Y CENHADWR AMERICANAIDD. Orr. 25, RHIF. 3. Buchdraithodaeth. MAWRTH, 1864. Y PARCH. LEWIS EVERETT, DYSERTH. Y mae rhestr byddin y gweinidogion Annibynol wedi ei bylchu yn ddiweddar, mewn amryw gymydogaethu yn Ngogledd Cymru. Y mae gwrthddrych ein Cofiant byr presenol wedi ei rifo erbyn hyn gyda rhai a fu, ac y mae yn teilyngu sylw cyhoeddus. Dilynodd y diweddar Jay o Beth yn ei ddarlithiau, y Cristion fel Cristion, yn holl daith ei fywyd a'i angen yn fanwl iawn. Cymerodd olwg arno yn ei holl agweddau yn mhob man,—yn Nghrist, yn yr ystafell ddirgel, yn y teulu, yn yr eglwys, yn y byd, yn ei lwyddiant, yn ei aflwyddiant, yn ei gystuddiau crefyddol, yn ei lawenydd ysbrydol, yn angeu, yn y bedd, ac yn y diwedd mewn gogoniant. Ni fyddai yn briodol i ni yma ddilyn hanes bywyd Mr. Everett gyda y fath fanylder. Bydd ychydig o nodiadau cyffredinol arno yn fwy cydweddol ag amcan hyn o Fywgraffiad. RIIF. OLL 291. ei frawd, y Parch. Robert Everett, (yn awr Dr. Everett, America,) yn weinidog yno, ac yno y derbyniwyd ef i aelodaeth eglwysig. Yr ydoedd ef o deimladau naturiol lled dwymn a gwresog, ac felly nid hir y buwyd heb wybod fod ynddo duedd at y weinidogaeth gyhoeddus. Ni allai na fynegai yr hyn a welodd ac a glywodd. Yr oedd yn meddiannu ar ddawn ymadrodd llithrig a dedwydd, ac yr oedd yn nodedig o effeithiol mewn gweddi gyhoeddus. Fel hyn, yr oedd yn naturiol i'w gyfeillion ei annog i arfer ei ddawn yn gyhoeddus, ac i bregethu. Yn fuan wedi ymgymeryd â'r gwaith, rhoddodd brofion boddhaol i'r byd fod ynddo gymhwysderau gweinidogaethol. Derbyniodd alwad unfrydol yn fuan oddiwrth eglwys oedd heb fod yn nebpell o Ddinbych, sef Llangwyfan; ac wedi cydsynio â'u gwahoddiad, neillduwyd ef yn gyhoeddus i waith cyflawn y weinidogaeth. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1831. Wedi bod yn llafurio yno, gyda graddau mawr o lwyddiant, derbyniodd alwad drachefn oddiwrth eglwysi Llanrwst, Trefriw, a Nantyrhiw. Cytunodd â'r anogaeth, a symudodd yno, a bu sp llafurio dros yspaid naw mlynedd, gyde ano lwyddiant inwy ei weinidogaeth na chyffredin. De Gauwyd ein Cyfaill Chwefror 20, 1799, yn Ngronant, yn mhlwyf Llanasa, yn sir Fflint. Yr oedd ei rieni yn deulu crefyddol yn byw yn Ngronant, ac yn aelodau o'r eglwys Anni- yn y lleoedd unedig byr y flwyddyn 1835. bynol yn Newmarket, dan weinidogaeth y Yn nhymor ei weinidogaeth ynddynt, bu yn anParch. Thomas Jones-ei dad yn Oruchwyliwrogaethol i godi tri o bregethwys, y rhai sydd yn ar waith mwn plwm ger Gronant er's blyn-weinidogion sefydlog ar eglwysi Cynulleidfaol. yddau lawer. Wedi hyny symudodd y teulu i fyw yn y Felindre, gerllaw Newmarket. Bu ei rieni fyw hyd oedran teg. Yr oedd ei dad yn arfer ei ddawn fel pregethwr achlysurol gyda'r Annibynwyr, ac wedi bod yn dra llafurus a llwyddiannus yn ei gymydogaeth fel cynghorwr, a chefnogwr