Pan y gwelwyf ddyn ieuanc, yn moreu ei oes, yn gwastraffu ei amser mewn difyrwch diles, a chymdeithas annheilwng, y rhai sydd yn difa eu hamser hau gwerthfawr, ac yn ei lethu gan ddylanwadau drwg, y rhai yn ol pob tebygolrwydd a ant gydag ef, ac a wnant glustog ddrain, pan y gorwedd yn y distaw fedd,-yr wyf yn meddwl ei fod yn cadwyno ei hun wrth belen. Pan y gwna dyn ieuanc dori ymaith oddiwrth ataliad argraffiadau boreuol, a myned i mewn i'r dafarn, i dreulio yno ei brydnawnau ac efallai ei nosweithiau mewn oferedd a chwmpeini pechaduriaid, duw y rhai yw Bacchus, ac offrwm y rhai yw cellwair halogedig, gwawd annuwiol, a chaniadau penrydd, yr wyf yn troi ymaith dan wylo, ei fod ef mewn ynfydrwydd yn morthwylio ac yn asio y gadwyn, a pha un y mae yn cadwyno ei hun wrth belen. Pan y gwelaf ddyn ieuanc yn` fyw gan obaith, llwybr yr hwn sydd yn eglur ddangos llwyddiant diameu, neu euogrwydd anfarwol, yn ceisio ymryddhad oddiwrth flinderau masnach, neu ymroad bywyd efrydawl, wrth y bwrdd hap-chwareu, neu ar fynwes pleserau anghysegredig, yr wyf yn gwir gredu fod y dyn yna yn cadwyno ei hun wrth belen, a dreigla ei hysglyfaeth i fedd anmhrydlawn. Pan y gwelwyf ddyn yn gollwng ymrwymiadau pwysig i tyned heibio, heb eu cyflawni, oddiar arferiad o esgeulusdra, neu ddiffyg ymroad, yr wyf yn teimlo yn sier, y gwna profiad cyn bo hir ddangos iddo ei fod ef wedi bod yn cadwyno ei hun wrth belen. Pan y mae dyn ieuanc yn rhedeg i ddyled, ac yn esgeuluso talu ei ddyledion pan yn ddyledus, neu yn gadael i'w fasnach gymeryd gofal o honi ei hun, tra y bydd efe yn gofalu am bethau diwerth, efe a ddaw i ddeall er ei alar ei fod wedi bod yn cadwyno ei hun wrth belen. Pan y ffurfia dyn ieuanc yr arferiad o fod yn wastraffus, ac o fyw tu-hwnt i'w alluoedd, ac felly afradloni y moddion sydd wedi cael eu gosod yn ei ddwylaw ef er goruchwyliaeth ffyddlon a rhinweddol, efe a ddaw i wybod ei fod ef yn gwastraffu cyfalaf anghreuedig y dyfodol, yr hyn nid yw eiddo ef, ac heblaw hyny yn cadwyno ei hun wrth belen, yr hon a a yn fwy rhydlyd a blinderus bob dydd. Ac yr wyf wedi gweled menywod ieuainc hefyd, y rhai sydd wedi rhwymo eu hunain â chadwyn oreurog wrth belen bwysfawr. Pan y gwelwyf fenyw ieuanc, yn ddisglaer yn mhrydferthwch morwynol cyntefig, yn gwario ei hamser, ac yn difa ei synwyr wrth } ddarllen chwedlau, a dilyn ffug-hanesion, O, mor llawen y torwn y gadwyn sydd yn ei rhwymo wrth y fath belen. Pan y gwelaf fenyw ieuanc, yn esgeuluso dyledswyddau yr aelwyd, yr hon a ddylai fod yn baradwys fechan o wynfyd, ac yn troedio ffyrdd dysyslyd y glec-wraig a'r cariwr chwedlau, neu yn cerdded yr heol, “i'w gweled gan ddynion" yr wyf yn dywedyf wrthyf fy hun, Y mae hi yn rhwymo ei hun wrth belen.' Pan yr edrycha y forwyn brydferth hon yn ei drych ac yr edmyger y prydferthwch a ddarlunir yno, a gosod ei serch ar ei harddu yn allanol, yr wyf yn meddwl ei bod hithau hefyd yn rhwymo ei hun wrth belen. Pan, yn fyr, y gwelaf fenyw ieuanc yn treulio ei hamser