maniaid a'r Daniaid-Prwsia ac Awstria wedi y mosod ar y Daniaid-brwydrau wedi eu hymladd ac os cymer Lloegr blaid Denmarc (fel y medd. ylir sydd debygol) ofuir y bydd yno ryfel mawr. CYMRU. MARWOLAETHAU. RHAGFYR 14, yn Minffordd, Llandinorwig, Henry, mab John Williams, Minffordd, o'r darlodedigaeth, 22. 26, John Hughes Gelli Bach, Bettws y Coed, tad H. Hughes (Gethin) Liverpool, 61. 27, yu Rhif. 35, Bernard st, Russell square, Llundain, y Parch. Evan Evaus o Llaethliw, ger Aberayto, bed 43. 29, yn dra sydyn, Elizabeth, gweddw y diwedd. ar Wm. Edmunds, gof Llanerchymedd, 69. 30, ar ol hir nychdod, John Jones, Tau y ffordd, Carufadryn, ger Pwllheli, yu 70 oed. IONAWR 2, Anne, anwyl briod E. Edwards. Arolygwr gwaith tin Glandwr, Abertawe, oed 43. 7, ar ol tair blwydd a haner o gystudd, Mrs. Ellin Penny, gweddw y diweddar Mr. R. Williams, Dolygaregddu, Blaenau Ffestiniog. 7, Elizabeth, priod Owen Jones Congl y wal, Blaenau Ffestiniog, ar ol byr gystudd, oed 25. 4, Elinor, priod Thomas Morgaus (Eos Iolan), Foel Gron, Dinorwic, oed 35. 5, geneth bach 3 wythnos oed i Thos. Morgans (Eos Iolan). Claddwyd hi a'i mham yn yr un arch, Ionawr 8fed yn Llanberis. 9, Hugh Williams, Llwybryd, Mynydd Llandegai, oed 52. 13, Mr. Dawson, Gronant. Hen wladwr hoff a pharchus, a theimlir colled ar ei ol yn mhlith ei deulu a dosbarth helaeth o'i gydnabod. 11, ar ol ychydig ddyddiau o'r diptheria, yn 48 oed, John Jones, Eagles Inu, Corwen. 18, ar ol cystudd maith, Cathariue, priod Wm. Joue, Pantydefaid, Waunfawr, ger Caeruarion, 27. 13, yn 71 oed, David Rowlands, Factory, Clwt y bont, Llauddeiniolen. 13, ar ol hir nychdod, yn 75 oed, Hugh Thomas, Ty'n y Cefu, Corwen. 13, y Parch. Morgan Rees, blaenor y Methodistiaid yn y Cornelau, ger Pil, Morganwg. 13, Mrs. Ellen Pierce, o'r Union, Tremadoc, 61. 13, Aun, priod Edward Griffiths, 18, Clare st., Llundain, yu 40 oed, genedigol o Laubryumair. 14, ar ol trwm gystudd, Mr. W. G. Owen, Ty'n Llwyn, Tan y grisiau, Blaenau Ffestiniog, oed 38. 14, yn 68 oed, Owen Williams, Parciau rhos, plwyf Llanddeiniolen, uu o oruchwylwyr Cadben Duff yu Part Dinorwic. 14, yn 78 oed. Mary, priod John Williams, teil. iwr, Ty capel. Hyfrydle (T. C), Caergybi. 15, Catherine Ann, merch y Parch. W. Roberts, Abergele, yn 5 wythnos oed. 16, yn 83 oed, yn Beaumaris, John Jones (gynt o Lyulleifiad), meistr y carchar sirol. 16. yn 72 oed, Mrs. Jane Thomas, Cefn garw, Pentrefoelas, mam W. W Thomas, Pentrefoelas. 17, yn ddisymwth yn Hope St., Liverpool, Mrs. Roberts, Priod Mr. Roberts, Tan yr allt, Abergele, a Hope St., Liverpool. GAIR AT BLANT GOMER YN UNOL DALAETHAU AMERICA. BARCH. OLYGYDD,-Dyeithr ydych i mi ond eich enw a'ch gwaith-mae eich enw a'ch llafur yn adnabyddus i mi ac i'r miloedd tu yma i'r môr fel tu yna. Yr hyn a'm cyffrodd i anfon gair i'ch gofal, os caiff ddyfod i'ch llaw, at fy hen a'm hanwyl frodyr a'm chwiorydd, pa rai fu yn hoff a gorbot genyf i gyd addoli gyda hwy tu yma i'r môr, ydoedd, dyfodiad y Parchedig E. R. Lewis o Pittston i roi tro am danom yn Neheubarth Cymru. Mae ei wybodaeth am yr eglwysi a'r brodyr a'r chwior. ydd wedi