yr Ysgol Sabbothol. Cafodd ein brawd addysg dda, mewn ysgolion cymeradwy er yn fachgen. Yr oedd ei ysgrifenlaw yn dlos a glân, ac yn rhagori ar y cyffredin. Bu yn gwasanaethu fel ysgrifenydd mewn masnachdai enwog yn Manchester, yn adeg gynarol ei fywyd. Yr oedd ef yn ymwybodol o fod dan argraffiadau crefyddol er yn more ei oes. Ymunodd ag achos yr Arglwydd yn Ninbych, yn ystod yr amser yr oedd Yr oedd yn ddirwestwr ffyddlon a selog. Bu yn dra gweithgar a llafurus mewn amryw gylchoedd mewn cymydogaethau yn y wlad o amgylch. Ni arbedai deithio nac ymboeni yn y "gair a'r athrawiaeth," ac er gwneuthur daioni yn mhob man y gallai gyrhaedd iddo. Yr oedd ei feddwl wedi bod dan argraffiadau dwysion iawn byth ar ol y waredigaeth ryfedd a gafodd o beryglon ystorm eira, pan y cyrchai at ei gyhoeddiad, ar noson waith, i le a elwir Brwynog, ar y bryniau uchel sydd yn cylcbynu Nantbwlchyrheiyrn, gerilaw Llanrhochwyn. Yr oedd yn fynych o deimladau lled isel ac ofnus, ac oblegid hyny yr oedd wedi cymeryd un o'r plant yn gwmni ar y pryd. Wedi cyrhaedd i'r mynydd, daeth y Horeb, Ochryfoel, Dyserth, y pryd hwn mewn cyflwr tra isel a diymgeledd. Anogwyd ef i gymeryd gofal y lle. Ymwrolodd at y gwaith yno. Cododd y gwrandawyr, a llonodd yr eglwys. Dechreuodd gadw ysgol ddyddiol yn y lle, a bu yn fendith fawr i'r gymydogaeth mewn llawer modd. Yr oedd hyn yn gryn gyfnewidiad mewn man ag yr oedd yr addoldy wedi bod am fisoedd bwy gilydd yn gauad, s phob arwyddion fod y canwyllbren wedi ei symud o'i le. lluwch eira mor drwm, a chysgodion y nos mor dywyll, fel y collasant en llwybr yn lân. Buont am oriau yn gwibio yn ol ac yn mlaen, gan ymdroi yn gyffrous ar y llwybr, heb allu mewn un modd gael gafael ar y cyfeiriad priodol, nes yr oedd ef yn mron a chwbl ymddyrysu, a'r bachigen wedi ymollwng i wylo, yr hyn a wnai ei deimladau yn waeth. Ond eto, er hyn i gyd, pryd yr oedd anobaith yn ymyl eu llethu, daethant megys yn ddamweiniol o hyd i'r lle; a mawr oedd y gorfoledd a'r diolchgarwch, a'r canu a'r diolch, am yr arweiniad i ddiogelwch o ganol yr ofnau a'r peryglon mawr. Er fod yr amser dechreu wedi myned heibio yn mhell cyn iddynt gyr-hwyr, a llety odd yn nhŷ ei fab. Cafodd fath haedd y tŷ, yr oedd yno deimladau tra boddhaol gan y pregethwr a'r gwrandawyr; a chawsant oedfa lewyrchus iawn, wedi yr holl bryder, y tybiau, a'r ofni a fu yn gwasgu arnynt yn hir. Yr oedd yr achos crefyddol yn Llangwyfan, erbyn y tymor hwn, wedi ymddirywio i raddau mawr; a theimlai y bobl yno awydd mawr am iddo ddychwelyd i hen gylch ei lafur, gan hyderu y byddai hyny, dan fendith yr Arglwydd, yn foddion i adferu yr achos i'w sirioldeb blaenorol, ac felly fu. Cafodd y fraint o weled yr achos yn y lle hwnw, cyn hir, wedi lloni ac ymgryfhau, ac arwyddion gobeithiol arno. Aeth i bregothu ar Sabboth yn mis Ebril} diweddaf i gymydogaeth