Imatges de pàgina
PDF
EPUB

gelynion oddiar y maes. perch yn ddyledus."

[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]

Parch i'r hwn y mae Mae ein h ́ache wdwriaeth, neu ynte ein darost-
yngiad oesofe gred, yn crogi wich ddydd yr
etboilad—yr 8ed o Dachwedd nesaf. Nae y
mwyarif o flaeno iaid y laid a enwasant G. B.
McClela fel ymg rad, yn fiadwy, tinyodl
yn eu calonau. With en ffwythau yr adnab-
yddwch hwynt." Mae pob buddugoliaeth
eiddo byddinoedd ye Undeb yu d.bwch i'w
heneidiau, tra y oi gel o, foleddont pan glywant
rywbeth yn ffioł o iyde in Jef Davis. Dingel
a ddywedais? Nid mor ddingel yn wir! Yr
ydoedd “Hurrah for Jeff Daxis,” yn floedd gyff-
redin yn Chicago ar y 30 o Awst! Dyma yn
awr yw unig obaith Rebeldom-sef aflwyddiant
y blaid Undebawl yn yr choliad nesaf. Bydded
i"old Abe" cael ei ail e.hol,
angeuawl i annibyniaeth y De.
eracy eisoes bron a sitio.
drwyddo draw, a phan welir Lincoln wedi ei
ail sefydlu am bedair blyzedd yn ychwanegol
yn y gadair lywyddo bydd yr Undeb Ame ican-
aidd yn sier. Llethir ein gelynion gan anobaih,
a bydd y gwrthryfel ar ben. O Gymry Amer.
ica! Hiliogaeth wrol yr Hen Fruta niaid,―gely u.
ion cyneddfol caethwasiae h, cofiwch-cofiwch
yr wythfed o Dachwedd!

Soniais funyd yn ol am achosion cyrilyddus' o'r aflwyddiant. Uno'r rhai'n oedd meddié'od! Nid ymhlith y milwyr cyffredin, O nage! ond y'mhlith yr officers. Mae'n faith anwadadwy pan wnaed ymosodiad(?) ar gaerta Johnson, ar foren y 3ydd o Orphenaf, fod braid bob* swyddog perthynol i'r 127 N. Y. yn feddw—rhai; o honynt yn feddw fawe." Dyma'r ffordd sydd gan ganoedd o officers yn myddin yr Uodeb i gadw eu hunain rhag llethu gan ofn wrth wynebu eu gelynion! Mae y traciniaid yn hollol amddifod o wir wioldeb, ac ymdrechant i foddi eu hofn trwy y fed gwirod. Pan na fydd un perygl, ceir eu gweled yn "swagro" mewn cosily uniforms, yn yngu ac yn rhegi ac yn beio ein Cadridogion mwyaf medrus; a rhoddant ar ddeall ini pa fodd y gwnaent hey, pe byddent yn eu lle. O y contards rhagrithiol! Byddai ; ein byddinoedd yn anrhaethol well allan pe cae haner mi o honynt eu hanfon adref y docile quick. Aol darfod y rhyfel, ceir clywed Huaws o'r "nincompoops" rhai'n yn brolio y gwyrthiau rhyfeddol a wnaethant hwy ar faes y gwaed! ac nid pawb a fyddant yn ddigon craff i bigo y gwenith puro blith y sothach diwerth. Pa ryfedd ini fethu o dan lywyddiaeth y fath greadiaid dienaid? Yr ydoedd y bechgyn yn ddigon gwrol. Ond beth a ellir ddisgwyl oddiar law hyd yn oed fyddin o lewod, pan yn cael eu harwain gan gynifer o fulod!

