Imatges de pàgina
PDF
EPUB

HANESIAETH GARTREFOL.

ddu yn y dyffryn islaw-hefyd wrando ar wyllt adar y coed yn odli llawenydd ar doriad gwawr y dydd. Bum hefyd yn ceisio denu y brithyll cyfrwysgall i ymaflyd mewn bach, ond ni lwyddais yn hyn, er fy mod flynyddau yn ol yn gallu dal degau mewn ychydig amser. Beth oedd yr achos yn awr? Cefais allan y dirgelwch wedi myned adre' ar ol llafurio yn ofer. Yr oedd y pygotwr glew hwnw, y Parch. H. R. Williams, Turin, wedi bod ar hyd yr aber o'm blaen, ac wedi gallu swyno pob brithyll at ei fach rhagorol, felly nid oedd dim yn weddill!

845

adenydd hyd y diwedd, o dan ei weinidogaeth felus aed yr un yn fil a'r wael yn genedl gref. ENEAS.

COFIANTAU BYRION.

MRS. MARGARET BEVAN, TROEDRHIWDALAR, 0. Ganwyd Margaret Bevan mewn ty ffarm o'r enw Ty'n y dwr, yn mhlwyf Llanafanfawr, swydd Frycheiniog, D. C. Enwau ei rhieni oedd William a Dinah Lewis. Yr oedd Mrs. Bevan yn un o bedwar o blant-un mab a thair merch. Bu y bachgen farw yn ei ieuenctyd. Bu Sarah ei chwaer farw yn ei chartref gened. igol, a bu Mrs. Davies ei chwaer arall farw yn yr ardal hon, a hi oedd y gyntaf a gladdwyd yn nghladdfa Troedrhiwdalar, Ohio.

Bore Sul yr 21ain cefais y fraint o fyned i wrando ar y brawd anwyl yn pregethu ar y geiriau, (o eiddo Paul, Phil. 4: 11,) "Canys myfi a ddysgais yn mha gyflwr bynag y byddwyf fod yn foddlawn iddo." Yr oedd ei sylwadau yn hynod o felus a tharawiadol. Y mae dysgu bod yn foddlawn o dan bob goruchwyliaeth yn wers bwysig a lled anhawdd i lawer ei dysgu. Sylw-cylau, a buont yn byw am flynyddau mewn

{

Yn y flwyddyn 1827 ymunodd mewn priodas yn Nghymru â Mr. David Bevan o Bwlch y

ffarm o'r enw Penrhiwmoch. Yn y flwyddyn 1836 trwy rasol ymweliad Duw cafodd ei dwyn i ystyried ei chyflwr fel pechadur. Tua 'r dyddiau hyny, dygwyddodd i hen wr duwiol o'r enw Thomas James fod yn dyrnu gyda hwynt. Yn y boren danfonodd Mrs. Bevan ei merch fechan allan i'r ysgubor at yr hen wr i ofyn iddo a oedd ef yn myned i'r gyfeillach grefyddol yn y prydnawn, ac os oedd y byddai hi yn dod gydag ef. Wrth hyn deallodd yr hen wr fod y gwaith grasol wedi ei ddechreu,-aeth i'r ty a buont yn cynal cyfeillach grefyddol yno dros y gweddill o'r borau, ac yr oedd achubiaeth ei henaid yn gorphwys mor ddwys ar ei meddwl fel yr anghofiasant fwyta eu ciniaw y diwrnod hwnw;

i Troedrhiwdalar, ac mewn amser priodol cafodd ei derbyn yn aelod o'r eglwys yn Troedrhiwdalar, Cymru, gan y Parch. D. Williams. Yn y flwyddyn 1842 daethant i'r wlad hon a sefydlasant yn ardal Troedrhiwdalar, Ohio.