y Wyddgrug; ac wedi llafur y dydd, dychwelodd i'r dref yn yr o ergyd o'r parlys mud, ag a drodd yn angeu iddo cyn pen ychydig ddyddiau. Bu farw yn y 65 flwyddyn o'i oedran. Claddwyd ef yn mynwent blwyfol Newmarket. Yr oedd y dyrfa anarferol o luosog oedd wedi ymgynull i ddangos en parch olaf i'w goffadwriaeth, yn dangos pa mor serchus ydoedd yn ngolwg pawb a'i hadwaenent. "A gwŷr bucheddol a ddygasant Everett i'w gladdu; a hwy & wnaethant alar mawr am dano ef." Gadawodd weddw, a nifer o blant i alaru eu colled ar ei ol. Nid oes neb na ddywed fod "coffadwriaeth ein cyfaill yn fendigedig." elwir Cefn ab Ithel; ond nid oedd ef at y gwaith hwnw ond tebyg i Dafydd gynt pan wedi ymwisgo yn llurig a chydag arfogaeth Saul. Trodd yr amserau yn ddrwg, fel y dywedir yn gyffredin, a daeth pethau i dywyllu arno yn fuan, fel y barnai nad oedd dim yn well iddo na cheisio ymgludo oren y gallai mewn sefyllfa o lai o ofalon a phryder; ac felly yr arweiniai rhagluniaeth y nef bethau y bywyd hwn iddo ef, er ei ddwyn i orphen gwasanaeth ei dymor yn y gyïran hon o winllan ei Arglwydd. Dywedai ar y pryd ei fod yn colli ei ddefnyddioldeb yn y pethau mwyaf; ac fel yr oedd yn cryfhau yn ei iechyd, yr oedd ei awydd i ymryddhau oddiwrth y gofalon hyn yn cynyddu, a phob peth yn cydweithio er ei ddychwelyd i gylch ei lafur gweinidogaethol. Bu gwrthddrych ein Cofiant, ar un adeg, pan yr ydoedd yn wael ei iechyd, yn cynyg ar Yn fuan wedi hyn, teimlodd ei iechyd corff-orchwylion amaethwr, mewn tyddyn bychan & orol yn gwanhau, a'r yni grymus a feddai gynt yn llesgâu, fel yr ofnai nad allai ymgynal yn hwy yno; ac felly yn raddol, drwy gynghor meddygon, rhoddes ei ofal gweinidogaethol i fyny. Symudodd i gyfaneddu yn nghymydogaeth y Rhyl, o fewn cyrhaedd i rai o'i berthynasau oedd yn preswylio yno yn barod. Bn am ystod o tua blwyddyn heb fod mewn cysylltiad ag un eglwys neillduol. Yr oedd dan yr argraff o fod ei lafur yn y lle olaf wedi effeithio ar ei gyfansoddiad yn drwm iawn. Yr oedd yn arfer cerdded i bregethu i le a elwir Hwleyn ar brydnawn y Sabboth, ac oddiyno drachefn i Lanelwy erbyn yr hwyr. Bu yn cerdded gryn ugain milldir, gyda phregethu dair gwaith y Sabboth, hyd y gallodd. Wedi methu o hono yn lan, darfu i Mr. Robert Pierce,* Green, Dinbych, bwrcasu merlyn iddo, yr hyn a fu yn gryn gymborth iddo yn wyneb y teithiau am dymor hir. Ar ol ymryddhau oddiwrth y llafur hwn, teimlodd ei hun yn ymadnewyddu eilwaith yn fuan. Cyn gynted ag y meddyliai ei fod yn ddigon gwrol i ail afael yn ei waith, ni allai ymfoddloni i oedi yn hwy. Yr oedd achos Brawd ydyw Robert i Thomas a John Pierce. Kane County, Illinois, America. Nodweddion naturiol mwyaf eglur Mr. Everett oeddynt, "tyner iawn ei deimlad,""cariadus dros ben,"-"haelionus, yn ol ei allu, fel nad allai edrych ar dlodi yn neb heb geisio ei gynorthwyo." Fel