HANESIAETH GARTREFOL. BYR GOFIANT AM JOHN JONES, O Ardal y Coed, ger Dodgeville, Wis. Mab ydoedd JOHN JONES i Henry a Jane Jones, Nantygragen, plwyf Llanfihangel ararth, sir Gaer. fyrddin, D. C. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1784, felly yr ydoedd yn 79 ml. oed pan fu farw yn mis Tachwedd diweddaf. Yr ydoedd yn fwy adnabyddus yn yr hen wlad wrth yr enw John Jones, Plasnewydd, er mai o Nantygragen y symudodd i America. Ymbriododd ag Aun Lloyd, Glantweli, o'r un plwyf, mor agos ag y gellir casglu yn 1811. Bu iddynt amryw o blaut, ond wyth o honynt a ddaeth i'w cyflawn faintioli, a chwech o honynt sydd yn fyw yn awr, sef pump yn America ac un yn Nghymru. Collodd Mr. Jones ei briod tua'r fl. 1834, pan oedd ei blant yn ieuanc, ond yn mhen ysbaid priododd drachefn à Mrs. Sarah Evans, Clunglas, o'r un plwyf, yr hon a fu yn dyner o hono hyd ei fedd. Hi oedd mam Mary Evans, cofiant yr hon a welir yn NGHENHADWR Tachwedd diweddaf, t. d. 344. Bu ei thad farw ar ei hol yn mhen wyth wythnos i'r awr. Symudodd i'r America tua chwe mlynedd yn ol; bu yn byw dros y gauaf cyntaf yn Pittsburgh, ac yn yr haf dilynol daeth i Dodgeville, Wis., lle yr oedd iddo luaws o berthynasau, a hen gymydogion, yn mhlith pa rai y terfynodd ei yrfa ddaearol yr amser a nodwyd. Bu yn nychu am rai misoedd o'r dyfrglwyf, yn aml mewn poenau dirfawr, ond yn meddu amynedd mawr o danynt ac ymos " tyngiad i ewyllys yr Arglwydd, a'i eiriau olaf Rywfodd yn hagluniaethol daeth Evan, ei fab ieuangaf, yma o Pittsburgh i'w weled, ddiwruod cyn ei farw, wedi absenoldeb o tua 12 mlynedd, pryd y bu ychydig o ymddyddan dyddorol rhyngddynt am grefydd, yr hyn a brawf pa le yr oedd meddwl yr hen wr yn cartrefu. Cafodd gladdedigaeth barchus,-y Pareh. E. Owen yn gweinyddu yn y gladdedigaeth. Der Yr Yr oedd i'r ymadawedig rinweddau gwerth eu cofnodi. Yr oedd fel gwladwr yn selog dros bob diwygiad a fyddai a'i duedd er llesau y werin, drwy yr hyn y tynodd wg y mawrion am ei ben lawer gwaith. Fel cymydog hefyd byddai yn gymwynasol a haelionus; anhawdd y gallasai oddef i un tlawd ddyoddef os buasai ef yn gwybod am dano; bendith llawer o dlodion ei ardal sydd ar ei ben. Am dano fel crefyddwr, nid oedd heb feiau mwy nag eraill, ond gobeithiwn fod y rhai hyny wedi eu taflu i fôr angof; ond yr oedd iddo rinweddau ag ydynt fel perarogl ar ei ol. byniwyd ef a'i briod gyntaf yn aelodau yn eglwys Pencader yn mhen tua blwyddyn wedi iddynt briodi, mae 'n debyg pan oedd y Parch. Mr. Griffiths, Horeb, yn gwasanaethu i'r eglwys hono, a pharhaodd gydag achos crefydd hyd ei fedd. oedd yn gyfaill calon i weinidogion yr efengyl, o'r braidd y credai fod bai yn perthyn iddynt, ac efe a fyddai gyda'r mwyaf haelionus ei gyfraniadau at eu cynal; a phob casgliad a fyddai yn yr eglwys byddai ef ar y blaen yn wastad; pan y byddai ei gydraddolion yn rhoddi