gyda yr hyn nad ydyw o un budd, o dan hudoliaeth gwagedd neu ffasiwn, nis gallaf lai na dweyd wrthyf fy hun, "Y mae hi yn cadwyno ei hun wrth belen. Ddarllenydd, hen neu ieuanc-dyn neu fenyw, cymerwch y cadwynau hyn oddiar eich aelodau poenus a byddwch ryddion. Youngstown, O. Cyfl. gan D. T. E. LLEN LITH. [Parhad o'r t. d. 804.] Y peth nesaf y cawn sylwi arno yw, y MODD CHWERW A LLYM Y FFLANGELLODD DUW FRENIN YR AIFFt a'i ddeiliaid, a phlaau ar SWYDOL, NES PERI IDDYNT EI ADNABOD AC UFUDDHAU IDDO. Yna Moses, ar adnewyddiad y gorchymyn dwyfol, a gyhoeddodd ei genadwri drachefn i'w frodyr; ond er gwaethaf adrodd, yr oeddent er eu hadnabyddiaeth o Dduw, wedi digaloni trwy y blinder adnewyddol y darostyngwyd hwynt iddo, fel y diystyrasant ei ymadroddion, ac yr atebasant ef gyda chyhuddiad a sarhad, ac ni fynent wrando arno gan gyfyngdra yspryd, a chan gaethiwed caled! efe a aeth at Pharaoh, yr hwn a ofynodd iddo am wyrth, megys prawf ei fod yn genhadwr o ddwyfol anfoniad. Yna Aaron trwy gyfarwyddyd Moses a daflodd i lawr ei wialen, yr hon a drodd yn sarff; ond swynwyr yr Aifft trwy dwyll celfyddydawl a arddullasant y wyrth yma. Eithr gwialen Aaron a lyncodd i fyny eu gwiail hwynt, ae a brofodd yn y fan ar un waith trwy y cyfryw weithred ragoriaeth y wyrth wirioneddol ar y rhai ymddangosiadol. Ond caledodd hyn galon Pharaoh, modd y parhaodd yn ei gyndyn wrthwynebiad i ollwng Israel, fel y cynhyrfodd neu yn hytrach y tynodd ddialedd cyfiawn eu Duw. Y pla cyntaf a effeithiodd ar wrthrych mawreddig addoliad a balchder gwladwriaeth ol yr Aifftiaid, sef y Nile, eu hafon ardderchog ac anwyl. Oblegyd gan fod y brenin yn gwrthod eto caniatau i'r Israeliaid gael ymadael, Moses yn ol gorchymyn yr Arglwyd a gymerodd yn ei law y wialen a drodd yn sarff, ac a darawodd ddyfroedd yr afon Nile yn ngwydd Pharaoh a'i weision, a dyfroedd yr afon a drowyd yn waed. Y swynwyr, trwy ryw foddion, a efelychasant y wyrth yma hefyd, yr hyn drachefn a galedodd galon y Brenin, fel y chwanegodd ei wrthwynebiad i ollwng Israel yn rhydd. Yr 2il Bla, a ddeilliodd o'r un ffynonell a'r cyntai, oblegyd y dyfroedd halogedig trwy orchymyn y proffwyd a heigissant luoedd dirfawr o lyffaint, y rhai a lanwasant dai ac ystafelloedd yr Aifftiaid, ac a aethant yn heidian i Lys Pharaoh. Eithr y swynwyr drachefn a dwyllasant y Brenin trwy ddynwared y wyrth yma hefyd; ond amledd o'r ymlusgiaid ffiaidd hyn a drodd allan yn fath farnedigaeth annyoddefol i'r Aifftiaid, modd y gortu ar Pharaoh grefu ar Moses am eu symud, ac addaw caniatad i Israel gael ymadael. Felly y llyffaint oll a gymerwyd ymaith mewn un diwrnod. > cyntaf oddiwrth Moses ac Aaron, gan roddi i Y 7fed Pla-Tymbestl ddychrynllyd o daranau cryfion. mellt fforchog a gwibiog, a chenllysg trymion digy felyb, a ddinystrodd guwd y ddaear drwy yr holl wlad annedwydd, ac a ysgythrodd ac a dorodd i lawr y coed ac a archollodd holl lysiau a glaswellt y mae. Y gwenith a'r rhyg nad oeddent eto wedi tyu i fyny, a ddiangasant