bod yn ddefnydd cyfeillachau hyfryd a melus, nes yw wedi ein cario yn ol at yr hen leoedd -hen oedfeuon-yr hen frodyr-yr hen gymdeithas au—a'r hen hwyliau mawr ac anwyl y buom yuddynt gyda bwyut lawer gwaith. Mae coffau enwau ein brodyr y cenhadau-a'r brodyr a'r chwiorydd eraill, yn codi awydd ynom am ehedeg dros yr Atlantic gael golwg arnynt, ac ar feddau y rhai sydd dan y dywarchen lâs; ond nis medr. wn-ac nis gallwn ddod dan lywyddiaeth ua gwynt nac agerdd-rhaid boddloni-ddim ond trwy glywed a gweled ol llaw ambell un ar bapyr. Yr ydym yn teimlo yn gynhes at bawb sydd yn dod oddiwrthych tuag yma-ac yn hoff iawn o'r Haul mawr yma-mae yn rhoi tro am danoch bob dydd-anwylwn ef am ei fod yn eich goleuo cyn pen 12 awr wedi pasio ef ni. Mr. Gol., a fyddaf yn rhy ĉon arnoch ofyn am gael rhoi yr ychydig linellau yma, neu ran o honynt, yn eich hyglod gyhoeddiad, neu ar ei amlen, fel y gallo fy mrodyr anwyl eu gweled, gael idd. ynt gario gair oddiwrth eu heu frawd sydd yn tynu yn mlaen tua'r terfyn mawr. Mae you lawer ag y bu yr hen law sydd yn scriblo y llinellau hyn yn eu croesawu i gymundeb eglwys Dduw. Mae coffa eu henwau gan y Parch. E. R. Lewis wedi tanio fy serch atynt; felly yr wyf yn methu ymatial heb anfon fy nymuniadau a'm gweddiaudrostynt tu a'r nef, ac yn anfon fy nghofiou gwres ocaf mewn anerchiad at yr holl frodyr sanctaidd— gras mawr fyddo arnoch oll. Yr wyf yn teimlo yn ddedwydd iawn wrth glywed am lwyddiant crefydd yr addfwyn Iesu yn mhlith y Cymry, a'r gwaith mawr mae gras yn ei wneud trwy lafur ac ymdrech fy mrodyr pa rai aeth oddiyma yn ieuanc, ond erbyn hyn ydynt yn hen. Yr wyf yn methu ymattal heb eu henwi wrth yr orsedd fawr. Dymunwn allu bod gyda chwi yn eich cymanfaoedd mawrion, ond "Er yn bod yn absenol yn y corff yr wyf gyda chwi yn yr yspryd, yn llawenychu ac yn gweled eich trefn chwi a chadernid eich ffydd yn Nghrist." Yr wyf yn teimlo ac nid y fi ond miloedd yn Israel yn y wlad hon, yn ddedwydd ac yn ddiolchgar iawn am ddyfodiad ein parchus frawd Lewis i roi tro am Gymru. Mae ei swn yu beraidd iawn i'n teimladau-mor debyg i swn un o blant ein Tad ni, fel nad allwn lai na'i anwylo yn fawr. Hefyd yr ydym yn canfod ynddo dalent ie talentau mawrion. Mae ei bregethau a'i ddarlithiau, a'i gyfeillach, wedi effeithio nes ydym bron a meddwl bod cyfnod newydd ar yr achos yn yr ardal. oedd yma. Nis gallwn lai na diolch i'u brodyr yna am ei hepgor i ni gael mwynhau ei lafur an ychydig wythnosau. Gweithiwr rhyfedd yw gras, ond mae gyda thalent yn rhagori. Dymunem i'n brawd ieuauc ac i'n holl frodyr yn yr Unol Dalaethau bob cymorth ac amddiffyn ar eu gyrfaoedd, yn eu heglwysi, ar dir a mor, wrth fyw ac wrth farw, y rhan dda a'r rhan oreu, a rhan dragywyddol iddo ef a hwythau. Hyo atoch oll, anwyliaid yn yr Arglwydd, oddiwrth eich hen a'ch anwyl frawd yn Nghrist, PHILLIP GRIFFITHS, Alltwen. Tachwedd 22, 1863. Diolchwn yn fawr i Mr. Griffiths am ei lythyr Cristionogol caredig. Bydd cannoedd os nid miloedd yn ei ddarllen gyda chalonau cynhes a gruddiau gwlybion, a chydag awydd am ail fwynhad eto yn helaethach o'r profiadau hyfryd a fwynhasant gynt dan weinidogaeth ein hauwyl frodyr yn Nghymru, mewn manan a than amgylchiadau y cofiant yn de'a am danynt. Byddwn ddiolchgar am ohebiaeth eto yn fuan oddiwrth Mr. Griffiths i'r Cenhadwr.