eu sylltau, byddai ef a’i goron yn barod yn gyffredin, a ffrwyth ei haelioni ef yw y tir lle y saif capel Troedrhiw Alltwalis a'r gladdfa, yr hwn a roddodd o'i eiddo ei hun yn rhodd i'r eglwys o'r hon yr oedd yn aelod cyn ei symudiad o'r Plasnewydd i Nantygragen. Bydded i'r plant ddylyn rhinweddau eu tad, a'r weddw a roddo ei hymddiried yn Marnwr y gweddwon, yr hwn sydd ffyddlon i'w addewid bob amser. tyr y perffaith ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tanguefedd." Dymunir ar y Diwygiwr godi yr uchod. Dodgeville. "Ys H. D. GRIFFITHS. BEIBL GYM. RACINE A'I CHYFFINIAU. Cynaliwyd cyfarfod blynyddol y gymdeithas fel arferol ar ddydd Nadolig, Rhag. 25, 1863. Cynaliwyd y cyfarfod am ddau o'r gloch yu nghapel yr Aunibyuwyr, y Llywydd John H. Francis yn y gadair. Adroddwyd sefyllfa arianol y Gymdeithas gan y Trysorydd, H. G. Williams. Tystiolaethwyd i'w cywirdeb gan W. W. Vaughan ac Owen Roberts, Golygwyr y Cyfrifon. Casglwyd y flwyddyn ddiweddaf $129,46. Daufonwyd yn rhodd i'r Fam Gymdeithas $80,00. Gwerth y Gymdeithas yn bresenol, yn ddiddyled, yw $66,22. Etholwyd y personau canlynol yn swyddogion am y fl. ddyfodol, Llywydd, y Parch. Wm. Hughes; Islywydd ion, John T. Williams, Roderick Evans, Robert Prichard, Humphrey Evans, Wm. J. Williams, a James Morgan, (Union). Diweddwyd y cyfarfod trwy weddi gan John R. Thomas. Y cyfarfod hwyrol yn nghapel y T. C. am 64 o'r gloch, y Llywydd yn y gadair. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. Robert Evans, trwy ddarllen a gweddio. Anerchwyd y cyfarfod gan y Llywydd, J. H. Francis. Yua cân gan y côr. Yn nesaf, Mr. H. Evans yn cyfarch y gynulleidfa. Dangosodd fod y Beibl Gymdeithas wedi dechreu er ys 60 mlynedd i fis Mawrth nesaf, a dangosodd werthfawrogrwydd y Beibl yn troi yr enaid a chadw pechaduriaid. Cân gan y côr. Yu nesaf, anerchwyd gan Meredith Jones, yn dangos fod y Gymdeithas Feiblaidd wedi bod ac i fod yn fendith i'r byd, a'i bod yn fraint ac yn ddyledswydd ar bawb i fod â'u dwy law yn cynal pob cymdeithas ddaionus. Cân gan y côr. Anerchwyd y gynulleidfa yn nesaf gan y Parch. C. D. Jones. Daugosodd fod y Gymdeithas Feibl. aidd yn rhagori ar bob cymdeithas. Cynghorai bawb i fod yn hael i gyfranu o'u cyfoeth at achos yr Arglwydd. Bod cyfranu at achos yr Arglwydd yu rban go fawr o grefydd yr Arglwydd. Bod yr Arglwydd wedi rhoddi rheol i gyfranu at ei achos trwy yr aberthau &c. Y modd i gyfranu yw rhoddi o'r peth "penaf o'th holl ffrwyth," a rhoddi yn gyfiawn ac egwyddorol, yn neillduol i'r achos sydd yn gofyn mwyaf; rhoddi yn siriol a llawen; rhoddi fel y mae Duw yn ein llwyddo. Y cyfranwyr goreu yn gyffredin sydd yn cael mwyaf o bleser yn moddion gras. Câu gan y côr. Yn nesaf anerchwyd y gynulleidfa gan y Parch. Wm. Hughes. Dywedai ei fod yn teimlo yn falch mai Cymro oedd, oberwydd mai y genedl Gymreig sydd wedi gwneud