odd yn felus ar y wers oedd i'w dysgu, ac hefyd y modd i wneyd hyny. Bu Paul gryn amser cyn gallu adrodd yn rhwydd, myfi a ddysgais } fod yn foddlawn &c. Yr oedd yn cyfrif pobpeth yn golled er mwyn Crist. Eto yr oedd yn meddwl y gallai ddysgu y wers yn haws wedi cael ymwared a'r swmbwl yn y cnawd, ond cafodd ateb un diwrnod, gan ei Dad "Digon i ti fy ngras i a'm nerth a berffeithir mewn gwendid." Cafodd allan y medd i'w dysgu yn berffaith wedi hyn. Yr oedd yn bregeth wir werthfawr, y sylwadau yn cyrhaedd pob gradd a sefyllfa-dysgu bod yn dawel a boddlawn. Hyderwyf y bydd i'r gwirioneddau gael lle priodol ar feddyliau y rhai oedd yn gwrando, ac y bydd i'r Arglwydd o'i rad drugaredd dywalltaethant yn y prydnawn i'r gyfeillach grefyddol ei Yspryd sanctaidd ar yr Eglwys fechan yn Turin, y bydd yno lwyddiant mawr. Da iawn oedd genyf weled cynifer yno, pawb yn edrych { yn siriol ac yn meddwl yn dda am en gweinidog-ofnwyd y buasai symudiad y Parch. D. E. Prichard yn peri i'r achos ddarfod yno; ond darfu i Dduw anfon bugail arall i'w ei bobl, a chredu yr wyf y bydd ei fynediad yno yn fendith fawr iddynt. Bydded i'r cyfeillion anwyl wneyd ymdrech mawr i gynal breichiau Mr. Williams i fyny. Mae pawb yn pregethu yr efengyl wrth wneyd ymdrecho blaid yr achos mawr, yn gystal a'r pregethwr. Bydded i undeb a heddwch deyrnasu y'mhlith y brodyr yn Turin a'r Hill-undeb anwyl rhwng brodyr fyddo yn ffynu fwy fwy, fel y byddo i Dduw fendithio llafur ei weision, ac eglwys Crist fyddo yn ffrwythlon fel gardd baradwysaidd. Boed tangnefedd fel afonydd puro hedd, yn rhedeg mwy dros bant a bryn. Boed i'r cwmwl niwl a'r golofn dân aros uwch ben y gwersyll bychan yno, y cyfeillion caredig sydd yn gwrando, gaffont eu bendithio â bendithion ysprydol, a'r brawd anwyl gaffo nerth a doethineb i fyned i mewn ac allan o flaen pobl ei ofal. Cadwed yr Arglwydd ef dan gysgod ei

[ocr errors]

Yn ei bywyd yr oedd Mrs. Bevan yn dangos ei bod wedi cael gafael ar wir dduwioldeb. Fel mam yr oedd yn dirion a gofalus am faethu ei phlant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, ac yr oedd yn ofalus iawn yn ngwyneb trïalon i gadw ei hun mewn tymer briodol i roddi esiampl dda o flaen ei phriod a'u plant, ac yr oedd crefydd yn disgleirio i'r fath raddau yn ei bywyd fel y bu y prif foddion i ddwyn ei phriod a'i phlant i weled gwerth mewn crefydd a chafodd yr hyfrydwch o'u gweled oll yn cofleidio gwir grefydd.

Yr oedd yn ffyddlawn yn y cynulliadau crefyddol. Nid wyf yn cofio i mi weled ei lle yn wag mewn 22 mlynedd yn y cyfarfodydd cyhoeddus a'r cyfeillachau neillduol ac yr oedd bob amser yn haelionus yn ei chyfraniadau at achos yr Arglwydd. Gallwn ddywedyd am dani mai hyfrydwch ei henaid oedd cael trigo yn nhy yr Arglwydd holl ddyddiau ei bywyd i

edrych ar brydferthwch yr Arglwydd ac i ym- 3 synwyr-gall. Pregethodd yr ysgrifenydd y

ofyn yn ei deml. Wedi bod o wasanaeth mawr yn eglwys Dduw, yn mis Medi diweddaf cymerwyd hi yn glaf gan glefyd y gwaed. Ni bu yn glaf ond ychydig o ddyddiau, ac ar y 15fed o Fedi hunodd yn dawel yn yr lesu, yn 66 ml. oed. Gadawodd briod a 6 o blant i alaru ar ei hol. Claddwyd ei rhan farwol yn nghladdfa Troedrhiwdalar a gweinyddwyd yn ei hangladd gan y brodyr J. H. Jones, E. Roberts a'r ysgrifenR. POWELL. ydd,

MRS. MARY EDWARDS, BANGOR, WIS.

Ganwyd Mrs. Edwards yn Ty Coch, plwyf Llanfihangel swydd Gaerfyrddin, D. C. Enwau ei rhieni oeddynt Thomas a Jane Evans. Buont byw mewn lle o'r enw Bwlch Gwyn am flynyddau, ac yn y lle hwnw mae ei chwaer Jane yn byw yn awr. Ymbriododd â Mr. David Edwards, a buont byw mewn lle o'r enw Marchoglwyn, plwyf Llanelli ger Pont y Berem, oddiyno symudasant i Bryn Man, plwyf Llanon, ac oddiyno daethant i America yn y fl. 1844. Sefydlasant mewn lle o'r enw Charleston, Tioga Co., Pa.