Mae Du mewn modd rhyfeddol wedi bod yn go uwch lywodraethu yn y rhyfel hwa. Nid wyf yn meddwl fod yr Arglwydd wedi bod ya cynby rfu caethfeisti y De i gyfodi yn erbyn y } llywodraeth. O'r"pwll diwaclod” y daeth hyn. Ond mae y Brenhin mawr wedi arfaethu go.uwchlywodraethu eu cyaddaredd er ei ogoniant, yn hyddhad y coeihon yn ogystal a chospi eu gorthrymwyr. Mae yr Unol Dalaethau yn awr, y Gogledd fel y De, o dan wialen geryddol Jehofa. Mae gwaedd wylofus pedair miliwn o eneidiau“ dros ba rai y bu Crist farw" wedi cyrhaedd clustiau Arglwydd y lluoedd ac wedi lwyddo yn y llys fry. Lled gyndyn ydym weai bod, mae 'n wir, i gydnabod llais Jehofa uwch ein penau yn gwaeddi “torwch bob iau a gollwagwch y gorthrymedig yn rhydd!" Bu gorfod i Dduw lindagu y llywodraeth cyn iddi addaw gwneud cyfiawnder â'r negro. Diolch iddo, hyd yn oed am geryddon! Credaf fod ein 'hymwared yn agoshau." Caiff ein gwlad ei 'hadgenedlu drachefn i obaith bywiol." O'r bedydd gwaed, cawn "gyfodi i newydd-deb buchedd." Ar ol y gwyntyllio ofnadwy ceir ni yn wenith mwy pur, a deuwn allan o'r ffwrn danllyd boeth" fel aur wedi ei buro trwy dân, Unwaith eto, yr ydym yn ymyl etholiad llywyddol, a barnwyf mai dyma yr un mwyaf pwysig o un etholiad a fu yn ein gwlad erioed.

[ocr errors]

66

a dyma ergyd Mae y ConfedMae yn crynu

Wrth derfynu goddefer imi ysgrifenu gair ar farwolaeth fy anwyl gytaill, a brawd yn yr efengyl, y Parch. Llywelyn D. Howell, Utica. Er's llawer o flynyddoedd bellach cefais y fraint a'r anrhydedd o'i gyfeillach- Ni anghofiaf byth -yn y byd hwn na'r byd a ddaw, ei garedig. rwydd diymffwst, a'i ymarweddiad Cristionogol a gwir foneddigaidd. Gwr ydoedd Mr. Howell o ysbryd cyhoeddus, yn barod bob amser i ymaflyd a'i holl egni er cynorthwyo pob achos da; a hyny, fel y dywed y Cymro, ya hollol " ddirod res." Yn fy symudiadau o fan i fan fel pregethwr perthynol i'r Tinyddion Esgobawl, cefais y pleser o gyfeillach miloedd. Oad erioed nid ydwyf yn cyfio imi weled un muy hawdd i'w garu na Llywelyn D. Howell. Ond mae y cyfaill ffyddlon, y dinasydd defnyddiol, y boneddwr moesgar, y Cristion difeff, a'r gweinidog hyawdl, wedi ein gadael! Ei ran farwol a dawel orphwys yr ochr yma i'r afon; ond mae yr enaid wedi ehedeg "uwch y lli" i hyfryd fro Caersalem. "Nos da'wch," Llywelyn! Fydd y nos ddim yn hir, cawn gyfarfod eto yn y boreu. Derbynied Mrs. Howell fy nghydymdeimlad mwyaf serchus a bydded iddi wybod yn brofiadol eiriau y bardd—

[ocr errors][merged small][merged small]

Barddonol.

PENILLION ANERCHIADOL.

Gan y Parch. W. MORGANS, Maesteg, Morganwg, idd ei gyfaill T. Edwards.

Mae llawer o flynyddau,
Oddiar i'n ysgwyd llaw,
Pryd hyny flarwelasom,

Ilyd forau 'r dydd a ddaw,
Mae hwnw 'n awr yn nesu,
Cawn adael tŷ o glai,
A myned at ein Prynwr,
I'w weled fel y mae.

Mae'r almon bren mewn blodau,
A'm gwar yn crymu lawr,
A'm llygaid sydd yn pallu,

Arwyddion sydd yn fawr,
Yr af cyn hir i orwedd,

I lawr i'r distaw fedd:
Gobeithiaf gael eich cwrddyd,
I ganu byth mewn hedd.

Os cawn ychydig amser,
Cyn cyrhaedd tŷ cin Tad,
Mi garwn i gael llythyr,
O'r bell orllewin wlad
Fel gallom gyfeillachu,
Tra yma is y nen,
Hyd nes cyrhaeddom adref,
Yn llawen draw i'r llen.
Ffarwel, fy anwyl gyfaill,

Fy nghalon sydd dan glwy',
Am nad yw ddim yn debyg

Cawn gwrddyd yma mwy;
Ond, frawd, mae genym obaith,
Cael eto gwrdd mewn hedd,
Heb for na mynydd rhyngom,
Yr ochr draw i'r bedd.