mwyaf o neb at y Gymdeithas Feiblaidd; bod angen am y Beibl, a bod y byd yn fwy dedwydd o'i gael. Barnai fod un cant ar ddeg o filiwnau o drigolion ar y ddaiar heb y Beibl, ac felly fod gwaith mawr i'w wneuthur. Sefyllfa y rhai sydd heb y Beibl, ni wyddant pa fodd i fyw na pha fodd i farw. Bod addasrwydd yn y Beibl i wella sefyllfa y byd &c. Dangoswyd arwydd o ddiolchgarwch i'r areithwyr a'r swyddogion am y flwyddyn ddiweddaf. Cân gan y côr. Diweddwyd trwy weddi gan David Prichard, pawb wedi cael eu boddloni ac yn barod i weithio gyda'r gymdeithas yn well nag erioed. E. D. THOMAS, Yeg. CYFARFOD BLYNYDDOI BEIBL GYM. WATERVILLE, BRIDGEWATER, PARIS A'R AMGYLCHOEDD. Cynaliwyd y cyfarfod uchod Rhag. 25, 1863, yn nghapel y Wesleyaid yn Paris, pryd y cafwyd pregeth ar yr achos gan y Llywydd, y Parch. J. 8 Adams. Wedi hyny, dewiswyd y swyddogion canlynol am y flwyddyn: yn Llywydd, Parch. E. Davies; Islywyddion. y Parchn. H. Humphreys a J. S. Adams; Trysorydd, Wm. S. Williams; Ysgrifenydd, www Wm. Price; Trysorwyr lleol, David Davies, Wm. Richards, Plainfield, Soloman Lewis, Paris, W. W. Thomas, Waterville. Penderfynwyd y pethau canlynol: 1. Fod y llyfrau oll i gael eu gwerthu gan y Trysorydd yn mhris y gymdeithas yn New York. 2. Fod pob ardal yn gyfrifol i'r Trysorydd cyff. redinol am yr oll a dderbyniant ganddo, ac os bydd rhywrai mewn angen Beibl yn rhad neu am lai na'i lawn bris, fod hyny i gael ei wneud i fyny gan y gym'dogaeth lle y byddo y cyfryw yn trigo. 3. Fod y casglyddion i fod yn drefuwyr, er mwyn ymgynghori a'r Trysorydd lleol ynghylch angenion cartrefol. 4. Fod y casgliadau i ddyfod i mewn erbyn Chwef. 19fed, a dymunir am i bob arian perthynol i'r gymdeithas i gael eu dwyn i law y Trysorydd erbyn y dyddiad uchod yn ddiffael. 5. Fod pob ardal i drefnu ynghylch cael cyfarfod ar yr achos cyn i'r casglyddion fyned allan. 6. Fod y cyfarfod blynyddol nesaf i fod yn Waterville, Rhag 26, 1864, am un o'r gloch. Enwyd y cysglyddion yn y gwahanol ardaloedd. Cafwyd cyfrif gan y Trysorydd, yr hwn sydd fel y canlyn, yr hwn hefyd a gymeradwy wyd. Casgliadau am 1863. CYDNABYDDIAETH O GAREDIGRWYDD. Ar y 23 o Ragfyr diweddaf ymwelwyd a'm tŷ gan nifer o drigolion Paris a'r cylchoedd. Yn y bore daeth y dosparth henaf o honynt, uid fel y darlunia Cowper amaethwyr Lloegr yn myned i dalu y degwm. "For then the farmers come jog, jog, Each heart as heavy as a log, To make their payments good." Ond deuent o rydd-ddewisiad, yn llawen a char edig. "A gwyneb pawb yn gwenu." Ac yn yr hwyr ymgyuullodd y dosparth ieuangaf o honynt, Egin dynion, gnwd anwyl, oll yn hardd, mewn llawen hwyl, Heb an gwarth a phawb yn gu. Cynyrch caredigrwydd yr ymwelwyr yn ystod y dydd mewn arian a nwyddau oedd $70; am yr hyu diolchir yn wresog i bawb o houyut gan eich anbeilwng ohebydd. DEWI EMLYN. Parisville. YMWELIAD. Y laf o