Bu iddynt bump o blant, pedwar o ba rai sy'n galaru ar ol eu hanwyl fam. Bu farw y llall yn ieuanc pan oeddynt yn yr hen wlad. Tua saith mlynedd yn ol, daeth i'r West at ei merch, sef priod y Parch. John Davies, yn awr o Bangor, La Crosse. Yn Chwefror diweddaf ymwelwyd â'r teulu gan y dolur poenus ac angeuol sef y gwaedglwyf, a bu pump yn y teulu yn anhebyg o fyw, sef Mrs. Davies a thri o'u plant, ond drwy ymdrech meddyg medrus a bendith Tad y trugareddau gwellhaodd pawb ond Mrs. Edwards, trodd yn ddyfrglwyf (dropsy of the abdomen) arni hi, a dyoddefodd gystudd poenus yn agos i wyth mis. Ymostyngai yn dawel yn ei chystudd i ewyllys ei Thad nefol, a phan ddeallodd fod y meddyg yn golygu nas gallai fyw ond ychydig oriau, dywedai "Wel, Dr. nid ar wely marw mae parotoi i farw, os yw fy Nhad nefol yn galw am danaf, yr wyf yn dawel i'w ewyllys ef."

bregeth angladdol i dorf luosog Medi 25 yn
nghapel Annibynwyr Bangor.
Bangor, Hyd. 3, 1864.

JOHN DAVIES.

MRS. MARY WILLIAMS, IRONTON,
Priod Mr. David Williams, yr hon a fu farwo
Aust 10, 1864.

Merch ydoedd Mrs. Williams i Thomas a Hannah Howells, Bryn-y-meini, swydd Gaerfyrddin, D. C. Ganwyd hi yn y fl. 1827. Yn y seithfed flwyddyn ar ugain o'i hoed symudodd hi a'i rhieni yn nghyd a phump o'i chwiorydd i'r wlad hon, dwy o honynt yn nghyd a'u rhieni sydd wedi eu claddu; a'r gweddill yn ol i alaru

eu colled ar ol eu hanwyl chwaer. Yn mhen ychydig o flynyddau wedi dyfod trosodd i'r wlad yma, ymunodd mewn priodas â Mr. David Williams, gynt o sir Gaerfyrddin, D. C. Bu iddynt un plentyn, yr hwn yn bresenol sydd wedi ei amddifadu o fam dyner a gofalus.

Cafodd Mrs. Williams ei dwyn i fyny mewn teulu crefyddol, ac ni bu cynghorion ac addysgiadau ei rhieni yn ofer, y ffydd a breswyliodd ynddynt hwy a breswyliodd ynddi hithau hefyd, Pan yn 19 mlwydd oed derbyniwyd hi yn aelod o eglwys Crist, gan y diweddar Barch. Mr. Hughes, Trelech, a bu yn ffyddlon ganlynydd i'r Gwaredwr hyd ei bedd.

Bu Mrs. Williams am y blynyddau diweddaf o'i hoes mewn anfantais fawr i ddangos ei ffyddlondeb crefyddol a hyny o herwydd ei selni a'i mynyrch wendid, eto yn ol ei gallu hynododd ei hun yn y wedd hon, yr oedd pob ymddangosiad yn dweyd mai yn y "ty" yr oedd ei chysur a'i nerth hi. Yn ngwyneb ei mawr boen ni chlywais hi yn cwynfan am ddim ond am ei hanallu i ddyfod i foddion gras. Ond heddyw yr ydym yn ffyddiog ei bod wedi cyraedd gwlad lle nad oes yr un diffyg corphorol yn rhwystr i ddilyn yr enaid yn ei ddymuniadau addolawl.

Rhagorai yn fawr fel cymydoges, cerid hi gan bawb o'i chymydogion, y rhai a'i hadwaenent oreu a'i parchent fwyaf. Yr oedd bob amser yn addfwyn, tyner a chariadus, a gallwn ddweyd hefyd pan bu Mrs. Williams farw fod yr ardal wedi cael colled.

Bydded i'r Arglwydd fod yn gymorth i'w phriod galarus yn ei drallod, ac yn noddfa i'r un bach sydd o dan ei ofal ef, ac yn nerth i'r

ddweyd mai ewyllys y Bod mawr a wneler bob
amser, ac i barotoi i'w chyfarfod yn y wlad lle
nad oes neb yn marw. Ydwyf eich cydym-
deimlydd,
GEO. M. JONES.

