddyn cryf, gofaled pawb rhag profi cyffelyb beth ar blentyn eiddil. Gellir meddwl oddiwrth yr hanesyn canlynol mai pethau peryglus i blant fyddai, braw disymwth, adrodd iddynt chwedlau am fwganod, eu cau i fyny mewn ystafell dywell &c. Os oedd cyfansoddiad cryf dyn mewn oed addfed yn ymollwng, pa faint mwy y gwnai corph egwan plentyn bach!

Y LLADMERYDD.

Llawer o flynyddau yn ol, tueddwyd meddyg enwog, awdwr gwaith rhagorol ar "Effeithiau y Dychymyg," i ewyllysio cydgysylltu athrawiaeth ag ymarferiad, er sicrhau gwirionedd ei osodiadau. I'r dyben hyn, gosododd gais ger bron Gweinidog Cyfiawnder, yn gofyn caniatad i wneuthur ymbrawf ar griminal condemuiedig i farwolaeth. Gwelodd y Gweinidog yn dda i ganiatáu iddo, a thraddododd i'w ofal lofrudd o deulu uchel, Pan y dygwyd y meddyg i bresenoldeb y dyn condemniedig, efe a'i cyfarchodd fel hyn: "Syr, y mae rhai personau sydd yn teimlo dros anrhydedd eich

GLUDIAD I GALIFFORNIA.

Y mac mesurau ar weithrediad yn awr i drefnu cynllun ac i osod cynygiad ger bron y Gynghorfa nesaf yn Washington, i osod i fyny y Telegraff Trydanawl o St. Louis yn Missouri, i San Francis co yn California. Mewn cysylltiad â hyn, bwr iedir anog fod y fyddin o Feirchfilwyr, tra nad oes ganddynt ddim arall i'w wneud yn amser heddwch, neu ryw nifer o honynt, yn cael eu gosod yn wersyllfäoedd bychain, o 20 i 30 o filltiroedd oddi wrth eu gilydd, ar hyd y ffordd lle y gosodir y Telegraff. A hefyd fod llythyrgod dyddiol (daily mail) yn cael ei anfon ar hyd y ffordd hon, i'w gludo gan y milwyr o wersyllfa i wersyllfa, yn ol ac yn mlaen. Dadleuir na fyddai ond ychydig yn fwy o draul i gyual y milwyr felly, yn wersyllfäoedd bychain, na'u cynal yu filoedd yn nghyd mewn gwersyllfäoedd mawrion. Y pellder yw tua 2800 o filltiroedd-ychydig yn llai na'r daith dros y môr o Liverpool i New York. Gwrthddadl euir y byddai yr Indiaid yn debyg o dori y gwyrf

ac attal gweithrediad rheolaidd y Telegraff. Ond o'r tu arall atebir fod hyny yn cael ei wneud yn aml yn mhlith pobl wynion, ond fod modd trwsio ar ol tori; ac heblaw hyny y byddai presenoldeb y meirchfilwyr yn cludo y llythyrgod ar hyd y ffordd o ddydd i ddydd yn amddiffyniad i'r gwyfr Telegraffaidd. Ni byddai y draul mewn cymhariaeth ond ychydig, a byddai y cyfleusdra yn fawr fel cyfrwng gohebiaeth gyflym rhwng y ddwy wlad. Byddai yn rhagarweiniad ac yn rhwyddhad i wneuthuriad y Gledrffordd fawr i Galiffornia. Byddai y gwersyllfeydd milwraidd yn amddiffyniad i deithwyr dros dir i ac o Galiffornia, a thueddai i raddau i brysuro poblogiad y "Gorllewin Pell."

CYNYGIAD AT ROI ATEB I OFYNIADAU CARWR CYSONDEB.

(Gwel Rhif. Hydref, tu dal. 303.)

Gofyniad laf. A all dirwestwr yn unol ag egwyddorion dirwest, werthu pethau meddwol i'w gymydogion o dan yr esgus o'i rhoi fel meddyginiaeth, pryd y gellir cael y cyfryw bethau yn yr un heol yn siop yr apothecari ?”`