[blocks in formation]

YMGOM A'R AWEN.

Wel deffro.hoff awen cwyd heddyw i ganu,
Mae genyf destynau tra buddiol i ti,
Mae 'r awel yn falmaidd a'r haul yn tywynu,
A golwg ddymunol ar natur gan i.
Tyr'd gyda fi enyd i gopa y mynydd,

I syllu ar swynol brydferthwch y fro;
Cawn destun i ganu am fryniau a moelydd,
Dyffrynoedd eangfaith pob un yn ei dro.
Y goedwig gysgodawl addurna yn hyfryd,
Deg odre y bryniau a'r dyffryn tu draw,
A'u dail yn rhuddgochion fel gwawr y dwyreinfyd,
Yn dangos fod misoedd yr Hydref gerllaw.
Y'mhell tua'r gorwel y trown ein golygon,

Lle cyffwrdd y cwmwl ag uwehder y don, Mae'r llongau yn rhwygo glås donau yr eigion, Pa beth, fy hoff awen, ai prudd yw dy fron? Ie, trist yw yr awen pa fodd gallaf ganu?

Mae natur yn diosg ei mantell oedd werdd,
Mae'r blodau yn gwywo a'r maesydd yn gwynu,
Ac adar y moelydd yn peidio â'u cerdd!
Awelon yr Hydref sydd heddyw yn chwiban,
Ryw farwnad alarus dros fróydd y llan,
A llawer un t'lawd sydd heddyw yn cwynfan,
Nes tori a'i ddolef dawelwch y fan.

Y prenau dymunol mewn llwyni irddeiliawg,
Ar foreu teg hafaidd edrychent mor hardd,
Sydd heddyw a'u dail yn sych a gwywedig,
Yn syrthio i'r ddaiar fel blodau yr ardd."
Mae'r bryniau meillionog a'r dolydd ireiddiawl,
I'm golwg i heddyw yn bruddaidd eu gwedd:
Mae'r gauaf yn nesu a thrist yw fy meddwl,
Wrth weled y llysiau yn gwywo i'w bedd!

Wel f'awen hiraethlon paham y galeri, Wrth weled yr arwydd fod gauaf gerllaw?

Mae 'n wir fe a wywa holl flodau y gerddi,
Ond tyfant pan eto y gwanwyn a ddaw.
Holl brenan y maesydd a beidiont a'u blagur,
Fe syrthia pob dalen gr pedig i'r llawr;
Drachefn yn y gwanwyn eu sylwedd a egyr,
Blodeuant yn brydferth rai bychain a mawr.
Yr adar ddychwelant yn ol i'n gororau,

Hwy ganant yn felus ar goedydd y llwyn;
Blagura y lili a byw fydd y llysiau

Y rhosyn flodeua yn hynod o fwyn. Clyw nawr fy hoff awen, gad heibio dy dristwch, A dysgwn gydnabod Creawdwr y byd; Pob tymor o'r flwyddyn sy'n llawn o hyfrydwch, Hwy ddygant ogoniant i'w Enw y'nghyd.

Ah gwelaf y cyfan yn awr gallaf ganu,

Am fawredd anfeidrol yr Arglwydd ein IOR! Ei waith Ef a welir yn mhob man o'n deutu, Trwy'r nefoedd serenog, y ddaiar a'r mor. Mae'n peri i'r haf yn ei dro fyned heibio,

Y'nghylchdro y ddaiar o amgylch yr haul; Ac yna daw'r Hydref oer awel-a gwywo

Mae'r blodau hawddgaraf a syrthio mae'r dail. 'Nol derfydd y gauaf sydd oer a thymhestlog, Fe ddychwel y gwanwyn a balm yn ei chol; Ceir arogl esmwyth gan dyrfa luosog,

O'r blodau pereiddiawl addurnant y ddol. Yn awr wrth derfynu fy nghân a gyfeiriaf, Mewn modd gostyngedig at deulu y llawr; Mae'r olwg a welwch ar lwybrau yr Hydref, Fel arwydd daw angeu at fychan a mawr. Fy hoffus gyfeillion, yn awr ydyw'r amser, I geisio yr Iesu, ei gariad a'i hedd; Rai ieuaine a nwyfus, O ceisiwch E'n gynar, Cyn myned i dawel ystafell y bedd! Cyn syrthio i'r ddaiar fel deilen wywedig, O mynwn mewn heddwch a'r Iesu gael bod; Ac yna cawn godi yn mysg y gwaredigI seinio 'n dragwyddol trwy'r nefoedd ei glod. New Haven, Conn. L. WILLIAMS.