Dywedai wrthym am anfon at ei phlant am iddynt "Fagu a meithrin cu rhai bychain yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Pan ofynem ei theimladau dywedai ei bod yn hiraethau am ei hymddatodiad, a throdd ei hym-chwiorydd yr un modd i fod yn dawel, gan ddyddan yn weddi, "O Arglwydd, yn dy drugaredd maddeu fy aml bechodau a derbyn fy enaid i'th dragwyddol deyrnas." Bu farw yn hynod esmwyth i'n golwg ni Medi 15fed, mewn ychydig wythnosau i 82 fl. o'i hoedran. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y Parch. Benjamin S. Baxter, gweinidog Annibynol perthynol i'r Saeson, ac am ei fod wedi bod yn gymydog agos am flynyddau yr oedd yn gwybod am dani yn dda a chyfeiriodd at rai o'i dywediadau

MRS. MARY REES,

Priod Mr. David Rees, Gibson, Pa.
Mrs. Rees ydoedd ferch i Rees ac Elizabeth
Harries a breswylient yn Cross Inn, sir Caerfyr
ddin. Ganwyd hi yn y flwyddyn 1813, ni cha'dd

yr anrhydedd o fod dan nawdd a chynghorion rhieni ond dros dymor byr iawn gan i angau ei hymddifadu o honynt. Ond drwy ofal rhagluniaeth a thiriondeb perthynasau a chyfeillion, yn nghyd a'i hymdrech diflino am fywyd rhinweddol, ffurfiodd iddei hun gymeriad anrhydeddus. Ac yn y fl. 1833 ymunodd mewn priodas â Mr. John Thomas o'r un gymydogaeth, a chychwynasant tua 'r wlad hon yn y cyfamser, a thiriasant yn ddiogel, a gwnaethant eu ffordd yn mlaen tua Charbondale, lle y sefydlasant. Yr haf canlynol pan nad oeddynt ond megys yn dechreu dyfod i adnabyddiaeth â threfniadau eu gwlad fabwysiedig, bu farw John Thomas, a cha'dd y chwaer ei gadael yn unig i ddigwyddion byd o gyfnewidiadau. Yn y flwyddyn 1837 ymunodd mewn priodas drachefn â Mr. Thomas Rees ei gorfucheddwr galarus. Yn ardaloedd Carbondale a Blakeley y treuliasant flynyddoedd dedwydd eu hymdeithiad hyd y flwyddyn 1855 pryd y symudasant i Gibson, lle mae gweddill y teulu yn bresenol. Bu iddynt naw o blant, o ba rai y mae saith yn fyw, dau o honynt yn benau teuluoedd, y naill yn Bangor, Wis., a'r llall yn Blakeley, Pa., a'r lleill, sef dau fachgen a thair merch yn cyfranogi (gyda eu tad trallodus) o unigolrwydd cartref ymddifad

Yr oedd yn nglyn a marwolaeth y chwaer ryw bethau yn wahanol i'r cyffredin, felly yn gwneud yr amgylchiad yn fwy annymunol i'r teulu, h. y. bu farw oddicartref. Yr oedd wedi myned ar ymweliad, er cynorthwyo teulu ei merch adfydus, plant yr hon oedd dan ddirdyniadau yr haint angeuol (black fever) fu yn rhwygo teuluoedd drwy yr ardaloedd hyn yn ddiweddar. Tra yno, bu yn ddiwyd iawn, yn gweini, ac yn ymgeleddu hyd y medrai. Er ei holl ofal a'i thynerwch gwelodd lygaid dau o'i hwyrion bychain yn cau yn yr angau. A phan ar fin cychwyn yn yr ol at ei theulu cymerwyd hi yn glaf gan yr un dolur, a bu yn dyoddef yn addfwyn, yn siriol, ac amynyddgar, yn ymddangos yn hynod foddlon i ewyllys ei Harglwydd, am bump diwrnod sef hyd y 18fed o Fai 1864 pan y gwnaeth angau ei ran arni yn y 51 ml. o'i hoedran. Hebryngwyd ei gweddillion marwol i fonwent Carbondale i gyd-orwedd a dau o'i phlant bychain a ddaearwyd yno flynyddau yn ol. Gweinyddwyd wrth y ty cyn cychwyn gan y Parch. Lewis Williams, ac wrth y bedd gan yr hybarch dad Parch. John Davies, Blakeley (M. C.) Oddeutu mis wedi hyny, pregethwyd ar yr amgylchiad yn eglwys y Cymry yn Dundaff, lle yr oedd y chwaer yn aelod hardd a rheolaidd, gan yr Henadur R. G. Lamb yn Seisnig, a'r Parch. Lewis Williams yn Gymraeg i gynulleidfa luosog o Americaniaid a Chymry.

Yr oedd amryw ragoriaethau yn perthyn i'r chwaer ag sydd yn deilwng o efelychiad.