pregethwr, nid ystyrid ef yn bregethwr mawr, yn ol yr ystyr gyffredin a roddir i'r fath ddarnodiad; ond yr oedd pawb yn ei ystyried yn bregethwr da. Yr oedd yn sicr o hwyl, oblegid gwresogrwydd ei dymher, llithrigrwydd ei ddawn, a seingar- } wch ei lais. Yr ydym yn coffo yn burion am rai o'i ymadroddion cyffredin, pan y byddai wedi cael yr awel "deneu lem" i chwythu O fryn Caersalem newydd," a chodi tymher ei wrandawyr i dynerwch nefol. "O Iesu anwyl, dyma y Cyfaill goreu o bawb, yn wir." "O Iesu anwyl, pwy, wedi ei weled, a all beidio ei garu a'i ganmol?" &c. Yr oedd yn wrandawr dengar iawn hefyd. Meddyliwn nad ydym yn rhyfygu dim pan y dywedwn ein bod yn tybio i ni ei weled, wrth wrando, yn edrych mor foddhaol, a gydag Amen mor gynhes, ac â'i napcyn yn sychu ei ddagrau gloewon, mor deimladol nes codi y pregethwr i bwyl, a hyny yn cydeffeithio ar bawb eraill yr un modd drwy yr addoldy i gyd. Fel gweddiwr, yr oedd yn hynotach na'r cyffredin. Arferai daerni gafaelgar o flaen yr orsedd yn wastadol, ac yr oedd yn gyffredin yn tynu y nefoedd i lawr ar deimladau pawb. Clywsom un chwaer grefyddol yn tystio, ei bod yn credu i'w weddiau effeithio ar ei hiechyd. Yr oedd yn pregethu yn nhŷ amaethwr, lle yr oedd y wraig, yr hon oedd yn egwan o ran iechyd, ac heb fod un amser o'r bron yn meddu ar nerth corfforol cyffredin, yn gwrando. Yr oedd y brawd yn dechreu yr oedfa, ac yn gweddio yn neillduol ar ran y wraig am adferiad iechyd naturiol; ac mor effeithiol ydoedd, fel y tystiai hi, yn mhen blynyddoedd ar ol hyny, iddi gael graddau o wellhâd, nad oedd wedi ei llwyr adael hyd y pryd hwnw. Nid oes genym ond gadael y sylw hwn am ei werth, heb allu sicrhau dim yn inhellach na gwirionedd yr adroddiad. { Cafodd ein cyfaill ei ran o drallodion y byd hwn, fel pob Cristion arall; ond ynddynt oll, yn oedd yn ymburo ac yn ymloewi. Tystiai nad oedd "dyoddefiadau yn amser presenol hwn, yn haeddu eu cyffelybu â'r gogoniant a ddatguddir i ni." Y mae nifer o weinidogion yr un enwad yn tynu at yr un oedran. Ychydig o flynyddoedd yn mlaen a rydd newidiad mawr ar restr yr enwau sydd heddyw ar y maes. Ein braint ydyw cael adnabod ein tymor, gweithio ein diwrnod mewn ffyddlondeb yn y winllan, gorphwys yn heddwch ein Meistr a chael codi ar ei ddelw. SYLWEDD PREGETH, A draddodwyd yn nghladdedigaeth ROBERT R. JONES, 31 Gat., Co. O, Gwir. Wis. Gwel CENHADWR Rhag. 1863. MARC 14: 8, "Hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth." Dygwyd cymeradwyaeth y testyn gan Iesu Grist i Mair (mae yn debyg) chwaer Martha a m Lazarus. Yinddengys nad oedd ei haberth yn rhyw hynod fawr o ran swm-ychydig dros ddeugain dolar; ond gan ei bod hi mewn amgylchiadau lled isel, yr oedd ei hoffrwm yn wir fawr, yn cynwys eithaf ei gallu. Mae Iesu Grist yn gofyn pawb o honom yn ol ei gymwysder a'i alluoedd ei hun. Benthyciwn