GALARGAN

Ar farwolaeth Mr. LEWIS EVANS, Troedrhiwdalar, 0. Gan Miss Mary Powell, Delaware, O.

O Evans, anwyl Evans,

Hoff oeddit genyf fi,

O'm holl gyfeillion anwyl,
Nid oedd mwy hoff na thi,
Mac galar yn fy nghalon,

Mae prudd-der dan fy mron,
Wrth feddwl na chai'th weled,
Byth ar y ddaear hon.
Wrth deithio 'r heol lydan,

Wrth rodio 'r llwybr cul,
Er myn'd i wrando 'r bregeth,
Er myn'd i'r ysgol Sul,
Er myn'd i'th hen gartrefle,
Sefty dy weddw wan,
A chwilio yno yn ddyfal

Ni 'th welaf yn un man.
Dy beraidd lais ni chlywir,
Yn canu 'mhlith y côr,
Pan yn dyrchafu moliant,
Mewn cân i'w Harglwydd Iôr;
Dy ymddiddanion tirion,
Dy eiriau mwyn a chu,
Yn hollol a derfynodd,
Gan rym yr angau du.
Hen frenin dychryniadau,
A'th wnaeth di iddo 'n nod,
A hyny mewn hen ddyddiau,
Yn dri'gain a deg oed;
Mor brydferth oedd dy olwg,
Mor siriol oedd dy wedd,
Ond och ti ydwyt heddyw,
Ar waelod oerllyd fedd.

ww

O byddwn bawb yn barod,
Mae'r augau hyll gerllaw,
Nid ydym ddim yn gwybod,
Y dydd na'r awr y daw,
Mae 'n tori pob rhyw oedran,
A min ei erchyll gledd,
Nis gwyddom pwy a nesaf,
I lawr i'r oerllyd fedd.
Newyddion trwm a glywir,
Ar hyd y ddaear lawr,
Cyfeillion hoff sy'n myned
Ir tragwyddoldeb mawr:
Mae'r byd yn gyfnewidiol,
A'i bethau oll i gyd;
A chartref teulu 'r ddaear,
Yw y tragwyddol fyd.
Dy adael raid im' bellach,

I huno 'n llwch y llawr,
Nes gwawrio'r borau olaf
Yr adgyfodiad mawr;
Ffarweliaf a thi Evans,

Nes cwrddyd cyn bo hir, I gana clodydd Lesu..

O fewn i'r Ganaan dir..

O Arglwydd cofia 'r weddw,
Sy'n ymyl distaw fedd,
Rho'th wyneb siriol iddi,
Nes peri hyfryd hedd,
A bydded nawdd y nefoedd,
I'r plant heb un rhyw glwy',
Nes cafont oll gyfarfod,

Heb achos 'madael mwy.

[blocks in formation]

Mae angeu, gelyn creulon,

Yn tramwy trwy ein gwlad,
A chlwyfo mae yn fynych
Deimladau mam a thad,
Wrth fyn'd a'u hoff anwyliaid
I oer briddellau 'r glyn,
Ond nid oes dim i'w dd' wedyd,
Ti, Arglwydd, wnaethost hyn..

Yn mhlith yr holl ieuenctyd
A gadd eu tori i lawr,
Mae genyf un i'w chofio

Mewn prudd-der yma nawr;
Ann Thomas ydoedd anwyl
Yn mysg ei cheraint gwiw;
Ond cafodd ergyd marwol
Ac aeth o dir y byw.