66

Nid hawdd iawn yw ateb y gofyniad. Y mae yr ardystiad dirwestol yn gofyn llwyr ymwrthodiad â'r diodydd meddwol, fel diodydd, gyda yr eithriad o'u defnyddio ar amgylchiadau neillduol, os bydd angenrhaid, “fel meddyginiaeth." Ond os defnyddir hwy dan yr esgus" o'u defnyddio fel meddyginiaeth, (fel yr awgrymir yn y Gofyniad,) pan mewn gwirionedd y byddant yn cael eu def nyddio i borthi blŷs a chwant, mae yr ardystiad yn cael ei dori. Felly, os gwerthir y diodydd meddwol "o dan yr esgus o'u rhoi fel meddyginiaeth," pan y mae hyny yn cael ei wneud yn wirioneddol er mwyn elw, heb nemawr ofal am y defnydd a wneir o honynt gan y prynydd, mae yr ardystiad, yn ei ysbryd os nad yn y llythyren o hono, yn cael ei dori gan y gwerthwr. Myned i ffordd y brofedigaeth, yn ddi-angenrhaid, a bod ion i arwain eraill iddi, y mae y “dirwestwr," dan yr amgylchiadau a nodir yn y gofyniad; ac y mae yn amlwg nad yw y cyfryw ymddygiad yn "unol ag egwyddorion dirwest."

yn

pa

fodd

Ас yn mhellach, ni ddylid rhoi allan y cyfryw bethau o " siop yr apothecari," ond fel y gwneir gyda rhyw wenwyn peryglus arall, megys arsenic a'r cyffelyb, sef gydag ymofyniad manwl ddefnydd a fwriedir wneud o hono gan y prynydd. 2. "A ydyw ymarfer a'r cyfryw fel meddyginiaeth deuluaidd, heb gyfarwyddyd meddyg, yn beth anrhydeddus i ddirwestwr?"

Nid wyf yn meddwl fod yr ardystiad dirwestol yn cynwys rhwymedigaeth i ymofyn cynghor meddyg ar bob amgylchiad o gystudd. Y gwirionedd yw, y mae llawer o ddynion yn yr oes oleu hon wedi deall cymaint eu hunain o'r cyfansoddiad dynol, fel nad oes angen cynghor meddyg arnynt, oddieithr ar amgylchiadau annghyffredinol, a diamheu y dylai pob dyn fod yn "feddyg yn ei deulu ei hun ar bob amgylchiad o gystudd cyffredin. Eto nis gallaf feddwl fod " ymarfer a'r cyf "bethau, hyd yn nod fel meddyginiaeth, (os wrth y gair "ymarfer" y golygir defnydd mynych,) yn ymddygiad" aurhydeddus" mewn dirwestwr, na chyd å, na heb gyfarwyddyd meddyg.

ry w

3. Os condemnir y cyfryw, pa fodd y dylai y Gymdeithas ymddwyn ar ei achos?"

Dylai ymddwyn tuag ato fel un sydd yn dianrhydeddu ei broffes,-ei alw i gyfrif yn dirion ac

[blocks in formation]

Yr olwg fawreddog ddychrynai'r Israeliaid,
Yr helm loyw ardderchog a'r Llurig bres fawr,
Y Darian ddysglaerwych a'r cleddyf Ïlym tanbaid,
A'r waywffon rymus addurnent y cawr.

A heriai gan waeddi, Myfi wyf Philistiad,

A gweision i Saul brenin Israel y'ch chwi,
Yn awr doed o'ch byddin chwi unrhyw Hebread
Am y ddwy goron i ymladd â mi.

Ond wele ar ddamwain-na, llaw ragluniaethol-
Yn arwain mab Jesse i'r gwersyll ryw ddydd,
Bachgenyn teg gwrid-goch, mewn agwedd serchiadol,
Un gwan o gorpholaeth, ond nerthol o ffydd.
A gwelai y cawr ymorchestol yn chwyddo,
A'i olwg yn ddychryn i'r gwersyll yn nghyd;
A Dafydd ofynodd, Beth fydd i a'i lladdo
A symud gwaradwydd plant Israel i gyd?
Eliab ei frawd a ddechreuai ei holi,

Beth yw dy neges? dos di at y praidd,
Gwelais dy ymchwydd cyn hyn yn ymgodi
I ddangos dy hunan mewn balchder ac aidd.
Medd Dafydd, Ar neges y daethum i'r gwersyll,
I gludo eu rheidiau i'm brodyr yn awr,
Sydd yma er's deugain o ddyddiau yn sefyll,
Yn gwrando'n drwm-galon ar heriad y cawr.
Yna cyfarchodd Saul gyda'i holl fyddin,

Na fyddwch lwfr-galon ac nac ofned un;
Dy was a à allan i ymladd O! frenin,
Wynebaf yn con Goliath fy huu.