Ionawr, prydnawn a'r hwyr, darfu i'r cyfeillion yn y gwahanol ardaloedd dalu ymweliad A ni fel teulu, a chyfranu yu arian a rhoddion eraill y swm o $100. Er ei bod yn stormydd mawr ac yn anbawdd i neb ddyfod allan, eto daugosasant eu cariad a'u parch yn y modd hwn tu hwnt i'n disgwyliad. Yr Arglwydd a dalo iddynt yw fy ngweddi. Mae hiraeth ar fy nghalon wrth feddwl am ymadael, ac mai dyna yr ymweliad diweddaf fe allai byth yn Turin. Dymunwn i'r Arglwydd dueddu meddwl thyw frawd i lafurio yn mysg ein hanwyl genedl yn yr ardaloedd yma a fyddo yn fendith i'r eglwys ac yn lles i'r ardaloedd. D. E. PRICHARD. MARWOLAETH MILWR. Medi, 1863. yn y Marine Hospital, New Orleans, bu farw JOHN ROBERTS, yn 30 ml. oed. Ymunodd yn wirfoddol gyda'r 29 Catrawd Wisconsin, a bu'n filwr ffyddlon hyd ues ei analluogwyd gan afiechyd. Dyoddefodd ei gystudd yn dawel a dirwgnach. Mab ydoedd i William ac Ann Roberts, Emmett, Wis., (gynt o Deerfield, N. Y.) Bu farw ei anwyl fam amryw flynyddoedd yn ol. Mae ei dad oedranus yn fyw i ddwys alaru ar ei ol. Yr Arglwydd a'i cynalio, a bydded iddo gael nerth i ddweyd megys Eli, Yr Arglwydd yw efe; gwuued a fyddo da yn ei olwg. Pwy galon na theimla wrth feddwl I weini er cymaent ei loes, Ddim gweled ei guddio mewn bedd, Lle'i rhoddwyd yn waeledd ei wedd. Uwchben yr oer letty yn brudd, Ar y beddrod lle 'r buna mewn hedd O gyrhaedd swn magnel a'r cledd. Nelson, Ion. 6. 1864. REBECCA. YMADAWIAD D. E. PRICHARD. Yn gymaint a bod ein hanwyl weinidog, y Parch, D. E. Prichard, wedi cael ar ei feddwl ymadael, a rhoddi gofal yr Eglwys yn Turin a'r Hill i fyny, i fyned i lafurio dros achos ei Dduw yn Rome, N. Y., dymunem hysbysu ei fod yn ymadael mewn tanguefedd, dan goron o barch a chariad yr holl aelodau. Teimlir hiraeth dwys ar ei ol, nid yn unig gan yr eglwys fa dan ei ofal, ond hefyd gan y lluaws mawr cyfeillion iddo yn mhlith enwadau crefyddol eraill yn y gwahanol ieithoedd. Yr oedd undeb cryf wedi tyfu rhwng boll aelodau'r Eglwys, a'r gwrandawyr yn gyffredinol ag ef-llawer deigryu a gollir with feddwl na cheir ei gymdeithas, gyda ni yma yn hwy: carai pawb ei weled yn dyfod yn ol drachefu. Bu yu un o ffyddloniad y ddaiar tra yn ein plith; lafuriodd yn galed, diffino a dirwgnach am ysbaid dwy ar bytheg o flynyddau; coronwyd ei lafur a gradd belaeth o lwyddiaut crefyddol; bu yr achos yn flodeuog dan ei ofal, dychwelwyd llawer i fod yn aelodau yn y ty. a byderwn i afael a byw. yd tragwyddot trwy ei weinidogaeth. Nid buan yr anghofir ei gynghorion, ei ddwys rybuddion, yr anogaethau tirion a ̧ roddai i bʊb oedran geisio am ran mewn Cyfryngwr. Ei ym ddiddanion melus ac adeiladol yn y gyfeillach grefyddol, ei sirioldeb a'i diriondeb tuag at bawb yn mhob man, ei ymweliadau â'r cleifion, a'r cymorth parod a geid ganddo ef a'i anwyl briod bob amser a than bob amgylchiad, a hir gofir gan' bawb