awr y cwestiwn yw, "pwy wna hyn?" Ofer disgwyl i'r milwyr a'r swyddogion wneyd llawer ya y ffordd yma ar faes y frwydr, oblegid eu dyledswydd gyntaf & plowysicaf hwy yw gorchfygu y gelyn; ac ofer hefyd yw i'r milwr ddisgwyl eyraorth oddicartref; oblegid gall wythnosau fyn'd heibio cyn i'w gillionaf ffyddlonaf, gael gair o'i hanes--a gall farw a chaelti gladdu; a lwythau yn tybied ei fod yn fyw ac yn iach! Y mae y Christian Commision wedi profi yn dra llesol i'r milwyr yn y cyfwng hwn, fel y tystia miloedd o honynt, oblegid y mae y delegates yn cael eu hanfon gyda phob corflu yn y fyddin yn gystal ag i'r clafdai; a phob math o supplies yn cael eu trosglwyddo iddynt gan wageni perthynol i'r Commission, er eu galluogi i ymgeleddu y milwr mor bell ag y byddo modd, yn ol byddo ei gyflwr. A diamau fod prydlonrwydd eu hymdrechiadau wedi bod yn foddion i achub cannoedd os nad miloedd o fywydau eisioes. { Y mae y draul hefyd yn llawer llai i berthyn- { asau y milwr ciaf neu glwyfus, i wneyd lles iddo trwy gyfrwng y Commission nag un ffordd arall. Gall un delegate wneyd dirfawr les i gant neu ddau o filwyr, heb fwy o draul na phe bai un dyn yn cychwyn oddicartref i ymgcleddu ond un. Dylai y gwirionedd hwn gael dwys ystyriaeth. Drachefn, trwy gyfrwng y Commission gellir gwneyd lles i bob milwr sydd mewn angen. Y tylawd a'r amddifad yn gystal ag ereill sydd mewn gwell amgylchiadau. Y mae miloedd o filwyr yn ein gwersylloedd a'n meddygdai a chanddynt deuluoedd a chyfeillion tyner galon garent fyned i̟leddfu poen eu rhai anwyl sydd yn dyoddef, ond y mae eu hamgylchiadau y fath fel na allant deithio cannoedd o filldiroedd i'r hospital neu y gwersyll er iddynt glywed fod y mwyaf hoff ganddynt yn glwyfus ac yn ymyl marw. Yn awr y mae y Christian Commission yn gyfrwng gwerthfawr a chymwys yn y cyfryw amgylchiadau. Derbynia yr hyn all pob un wneyd er cario y gwaith mawr yn y blaen. Nid yw yn gofyn i neb wneyd ond yr hyn a allo. Pe gwyddai cannoedd yn ein gwlad gymaint y mae y Christian Commission wedi wneyd i'w cyfeillion a'u perthynasau yn y rhyfel, faint o boen y mae wedi leddfa, faint o ddyoddef y mae wedi atal, faint o fywydau y mae wedi achub, a faint o eneidiau y mae wedi bod yn foddion yn llaw Duw i'w dwyn at y Gwaredwr, sier genym y cynhesai en calonau, ac y dyblai eu cyfraniadau, ac y byddai y Commission yn lawer mwy eficithiol yn eu gweithredau o hyn allan. Pa beth sydd orcu i'w gyfranu. Gan fod y gauaf yn agos, byddai yn dda i'r rhai sydd yn parotoi boxes i'w hanfon at wasanaeth y Commission, barotoi cymaint ag a allont o grysau a drawers a socks gwlan a slippers o bob math, No. o 6 i 10, a chymaint o fenyg a chadachau pocket ag a ellir. Y mae angen mawr am danynt. Nid yw o ddim dyben anfon hen grysau &c., oddieithr y rhai a fwriedir i wneyd bandages. Nid yw ychwaith o ddim dyben prynu defnyddiau newyddion a'u hanfon i'r Commission heb eu gwneud i fyny. Gwell anton yr arian a gadael ar y Commission eu defnyddio fel y barnant yn oreu. Y bwydydd gorau i'w hanfon yw y rhai canlynol,-dried beef, dried fruit o bob math, jellies, jams, preserves, pickles, gymaint ag a ellir gael, corn starch, farina, &c. Na fydded i neb wneyd y camgymeriad cyffredin o anfon bara, cakes, pics, &c., oblegid y maent yn sicr o ddifetha eu hunain, a difetha pob peth arall fydd yn agos atynt. Y mae galwad neillduol hefyd am bob math o win, megis currant, blackberry, elderberry, cherry, a grape. Wrth anfon gwin dylid gofalu peidio anfon dim ond yr hyn sydd yn dda, oblegid i'r claf a'r clwyfus y mae i gael ei roddi, a thrueni o'r mwyaf yw cynyg gwin neu unrhyw beth arall wedi difetha i'r milwr ffyddlon sydd wedi aberthu