El hoff rieni hawddgar

Sydd heddyw 'n brudd en bron, Wrth gofio fel y byddai

Yn rhodio o'u blaen yn llon.
Ei mam a'i thad sy'n wylo,

Ac yn och'neidio 'n ddwys.
Wrth feddwl fod 'r un anwyl
Yn gorphwys dan y gwys..
Fy ffyddlawn fwyn rieni,
Nac wylwch ar fy ol,
'Rwyf heddyw gyda'r Iesu
Yn gorphwys yn ei gol,
Ni ddichon saethau angeu
Wneud niwaid imi mwy,
Fy ngwaith am dragwyddoldeb
Fydd canu am farwol glwy'.
Gan hyny ymdawelwch,

A chofiwch hyn bob awr-
Mai teithwyr ydych chwithau
I dragwyddoldeb mawr,
'Mofynwch am y Cyfaill
A'ch cynal yn y glyn,
Fel caffom byth gydfoli
Mewn hedd ar Seion fryn.

[blocks in formation]

PENILLION

Ar of MARY ANN WILLIAMS, merch Thos. N. WE liams, Dodgeville, yr hon a fu farw Rhag. 7, 1863. Gwel CEN. Ionawr diweddaf.

Cwsg yn dawel, fwyn gyfeilles,
Anwyl, anwyl Mary Ann;
Cwsg yn dawel gyda'th ffrindiau,
Deuwn atat yn y man.

Cysgu 'n dawel yn dy ymyl,
Danwyl fam a'th fodryb sy',
Pan yn fyw, o'ent rai a hoffaist,
Ac a geraist ti yn gu.
Cwsg yn dawel-planaf roses
Ar dy fedd, ie er dy fwyn,
A thynghedaf bob aderyn
I ganu ar y nesaf lwyn.
Boed i'r haul a'i wenau llachar,
Daflu 'i belydr ar y fan,
Nes bo 'r blodau 'n perarogli
'R lle gorphwysi, Mary Ann.
Boed awelon oer y gauaf,

Rhew a'r stormydd, eira sydd,
Droi o'r neilldu ar eu gyrfa
Rhag cyffwrdd a dy wely cudd..
Cofio am dy eiriau mwynaidd,
A'th gymwynasau aml ri;
Sydd yn yn awr yn tynu 'r deigryn,,
Yn ddystaw bach o'm llygaid i.
'R oedd dy lais yn beraidd hynod,
Yma 'n canu is y nen,

Ond pereiddiach ydyw yna
Gyda'r llu o fewn i'r llen.

'Doeddit yma ond megis plentyn
'N dechreu swnio 'r A B C,.
Ond hyderaf dy fod yna

'N medru anthem Calfari.

SARAH WILLIAMS.

Mary Ann yn more 'i hoes-a giliodd
O'r golwg cyn hiroes;

Ni chadd gan ei Nher ond beroes,
I drigo fewn byd drwg ei foes.

H. J. WILLIAMS..

COFFADWRIAETH AM MRS. ANN WILLIAMS
HYDE PARK, PA.

Byd siomedig aml ei groesau
Ydyw 'r byd 'r y'm ynddo 'n byw,
Byd yr wylo a'r galaru-

Byd raid colli ffrindiau yw

Byd lle troir y diliau melus

I ni 'n wermod chwerw eu blas,
Byd bydd raid i bawb ymostwng.
O dan ddwylaw angau glas.

Hen awelon ocrion angan
Sydd yn gwywo o bob tu,
Mae e'n lladd ein holl obeithion
Pan yn myn'd a'n ffryndiau cu,
Aeth yn awr a mam o deulu,
Aeth a mam o Israel Duw,
Colled fawr yw colli 'r duwiol
I fyd ac eglwys colled yw.

Colli ei gweddiau drosom,
Colli ei chynghorion byth,
Colli ei phrofiadau hefyd

Colli "Hamen" sydd yn chwith,
Colli ei gweled yn y teulu,

Colli ei chwmni yn mhob man-
Ond mae'r golled iddi yn elw
Mae 'n sefyll heddyw yn ei rhan.
Pan yn ieuanc hi gychwynodd
Dyfal chwiliodd am y graig,
Ac ar hon hi roes ei sylfaen
Dala wnaeth er llid y ddraig,
Gweithiodd ei diwrnod allan
Yn y winllan gyda'r gwaith
Megys Ruth yn ddiflin loffodd
Yn y moddion drwy ei thaith