Meddai ar amryw o hanfodion callineb,'

megys synwyr naturiol cryf, presenoldeb meddwol, a llywodraeth dros y tymerau. Yr hyn bethau sy'n anhebgorol angenrheidiol er cyfansoddi yr hyn a eilw Solomon yn "Wraig dda" "Y wraig rinweddol." Fel mum, yr oedd ynddi amynedd, arafwch ac addfwynder. Dygai fawr sel dros ddwyn ei phlant i fyny yn rheolaidd, siaradai â hwy yn bwyllog ac yn siriol. Ni byddai yn ymwylltio mewn sarugrwydd a digofaint, pan y byddai yn cynghori neu yn cer yddu, nes tueddu i "yru ei phlant i ddigio." Ond byddai ei haddysgiadau yn cael eu appelio at y deall a'r gydwybod mewn modd swynawl nes dwyn ei phlant idd ei charu a'i chofleidio fwy fwy.

Fel gwraig a phenteulu yr oedd yn rhagori ar laweroedd. Ei thymer bwyllog, a'i gwnai yn ddidwyll a dirodres. Nid oedd yn agored i lawer o wâg siarad fel y mae arfer rhai, ond byddai ei hymddyddanion yn gyffredin yn synwyrol a phwrpasol, a'i chynghorion a'i hyfforddiadau yn cael derbyniad croesawus gan ei theulu. Yr oedd bob amser yn ymdrechol iawn i wneud ei theulu yn gysurus-byddai yn ddoeth iawn yn nhrefniad gorchwylion teuluaidd,byddai yn ystyriol o bwysigrwydd trefn,-trefn ydyw deddf gyntaf y nefoedd. Y mae trefn yn angenrheidiol er gwneud cartref yn ddedwydd a chysurus. Mae yn sicrhau cyflawniad pob dyledswydd yn amserol ac effeithiol. Mae fel y dywedodd un yn "dad sefydlogrwydd ymddygiad." Drwy ei threfn, ei diwydrwydd a'i gofal gwnai ei thy yn gartref hyfryd a dymunol. Cartref, medd Mrs. Hemans, ydyw y wir ddinas noddfa. Pa le y gwynebwn os ymddifadir ni o hono, neu os cyfnewidir ef.

Heblaw ei bod yn ymdrechol i wneud cartref cysurus yr oedd yn ol tystiolaeth y cyffredin yn amcanu i wneud ei chymydogaeth yn gysurus a heddychol. Fel cym'doges yr oedd bob amser yn ostyngedig, serchog a chyfeillgar. Nid oedd dim yn fawreddog, diserch, ac anhawddgar yn ei hymddangosiad na'i hynddiddanion. Byddai yn barod i gydymdeimlo a'r gwan, ac i gynorthwyo yr angenus. "Cyfranai at angenrheidiau y saint a byddai yn dilyn lletygarwch." Yr oedd hi yn ddidramgwydd a heddychlon a phawb. Ni chefais ar ddeall iddi achosi terfysg drwy ei hoes, tawelodd lawer tymestl, a chynorthwyodd i derfynu llawer ymryson, "Dilynai heddwch," gwerthfawrogai dawelwch, ac aberthai deimladau ar allor tangnefedd.

Yr oedd iddi hefyd ragoriaethau crefyddol. Ymunodd ag eglwys Dduw yn Carbondale dan weinidogaeth y Parch. L. Williams tua 'r fl. 1834. Gellir casglu drwy ei bywyd dysglaer, dylanwad sanctaidd ei phrofiad, ei hymddiddanion a'i hymarweddiad iddi gael troedigaeth drwyadl, ei bod "wedi ei symud trwodd o farwolaeth i fywyd." Iaith ei chalon oedd "Hoffais drigfan dy dy, a lle preswylfa dy ogoniant."

Nid oedd ei chyfleusderau crefyddol mor fanteisiol gwedi symud i'r wlad ag oeddynt yn y gweithfaoedd cyhoeddus; eto byddai yn chwenychu, ac yn ymdrechu bod yn y cynulliadau cyhoeddus mor belled ag y byddai ei hamgylchiadau yn caniatau, a phob amser yn ymddangos wrth ei bodd yno. Tra yn nghysegr Duw, byddai yn ymddangos fel yn ystyried ei bod yn mbresenoldeb neillduol y Goruchaf. Ni welid