rhag difrod y cenlyg, ond a lwyr ddifawyd yn yr 8fcd Pla, gan yr heidiau anferth a digyffelyb o locustiaid a orchuddiasant y tir. Y Brenin erbyn hyn a gynygiodd ddyfod i gytundeb â Moses, trwy ganiatau i'r holl Israeliaid mewn oedran i ymadael, ond a ddadleuodd yn gadarn am gadw y plant megys gwystlon. Yr amodau hyn a wrthodwyd, ac eie a roddodd y pwnc i fyny am fynyd; eithr pan symudwyd y locustiaid, efe a alwodd yn ol ei holl ganiatad. Y 9fed Pla oedd tywyllwch dros yr holl wlad, mor fawr fel y darlunir ef yn yr YsEithr y Teyin yn aoniolchgar am y wared-grythyr megys "tywyllwch a allesid ei deimigaeth, ac yn ddiarswyd wrth yr ymddangos-lo." nid annhebyg i sefyllfa foesol Pharaoh iadau hyn o ddwyfol allu, a alwodd yn ol ei a'i ddeiliaid, pa un a barhaodd am yspaid tri ganiatad i ollwng Israel, ond ei gyndynrwydd o ddyddiau. Ond yr oedd gan blant Israel a gospwyd yn mhell.ch yn llym a chwerw â oleuni yn eu preswylfeydd megys arferol y 3edd Pla llawer ffieiddiach. Llau a orchudd- dyddiau hyn. Eithr Pharaoh mewn dychryn asant bersonau a dillad yr Aifftiaid, yn ddi- mawr eto, a wnaeth gynygiad arall o gytenrifedi o rai ffiaidd ac atgas. Cospedigaeth deb; oud ei gais am i'r defaid a'r gwartheg ddychrynllyd ar genedl gan yr hon yr oedd gael eu gadael ar ol a wrthod wyd.glanweithdra manw yn rhan hanfodol o grefydd; ac nid allasai y swyowyr efelychu hyn, a dywedant wrth Pharaoh, "Bys Dew Y HYN." Eithr ar edifeirwch y Bienin drachefn yr artaith a symudwyd, ond ei falchder ystvfnig drachefn a dynodd ar y wlad gospedigaethau andwyol ychwanegol. Yn y 4ydd Pla daeth heidiau dirifedi ac annesgrifiadwy o wybed a chylion yn blith draphlith, ac a ddifrodasant bob rhan o wlad yr Aifft ond Go-hen, lle y preswyliai yr Israeliaid. Y 5ed Pla. Haint dychrynllyd, a ddinystr-i iodd anifeiliaid yr Aifftiaid, tra yr oedd diadellau a phraidd hiliogaeth Abraham yn aros heb un niwaid. Y 6ed Pla. Cornwydydd linorog neu grawnllyd a daenasant dros gorff Pharaoh a'r swynwyr oll, hyd yn nod Janes a Jambres, prif{ ddoethion yr Aiffi, a ddyoddefasant mor erwin a'r lleill o'r trigolion, ac a ffoisant am y A 10fed a fu angenrheidiol er ei ddwyn i yinostwng i ewyllys yr Hollalluog Dduw. Ac yn nghylch hæner nos, yr Arglwydd a darawodd bob cyntaf anedig o fewn tir yr Aifft, o gyntaf anedig Pharaoh, yr hwn oedd yn eistedd ar ei frenhinfaine, hyd gyntaf anedig y gaethes oedd yn y carchardy, a phob cyntaf anedig i anifail. Ac yr oedd gwaeddi a llefain mawr yr amser hyn trwy holl wlad yr Aifft, o herwydd nid oedd yno dŷ a'r nad oedd un marw ynddo. Ond fe ddiangodd yr Israeliaid oddiwrth y dinystr lledaenol hwn hefyd, trwy Moses dan ddwyfol dywysiad gyfarwyddo pob pen teulu i aberthu oen yn offrwm i'r Arglwydd, a thaenellu y gwaed ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws ei dŷ, yr hyn a wnaeth pob perchen teulu yn nghenedl Israel; a'r ANGEL dinystriol a besiodd heibio i bob tŷ ag oedd wedi ei ddynodi yn y modd hyn, HEB GYFFWRDD A NEB YNDDO. Ac mewn