-GoL. AREITHIAU AR AMERICA. Traddodwyd areithiau gyda hyawdledd a chymeradwyaeth mawr ar sefyllfa ac ansawdd pethau yn America, gan y Parch. E. R. Lewis o Pittston, Pa., mewn amrywiol fanau yu Neheudir Cymru yn ddiweddar. Rhoddir canmoliaeth gynhes i'r brawd fel areithydd ac i'w ddarlithiau yn y Cy. hoeddiadau Cymreig a Seisonig yn Nghymru. 1. Brother, on the troubled deep, When tho wild winds round you sweep, And the waves in madness leap, 2. When the storm has died away, And the sun with cheering ray, Now illumes your prosperous way, Y CENHADWR AMERICANAIDD. OYF. 25, RIIIF. 4. Buchdraithodaeth. EBRILL, 1864. Y PARCH. RICHARD J EVANS, CENHADWR YN OLYMPIA, W. T. Meh. 15, 1863, bu farw y Parch. RICHARD J. Ev. ANS, cenhadwr, yn Olympia, Washington Territory, yn agos i 29 oed, o'r darfodedigaeth. Genedigol oedd o'r ardal hon. Mab ydoedd i Mr. J. a Mrs. Margaret Evans, ger Ebensburg. Ac er fod Mr. E. wedi gadael yr ardaloedd hyn er's hir amser, a myned allan gwed'yn yn genhadwr i eithafoedd y Gorllewin Gogleddol o 3 i 4 blynedd yn ol, ac er iddo trwy gyfleustra amgylchiadau a chysylltiad athrofaol ymadael â'n heuwad ni ac ymuno â'r Henaduriaid, ar y pryd, eto nid oedd ddim pellach o'n serchiadau ni ato, ac ni chyfrifem ef ddim llai ei barch a'i dderbyniad genym. Yr oedd ein hanwyl frawd yn un o hen deuluoedd lluosog, cyfrifol a chrefyddol yr ardal bon. Ei rieni oeddynt aelodau gwreiddiol yn Aberhosan ger Machynlleth, Maldwyn, G. C. Felly cafodd ef ei godi o'i gryd i fyny yn ofn ac addysg yr Arzlwydd Ymddaugosai o'i febyd o duedd myfyrgar, hoff iawn o'j lyfrau, ac awyddus am wybodaeth. Dechreuodd er yu fachgeu ar y gwaith hwnw, a chymerais ef gyda dau neu dri eraill o'r un oed am ychydig amser er eu gosod ar y ffordd hono, a gwelais yn fuan fod ganddo dalent rwydd i dderbyn addysg, a chynhwysderan at y weinidogaeth, ac anogwn ef ati o ddifrif. Yo faan gwed'yn graddolwyd ef yn Jefferson College, Canousburg. Ac er mwyn cyfleustra mwy cartrefol dewisodd orphen ei addysg dduwinyddol ragbarotool i'r weinidogaeth yn Alleghany Theo. Seminary. Ac yn nechreu y f. 1860 trwyddedwyd ac urddwyd ef, yn barod i fyned allan fel cenhadwr dan nawdd y Geubadaeth Gartrefol Henaduriaethol, i'r maes newydd yn Washington Territory. Yna ymbriododd â Miss Sarah Frances Woods o Alleghany Co., a thebyg nad all'sai ddewis un mwy cymhwys yn mhob ffordd at y fath anturiaeth haelfrydig. Yna gwedi iddo ef a'i anwyl briod roi tro o ymadawiad â'i rieui a'i berthynasan, cymerasant eu mordaith o New York a chyrhaeddasant Washington Territory Mawrth 13, 1860. Ac am yr holl amser a roddwyd iddo yno, hawdd gweled fod ei lafur diffin yu hynod iawn; a'r gred gyffredin yw, iddo dreulio ei nerth allan yn deg trwy hyny. Llwyddodd i snill parch a chymeradwyneth mawr, ac i adeiladu RIIF. OLL 292. yn y wld auial hono dŷ addolid hardd a phrydferth, ac ar orpheniad y tŷ hwnw gorphenodd yatau