Ha! Ha! Saul a 'wedai, Ni elli di fyned
I ymladd yn erbyn Philistiad fel hyn,
Mae e'n hen ryfelwr a thithau cyn ie'nged,
Ac yna ochneidiodd gan edrych yn syn.
Ond Dafydd er hyny heb unrhyw betrusder,
Ar ol methu cerdded yn arfddillad Saul,
Am ei ffou-dafl ymofynai mewn byder,

Gan ddweyd, Mi a'i gwynebaf ni chiliaf yn Encilia, fab Jesse, gwel loywed ei darian, Gwel lymed ei gleddyf, gwel gymaint yw'r cawr, Gwrando ar ei grochlef ofnadwy, mal taran, O'i flaen ef y syrthi yn farwol i lawr.

ol.

Pa fodd y dychwelwn a'r newydd galarus
Pan fyddi yn ymborth i adar y nef,
A phlant y Philistiaid mewn hoen orfoleddus
Yn Gath ac yn Ascelon clywir eu llef.

Goliath o Gath, O cofia ei enw !
Mewn rhwysg a mawrhydi mae'n arddel ei hun,
Goliath o Gath, y cawr yw hwn acw,
Ei enw sy'n ddychryn i Israel bob un.
Goliath o Gath sy er's deugain o ddyddiau
Yn peri mwy dychryn i'r gwersyll bob awr,
Goliath o Gath, ein cawr meddynt hwythau,
Mewn ymchwydd y bostient hwy fwy fwy o'u cawr.
Goliath o Gath, ai e, ebai Dafydd,

Mae un mwy nag yntau. Ust! Dafydd, pwy yw?
O Israel, ai'n angof yr aeth dy Waredydd,
Dy gadarn for uchel, yr Arglwydd dy Dduw?

Yn enw Duw Israel trwy'r fyddin y rhedaf,
Yn enw Duw Israel y llamaf dros fur,
Yn enw Duw Israel y gelyn a gwympaf,

Er maint yw ei ymffrost o'r darian a'r dur.
Yn enw Duw Israel y llew a'r arth lleddais,
Ac o'u palfau creulawn y dygais fy oen,
Yn enw Duw Israel (can's ynddo gobeithiais)
Y lladdaf Goliath yr un mor ddiboen.

O flaen Arch yr Arglwydd fe gwympodd eu Dagon,
Ac felly fe gwympir eu cawr gan ei was,
Pwy bynag fo ngelyn, fy Nuw sydd yn ddigon,
Gogyfer a'm gwendid mae nerthoedd ei ras.
Adar yr awyr oedd hefyd yn gwrando

Addewid Goliath i'w porthi'r waith hon;
Ac eilwaith gofynai gan ail ymfytheirio,
Ai ci ydwyf fi, pan ddoi atat â ffon?

A bogi ei gleddyf wnai'r enwog Philistiad,

Heb unwaith ddych'mygu beth gyntaf gai'n waith;
Goliath a'i gleddyf-ond Dafydd a'i Geidwad,
Duw oedd ei darian wrth gychwyn i'r daith.
Ei gamran a rifwyd gan nwydau cymysglyd
Saul a'i fyddinoedd rhwng gobaith a braw,
A gwyr y bwaau a chwarddent yn wawdlyd
With weled bachgenyn â ffon yn ei law.
Ond buan y troes eu chwerthiniad yn alar,

A galar plant Israel a droes yn gân ber,
Ha! dacw'r cawr, ie'r cawr ar y ddaear
Yn farw, a Dafydd yn moli ei Nêr.
Mawr drwst ei gwymp marwol atebid a banllef
Y dienwaededig ar aelgerth y bryn,
A'r ogof adseiniawl watwarodd eu crochlef,

Daeth natur ei hunan i'w gwawdio'r pryd hyn.
Mal ergyd y cigydd yn nhalcen yr eidion

Aeth careg mab Jesse i dalcen y cawr,
Hi' holltodd yr awyr chwyrnellodd yn union,
A chwympodd fab Anac yn farwol i lawr.
Chwythwch yr udgorn derchefwch y faner,
Ei ben ef a dorwyd â'i gleddyf ei hun,
Ymlona, O Israel, yn Nuw boed dy hyder,
Dy elyn a gwympwyd, ond Duw sydd yr Un.
Bydd lawen ferch Sion, Ha! Ha! gorfoledda,
Mal Dafydd ar ddydd ei briodas bydd lon,
Eiddo dy Arglwydd yw rhyfel, O cana!
A'th eiddo di heddwch byth byth ger ei fron.

Cyfl. gan

Y Nos.