o'i gyfeillion. Ond byd yw hwn ac y mae symudiad parhaus yn mysg ei drigolion, mae y cyfeillion gorau-y ffrindiau anwylaf, ein gweinidogion mwyaf hoffus, doniol ac effeithiol yn ymadael. Felly cafodd yntau ar ei feddwl ymadael i fyned i faes arall i lafurio. Bydded i'r Duw a'i cadwodd hyd yn hyn, o dan ami brofedigaeth a llawer o aufanteision, ei gadw hyd y diwedd. Maes newydd ei lafur a fyddo yu un by fryd iddo. Bydded iddo gael bir ddyddiau i wneud llawer o ddaioni dros ei Feistr mawr, y nefoedd a weno ar ei weinidogaeth, pechaduriaid gaffont eu dychwelyd at Dduw, y gwau yn Seiou gatto ei gyfhau, achos y Gwaredwr a to fel gardd yr Arglwydd dan ei weinidogaeth; a'i lwybr ar y ddisgynfa tua'r bedd, fyddo yn un o heddwch ac o hyfrydwch i'w feddwl; a phan y caffo alwad i fyned adref oddi wrth ei waith at ei wobr, boed iddo allu dweyd fel Paul. "Mi a ymdrechais yindrech deg, mi a gedwais fy ffydd &c., yr hyn yw ein gweddi a'n dymuniad. Ymadael wnaeth ein hanwyl frawd a ni. Ryw hiraeth dwys sydd genym ar ei ol, Yn dyner mwy ni'th goliwn di -L. ROBERT WILLIAMS, JOHN O. Diaconiaid. LEWIS JONES, Ysg yr Eglwys. BEIBL GYMDEITHAS FLOYD A WESTERN. Cyualiwyd cyfarfod blynyddol y gymdeithas uchod ar y 25ain o Ragfyr, 1863, yn Nghapel y T. C. Agorwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Paul Philips-gweithrediadau y cyfarfod fel y canlyn. Yn absenoldeb y Llywydd a'r Islywydd, galwyd Mr. Edward R. Jones i lywyddu y cyfarfod. Yna Darllenwyd cyfrifon y Trysorydd a chymeradwywyd hwy gau y gymdeithas. Casglwyd gan y Casglyddion $45, 21. Dewiswyd y personau canlynol yn Swyddogion y Gymdeithas dros y flwyddyn nesaf: Thomas D. Roberts, Llywydd; Edward R. Joues, Islywydd; Griffith O. Jones, Trysorydd; Humphrey J. Williams, ysgrifenydd; Richard R. Williams, John E. Jones, William Richards, a Johu Morris, Casgl. yddion. Penderfynwyd i'r Gymdeithas gyfarfod ar y 26ain o Ragfyr nesaf yn Nghapel yr A., a bod Mr. Robert Owens i ofalu am frawd i areithio ar y mater y dydd a nodwyd. Hefyd, penderfynwyd fod y gweithrediadau uchod i gael ymddangos trwy y Cyfaill a'r CEN HADWR. Yu gaulynol i hyn cawsom araeth bwrpasol ar yr amgylchiad gan Parch Thos. R. Jones, Rome. HUMPHREY J. WILLIAMS, Ysg. DYCHWELIAD Y PARCH. S. ROBERTS. Mae Mr Roberts yn ymadael heddyw, Ionawr 13eg, tua Tenue-see, ac mae Cadwgan Fardd yn dychwelyd yno gydag ef. Yr oedd Mr. S. R. yn iach ac yn galouog ar ei ymadawiad, wedi cael caredigrwydd mawr gan ei hen gyfeillion ac eraill yn y Gygledd am rai misoedd. Efe a gafodd dros ddwy fil o enwau i fod yn dderbynwyr } i'w Lyfr yr hwn sydd yn y wasg yn Utica, N. Y. Bydd ei ddarlun yn nechreu y gyfrol, yr hyn a wna lawer er prydferthu y llyfr. Hyderwn y diogelir Mr. Roberts a Cadwgan ar eu taith, ac y cyfarfyddant a'u teuluoedd yn fyw ac mewn iechyd. T. EDWARDS. Cincinnati, Ion. 13, 1864. PETH NA