Bellach, Gristion, cal orphwyso,

Yn y fynwent mae dy dŷ,
Fe fu lesu ynddo dridiau
Tynodd ef y damp i ti,
Mae e'n gwybod fan gorweddi,
Fe ofala am dy lwch,
A phau gwawria bore 'r codi
Ĉai fyn'd i drigfanau uwch.
Ti gest adael maes y frwydr,
Galwad ddaeth o lys y nef,
Ti ddiosgaist yr arfogaeth

I gario 'r palmwydd gydag ef;
Nid oes achos i ni amheu

Nad wyt heddyw 'n gwbl lân, Gwedi cyrhaedd gwlad gogoniantTi ddechreuaist yma 'r gân. 'Rwyt yn canu heb un bloesgni "Iddo ef" yn uchel iawn, Nid a thafod pridd 'rwyt heddyw 'N diolch am yr aberth llawn, Synu 'rwyt ar ryfeddodau

Dyfnion bethau Duw a dyn,
Ar y cynllun draw a dynwyd
I gael pechadur ato ei hun.
Ffarwel bellach wrth roi i fyny

Ni chawn yma'th gwinni mwy,
Ni wna hiraeth plant a phriod
Beri byth i'th galon glwy',
Ni all cystudd ni all gofid,

Ddod i mewn i'th gwpan di

Ffarwel, ein mam, nes cyfarfyddwn Yna yn y Ganaan fry.

[blocks in formation]

YMWELIAD A'R WLAD,

Yn mis Awst 1864.

O swn y dref i'r wlad mi ès

Yn gyflym gyda 'r ceir,
Sef dros gan milltir gyda brys
Yn ddilys felly 'r eir,

A myn'd a wnes i anedd dlws
I'r wlad am ronyn bach

I gael awelon dedwydd dir,

Y maent yn hynod iach.

Llawn iawn yw 'r coed o wyrddion ddail
Y maent yn hynod hardd,

Y llysiau per yn lluoedd llawn

dyfant yn yr ardd,

Y ffrwythau melus hefyd sydd
Yn gyflawn ar y coed,

Y blodau er mor hardded y'nt

A sethrir dan ein troed.

Yr yd a'r gwair a'r cloron hefyd sydd
Yn tyfu 'n chwim a hyny nos a dydd,
Y gwartheg blithion borant ar y ddoi.
Gwel ddynes draw a baban yn ei chol;
Henafgwr gwan sy'n cerdded wrth ei ffyn.
Ei war sydd gam a'i wallt i gyd sydd wyn,
Yr adar man a ganant fawl i'w Ner
Heb ofid blin gwnant oll ymbyncio 'n bêr.
'Does arnynt hwy ddim trallod herwydd brâd,
Nis cwynant am fod rhyfel yn ein gwlad.

Y defaid mwyn a borant ar y bryn

Eu gwlân sydd hardd braidd fel yr eira gwyn.
Yr oll a rodd y Duw daionus un
O'i gariad rhad, do at wasanaeth dyn,

[blocks in formation]

Hanesiaeth Gartrefol.

CYMANFA GYNULLEIDFAOL IOWA. Cynaliwyd y Gymanfa flynyddol yn Iowa eleni fel y canlyn:

Dechreuwyd yn ardal Flint Creek, nos y 7fed o Fehefin, a pharhaodd yno dros y ddau ddiwrnod canlynol. Ardal Long Creek, yn dechreu nos Sadwrn y 10fed, a pharhau y ddau ddiwrnod canlynol. Old Man's Creek, nos y 13eg ynghyd a'r 14eg a'r 15fed. Williamsburgh, nos Wener a'r ddau ddydd canlynol.

Yr oedd yn cynorthwyo y gweinidogion cartrefol, y Parch. D. Price o Newark, Obio; C. D. Jones, o Racine, Wis.; a'r brawd Benj. T. Jones, yn awr gyda'r Saeson yn Williamsburg, Iowa.