TEGAI. WILLIAM O FON.

Yr haul mawr breninawl a dynai fy sylw,
Pan ydoedd yn mron a ffarwelio a'r byd;
Ei olwg oedd glafaidd a hynod brudd glwyfus,
Collasai danbeidrwydd gorwychawl ei bryd.
Edrychai yn cilio oddiwrthyf yn raddol,

'Nol hyny dechreuai a chuddio ei hun;
O'r diwedd disgynai yn gwbl o'm golwg,
Nad allwn ddim gweled ei gysgod na'i lun.
Ar hyn fe aeth tristwch ar wyneb y gread,

Mwyn adar y goedwig a beidient a'u cân;
Y blodau a wylent am fyned o'u harglwydd
I ffordd oddiwrthynt, a'u gadael yn lân.
Ar hyny mi godwn fy llygaid i fyny,

Edrychai y wybr yn glafaidd ei gwedd,
Ar hyny y lleuad esgynai ei llwybr,

Ei llewyrch oedd wanaidd, a roddai mewn hedd. Tu draw idd y goedwig yr oedd ei mynedfa, Yn diws ac arianaidd yr ydoedd ei grudd; 'R goleuni'n ymsaethu mor hardd rhwng y cangau, O'r braidd a wnai'm calon i lamu fel hydd. Mor brydferth yr olwg-mor hardd a godidog,

Yr ydoedd ei llewyrch i'm llygaid drwy'r llen; Yr awel a ddeuai-'r llu deiliog a ddawnsient, Yr ydoedd yn edrych yn llachar dros ben. A'r wybr-gogoniant a welwn yn mhobman, 'N y dwyrain, gorllewin, y gogledd a'r de, Pwy yw y dilledydd a wnaeth ei gwisg gywrain? Pwy rodd y boglynai hyn oll yn ei lle?

Pan ydoedd haul enwog a'i rwysg yn teyrnasu,
Yr orwych ddarlun-len a gadwai dan gudd ;
Nid allwn ddim gweled y bydoedd dysgleirwych,
Yn addurn i wyneb yr asur y sydd.

'N y nos nid oes cynhwrf i dynu fy sylw,

Ond trystiad yr awel yn nghangau y gwydd, A'r nant yn y dyffryn wrth ddiwyd ymdreiglo, Yn canu a dawnsio yn llonwych y sydd. Daioni y Crewr a welir yn amlwg,

Yn nhrefn llywodraeth mor eang a maith, Rhoi nos i'n gael gorphwys 'nol llafur a blinder, A gweled a'n llygaid ogoniant ei waith. Caerefrog Newydd. LLEWELYN DDU.

Y Pererinion Nefol.

Pwy ydyw'r llu dymunol hyn?

Eu bath ni cheir ar fro na bryn,

O ddedwydd dorf, dywedwch pwy? Dyeithriaid ynt, gwn wrth eu hiaith,

I ba ryw le'r ant ar eu taith?

Mae ar ar eu baniar "FARWOL GLWY."
Hwy ddaethant oll o'r Aiphtaidd dir,
Ant oll i Ganaan cyn bo hir,

Eu taith sydd drwy'r anialwch mawr;
Eu beichiau sydd yn drymion iawn,
O'r boreu hyd nes del prydnawn,

Ас yna cant eu rhoddi lawr.
Rhyw lu banerog ydynt oll,
'Does neb o'r rhai'n i fod ar goll,
Bwriadant fyn'd i ardal bell;
Wrth wylio a gweddio'n ddwys,
A rhoddi arno ef eu pwys,

Hwy ant ryw ddydd i wlad sydd well.
Ei hiaith oll yw, "Ni awn, ni awn!
'Rol teithio i dre' y goron cawn,

Ein cartref ni sydd uwch y sêr; Fe dderfydd yr anialwch maith, Daw diwedd buan ar ein taith,

[ocr errors][merged small][merged small][merged small]

COFIANT EZEKIEL HUGHES, YSW.