ei yrfa ddaearol, oblegid y bregeth gyntaf fu ynddo oedd ei bregeth angladdol ef. Yr oedd ef' anwyl briod yn lawn o yspryd y gwaith. Ond wele un eto at lawer a welsom o ddirgeledigaethau Rhagluniaeth y nef, wrth weled un mor obeithiol yn cael ei dori i lawr yn mlodau ei ddyddiau, ac yn nghanol ei lafur a'i ddefnydd. ioldeb. Ond er nad oedd ond dyn ieuanc, eglur yw iddo ddisgyn i'w fedd fel tywysen o ŷd llawn addfedrwydd. Credaf nad oes modd i ui yma roi gwell na chystal darlun o hono ef yno ag a geir yn ei lythyrau ef ei hun at ei rieni ac at ei anwyl chwaer. A chan mai dymunoi genym roi y cyfan yn ei eiriau ef ei huu, bydd rhai yu yr isitu Saesonaeg, gan nad oes ond ychydig yn y Gymraeg. Yo un o' lythyrau adref at ei rieni, gwedi desgrifio ei anedd yn sefyll ar derfyn debeuol Puget's Sound, pau edrychai ar ddyfroe id y môr a phen mynydů. au Olympus gorchuddiedig gan eira, efe ddywed, "O mor ddedwydd y byddwn yn awr pe bai fy nhad a'm mam, fy mrodyr a'm chwiorydd, y'ughyd a thad a mam fy anwyl briod, yn gallael rhoi tro ryw ddiwrnod P'u gweled. Oud uid wyf wedi edifeirio dyfod yma am un eiliad. Rhoddais fy llwybrau dan arweinyddiad fy Arglwydd cyn cy chwyu, ac y mae ef wedi eu cadw byd yn hyn, ac wedi fy llwyddo tu hwnt i'm dysgwyliad." Yr oedd ef y pryd hwn, Ebrill 17, 1861. ar sy. mud o'r wlad i dref Olympia, a phregethai yuo drwy y gauaf dri Sabboth o bob mis. Yn fuan gwed'yn symudodd i'r dref i gadw ysgol ddyddiol yuo, a chymeryd gofal yr eglwys fechan oedd yno. Un Sabboth o'r mis byddai yn marchogaeth am 20 milldir i'r debeu, neu ?'r dwyrain yr un pellder, a dywedai,Cychwynasom y ddoe gwrdd gweddi dyddiol, ac mae genym achos i ddiolch i Dduw pob gras fod llawer o obaith am gawodydd o ddylanwadau ei Ysbryd arnom. Y mae gwaith ein Harglwydd yn waith ag sydd yn dwyn ei wobr gydag ef, gorfoledd a dedwyddwch yn y galon (er uas gwelwn eto fawr o frwyth ein llafur) trwy Iesu Grist." Eglur yw fod ganddo galon i weithio, ac mewn llythyr arall efe a ddywed:-" Nid ydyn, mae'n wir, yn gweled llawer o ffrwyth ein llafur, ond mae llawer o achosion yn cydweithio i beri i ni gymeryd calon, 'gan wybod,' pa un a welwn ni ffrwyth ai peidio, na fydd ein llafur yn ofer yn yr и 98 BYR-GOFIANT AM MRS. MARGARET WILLIAMS. Y Arglwydd.' Gwaith tebyg iawn i daflu had ar wyneb y dyfroedd sydd genym ar law yma. mae y boblogaeth fel dyfroedd y môr yn parhaus fyned a dyfod, ac felly mae'r dyfroedd yn cario yr had yn ddigon pell o'n golwg a'n cyrhaedd ui, ond pwy a wyr na bydd e' fel dynaid o yd ar ben y mynyddoedd cerygog hyn! Da genyf ddeall. yn aml, nad ydych yn fy anghofio wrth orsedd gras, a meddwl fod llais gweddi yn esgyn i fyny oddiwrth erchwyn y gwely ac oddiwrth yr allor deuluaidd am feudith y net aruom." Anialdir mewn gwirionedd ydyw gororau y Môr Tawelug yn gyffredin gyda golwg ar grefydd. Y mae y rhan fwyaf yn llwyr ddifater yn nghylch yr enaid a thragywyddoldeb-aur a'r byd hwn yw y peth mawr yn golwg y uifer luosocaf yn ein plith. Eto mae yma ambelli wir blentyn Duw a wyr trwy brofiad mai da yw galw ar enw yr Arglwydd. Dyfynir y pethau canlynol o'i