y gymeradwyaeth er dweyd gair neu ddau mewn cysylltiad a'r brawd ymadawedig, gan y credwn y gwedda y geiriau iddo yn gystal ag odid neb yn ein hadnabyddiaeth-"Yr hyn a allodd hwn." 1. Er cyrhaedd addysg. Ni chafodd y brawd hwn fel y gwyddom awr erioed o fanteision colegaidd ac athrofaol, yn amgen ysgol ranbarthol (District School), a gwyddom oll i fesur am ei ymroddiad diflino a'i lwyddiant hefyd mewn meistroli darllen ac ysgrifenu Cymraeg a Seisonaeg, rhifyddiaeth a gramadeg -fel mae yn debyg, a rhoi y gwahanol ganghenau yn nghyd, y byddai yn rhaid i'r goreu fu ac y sydd yn y rhanbarth hyn fod yn ail iddo. 2. Mewn cynorthwyo ei rieni i ddod trwy galedi a thlodi. Ei riaint oeddent yn nysg sefydlwyr cyntaf y fangre hon, ac yn ol yr arfer yn dylodion; heblaw hyny, wedi gweled llawer o afiechyd wrth ddwyn eu plant i fyny, pa rai oeddent eto yn fân. Mae cannoedd o Gymry yn America yn gwybod beth yw bod yn dylodion yn mysg sefydlwyr cyntaf yr anialwch, fel nad oes eisiau rhoi eglurlad ar eu sefyllfa. Am y teulu hyn, Robert oedd yr hynaf o'r plant ar ba un y gallent ymddibynu, yn gyntaf am ychydig gymorth, a gwyr y cymydogion oll am ei sefydlogrwydd a'i ymdrech er eu cynorthwyo. Ni esgeulusodd erioed ei waith. Ni wariodd erioed ddolar afraid. Ni ddangosodd erioed un gradd o ddim tebyg o anufudd-dod i'w dad mewn dim, ac ni bu erioed wythnos o gartref, hyd oni ymarestrodd yn erbyn y gwrthryfel melldigedig sydd wedi tori allan yn y wlad hon. Diamheu y gall y teulu hwn briodoli eu safle cysurus yn y byd heddyw i gysondeb a ffyddlondeb eu mab Robert, yn nghyd a'r plant eraill ieuengach nag ef, fel un achos o hono. Pe bai holl fechgyn Cymry y sefydliad yn efelychu Robert Jones yn y pethau hyn, arbedid peth gofid weithiau i rieni. "Hyn a allodd " hwn. 3. Yn nylanwad ei esiampl yn mysg ieuenctyd ei adnabyddiaeth. Nid wyf yn golygu fod ein cenedl ieuainc yn y sefydliad yn waeth na sefydliadau eraill, ond yn hytrach yn gogwyddo i'r ochr oren; a pha beth bynag a all fod o le yn mysg ein ieuenctyd mewn oferedd, halogi y Sabboth, yfed, arfer iaith anweddus, &c., cyfeiriaf eu meddyliau oll gartref ac o gartref at eu cyfaill ymadawedig Robert Jones, a gwn na elawsant yr un math o anogaeth nac esiampl erioed oddiwrtho at un rhith o oferedd beius, ond yn hollol i'r gwrthwyneb. "Yr hyn a allodd." 4. Fel un ffyddlon gyda phob sefydliad da, yn enwedig yr Ysgol Sabbothol a'r gymdeithas ddirwestol. Ei gywirdeb a'i fyddlondeb, fel aelod ac ysgrifenydd y cymdeithasau hyn am flynyddau, sydd yn gwbl hysbys trwy y sefydljad, fel nad oes eisiau yn.helaethu. "Yr hyn a allodd." 