llygaid yn gwybio, ac yn gwamalu gyda
phersonau, ac ymddangosiadau. Yr oedd ei
meddwl fel pe yn cael ei ddiddyfnu oddiwrth
bobpeth, ac yn ymddangos yn sugno o ddidwyll
laeth yr efengyl, ac yn ymborthi ar ei bwyd
meithrinawl. Pan yn siarad am grefydd; byddai
yn gwneud hyny gyda 'r parch a'r hunan-ym-
wadiad mwyaf-bob amser yn cydnabod ei
hanneilyngdod a'i diffygion, ac yn ymgysuro
yn nhrugaredd ei Gwaredwr. Yn ei chystudd
byr, rhoddodd brawf fod ei henaid yn cael ei
Ymwelai y
gynal gan gysuron yr efengyl.
Parch. John Davies a hi yn fynych yn ei chys-
tudd, ac fel y dywedodd ar lan ei bedd, “Nad
oedd petrusder yn ei feddwl am y chwaer Mary
Rees, ei bod wedi myned i mewn i dragwyddol
lawenydd ei Harglwydd." Yn yr ymwybodaeth
ei bod yn marw, dywedai wrth ei phriod am
ymgysuro, nad oedd ofn arni i wynebu y glyn.
Ac ychwanegai gyda dwysder rhyfeddol, y dylai
yntau i ymdrechu bod yn foddlon i'w gollwng.
Er cymaint oedd dirdyniadau ingawl ei chlefyd,
dyoddefai y cwbl yn ddirwgnach fel plentyn
mwynaidd, hyd nes i'r rhan oedd farwol o honi
gael ei lyncu i fyny gan fywyd, a'r gelyn diw-
eddaf ei ddinystrio, pryd yr unodd â'r dorf an-
eirif o flaen yr Orsedd, sef gyda y rhai a olch-
wyd ac a ganwyd yn ngwaed yr Oen.

Er gofal, dyfal a doeth,
Dyrchafiad hir, a chyfoeth
Deuodd yr wys-myned oedd raid,
Gwahanu corph ac enaid,
Llewyrch ei horiau llawen,
A'i dydd byr redodd i ben.

Ei phriod hoff, o air da,
Ar ei hol, a hir wyla

A'i phlant a deimlant bob dydd,
Anniwall iug, o'r newydd,
Teimlir rhwyg, ar rwyg ar ol
Un oedd yn wraig rinweddol.

DANIEL J. EVANS.

TAITH YN NGHALIFFORNIA. Somerville, Gor. 26, 1864. MR. GOL.-Ceisiaf yn bresenol roddi dorluniad cywir o sefyllfa foesol a chrefyddol y dalMis Chwefror diweddaf aeth eangfaith hon. cefais fy mhennodi gan bwyllgor perthynol i'r gymanfa dalaethol i gymeryd taith trwy wahanol barthau o'r dalaeth. Ymwelais â gwahanol siroedd, sef Nevada, Yuba, Sierra, Plumas, a Sutter. Teithiais yn ol ac yn y blaen dros fil o filldiroedd. Pregethais bob nos am wythnosau, a thair gwaith ar y Sabboth. Mae y

rhan fwyaf o'r Califforniaid heb Grist, heb
obaith, ac heb Dduw yn y byd. Ymddengys
chwifio
fod baner ddu diafol yn
fuddugol-
y
yn
iaethus yn mhob lle, o'r arfordir i gopa uchaf y
Sierra Nevadas.

Y PEDWERYDD GORCHYMYN.

Cyhoeddodd Duw o'r pwlpid tanllyd oddiar ben Sinai, "Cofia y dydd Sabboth, i'w sancteiddio ef. Chwe' diwrnod y gweithi, ac y gwnai dy holl waith." Nid oes un yn mhob haner cant yn cadw y Sabboth. Mae pob math o fasnach yn cael ei gario yn y blaen ar y Sabboth. Y Sabboth yw y dydd i fwynhau gwag ddifyr wch. Ar y Sabboth ceir gweled ugeiniau yn ymgasglu at eu gilydd i chware cardiau, billiards &c. Ar y Sabboth y gwneir i fyny y cyfrifon, ac y telir y gweithwyr, yn nghyd a biliau y store, &c. Mae perl y nef yn cael ei ddiystyru -a rhodd deheulaw y Jehofa yn cael ei hanmharchu. Ni ellir dysgwyl daioni i ganlyn y fath arferiad halogedig.

Dydd eu marchnad yw'r dydd Sabboth,
Er fy syndod, enaid clyw;
Dynion wrth y miloedd welir

Yn troseddu deddfau Duw.

Mae'r hwn sydd yn sathru deddf y nef wedi diosg ei darian-aberthu ei ddiogelwch ac yn agored i gael ei ddamnio am dragwyddoldeb. Bobl ieuainc! cofiwch nid oes dim a'ch galluoga i wrthsefyll hudoliaeth y byd, a'ch cadw rhag syrthio i byllau lleidiog llygredigaeth, ac a heddycha eich cydwybodau, ac a lesola gymdeithas yn fwy na chadw yn sanctaidd y dydd Sabboth. Gwawrio wnelo'r bore pan y daw trigolion y dalaeth hon i gadw deddfau sanctaidd Iôr.