lythyrau at ei anwyl chwaer Mrs. Jane Aun Davies:-" Feb. 11, 1861. My Dear Sister,-We are getting along finely, Fannie is enjoying excellent health, and I never did much better. We will remain here on Cham. bers Prairie for a couple of months yet; but if not> we shall most probably remove into Olympia and settle there in Charge of the First Presbyterian Church until we returu home. When that will be we cannot tell-uot at all likely in less than 5 years. We find work enough here in our Master's service, and nobody else to do it should we leave it at present. I feel confident that this is the place He designed for us now. I have never been bappier than I have been since my arrival here, and if sustained by grace faithful in my Blessed Savior's service, I shall never fear but that genuine pare happiness will be my lot. Tell Father and Mother that I am glad that I came out here, tho' I have no prospect of worldly wealth or ease."In another, in July 1st, 1861, "Mother asks me what I am doing. I answer, still striving to preach Christ, relying upon his promise. In the morning sow thy seed, in the evening withhold not thy band, for thou knowest not whether this or that shall prosper,' and what mother says is very true, 'Yr à y fechan yn fil a'r wael yn genedl gref.' May God give me strength not to despise the day of small things. Tell mother that I realize that my strength is in him alone. Continue to pray for us, for Faunie as well as myself, because she also is a missionary of the cross. We have had enough and to spare of the good things of this life so far, but never expect to lay up treasures here, for we have no continuing city, but look for an heavenly."""Dear Jennie, I trust you will arouse yourself in the strength of Jesus to greater spirituality in religion. Oh! don't rest satisfied short of an assurance of the love of Christ. Such an assurance as will prove an anchor to your soul both sure and steadfast. So may you all, parents, brothers, sisters and friends, be taught of God till you can say, each one of you, 'I know that my Redeemer liveth-I know in whom I have be lieved" Felly y parhaodd y brawd selog hwn hyd ei ddiwedd, ac yn y diweddaf o'i lythyrau a ddaeth i'm llaw: Olympia, September 5th, 1862,-This I know, however, that whatever of real happiness any of you do enjoy, it springs not from the things of this world or the participation of them, but from the participation of the precious blessings of the religion of Jesus Christ. This aloue brings solid, real lasting happiness to the soul. My dear ones at home, may you all learn to use the world as not abusing it, and may God teach me in greater measure to do the same." Eto nid yw hyn oud rhyw ddarnau bychain o's feithion lythyrau ef. Teilwng oedd ef o golfad wriaeth helaethach nas gellir roddi fel hyn. Faint bynag a deimlwn neu a ddywedwu am dano ef, nid oes neb o houom a fedr lefaru fel y cawn nż yma yn llais y fam ei hun. Cefais newydd trwm a phruddaidd, A'r newyddion goreu erioed, Fod Duw yn Nghrist yn foddlon madder Ac os credant yn ei enw Y caut fyth dragwyddol fyw. I lafurio yn