coffadwriaeth parchus o'r arwydd cyfryngawl hwn, cofiwn, y sefydlwyd Gwyl y Pasg, hyny yw, { cwmwl yn oleu a llewyrchus. Eithr pan gyrgwyl y pasio heibio. Fe waredodd Duw genedl Israel felly, nid yn unig odditan orthrymder yr Aifftiaid, ond hefyd o gaethiwed y cyikrculiaid, eu duwiau hwynt; canys yr oeddynt yn flaenorol i hyn mewn cyflwr o gaethiwed gan dduwian yr Aifft, Exod. 12: 12, yn gystal a chan yr Aifftiaid eu hunain. Ac fe ddarfu i Grist, Had y wraig, yr amser hyn mewn modd nodedig gyflawni yr addewid foren o ysigo pen y Sarff, trwy wneud barn yn erbyn holl dduwian yr Aifft, yr hyn orchwyl oedd yn fwy peth i uffern nac ydoedd i'r Aifft ei hun, canys yr oedd balchder a chreulondeb y gelyn, yr hen Sarff, yn cael mwy o archoll na Pharaoh. Fe wnaeth Satan ei waethaf yn erbyn y bobl i fyned i'r Mynydd i aberthu i'r Arglwydd, ac fe wrthwynebodd eu gwaredigaeth a'i holl egni hyd eithaf ei allu. Ond ysgrifenwyd fod Duw pan waredodd ef Israel o'r caethiwed wedi dryllio penau dreigiau a'r Lefiathan yn y dyfroedd, a'u rhoddi yn fwyd i'r bobl. Duw a ddirgymhellodd eu gelynion i'w gollwng hwynt ymaith, fel y gwasanaethent ef. Ac yr oedd y Brenin erbyn hyn wedi ei gyflawn ddarostwng, canys nid yn unig efe a ganiataodd i adael plant Israel i fyned, ond a ymorchestodd i brysuro eu hymadawiad, rhag ofn y buasai gomeddiad pellach yn achosi ei lwyr ddinystr ef a'i bobl oll. Felly yr Israeliaid, wedi ymdeithio yn nghyd a'u tadau yn gyflawn bedwar cant a deg ar hugain o flynyddoedd yn nhir Canaan a gwlad yr Aifft, Gal. 3: 17, a gychwynasant yn awr allan o Goshen, gan deithio mwyach tua'r wlad a addawyd i Abraham, i Isaac ac i Jacob. A Moses eu blaenor a gymerodd esgyrn Joseph gydag ef. A'r Arglwydd megys y darluniwyd a'u dug hwynt â llaw gadarn allan o dŷ y caethiwed, ac yn wyrthiol a gyfarwyddodd eu ffordd trwy beri i golofn niwl eu harwain y dydd, a cholofn dân i'w goleuo y nos yn eu gwersyllfa, yr hyn oedd arwydd o'r presenoldeb Dwyfol. { Eithr Pharaoh a'i bobl a ofidiasant yn fawr erbyn hyn, am golli o honynt y fath dorf luosog o gaethion enillfawr; fel y darfu i fyddin luosog yr Aifft, a'r Brenin yn eu blaenori, { frysio i erlid ar ol yr Israeliaid, gan dybied eu goddiweddyd yn fuan. Ond y golofn niwl ag oedd hyd yn hyn o'u blaen megys arweinydd iddynt, a symudodd yn yr adeg anhebgorol { hyn y tu ol i bobl Dduw, ac a rwystrodd yr Aifftiaid felly i'w canfod hwynt, am fod yr ochr nesaf i'r Aifftiaid o'r cwmwl yn ddu a thywyll, ond yr ochr nesaf i'r Israeliaid o'r haeddodd y ffoedigion lanau y Môr Coch, a deall eu bod braidd yn analluog i ddychwelyd, am fod Pharaoh a'r fyddin gret' yn erlid yn galed ar eu hol, na myned yn mhellach gan gryfed tonan cynddeiriog y môr, nà throi ar y llaw ddeheu nac ar yr aswy oblegyd fod Pihahiroth y naill du iddynt, a Baal-zephon y tu arall, gan hyny hwy a wersyllasant yno, yn ol gorchymyn Moses, i ddysgwyl gwaredigaeth yr Arglwydd. Ond y gwanaf eu ffydd yn y genedl tebygol a rwgnachasant yn erbyn