DAWNS O FLAEN CRISTIONOGAETH.

Mewn pentref mawr yn swydd Sierra, ceisiais gael lle i bregethu efengyl y deyrnas. Cyfarfyddais ag un o'r dinasyddion. Dywedais fy neges wrtho. Dywedodd, "Mae'n dda iawn genyf eich gweled, oblegyd nid ydym wedi cael pregeth yma er ys dros flwyddyn. Mae'n debyg y gallwch gael Neuadd yr Odyddion i bregethu. Af trwodd i siarad a'r trustees." Ffwrdd ag ef. Galwyd y perchenogion yn nghyd. Cyhoeddwyd y ddedryd, hyny yw, na allasid cael y neuadd, oblegyd ei bod wedi ei glanhau a'i golchi y dydd o'r blaen, er mwyn cael Grand Ball ynddi 'mhen ychydig ddyddiau. Cauwyd y drws yn erbyn Brenin y Gogoniant. Ond os cauwyd drws y neuadd, agorwyd un arall-cawsom gynulleidfa dda. A mwy na'r cwbl, cawsom bresenoldeb Ysbryd Duw. Ar ol y cyfarfod rhoddwyd gwahoddiad taer i mi i fyned i bregethu yno y nos ar ol y ball. Derbyniais y cynygiad

dychwelais yn ol prydnawn dydd Sadwrna'r rhai cyntaf a gyfarfyddais oedd perchenogion y neuadd, a'r peth cyntaf a ddywedasant, 'Syr, mae'n ddrwg iawn genym i ni wrthod y neuadd i chwi nos Fercher diweddaf, Gellwch

[ocr errors]

gael y neuadd unrhyw amser o hyn allan. A wr yn perthyn i un o gyflegrau Merrill's Horse; wnewch chwi bregethu ynddi heno?" Dywed-gofynais a oedd yn adnabod dyn o'r enw Pierce ais wrthynt fy mod yn ddiolchgar iddynt hwy am eu cynygiad, ond nad oedd yn bosibl i mi bregethu yno y noson hono, oblegyd fod genyf{ gyhoeddiad mewn lle arall-a pheth arall, os oedd y neuadd yn rhy lân i bregethu ynddi cyn y ball, fy mod yn barnu yn sicr ei bod yn rhy frwnt i bregethu ynddi ar ol y fath wledd.

Mewn lle arall oddeutu chwe milltir o'r lle uched cefais yr un gwrthwynediad. Nid oes ond un neuadd yn y lle hwn, a hono gan dafarnwr. Aethum at y tafarnwr mewn ysbryd mwyn ac efengylaidd-gofynais iddo a fuasai yn gweled yn dda i mi gael ei neuadd i bregethu ynddi? Dechreuodd grafu ei gernau, ac mewn ychydig amser dywedodd, "'Dwy' ddim yn gwybod pa fodd y mae gwrthod, oblegyd nid ydym wedi cael pregeth yma er ys tair blynedd. Aroswch, aroswch am fynyd, nes i mi gael gweled yr Hurdy Gurdies, maent hwy yn dawnsio yma bob nos, ac os byddant hwy yn foddlon i roddi i fyny am awr, gallwch gael y neuadd." Ffwrdd ag ef i weled yr Hurdies. Mewn ychydig amser dychwelodd yn ol a gwyneb hir a gwefl gam. "Wel, wel, mae'n ddawg iawn genyf, ond nid ydynt hwy yn foddlon. Maent mor awyddus i wneud eu fortune, fel nad allant roi i fyny am fynyd." Cefais le yn yr ardal, a chynulleidfa luosog. Bendith y nef a ddilyno bregethiad y gair yn y lleoedd hyn. "Ewch i'r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur." Yr eiddoch yn serchog,

JOHN J. POWELL.

YMWELIAD A MR. HUMPHREY PIERCE,

(“WMFFRA O FALDWYN.")

MR. GOL-Lluaws o lythyrau a ddarllenais o waith un Mr. Pierce, mewn newyddiaduron yn y wlad hon a'r hen wlad, ond heb ddeall mai yr un yw yr awdwr hwn ag sydd yn ysgrifenu i'r newyddiaduron Saesoneg o'r rhan hyn o'r De, hyd yr wythnos ddiweddaf, pryd y derbyniais ddau Ddrych oddiwrth gyfaill, yn cynwys llythyr oddiwrth Mr. P. ar daith Cadf. Steele i Camden ac yn ol i'r lle hwn. Yr oedd y llythyr yn dra chynwysfawr. Yr un yw hwn a fflangellodd Evan Williams, Milwaukee, ychyd-{ ig flynyddau yn ol drwy gyfrwng y Drych, mewn perthynas i'r Parch. S. R., a sefydliad Cymreig Tenn.