5. Fel milwr i amddiffyn ei wlad yn erbyn y gwrthryfel. Dichon fod rhai wedi ymrestru oddiar ragorach cymhelliadau, gan yr ystyriom fod ofn y drafft yn meddu llaw arbenig fel cymellydd iddo ef; ond diau fod llawer wedi ymrestru oddiar waelach dybenion na hyna, a hyny mewn rhan, mae yn debyg, yw yr achos fod y gwrthryfel wedi para c'yd ac mor annhebyg heddyw a derfynn. Wedi ei ymrestriad credwyf nad oedd ar y maes burach calon dros les y wladwriaeth, nac ewyllys fwy parod at ei holl ymrwymiadau. "Yr hyn a allodd." 6. Fel crefyddwr. Bu yn aelod crefyddol gyda'r Annibynwyr yn Ardal Coed y ger Dodgeville am naw mlynedd. Efe oedd y mab ieuanc cyntaf a ymunodd trwy broffes gyda'r achos yn y lle. Gwelwyd amser da ar grefydd yma gyda golwg ar ieuenctyd wedi hyny. Dir gofir gan rai am olwg siriol y blynyddau 1858 a '59, pan enillwyd bron holl ieuenctyd yr ardal yn grefyddol. Gwir fod golwg lled wahanol arni yma heddyw, oran dylanwad yr eglwys ar y werin, i'r hyn a fu, canys wrth ba ddrws y gorwedd y bai. Diau ei bod yn llawn bryd i bawb edrych gartref wrth ei ddrws ei hun. Robert Jones oedd y blaenffrwyth yn nysg ieuenctyd yr ardal; ac er fod amryw o'i gyfoedion a ymunasant yn ddilynol wedi dal eu tir yn dda, eto gellir dweyd na ddarfu i un o honynt erioed ddangos mwy o sefydlogrwydd, ffyddlondeb a phenderfyniad, na byw allan fywyd mwy addas i'r efengyl nag efe; mewn gair, yr oedd ei fywyd crefyddol, fel y gwyr pawb a'i hadwaenai, yn rhagori braidd ar y goreuon o'r genedl ieuanc. Nid oedd ynddo y duedd leiaf i lithro gyda phrofedigaethau ieuenctyd a chwantau yr oes. Pan fyddai y lluaws wrth y cardiau neu ryw ffolineb arall, byddai ef o'r neilldu gyda ei Destament. Yn mhob peth yr oedd yn hynod wyliadwrus fel crefyddwr, a diambeu ei fod yn dechreu medi o ffrwyth ei lafur yn y gwynfyd tragwyddol. Fel milwr yr oedd yn hynod foddlon i'w gyflwr. Pob peth yn dda ganddo ef ar bob amgylchiad. Yr oedd bob amser yn barod wrth yr alwad i gyflawni ei ddyledswyddan, fel nad oedd achlysur byth i'w feio mewn dim, a thystiolaeth pawb am dano yw, Robert was a good boy."" ADDYSGIADAS. Nad oes dim yn bynodion ein bywyd yn ein diogelu rhag ymosodiad Yn nghanol bywyd a defcystudd ac angau. nyddioldeb, pan yr ymddengys yn fynych yn fwyaf anhawdd ein hebgor-am hyny na roddwn ein pwys ar ddim o'r pethau a welir. Mai cynllun tylawd i'r eithaf yw gadael ein pethau pwysicaf heb eu sicrhau hyd yr adegau diweddaf a mwyaf anfanteisiol. Tylawd i'r eithaf fuasai ar Robert Jones i geisio dechreu crefydda tan gystudd trwm yn yr ysbytty, yo mhell o gartref, yn nghanol dyeithriaid, lle nad oedd efallai fawr o fanteision crefyddol yn ei gylch, nac oud ychydig ond odid o ofal gan neb o honynt på fodd yr oedd yn teimlo. Ond pa mor sychlyɗ bynag oedd hi arno o ochr y ddaear, diamheu genyf fod hen gydnabyddiaeth rhyngddo â'r "Cyfaill a lŷn yn well na brawd," a chan fod hwnw yno yn cyweirio ei wely, yr oedd yn ddigon hawdd gorwedd arno, er mas Ymgysured y teulu fel rhai yn meddu gobaith, Heddwch i'w lwch. gwely yr Hospital oedd. a Duw o'i ras a fendithio y tro