Moses, ac a ddywedasant, "Ai am nad oedd beddau yn yr Aifft y dygaist ni i farw yn yr anialwch?" Eithr y Prydydd Cymreig a ddarlunia Israel gryf ei ffydd fel y canlyn: Rhwng Pihahiroth a Baal-Zephon, Tra b'wyf byw mi gofia'r lle, Mewn cyfyngder eithaf caled Gwaeddodd f'enaid tua'r ne', Yn ddioed, dyma'n dod Y waredigaeth fwya' erioed. A'r peth nesaf digyffelyb a welwn yw, CENEDL O BOBL YN MYNED TRWY Y MOR AR Dir CADARN DI-DDWFR. Canys yr Arglwydd a gyfarwyddodd ei wâs Moses i estyn ei wialen ar y Môr, a'i ddyfroedd yn wyrthiol a holltodd yu ddau, ac a arosodd megys dau fur uchel ac ârdderchog y naill gyferbyn a'r llall, gan adael ffordd lydan i'r Israeliaid, trwy ba un yr aethant i'r lan arall yn gwbl ddiogel. Yn y flwyddyn 857 wedi y dylif y bu hyn, sef yr un flwyddyn ag y gwelodd Moses y berth yn llosgi ar Fynydd Horeb. A Pharaoh a'i filwyr a geisiasant eu canlyn; eithr y prophwyd ar y lan draw dan ddwyfol gyfarwyddyd a estynodd ei wialen. drachefn ar y Môr, a'r dyfroedd a ddychwelasant i'w gwely arferol, ac yn y modd hynod hyn y dinystriwyd cerbydau yr Aifftiaid, ac y buant hwy a'u meirch feirw yn druenus. Yr oedd hyn yn ergyd anferth ychwanegol ar ben y Sarff, a buddugoliaeth ogoneddus ar uffern. "Canys yr Arglwydd a wnaeth yn { rhagorol iawn: taflodd y march a'i farchog i'r môr." Ac yno yr hunasant eu hûn ddiweddaf, ac ni erlidiasant byth mwyach ar ol yr Israeliaid. Pwy erioed a ymgaledodd yn erbyn Duw ac a lwyddodd? Neb. Ac nid rhyfedd i Moses, yr hwn oedd fardd ardderchog, gyfansoddi cân mor arddunawl ar y fath amgylchiad digyffelyb, ac iddo ef a meibion Israel ei chyd ganu i'r Arglwydd pan oeddynt oll yn ddiangol a diogel ar y lan draw, ac i'w chwaer Miriam hefyd, y brophwydes gyntaf a enwyd mewn hanesiaeth, yn nghyd a gwragedd meibion Israel gyd uno â hwynt i ganu i'r Arglwydd â'u tympanau, gan ddawnsio o orfoledd gyda'r don. Gellir gweled y Brydd- § gwaredu o'u tywyllwch &c. Ond pan ymest yn Exod. 15. ddangosodd Crist Had y wraig yn y byd, efe a'u goleuodd, trwy ei efengyl ogoneddus, ac a'u gwaredodd trwy ei farwolaeth iawnol. Moliant i Dduw byth am dano ef a'i efengyl. Canys mae ei iechydwriaeth fel y môr, yn chwyddo byth i'r lan, mae ynddi ddigon, digon byth, i'r truan ac i'r gwan. LLYTHYR ODDIWRTH Y PARCH. ERAS- Morris Island, S. C., Meh. 20, 1864. Anwyl Fraud, Dr. Everett,-neu yn hytrach anwyl dad yn yr efengyl,-Telmlaf awydd i ysgrifenu ychydig linellau i'r CENHADWR. Meddylais ganwaith o'r blaen ar yr un peth, ond ryw fodd, ar hyd y blynyddoedd, ni fentrais ymddangos y'mhlith eich talentus ohebwyr. Mae ysgrifenu i'r wasg yn yr iaith Gymraeg yn or Yr oedd y waredigaeth yma a roddodd Duw i Israel yn beth newydd ychwanegol a wnaeth yr Hollalluog tuag at gyflawni ei addewid mewn perthynas i Grist dan yr enw Had y wraig, canys trwy hyn fe gymerodd rhagluniaeth ddwyfol gam pellach na'r cwbl blaenoroli hwylysu ffordd dyfodiad y Gwaredwr i'r ddaiar i weithio allan iechydwriaeth gyflawn, digonol a thragywyddol i fyd