Ganwyd ef yn Llanbrynmair, Maldwyn, Awst 22, 1766. Tarddodd o deulu cyfrifol a chrefyddol. Ei henafiaid oeddynt yn mhlith y teuluoedd henaf yn y plwyf, wedi cyfaneddu am oesoedd mewn tyddyn a elwir Cwmcarnedd Uchaf. Cafodd Mr. H. yn ei ieuenctyd freintiau helaeth i gael addysg; defnyddiodd ei gyfleusderau gyd a ffyddlondeb hyd cyrhaedd gradd helaeth o wybodaeth. Tueddwyd ei feddwl yn foreu i chwilio am ansawdd a sefyllfa yr Unol Dalaethau, ac ar ol dwys ymgynghori gyd â'i hybarch dad, a chyfeillion eraill, penderfynodd i ymweled â'r wlad newydd tu a gostwng haul. Ymaflodd ysbryd ymfudiad mewn amryw o'i gyfoedion, sef y Parch. George Roberts, Ebensburg, Edward Bebb, Dafydd Francis, ac eraill. Yn y dyddiau hyny, yr oedd y fath beth yn dra rhyfedd ac yn nodedig iawn yn ardal Llanbrynmair, ac nid ychydig oedd y cynhwrf ar eu cychwyniad.

Yn Awst, 1795, dechreuasant y daith. Yn Bristol, lle y cymerasant long, cyfarfuant ag amryw o Gymry yn gwynebu yr un wlad. Yn eu plith yr oedd y Parch. Rees Lloyd a'i deulu, William a Morgan Gwilym &c. Ar y llong "Maria" o Salem, Mass., tra yn treulio tri mis ar y fordaith, dechreuwyd rhwng y cyfeillion hyn gyfeillach a serchawgrwydd a barhaodd hyd angeu. Nid oes yn aros o deulu y "Maria," ar ol treigliad haner cant a phedair blynedd, ond ein hanwyl ac oedranus frawd a ffyddlawn weinidog Crist yn Eb

ddoleri. Yn ddiweddar gwerthwyd y tir am 27000 o ddoleri. Llog yr arian yma fydd yn ddigonol i gadw ysgol rad 8 mis o'r flwyddyn yn mhob ysgol. dŷ yn y plwyf, yn sicrhau i bob plentyn helaeth foddion i gael gwybodaeth.

Dosbarthodd Mr. Hughes ei dir i wneuthur wyth o dyddynod, a thrwy hyny yr oedd oddiamgylch iddo lawer o deuluoedd yn trin ei dir ar rent. Tu ag at y cyfryw, yr oedd yn ymddwyn yn siriol —yn dyner-ac yn haelionus,—a thrwy hyn enill odd enw da. Bu un teulu ar ei dir am 30 o flyn

ensburg, a Mrs. Fraucis, Paddy's Run, O. Medd-yddoedd. Fel cymydog, yr oedd y tlawd a'r cyf

yliaf, na ddaeth erioed yr un rhifedi o Gymry i'r wlad hon ar unwaith, ac yn eu plith gymaint o ferched a dynion yn meddiannu y fath wroldeb, diwydrwydd, ymröad, a phob rhinwedd moesol a chrefyddol. Maent wedi gadael eu hôl ar yr oes a'u canlynodd, ac fe fydd eu dylanwad yn ddaionus a'u coffadwriaeth yn felus am oesoedd i ddyfod. Bydd brigau yr Alleghany, a thoreithiog ddyffryn oedd y Miami, yn adsain eu henwau a'u rhinweddau er clod i'w lluosog hiliogaeth, fel y sefydlwyr cyntaf-fel dinaswyr-a chrefyddwyr.

Tiriodd Mr. Hughes yn Philadelphia. Arosodd yno y gauaf cyntaf yn chwanegu ei wybodaeth am y gorllewin, ac egwyddorion y llywodraeth wladol. Byddai yn son yn aml am ei ymweliadau â'r "Congress" a gynelid y pryd hyny yn y ddinas, gwrando ar brif Seneddwyr y wlad,-megys Washington, Franklin, Jefferson, Adams, &c. Yn y gwanwyn, 1796, daeth i'r gorllewin. Bu dri mis ar y daith i'r fan lle mae Cincinnati a'i chant ac ugain mil o drigolion heddyw,-y pryd hyny yn anialwch, oddieithr ychydig fythod, ac amddiffynfa filwraidd. Hyd 1802 bu ef a'i gefuder, y diweddar Edward Bebb, yn byw y rhan fwyaf o'r amser ger y Miami, nes i dir y llywodraeth ddod i'r farchnad; yna prynodd Mr. H. oddeutu 1200 erw ar lan y Miami, ac yn fuan wedi hyn dychwelodd i Gymru. Arosodd yno rai misoedd, a than weinidogaeth y Parch. Richard Tibbot tueddwyd ei feddwl i ddyfod at waith yr Arglwydd, a derbyniwyd ef yn aelod i eglwys Crist. Yn Mai, 1803, priododd Margaret Bebb, merch ieuanc ragorol am rinwedd moesol a gwir grefydd, ac yn fuan ar ol hyn dychwelodd drachefn i'r wlad hon. Ond cyn pen blwyddyn ar ol cyrhaedd Ohio, bu farw ei anwyl wraig, er ei fawr golled a'i ddwys alar. Yn mhen amser priododd drachefn â Mary Ewing, merch i deulu parchus a chrefyddol oedd wedi symud o Carlise, Penn., i'r gymydogaeth, yr hon sydd yn aros i alaru marwolaeth ei phriod, Bu iddynt naw o blant, saith o honynt yn fyw ac yn bresenol yn nghladdedigaeth eu Tad,