iddynt hwy, yn nghyd a'r cymydogion oll, trwy lesu Grist, Amen. EVAN OWEN. Duwinyddiaeth. GWEDDI DDIRGEL. MATT. 6: 6. Gweddi yw deisy fiad taer am ryw fendithnid am fendithion-canys un peth all yr enaid nefol yw gwrthrych gweddi. Gweddi ddirgel deimlo yn ddwys ar yr un waith. Ein Tad yw tywalltiad ein calon, neu ein deisyfiad, ger bron ein Tad mewn dirgel fan. Nid oes un Fel prawf o'i fywyd cyhoeddus wedi ymadael o gartref, rhoddwn dalfyriad o rai sylwad-dyn duwiol yn amheu ei ddyledswydd i weddau yn llythyr James J. Jones at ei dad. "Peth arall sydd genych yn destyn llawenydd, a'r prif beth hefyd, sef y gobaith o iddo farw yn ddedwydd. Credwyf yn ddiysgog fod Robert yn ganlynwr ffyddlon i Iesu Grist. io yn ddirgel; am fod profion o'n dyledswydd mor eglur. Matt. 6: 6, a 14: 23. Eto diau y tybia llawer eu bod yn Gristionogion ac yr ant i'r nefoedd, pan y gwyddant nad ydynt yn gweddio. Beth! Crist gweddigar a Christion diweddi! Dyn annuwiol yn myned i'r nefoedd! Anmhosibl! Na thwyllwngein hunain -pob duwiol a weddia. 1. Y mae gan bob Cristion le pennodol i weddio yn ddirgel-"Dy ystafell." Yr oedd gan yr Iuddewon ystafelloedd ar nen eu tai i weddio ynddynt. Pan yr oedd yr hen Buritaniaid yn adeiladu tŷ, gwnaent ystafell weddi ynddo, ac am hono yr oedd y gofal blaenaf a phenaf; ond yn awr nid oes son am ystafell weddi. Mewn tai mawr mae ystafelloedd i wneud pob peth i'r corff-ystafell iddo eistedd, bwyta, cysgu, a gwisgo; ond dim un i weddio. Gwneir pob gwasanaeth angenrheidiol i'r corff yn y tai bychain. Pa mor lleied a wneir i'r enaid sydd gymaint ei angen, a'i gyflawniadau mor bwysig. O pa mor bell y mae dyn wedi myned i ddyryswch a dwfn drueni, pan y gwneir cymaint o'r corff ac iddo, ac mor lleied i'r enaid gwerthfawr! Yr oedd gan Iesu Grist fanau dewisol i weddio, a bu manau gan ddynion mawr mewn duwioldeb a defnyddioldeb drwy yr oesan. Am hyny nis gallwn fod yn ganlynwyr Iesu Grist nac yn ufudd iddo heb ein hystafelloedd dirgel. 2. Y mae amserau pennodol i weddio yn ddirgel-“Pan weddiech." Yr oedd gan yr Iuddewon amserau priodol i weddio, sef, y prydnawn a'r boreu a chanol dydd, Salm 55: 17; Daniel 6: 10; Actau 3: 1; a 10: 3, 9. Pan y gadewir y weddi ddirgel i ddibynu ar deimlad a chyfleusderau, nid oes cysondeb, sefydlogrwydd, parhad na llwyddiant ynddi; canys mae'r cyflawniad fel y teimlad yn ansefydlog; un diwrnod teimlir yn dda a theimlir llawer, y dydd nesaf teimlir llai, ac ni theimlir dim y trydydd. Pan y teimlir llawer gweddiir llawer, a plan deimlir llai gweddiir llai, a phan na bydd teimlad ni bydd gweddio. Hefyd ni ddylid gadael gweddio ar gyfleusderau. Y mae pob dyn yn fwy prysur gyda ei orchwylion bydol ar rai amserau na'u gilydd. Os gweddia dyn yn ol cyfleusderau, peidia pan yn ddiwyd, a gwna pan yn segur. A oes rhyw gysondeb, rheswm neu grefydd mewn gadael gweddi pan fyddo gorchwylion bydol yn galw am ddiwydrwydd? Pob gweddiwr a wyr nad oes daioni o weddi ddirgel pan ei gadewir yn unig i deimlad a chyfleusdra. Ddarllenydd, a wnai di brawf o'r rheol hon, ac os cai ei fod yn well i ti weddio yn ol teimlad a chyfleusdra, gwna felly. 