FU ER Y DILIF, Sef addoldy undebol gan y Cymry yn Swatara, Pa., gwedi ei orphen yu daclus ac y mae yr holl dreuliadau gwedi eu talu cyn diwedd mis Rhagfyr, 1863. fel nad oes yn aros yr un cent heddyw. Swatara, Ion 8, 1864. WM. LEWIS. SYMUDIAD GWEINIDOG. Deallwn fod y Parch. D. D. Thomas Dudley, Pa., yn cydsynio à galwad a gafodd gan Eglwys St. Clairs, Pa., ac yn symud yuo os caniadha rhagluniaeth tua dechreu y flwyddyn. Carem ninau fel Eglwys fod hysbysiad o'n teimladau wrth ymadael a'n gilydd yn cael ei aufon i'r CENHADWR. Bu Mr. Thomas ein gweinidog yn llafurio yn ein plith yn agos i dri mis ar ddeg. Pan y gwnaeth yn hysbys i'r Eglwys ei fod yn bwriadu ein gadael, tarawyd ni oll â syndod a thristwch, oherwydd colli ei gymdeithas yr hon sydd wedi bod yn werthfawr yn ein golwg yn nghyd a'r golled a deimlwn yn ein hamddifadrwydd o'i bregethau cynwysfawr a'i gynghorion pwrpasol. Yr ydym yn credu fod yr Arglwydd yn ei raglaniaeth wedi agor iddo ddrws eangach a maes helaethach lle, hyderwn, y bydd yn fwy defuyddiol a chael mantais i wneud mwy o ddaioni a bod yn offeryn yn llaw ei Feistr mawr i droi llawer o eneidian o feddiant Satan at Dduw; ac felly yr ydym yn ei gyflwyno yn gyntaf i ofal y Peu Bugail, ac yna i fugeiliaeth ein chwaer eglwys sydd yn St. Clairs, Pa. Yr ydym yn gwybod ar yr un pryd ei fod ef yn cael cyfle i gynal ei hun a'i deula yu fwy cysurus nag y gallwn ni fel eglwys fechan yn ein hamgylchiadau preseuol wneud. Y fraint a gatlom oll i weddio am i'r Arglwydd fendithio ei lafur yn ei faes newydd-boed nawdd y uef drosto ef a'i deulu yn dymhorol ac ysprydol-yw dymuniad yr eglwys. Arwyddwyd dros yr eg. lwys gan, EVAN S. DAVIES, REES WATKINS, DANIEL S. DAVIES, Dudley, Rhag. 29, 1863. Diaconiaid. BEIBL GYMDEITHAS ROME, N. Y. Dydd Nadolig 1863 cynaliodd y gymdeithas hon ei nawfed cylchwyl flynyddol. Am ddeg y boreu cyfarfu swyddogion ac aelodau y gymdeithas yn nghapel yr Aun bynwyr, Parch. Thos. Williams yu y gadair. Edrychwyd dros gyfrif y Trysorydd. Cafwyd ef yn eglur a chywir. Cymeradwy wyd ef yn unfrydol. Dewiswyd yn swyddogion am y flwyddyn ddyfodol: Parch. Thomas Williams, Llywydd; Richard H. Jones, Islywydd; Wm. N. Jones, Ysgrifenydd; John H. Jones, Trysorydd; yn nghyd a saith o gydrefnwyr. Dewiswyd casglyddion i'r amrywiol ddosparthiadau, a phethau eraill perthynol i'r gymdeithas. Am saith yn yr hwyr, cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn nghapel y T. C., pryd y traddodwyd areithiau grymus a chynes gan y Parchu. D. Charles Evans, Remsen, ac Edw. W. Joues, York Mills. LLYTHYR DYDDOROL. New Haven, Ct., Ion. 15, 1864. ANWYL FRAWD EVERETT,-Ar gais y brodyr a'r chwiorydd yn Eglwys Gynulleidfaol Gymreig, Middle Granville, N. Y., wele fi, yn ynfon y llythyr canlynol i'w gyhoeddi, yn nglyu â haues agoriad eu capel, yu y CENHADWR. Derbyniais ef oddiwrth fy nghyfaill, y