Er pan y daethum i'r lle hwn yr wyf wedi clywed amryw yn ymddyddan am y gwr uchod a'i ysgrifeniadau mewn gwahanol newyddiaduron Saesneg, ac yn ei gyfrif yn un o'r ysgsifenwyr goreu ar y rhyfel; ond heb ddeall na meddwl mai Cymro ydyw; a phan ddeallais hyny aethum i lawr o'r gwersyll i'r ddinas, fel ag y cawn sicrwydd i'm meddwl mai Cymro yw. Fel ag yr oeddwn yn myned i lawr cyfarfum â mil

{

yn ei gatrawd? Atebodd ei fod yn adnabod un o'r enw yn Quartermasters Department of M. H.; pryd y gofynais drachefn, pa fath ddyn o edrychiad yw? Atebodd mai llanc o gylch 22 neu 23ain oed, cyffredin ei edrychiad, siriol ei wedd ar bob amgylchiadau. Gan fy mod wedi ffurfio barn wahanol am Mr. P., yr oeddwn yn meddwl fy mod wedi camgymeryd yn y person.

Gofynais a oedd yn Gymro? Atebodd nad oedd yn gwybod, ond ei fod yn arfer ysgrifenu llawer i newyddiaduron St. Louis a Memphis; a'i fod yn cael ei gyfrif yn un o'r ysgrifenwyr gyreu ar hanes y rhyfel presenol; ac yn mhellach dywedodd ei fod yn meddwl y bydd cyn hir yn rhoddi ei law i un o foneddigesau Arkansas, a'i bod hi yn un o'r rhyw harddaf yn y dalaeth, a'i bod yn perchen caethion.

Yr oedd yn ddrwg genyf glywed y newydd, fod Cymro o'r hen Wlad am roi ei law a'i galon i gaeth-ferch y De;-ond cefais allan ar ol hyn nad oedd ond chwedl, oddiar i'r cyfryw ferch ymddwyn yn garedig tuag ato ar ei wely claf yn ystod yr Hydref diweddaf pan yn analluog i ddyfod o'i wely am dri mis.

Cyfeiriwyd fi gan y milwr at ystafell Mr. P., pryd yr oedd yn eistedd y tu allan i'r ddor yn y cysgod, ac newydd dderbyn lluaws o newyddiaduron Gogleddol, ac yn eu mysg y Cenhadwr a'r Drych. Pan y gwelais y cyfryw, gofynais yn yr hen Omeraeg am y tro cyntaf er pan y daethum i'r fyddin, pa fodd yr oedd ei iechyd? Gydag ychydig o syndod gan edrych ataf yn graff atebodd ei fod yn iach, ond nad oedd yn fy adnabod yn bersonol, ond nad oedd hyny o bwys, fy mod yn Gymro a bod hyny yn ddigon yn awr, gan erfyn arnaf gymeryd eisteddle gerllaw, pryd y mynegais pwy oeddwn, a pha fodd y daethrum o hyd iddo.

Mae Mr. Pierce yn foneddwr trwyadl, ac o'r un desgrifiad a fynegwyd i mi gan y milwr. Mae ganddo feddwl mawr am Gymry a Chymraeg, ac mae yn awyddus i siarad yn hen iaith ei fam bob amser. Nid dyn balch a hunanol, yn gwneud mwy o dduw o'i wisg a'i ddysg nag o'i Brynwr bendigedig yw Mr. P. Bachgen cyffredin o rodiad syml bob amser, medd y rhai sydd yn ei adnabod, ac nid yw yn cario meddwl mawr am dano ei hun fel llawer o'i sefyllfa,mae yn ysgolhaig ysplenydd.

Mae Mr. Pierce yn enedigol o le o'r enw Pandy, Llanbrynmair, G. C. Yr oedd yn perthyn yno i Eglwys yr Annibynwyr. Mae yn fab i'r diweddar Humphrey Pierce, ac yn berthynas i'r diweddar Barch. Thomas Pierce, Liverpool.

Ar doriad y rhyfel presenol allan, fe unodd â'r fyddin dan y Cadf. J. C. Fremont, yn St. Louis, Mo., pryd y cafodd ei dderbyn i fewn i'r Quartermaster's department o M. H., bob amser yn cymeryd y maes gyda'r fyddin. Yr oedd

« AnteriorContinua »