ngwaith ei Arglwydd I fwynhau ei etifeddiaeth, Yn iach diangodd adref O gyrhaedd pob rhyw boen, Caniadau'r nefoedd wen. Ni chaf ddim gwel'd ei wyneb, I droi at Grist a'r nef, Llais y fam-a thy na oedd testun y bregeth ar achlysur ei farwolaeth, Job 1: 21. LLEWELYN R. POWELL. BYR GOFIANT AM MRS. MARGARET WILLIAMS, ANWYL WRAIG Y PARCH. JOHN WILLIAMS, HARRISON, OHIO. Y mae y sawl a fuont fyw yn addas i efengyl Crist, yn deilwng o goffadwriaeth ar ol eu marwolaeth. Y mae tuedd yu haues bywyd y saint a BYR GOFIANT AM MRS. MARGARET WILLIAMS. fuont feirw, i ddylanwadu yn ddaionus ar y by w; ac i dderchafu y gras a'u cyualiodd hwy mewo cystuddiau mawrion, ac yn awr marwolaeth. Dywedodd Paul fod clywed am ei fywyd ef wedi effeithio fel hyn, Gal. 1: 24, "A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fia diau fod baues by wyd a marwolaeth brodyr a chwiorydd crefyddol wedi effeithio yr un modd, a chenhedlu dymuniad mewn eneidiao lawer, nes iddynt ddywedyd, "Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd i fel yr eiddo yntau." Y mae cofiantaa y saint yn addysgiadol i bawb, ond yn benal i'r sawl a fyddo yn yr un dosbeirth ac amgylchiadau a'r rhai a gofir. Os y Cristion ieuanc a gofir, yr hwn a rodiodd lwybrau crefydd yn lân a diargyhoedd, yn nghanol cenhedlaeth wyrog a throlaus, ac a gafold fynediad helaeth i mewn i borthladd y bywyd, y mae y bobl ieuainc yu darllen hwn gyda phryder a phwyll, fel y gallout wybod pa fath fywyd a ddilyuit â'r fath farwolaeth wynfydedig. Os bywyd Mason yr hen ddysgybl a ddarlunir, y mae yr oedranus yn awyddus i wybod haues hwn, a gweled y modd yr ymdarawodd efe with rodio glyu cysgod angau, gan fod adenydd marwolaeth yn ymdaenu dros ei amrantau yutau hefyd. Os gweinidog yr efengyl a gofir, y mae yr holl weinidogion am wybod ei helyntion a'i ragoriaethau ef er mwyn calondid ac addysg. Gellir dy wedyd yn gyffelyb am wragedd gweinidogion. Os bywyd a marwolaeth un o'r rhai hyn a ddarlunir ar ddalenau y CENHADWR, neu ryw gyhoeddiad arall. y mae ei chwiorydd am wybod ei hanes, a pha fodd yr ymnd rawodd hi yn ei sefyllfa bwysig, fel y byddo iddynt hwythau wybod yn well på fodd i rodig a boddloni Duw. Y inae y sylw blaenorol yn dangos y mawr bwys fod y cffadwriaeth yu gofadwraeth gwir ioueddol, ac and dychymygol. Os bydd yn ddiffygiol yn hyn, y mae ya llethu ei ddylanwad ac yu difa ei nerth. Ambeuaeth o gywirdeb y cofiaut sydd wedi attal llaweroedd rhag ymroddi i ddilyn yr esiampl. am y tybient mai gorenestion saint y mil blynyddoedd a ddesgrifir, ac nid hanes gorchestion crefydd yn yr oes lygredig hon. Gallwn sicrhau, cyn myned dim yu mhellach, fod yr hyn a adroddwn an ein hanwyl chwaer ymadawedig, enw yr hon sydd uwchben ein hysgrit bresenol, yu berffaith wirionedd, y deil yr ymchwiliad manylaf, ac y tystia pawb oedd yn ei hadnabod, nid yn unig fod yr hyn a ddywedir am daui yn wir, ond hefyd fod ynddi rinweddau lawer ua choffeir am danynt yn y Byrgofiant hwn. Margaret Williams ydoedd ferch Isaac -. Margaret Charles, Clynog, Llanrhaidr-mochnant, G. C. Gauwyd hi Ionawr 1804. Bu farw ei thad pan ydoedd hi yn ieuanc, a