Parch. I. P. Langworthy, Ysg.ifenydd yr Undeb Cynulleidfaol Americanaidd, a chydag ef y swm hardd o $150,00, yr hwn a lwyddodd i'w casglu ar fy nghais er cynorthwyo eiu brodyr gweiniaid yn Middle Granville i orphen a chlirio dyled eu haddoldy. Gobeithiwyf y bydd darlleniad y gyfrau o weddi y brawd bach duwiol o Rhode Island, at ba un y cyfeirir ynddo, yn foddiou i ddwyn holl blaut ein cenedl a'i darileno i'w efelychu, nid yn unig drwy gofio eu Creawdwr yn nyddiau eu hieuenctyd, ond hefyd drwy ddisgwyl wrtho a chymeryd eu cyfarwyddo gan. ddo yn mhob amgylchiad, ac arfer yr un hunan ymwadiad tuag at ei achos. Yr eiddoch yn bur JOHN D. JONES. Y mae'r llythyr fel y canlyn: Chelsea, Rhag. 14, '63. Anwyl Frawd Jones,-Wele fi yn anfon gyda'r llythyr hwn ddrafft i chwi am yr arian addawedig, a thaleb argraffedig yr hon y gwelwch yn dda ei har wyddo a'i hanfon i mi. Yn awr, fy anwyl frawd, mae 'u rhaid i mi gael tipyn o dal am y rhodd hon. Yn uniongyrchol ar ol agoriad eich eglwys, mae arnaf eisiau i chwi anfon llythyr o ddiolchgarwch i'r eglwys a'r gymdeithas Gynulleidfaol sydd yn addoli ar High Street, Providence, R. I., gan ei gyfarwyddo at y Parch. Lyman Whitney. Hwy a roddasant bob dolar or $150 yma, a hyny ddoe, onite ni allaswn eu hanfon i chwi cyn y mis nesaf. Addewais lythyr iddynt oddiwrthych chwi. A chyda 'r llythyr hwnw, rhoddwch nodyn i mewn i Meistr Lyman Herbert Whitney. Oh mi gefais olygfa gydag et! Mae 'n ddeng mlwydd oed! gobeithia ei fod wedi rhoddi ei galon i Iesu Grist dair blynedd yn ol Mae yn fab i'r gweinidog. Mae 'n perchen iar; a chyda 'i hwyau yr oedd yn casglu ychydig arian i brynu rhagor o ieir yn y gwanwyn. Meddai yn barod 75 cents. Clywodd fi yn siarad am angenion yr eglwys fechan yn Middle Granville, ac ar ol iddo gyrhaedd adref, aeth at ei fam a dywedodd wrthi am yr ymdrech a gawsai i roddi yr arian i fyny er cynorthwyo eich eglwys. Yr oedd arno eisiau iddi hi ddod gydag ef i'r un fan ag y rhoisai ei galon i Grist, fel ag y byddai iddo gael gweddio yno am gyfarwyddyd Aeth hithau i'w ganlyn. Yo ystod ei weddi, dywedodd: "Yma, O Iachawdwr, yr ydym ein dau, lle yr oeddem dair blynedd yn ol, pan roddais i fy hunan i ti. Yn awr, cyfarfydda â ni yma eto, ac oH DYRO I MI ALLU A NERTH I YMADAEL A'R ARIAN YMA, i gynorthwyo yr eglwys y clywais am dani. a dos gyda hwynt o law i law nes iddynt gyrhaedd pen eu taith." Ar of gweddio, daeth ataf gyda'r pwrs a'r cyfan, a chyda'r dagrau ar ei ruddiau, dywedodd wrthyr y fath ymdrech a gawsai i ymadael a hwynt, ac mor llaw en y teimlai yn awr i'w rhoddi imi. Ni welais erioed engraifft mwy dyddorol o ffydd syml yn fy mywyd. Gwelwch yn dda anfon llythyr byr ato, gan ddweyd fy mod wedi eich hysbysu am ei hunany mwadiad yn rhoddi ei gyfalaf bychan, yn wir yr oll a feddai, i'ch cynorthwyo. Mae'n meddwl y bydd i Dduw ddyfod ag ieir