o bechaduriaid, oblegyd o'r genedl yma yn ol yr addewid yr oedd Crist i ddyfod. A thyma y modd rhyfeddol yr oedd Jehofa yr amser hyn yn diogelu y Blaguryn ag oedd i darddu o had Abraham. Ac er fod y teulu ag yr oedd yr Iachawdwr i ddisgyn o hono wedi cael ei neillduo i fesur o flaen galwad Abraham, eto fe ymddengys nad oedd hyny yn ddigon o neillduad i ateb y dyben mawr mewn golwg. Canys er fod poblchwyl mor anhwylus, nes byddaf yn wastad yn Dduw trwy hyny yn cael eu cadw megys dyeithriaid a phererinion, rhag ymuno â phawb o drigolion y byd mewn cymdeithasau gwladol, ac undeb teuluaidd &c., er hyny yr oeddynt yn aros yn gymysg yn eu plith, ac o herwydd hyn mewn perygl o golli y wir grefydd yn hollol, megys y dywedasom o'r blaen. Gan hyny Duw trwy y waredigaeth ryfeddol o'r Aifft, a neillduodd genedl Israel i fyw ar wahan, yn eu sefyllfa wledig ac eglwysig eu hunain, heb un berthynas i fod rhyngddynt mwyach yn hyny â chenhedloedd Paganaidd, fel y byddai iddynt gael eu cadw yn ddidoledig hyd oni ddeuai Crist, yr Had addawedig, ac y byddai i'r gangen Hebreaidd o eglwys Dduw gael ei chynal, modd y byddai iddi gadw oraclau Duw, hyd yr amser yr ymddangosai y Messiah; ac fel y gellid yn eu mysg hwy, y rhai a'i gwrthodasant pan ddaeth at yr eiddo ei hun, amlygu y cysgodau, a chyhoeddi y prophwydoliaethau am Had y wraig yn nghyd a'r hanesion am bethau ag oedd yn angenrheidiol eu cadw er parotoi y ffordd i ddyfodiad y Messiah, Ceidwad pechaduriaid, ac unig Iachawdwr y byd. llwfrhau cyn dechreu. Ond o'r diwedd, yr wyf wedi dyfod i'r penderfyniad i dreio gloywi yr hen iaith anwyl, ac er nad oes genyf obaith y gallaf byth fod yn deilwng o le y'mhlith llenorion fy nghenedl, eto, trwy ychydig ymdrech gallaf yn awr ac yn y man ysgrifenu ychydig a lona feddyliau fy hen gyfeillion yn ardaloedd Steuben a Remsen. Pa mor anffyddlon bynag y caed fi tuag at y CENHADWR mae y CENHADWR wedi bod yn llawn ffyddlondeb tuag ataf fi. Pa le bynag y cefais y fraint yn ystod yr unmlynydd a'r bymtheg a aethant heibio i bregethu “anchwiliadwy olud Crist," yno hefyd bob mis, trwy bob math o dywydd, a gwên a'r ei enau y byddai y CENHADWR yn sicr o dalu ymweliad â ni. Erbyn hyn, yr ydym yn ei ystyried "fel un o'r teulu" ac er na all fy mhlant ei anerch yn ei iaith gysefin, edrychant gyda dyddordeb am ei ymddangosiad misol. Chwi welwch, Mr. Everett, fy mod yn awr yn Carolina Ddeheuol, yn dal perthynas â'r fyddin Undebawl, sydd yn yr ymdrech clodwiw o roddi i lawr y gwrthryfel mwyaf dieflig a gymerodd le er pan gyfododd Satan a'i angelion yn erbyn llywodraeth gyfiawn Brenin y brenhinoedd. Peidied neb a fy nghamgymeryd. Nid yw eich anheilwng was, hyd yma, wedi cymeryd i fyny arfau milwriaeth gnawdol. Mae yn y fyddin yn dilyn yr un alwedigaeth a phan oedd gartref,-sef pregethu Crist "a hwnw wedi ei groeshoelio" i'r penaf o bechaduriaid. Er yn agos i bedwar mis bellach, cefais fy awdurdodi i fod yn Chaplain of the 21 Regt. United States Y cenedlaethau eraill gan