Cawsom gyfarfodydd gwlithog a bendithiol, ac y mae genym le i obeithio y bydd effaith y Gymanfa er daioni yn parhau yn hir yn y gwahanol fanau lle y cafodd ei chynal. Hyfryd iawn oedd genym weled fod Mr. Price wedi gwella mor dda ar ol anffawd a gafodd wrth deithio gyda ni y llynedd. Yn neillduol yr oedd yr ysgrifenydd yn teimlo yn ddiolchgar i'r Arglwydd am anfon ei was i ymweled â ni y tro hwn eto, o herwydd ei fod yn cofio yn dda am garedigrwydd Mr. Price tuag ato ef a'i deulu gynt pan mewn cyfyngder yn Llanrhaiadr Mochnant, a phan yr ymgeleddodd fy enaid, gan fy hyfforddi i ddechreu pregethu Crist yn Mhen-y-bont-fawr. Cawsom oll ein llawenhau yn fawr yn nghyfeillach y brodyr anwyl fu yn ein cynorthwyo.

Agorwyd ein capel newydd hardd ar Long Creek, y Sabboth. Y mae yn awr dai cyfleus i addoli Duw ynddynt y'mhob un o'r sefydliadau a enwyd, gweinidog y'mhob lle, a llewyrch ar yr achos goreu yn eu plith. I Dduw y byddo diolch.

PENDERFYNIADAU Y GYNADLEDD.

1. Ein bod yn gwahodd y brodyr anwyl, D. Price, C. D. Jones, a B. T. Jones i eistedd gyda ni a chymeryd rhan y'ngweithrediadau ein cynadledd.

2. Penodwyd y brawd Evans o Williamsburg yn Llywydd a D. Knowles yn Ysgrifenydd dros y flwyddyn hon.

3. Fod Mr. Benjamin T. Jones, pregethwr gweinidog Cynulleidfaol yn ysgrifenydd ar yr rheolaidd perthynol i Presbytery of Dubuque, Iowa, yn ol ei ddymuniad, ac ar foddlonrwydd o'i gymwysder a'i gymeriad fel pregethwr yr efengyl yn cael ei dderbyn yn aelod o'n Cymanfa. 4. Fod y Gymanfa i ddechreu y flwyddyn nesaf ar Flint eto ar yr un dydd o'r wythnos a'r un mis ag eleni, os gwel yr Arglwydd yn dda. 5. Ein bod yn rhoddi deisyfiad i'r gwahanol eglwysi i gynal cyfarfodydd i weddio am lwydd ar y Gymanfa am wythnos cyn ei dechreu.

6. Ein bod fel Cymanfa yn teimlo yn ddedwydd iawn yn ein dewisiad o'r brodyr Mr. Price o Newark a Mr. Jones o Racine i ddyfod i'n cynorthwyo yn ein Cymanfa flyneddol eleni, gan fod yr Arglwydd wedi rhoddi ei wyneb gyda ei weision, a dyhidlo gwlaw graslawn ar ei etifeddiaeth.

7. Ein bod yn gweddio am nodded yr Arglwydd ar ein Llywodraeth. Fod y rhyfel presenol i'w ddwyn y'mlaen hyd nes y bydd grym y gwrthryfel yn cael ei lwyr ddinystrio. Ein bod dros i benderfyniadau Llywydd yr U. D. mewn perthynas i ryddhad y caethion gael eu cario allan i berffeithrwydd, a'n bod yn cefnogi fod Cyfansoddiad yr U. D. yn cael ei gyfnewid yn fuan fel ag i wahardd caethiwed am byth o{ fewn cyffiniau yr holl wlad.

8. Ein bod yn mawr gymeradwyo y CENHADWR AMERICANAIDD fel cyhoeddiad misol, gan ddymuno pob llwyddiant iddo; ac yn anog yr eglwysi i'w gefnogi a'i dderbyn.

9. Fod y Gynadledd hon yn mawr lawenhau fod yn mwriad Mr. Price gyhoeddi cyfrol o'i weithiau, ynghyd a'i ddarlun yn fuan, ac yn ymrwymo gwneuthur ein goreu dros ei ledaeniad.

10. Fod y Parch. E. Griffiths o Old Man's Creek i draddodi pregeth yn y Gymanfa nesaf, (os cydsynia) ar Grefydd deuluaidd, y'mhob un o'r sefydliadau. Gofidus genym oll na chawsom ei gymdeithas a'i wasanaeth gyda ni eleni.

D. KNOWLES, Ysg.

GOHEBIAETH O ARKANSAS,
AT. T. E., CINCINNATI, OHIO.