iddo o rywle ryw fodd eto. Yr eiddoch yn sercbog ISAAC P. LANGWORTHY. EGLWYS BROAD TOP, PA. MR. GOL, Tua dechreu Rhagfyr 1862 daethum i le a elwir Broad top, Huntington Co., Pa. Pan ddaethum i'r lle hwn nid oedd gan yr eglwys fechan houo un gweinidog i'w bugeilio na'r un pregethwr i bregethu iddynt, a hyny er's cryn amser. Felly bum yn llafurio yn eu plith am ryw dri mis ar ddeg, a phob peth yn dra chysurus rhyngom a'n gilydd, ac yr wyf yn meddwl ein bod yu fwy o ffrindiau pan yn ymadael na phan welcom ein gilydd gyntaf. Oud fel y mae pethau yn newid yn y byd hwn yn aml, fel hyn y mae wedi bod yn ei pherthynas â mi. Diwedd y mis diweddaf darfu i mi roddi gofal yr eglwys yn Broad top i fyuy i ddyfod i St. Clair. Yr oedd golwg flafriol ar yr achos yno yr haf diweddaf-llawer o frodyr da iawn wedi dyfod yno, a'r eglwys yn cryfhau. Ond tua diwedd yr haf, o herwydd diffyg cydwel'd rhwng y gweithwyr a'r meistradoedd, darfu llawer iawn o'r brodyr ymadael a'r lle, ac ychydig ar ol yn teimlo eu colled yn fawr ar eu hol. Nid oes genyfond erfyn ar i Dduw pob gras ofalu am yr eglwys fechan yu y lle, a bydded i undeb a thangnefedd lauw pawb o'r brodyr sydd ar ol. Ac wele fi yn bresenol yn St. Clair, gwedi dechreu ar waith mawr y weinidogaeth yma y Sabboth cyntaf o'r flwyddyn hon; ac wedi cael fraint fawr o roddi deheulaw cymdeithas i frawd a chwaer y Sabboth cyntaf yn St. Clair. Yr Arglwydd a baro nad oedd hyn ond blaenffrwyth o'r hyn a gymer le eto yn fuan fuan. D. D. THOMAS. Y ffordd i gyfarwyddo llythyr ataf yw: Rev. Daniel D. Thomas, St. Clair, Schuylkill Co., Pa. GRANVILLE, OHIO. MR. GOL.,-Gau mai eich hoff waith yw cofnodi rhinweddau. a cheisio tynu sylw pawb at bethau rhinweddol, er mwyn iddynt eu hefelychu, tybiais mai nid hollol annerbyniol genych fyddai cael hanes gweithred deilwng o efelychiad fel yr un a ganlyn. Meddyliodd Eglwys Annibynol Granville y ba asent yn dangos eu parch a'u cydymdeimlad â Mrs. Jenkins, gweddw y Parch. D. Jenkins, ein diweddar weinidog, trwy wneuthur Donation iddi. Felly penderfynasant roi cymelliad i holl ewyllyswyr da Mrs. Jenkins i gyfarfod yn nhŷ Mr. William Jones nos Iau, Rhagfyr 24. Felly ar yr amser penodedig cawsom y fraint o ymgasglu at ein gilydd yno, i daflu ein hadling i mewn. Yr oedd yno bob peth anghenrheidiol er ein gwneud yn gysurus,-yr oedd yno luniaeth a llawenydd gyflawnder. Ac y mae yn dda genym allu dweyd, fod yr hyn a dderbyniwyd mewn arian a gwerth, yn dod i fyny i'r swm hardd o $53,60. Y mae hyn eto yn ddatguddiad adnewyddol o ddaioni Cymry Granville, ac hefyd o'u parch i goffadwriaeth Mr. Jeukins, trwy ofalu am ei weddw unig a'i blentyn amddifad. Y mae hefyd yn arwydd o grefydd bur a dihalogedig, sef ymweld â'r amddifaid a'r weddw yn ei hadfyd. Yr Arglwydd a dalo iddynt yn ddau-ddyblyg yw dymuniad yr eiddoch mewn cariad, JOHN L. JONES, Yag. |