amlaf drwy yr holl fyd, megys cenedlaethau cyfain a lluosog gyda yr eithriad o deuluoedd yn eu mysg, a ymollyngasant o hyn allan yn lled gyflym a dwfn yn raddoli eilunaddoliaeth, ac a barhausant felly tua phymtheg cant o flynyddoedd, yr hyn oedd brawf amlwg fod dynolryw yn hollol annigonol i waredu eu hunain o gaeth-Colored Troops. Mae y Regiment i ba un yr iwed y llygredigaeth, y tywyllwch dudew, a'r trueni yr oeddent wedi syrthio iddynt, ac nas gallasai holl Philosophyddion yr oesau hyny, a'r wybodaeth oedd yn mysg y Paganiaid, eu wyf yn perthyn, oddigerth ei swyddogion, wedi ei chyfansoddi yn hollol o bobl dduon. Ac nid hyny yn unig, ond yr oeddynt oll ychydig amser yn ol yn gaethion; yn cael eu hystyried gan LLYTHYR ODDIWRTH Y PARCH. E. W. JONES. eu perchenogion(?) yn werth hyn a hyn o ddoleri, ac yn cael eu prynu a'u gwerthu, a'u gwasgaru, yma a thraw, fel creaduriaid direswm. Mae yn dra hysbys i ddarllenwyr y CENHADWR o leiaf, fod y caethion druain yn cael eu dwyn i fyny yn hollol amddifad o addysg. le cospir i'r eithaf bawb a geir yn euog o addysgu y caethwas yn ei "A B C." Mae yn wir fod rhyw nifer fach o honynt wedi lladratta ychyd ig o addysg, er gwaethaf eu cyfreithiau; ond nid yw y rhai 'n gymaint ag un o gant. Anwybodaeth drwyadl yw y rheol, heb ond ychydig iawn o eithriadau. O fel y maent yn sychedu am wybodaeth! Ac y mae y cynydd a wnant o dan yr amgylchiadau, yn ganmoladwy dros ben. Pan ddaethant o'r gaethglud, ni wyddent lythyren ar lyfr. Mae nifer mawr o honynt yn awr yn darllen ac yn ysgrifenu hefyd; ac mae nifer mwy y honynt yn "cyrchu at y nod" iddynt hwy yn 'gamp uchel." Chwi welwch oddiwrth hyn fod fy nyledswyddau yn amrwyiol. Yr ydwyf yn eu plith yn Weinidog, yn Ysgolfeistr, ac yn Postmaster. Mae y rhan luosocaf o honynt eto yn analluog i ysgrifenu eu llythyrau, ac felly byddaf yn ysgrifenu nifer luosog bob wythnos. Mae 'n lled debyg na fu eto adeg er pan wyf yn y weinidogaeth mwy manteisiol imi fod yn ddefnyddiol i fy nghyd-ddynion na'r adeg bresenol; ac mae'n dda genyf weled arwyddion boddhaol o flaen fy llygaid o ddydd i ddydd nad yw "fy llafur yn ofer yn yr Arglwydd." Yr ydym yn aros yn awr ar Morris Island oddeutu milldir oddiwrth ei phen deheuol. Mae ein gwersyll ar y traeth mewn lle glân, prydferth, ac iachus. Mae 'n wir fod yr haul wedi bod yn hynod boeth trwy Orphenaf ac Awst, ond mae yma braidd bob amser awel gref ac adnerthol, ac mae'n debyg nad oes un dosparth deheuol yn fwy rhydd oddiwrth glefydau, a salwch yn gyffredinol, na'r dosparth hwn. Borau dranoeth ar ol dyfod i'r gwersyll daeth yr Orderly a dau farch at ddrws ein Head Quarters, ac yn nghwmpeini Lient. Col. Bennett i ffwrdd â mi ar full gallop, a chefais y pleser o dalu ymweliad â Forts Waggoner, Chatfield, a Putnam. Yr oedd y borau yn glir a phrydferth. Oddiar goppa Putnam, cefais olwg glir ar holl amddiffynfeydd y gwrthryfelwyr ar ynysoedd James a Sullivan. 