Helena, Ark., Medi 22, 1864. ANWYL FRAWD,-Ar ol hir oedi penderfynais trwy bob anhawsdra i anfon atoch. Bum yn agos iawn i angau oddiar pan welais chwi, cefais y dwymyn a elwir congestive chills, yr hon yn gyffredin sydd yn terfynu yn farwol; ond arbedodd fy Nhad nefol fi y tro hwn eto, ac y mae fy rhwymau yn fawr iddo. Yr oedd y dynion duon druain wedi bod yn cynal cyfarfodydd gweddi i weddio ar yr Arglwydd i'm hadferyd, ac fel hyny y bu.

Maent wedi erfyn arnaf, sef y rhai crefyddol o honynt, idd eu ffurfio yn eglwys i Grist, yr hyn wyf wedi addaw wneud; y mae genyf

ynys, yr hwn sydd i'm cynorthwyo yn ffurfiad yr eglwys hon. Yr ydwyf wedi priodi rhwng 30 a 40 o honynt yn unol a chyfreithiau yr U. D., ac yr ydwyf wedi bedyddio lluaws o honynt trwy daenelliad a 2 trwy droehiad. Y maent oll yn credu mewn cymundeb rhydd. Pregethais iddynt y Sabbath diweddaf oddiwrth 1 Ioan 1: 7. Yr oedd eu dull yn dangos eu bod dan deimladau dwys; pregethodd y Parch. D. Worchester, fy ysgrifenydd, iddynt am 2 yn wir effeithiol; ac anerchwyd hwy gan y Captain Faorhee, gweinidog Wesleyaidd, yn effeithiol iawn.

Yr ydwyf yn adeiladu lle helaeth i barotoi y cotwm y mae y dynion duon wedi ei godi ar yr ynys. Yr ydys yn barnu fod genyf werth ugain mil neu ddeg mil ar hugain o ddoleri. Mae genyf gnwd da o hono. Mae y Secretary of War wedi addaw i mi y caiff y sefydliad hwn fwynhau yr holl arian hyn, a byddant yn ddigon i brynu 80 erw o dir i bob pen teulu sydd yma, a rhoddi hefyd iddynt y pethau angenrheidiol fel y gallant ddechren gweithio ar eu tiroedd eu hunain. Mae y Secretary of War wedi synu wrth fy llwyddiant. Mae yr arian hyn i gyd wedi eu hynill mewn un flwyddyn, ac ychydig o honynt sydd ddynion galluog i fod yn filwyr.

Mae y rebels wedi clywed am fy llwyddiant, ac y maent yn tyngu y llosgant y cotwm maent wedi parotoi pontydd, ac wedi gwneud tuag ugain milltir o ffordd fel y gallant ddyfod. a'u magnelau i shelio yr ynys. Mae y Llywodraeth yn parotoi i'n diogelu; yr y'm yn disgwyl am ymosodiad arnom bob nos. Mae bad rhyfel (gun-boat) yn nofio heibio i ni yn ol ac yn mlaen ar yr afon fawr, y Mississippi, yn barhaus, heblaw y milwyr sydd yma ar yr ynys; cant amser poeth pan dreiant ein cymeryd. Rhaid i mi derfynu gan ddymuno cael clywed oddiwrthych yn fuan. Cofiwch fi at y cyfeillion oll, a derbyniwch fy serch eich hun. Yr eiddoch,

Chaplain JONATHAN E. THOMAS, Helena, Arkansas, P. M. (Please forward to Island 63.)

DIWRNOD NEU DDAU GARTREF.

SUL YN TURIN, LEWIS CO., N. Y. Peth hyfryd a dymunol iawn gan un a fyddo yn caru cartref hoff tad a mam ac ardal daweł bore oes, yw cael cyfleustra i fyned yno ar ol bod yn absenol am dymor. Mae rhyw swyn neillduol mewn hen gartref eysurus i ddenu y meddwl tuag yno yn dra aml.

Cefais y fraint o ymweled â'm cartref, Awst y 19eg, yno cyfarch mam a thad, brodyr a chwi{orydd, a chyfeillion serchog, ynghyd a chael mwynhau rhagorfreintiau lluosog cartref.-Cefais y fraint o rodio ar hyd y maesydd a'r porfeydd gwelltog, dan gysgod y llwyni prydferth, a thrwy y goedwig dawel-cael gwrando ar swn yr aber risialaidd ar ei thaith tua'r afon

« AnteriorContinua »