3. Ymneillduad, "Dos i'th ystafell, cau dy ddrws." Y mae yr ymneillduaeth yn ddeublyg, sef ymneillduaeth personol oddiwrth orchwylion a dynion y byd, ac ymneillduaeth meddwl oddiwrth bob peth daearol. Y mae ymneillduaeth yn angenrheidiol, am fod y byd yn rhwystr i weddio. Pob gweddiwr a wyr gymaint o rwystr yw swn annymunol y byd i gyfrinachu â'n Tad. Rhaid gadael ein gwaith. Gellir dyrchafu saeth-weddiau pan yn gweithio; ond pan yn myued i gyfeillach ein Tad, a deisyf rhyw beth ganddo, ni fynem weithio â'n dwylaw y pryd hyny, oblegyd melusder y gyfeillach a'n dwys deimlad o'n hangen. Hefyd ymneillduad meddwl a chalon oddiwrth bob peth y byd hwn. Heb y meddwl a'r galon nis gellir gweddio. Rhaid myned i'w hystafelloedd hi, a gyru y lladron allan, a'u glanhau oddiwrth bob halogrwydd ysbrydol Pwy sydd yn myned â llestri llawn o fudreddi i'mofyn dwfr glân? Nid oes ynddynt le na chymhwysder i ddwfr; felly calon lawn o'r byd, ac aflan gan bechod, i agosau at ein Tad, y mae efe yn bwrw ymaith y rhai llawnion, ond yn llanw y rhai gweigion â phethau da." Y mae yr ymneillduad i'w gadw-"cau dy ddrws." Nid yw y byd yn ei bethau a'i ofalon i fod yn yr ystafell; nid yw yn deilwng o'r cysegr nac yn addas iddo; am hyny cadwer ef allan. Gwaith hyfrytaf a dymunolaf yr enaid grasol yw eymdeithasu â'i Dad yn yr ystafell. 4. Y gwaith pwysig a buddiol a orchymynir, "Gweddia." Tydi ddyn-pob dyn-y mae gweddi yn ddyledswydd ar bob dyn, yn angenrheidiol a buddiol i bob dyn; canys y mae Duw yn Dad i bob dyn fel ei Greawdwr-Iesu Grist wedi profi marwolaeth dros bob dyn-yr Ysbryd Glân sydd yn ymryson â meddwl pob dyn, oddi eithr y rhai sydd wedi eu rhoddi i fyny i galedrwydd barnol. Pob dyn sydd bechadur ac yn ol am ogoniant Duw. Y mae pob dyn yn byw ar garedigrwydd Duw; am hyny dylai pob dyn weddio a diolch o galon. Gweddia pob dyn, naill ai yn amserol neu pan yn rhy ddiweddar. Gweddia yn awr, gweddia drosot dy hun a thros bob dyn―gweddia nes y gwyddot dy fod yn gweddio-gweddia nes llwyddo, ac y byddot yn byw allan dy weddiau. II. Anogaeth driphlyg y testyn. 1. Ein "Tad" yw. Ni raid i ti ofni ac arswydo, dy Dad yw. Ni wna dy ddiystyru a'th wrthod, canys y mae ganddo ef gariad, gofal, tosturi a chydymdeimlad Tad atat. Er i ti fod yn blentyn drwg, cyndyn, anufudd, ac afradlon, ac o herwydd y pethau hyn fod ei ofn arnat, a thuedd cilio oddiwrtho, ac amheuaeth ynot a wna efe faddeu i ti dy fawrion a'th aml feiau,-nac ofna, nac amheua, "dy Dad yw." Os ymddygaist at dy Dad fel gelyn, ac nid fel plentyn, na wna felly mwy, y mae y berthynas |