339 y priddfeni a syrthiant o'r tufewn i'r gaerfa yn gwneud to yr ystafellau rhain yn gadarnach byth. Oddeutu pedair neu bum' milldir i'r deorllewin gwelwn Charleston. Dyma'r fan lle y ganwyd ac y magwyd y gwrthryfel presenol; ac nid anghyson y gelwir hi"The cradle of Rebellion" Erbyn heddyw mae ei gorwychder wedi ei ddarostwng, a'i hucheldiem wedi ei ddwyn i'r llwch. Mae magnelau Putnam yn parhau i luchio peleni tân i'r ddinas, ac mae'n debyg fod y dinasyddion wedi cilio i le mwy diogel. Mae Waggoner yn gaerfa ardderchog. Mae yn hon ystafelloedd bomb.proof yn ddigon eang i gysgodi mil, neu bymtheg cant o filwyr. Gwelir y'mhob man o amgylch y gaerfa arwydd ion eglur o'r ymdrechfa ofnadwy a gymerodd le cyn iddi syrthio i ddywlaw yr Undebwyr. Canfyddir miloedd o ddarnau bomb-shells yn gymysgedig â'r tywod. Gwelais y fan lle y syrthiodd y gwrol Col. Shaw o'r 54 Mass. wrth arwain ei fechgyn duon yn erbyn y gelyn; ac yn y gwastadedd ger llaw, y tawel hunant y'nghyd hyd "fore'r codi." "They sleep their last sleep they have fought their last battle No sound will awake them to glory again." Mae arwyddion lled amlwg fod amser poeth wrth y drws yn mhorthladd Charleston. Cyn yr argraffir y llinellau hyn, yr wyf yn credu y gwelir ymosodiad heb ei ail oddiar dir a dw'r ar ynysoedd Sullivan a James. Nid oes genyf ofod na hawli fanylu; ond mae y llonyddwch a'r distawrwydd sydd wedi bod yn teyrnasu yn y dosparth hwn am gynifer o fisoedd ar derfynu, a gobeithiaf yn lled hyderus, y caf y pleser anrhaethol o ysgrifenu ychydig o lythyrau i'm teulu o ddinas Charleston. Diolch i'r Nefoedd am y newyddion gogoneddus a glywir oddiwrth fyddinoedd yr Undeb! Farragut yn Mobile Bay, Sherman yn Atlanta, a Grant yn llindagu y gwrthryfel ar draws ffordd haiarn Weldon. Fel hyn mae colofnau Rebeldom y naill ar ol y llall yn cwympo ac yn fuan daw yr hen adeilad pwdr i lawr bendramwnwgl y'nghanol banllefau gorfoleddus miliwnau o feibion Affrica, "A'u holl gadwynau'n chwilfriw mân.” Erbyn hyn mae y dyn du wedi rhoddi prawfiadau digonol i'r wlad, ei fod yn feddianol ar wir elfenau milwrol; ac mae yr hen "dinc" bengoprog hono-" A Nigger ca'nt fight," bron wedi distewi. Ychydig amser yn ol fel y mae eich darllenwyr yn gwybod eisoes, gwnaed ymosodiad ar James Island. Trwy amryw achosion, rhai o honynt yn gywilyddus i'r eithaf, trodd yr ymosodiad allan yn aflwyddiannus. Ond mae un ffaith na ddylid ei hanghofio. Dangos Yn union o fy mlaen gwelwn Sumter. Mae'n sefyll yn y dwr, oddeutu trichwarter milldir o gaerfa Putnam. Mae yr olwg allanol arni, yn dra thruenus. Mae wedi ei churo gan shells, nes mae yn edrych fel pentwr didrefn o briddfeini wedi eu malurio; ac eto, er yr holl ymdrech i'w darostwng, mae yno garrison gref hyd heddyw.odd y milwyr duon y tro hun fwy o wrolder a Mae yn ddiameu fod yn Sumter ystafelloedd bomb-proof helaeth a diogel; ac ni ryfeddwn pe byddent yn fwy diogel yn awr nac erioed. Mae phenderfyniad na'r milwyr gwynion; ac unwaith o leiaf, pan drodd ein milwyr gwynion eu cefnau, rhuthrasant y'mlaen, nes ffoi o'u |