gadawyd hi ac amryw frodyr a chwiorydd o dan ofal eu mam weddw. Teithiodd amryw o honynt lyn cysgod angau o'i blaen hi, ond y mae rhai o honynt yn aros hyd yr awrhon. Yr oedd ei rhieni yn amaethwyr parch us a chyfrifol, ond nid oeddynt hwy, mwy na'r rhan fwyaf o'u dosbarth yn y dyddiau hyn, yn ym 99 woeud ychwaneg â clirefydd na gwrando a darllen y gwasaeth yn Liau y plwyf, ond ymwasgodd thai o'i chwiorydd i ymofyn am grefydd ysprydol yu moreu en hoes, ac ymunasant â'r Trefuyddion Calfinaidd. Dewisodd Margaret fwrw ei choelbreu gyda'r Annibynwyr, a deuai, er yn ieuanc, i wrando i Gapel Llanrhaiadr. Yr oedd o dymer syml a difrifol bob amser, ac nid ymollyngodd erioed gyda gwamalrwydd a gwylltineb ei chyf. oedion. Daeth at grefydd, ac ymunodd â'r eg. lwys yn bwyllog, o dan argyhoeddiad meddwl, yn fwy na chynhyrfiad teimlad; ac megys y derbyn. iodd Grist Iesu yr Arglwydd felly y rhodiodd yn ddo ef. Derbyniwyd hi yn aelod gan yr ysgrifenydd, yr hwn oedd weinidog yr eglwys yr amser hwnw, pan yn 28 mlwydd oed, a dilynodd amryw o'i chyfeillesau ei hesiampl. Yn mhen ychydig dros flwyddyn ar ol ymuno â chrefydd, (sef Gerpl. 16, 1833,) ymunodd mewn priodas â'r Parch. John Williams, gynt o Ffestiniog, ond y pryd hwnw yn weinidog eglwysi Pen y groes a Llausilin. Cawsant bump o blant yn etifeddiaeth gan yr Arglwydd, sef dau fab a thair merch. Bu farw un mab iddynt yn ei fabandod, cyn iddynt ymfudo o'r hen wlad. Y mae y gweddill oll yn fyw, yn y wlad hon, &c yn cydhiraethu â'u bauwyl dad amddifad, ar ol y fam ffyddlouaf a'r wraig hawddgaraf. Bydded yr Arglwydd yn eiddo iddyut oll, a chynalier meddwl ein hanwyl frawd yn ei brofedigaeth drom a chwerw. Yinfudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1840, o ganol cymeradwyaeth a serch cylch mawr o berthynasau a chyfeillion, ac yn hollol groes i ewyllys yr eglwysi oedd dan ofal gweinidogaethol ein brawd galarus. Y mae yn auhawdd penderfynu pa un an doeth ai aunoeth fu y symudiad hwn, ond ceir gwybod ar ol byu Wedi treulio rhai blynyddau yu ubalaeth Peuusylfania, symudasant i Palmyra, Ohio, ac oddiyuo symudasant ychydig flynyddau yn ol i Brynberian, Harrison, yn yr un Dalaeth, ac yno yn nghanol llawnder o drugaredd⚫ au y bywyd hwn, yn mynwes ei Phriod a'i phlant, ac yn anwyl gan bawb o'i chydnabod, y cyfarfyddodd ein hanwyl chwaer ag angau heb ei golyn, ac yr ehedodd ei henaid dedwydd fel aderyn at Dduw, a'r Oen, a'i phobl, Rhag. 28, 1863, yn 59 mlwydd ac 11 mis oed. Y dydd olaf o'r flwyddyn ymgasglodd torf liosog i hebrwng ei chorff marwol a gwael, o ganol anwyldeb ei theulu i anmharch y bedd, yn mynwent St. Albans, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Howe a'r ysgrifenydd, mewn gwir ddiogel obaith am adgyfodiad gwell, yn gorff nerthol, ysprydol, ac mewn gogoniant. Yr oedd amryw rinweddau yn addurno cymeriad Mrs. Williams, er ei chymhwyso yn wraig gweinidog yr efengyl, y rhai sydd yn dra diffygiol mewn llawer o'r dosbarth y perthynai hi iddo. Y maent yn deilwng o'u hefelychu gan yr holl chwiorydd sydd yn proffesu crefydd a duwioldeb. Un dawel a dystaw ydoedd. Yr oedd natur wedi |