Llanwodd Mr. H. lawer o swyddau gwladol yn dra derbyniol. Yr oedd yn ddyn o ysbryd cyhoeddus, ac yn fawr ei ymdrech i wneuthur lles i'r wlad a'i thrigolion. Trwyddo ef, yn benaf, rhwystrwyd gwerthiad y "school section" flyneddau yn ol, pan oedd y tir yn rhad. Yr amser hyny ni fuasai yn gwerthu am fwy na 3000 o

ac yn

oethog yn ei hoffi yn fawr. Am ei fod yn awydd. us i fod yn gymwynasgar, yr oedd iddo lawer o gyfeillion. Hyfrydwch ei galon oedd gwneuthur daioni, drwy gydymdeimlo, a chynorthwyo pawb oedd mewn cyfyngder ac eisiau. Bu hefyd yn oruchwyliwr ffyddlon yn achos ei Arglwydd. Anhawdd iawn yn sefydliad y wlad oedd cynal gweinidog, am fod arian mor brin, a'r bobl yn weiniaid. Cyfranodd Mr. H. yn dra helaeth at y gwaith da. Gofynodd cymydog iddo ryw dro, pa fodd yr oedd yn rhoi cymaint at gynal y weinidogaeth? Ei ateb oedd, "Mae yn rhaid i ni gael pregethwr, ac y mae Duw wedi rhoi i mi lawer o dir; pe buaswn i heb ei brynu, mae yn debyg y buasai rhyw deuluoedd crefyddol yn ei feddiannu, rhoi mwy na fi at gynal yr achos; am hyny fy mraint a'm dyledswydd yw rhoi fel hyn." Yn fore adeiladwyd capel hardd a helaeth ar ei dir. Efe a'r diweddar Gen. Harrison, Llywydd yr U. D., yn benaf, a adeiladasant y capel. Yr oedd y ddau hen wr yn gymydogion agos, ac yn gyfeillion am 40 mlynedd, Ar y cyntaf, aelododd Mr. H. gyd ag eglwys Annibynol ar Paddy's Run, dair milltir ar ddeg o'i gartref. Mewn amser, unodd gyd a'r eglwys Bresbyteraidd yn ei gymydogaeth, lle y bu yn llanw cylch o dduwioldeb a defnyddioldeb hyd ei farwolaeth. Ei nodwedd fel dyn ac fel Cristion oedd enwog mewn egwyddor ac ymar weddiad, Er ei fod yn gloff am dros ugain mlynedd (o herwydd codwm a gafodd) braidd byth y byddai ei le yn wag yn y cysegr ar y Sabboth. Os byddai galwad am gynorthwy i adeiladu capeli ---cynal y cymdeithasau crefyddol-cynorthwyo y tylawd, byddai ei barodrwydd siriol i gyfranu yn dangos haelioui ei natur ac yn cynesu calon yr ymofynydd at y cyfranwr, Rhoddodd i fyny er's llawer blwyddyn i ofalu yn bersonol am ei amgylchiadau bydol. Treuliai lawer o'i amser yn darllen llyfrau hanesyddiaethol a chrefyddol, yn nghyd a gair Duw; ac mewn ymddyddan â'i gyfeillion a'i gymydogion fyddent yn ymweled âg ef. Ei adroddiad o'i helynt yn ei ymweliad cyntaf â'r gorllewin oedd hynod o ddifyr, a'i hanes am gynydd y wlad oedd yn dra gwerthfawr. Bendithiwyd ef yn helaeth â thrugareddau y byd hwn, ac â chalon i'w mwynhau. Gadawodd ei blant i gyd yn aelodau o eglwys Crist, ac mewn cyfleusdra i fod yn ddefnyddiol a chysurus. Aeth i lawr i'r bedd mewn llawn hyder. Gofynwyd iddo ychydig

« AnteriorContinua »