ei gysur, ei iechyd, a'i fywyd er mwyn ei wlad. Hyderaf y bydd i'n cenedl yn mhob rhan o'r wlad hon wneyd a allont i gynorthwyo yr achos teilwng hwn. Y mae yn ddiamau eu bod wedi gwneyd llawer yn barod. Y mae mwy eisiau ei wneyd eto. Y mae mwy o fechgyn y Cymry yn y gwersyll heddyw nag a fu er dechreu y rhyfel. Ymdrechwn ofalu am danynt, trwy ddarparu moddion i'w hymgeleddu yn eu hangen, gan hyderu y bydd i Dduw fendithio ein hymdrechiadau ni a hwythau, a rhoddi i ni fuddugoliaeth ar ein gelynion, ac y bydd i ni yn fuan fwynhau heddwch, llwyddiant a rhyddid, heb un gelyn mewnol nac allanol i'n bygwth a'n gorfodi i ddysgu rhyfel mwyach. T. E. DAVIS. Auburn Theological Seminary. Gobeithiwn y gwrandewir ar y cyfarchiad cynhes a difrifol hwn. Mae ein hanwyl frawd, T. E. Davis, wedi bod ei hun yn y meddygdai yn mhlith y eleifion a'r clwyfedigion ac y mae yn gwybod yn dda am eu sefyllfa. Treuliodd amryw wythnosau fel uu o'r "delegates" heb dderbyn dim ond eu gynaliaeth dros yr amser yn unig, pan oedd ei amgylchiadau yn gwneud hyny yn lled anhawdd iddo ei wneud. Sier yw fod angen cyfraniadau, a bod yr angen yn fawr-deffrown i ddyblu ein diwydrwydd a'n lacigarwch yn y peth hyn.-GOL. BYR GOFIANT AM MRS. CHARLOTTE PASCOE, GWRAIG CHARLES PASCOE O POMEROY. Ganwyd hi yn ardal Sirowy, D. C., yn y fl. 1822. Derbyniwyd hi yn ieuanc yn aelod eglwysig gan y Parch. Noa Stephens yn Ebenezer, Sirowy, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd. Priododd â Mr. Charles Pascoe yn Pomeroy, Rhag. 1, 1853. Ac ar y dydd cyntaf Ofis Mai y flwyddyn hon, (1864,) yn Braceville, Ill., bu farw mor ddisymwth fel na chafodd ei phriod siarad gair â hi. Nid oedd yn bur iach er ys rhai dyddiau, eto yr oedd yn gofalu am y teulu fel arferol. Ar ol ciniaw aeth ar y gwely a chyn pen yr awr yr oedd yn gorph. Gadawodd bedwar o blant, sef Daniel, Mary, James, a Charles, yn nghyd a'i phriod i alaru ar ei hol. Y trydydd o Fai ymgasglodd tyrfa fawr o Gymry a Sacson i'w chladdu, a phregethodd y Parch. D. R. Lewis, oddiar Exodus 15: 23; a'r Sabboth canlynol oddiar Dat. 14: 13. Yr oedd Mrs. Pascoe yn meddu ar lawer o rinweddau fel gwraig a chrefyddrag. Yr oedd yn meddu synwyr cryf, a barn sefydlog am bynciau hanfodol Cristionogaeth. Yr oedd yn wraig serchus ac anwyl iawn o'i phriod a'i phlant, yr hyn sydd yn cynyrchu galar mawr i'w phriod a'i hanwyl blant ar ol ei cholli mor ddisymwth. Yr oedd yn un ffyddlon iawn yn moddion gras bob amser; yn eu ty hwy yr oedd pregethu yn Braceville. Yr oedd hi yn ei theimlo yn fraint i hunan-ymwadu a thrafferthu er mwyn cael moddion gras ac ordinhadau yr efengyl. Buont yn byw yn Coal Valley tra y buom yno, a chefais y fantais i farnu y parch oedd ganddynt fel gwr a gwraig i achos Iesu, yn eu ffyddlondeb a'u cyfraniadau hael, (fel Huaws oedd yn Coal Valley.) Nid wyf yn cofio eu habsenoldeb o'r bregeth, yr ysgol, cwrdd gweddi, na'r gymdeithas eglwysig. Yr oedd Mrs. Pascoe yn hynod fel cerddores; nid wyf yn cofio i mi glywed yr un erioed yn meddu cymaint o beroriaeth yn ei llais a hi. Nid ang hofiaf byth mo honi hi a'i phriod yn canu “Yr Hen Wr a'r Bardd, a'r Negro Bach," a Mrs Williams yn canu "Dio Bach," Nadolig, yn Coal Valley. Yr oedd ei hesmwythder yn canu tuhwnt i neb a glywais erioed. Dychym ygaf ei chlywed yn canu "Gwaed y groes sy'n codi fynu" &c. Ond os oedd hi yn canu yn beraidd ar y llawr, y mae hi yn canu yn fil pereiddiach heddyw am rinwedd maith y gwaed. Anwyl frawd Pascor, ymdawelwch yn yr Arglwydd, "Y mae pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn caru Duw." &c. "Gad dy amddifaid, myfi a'u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddiried dy weddwon ynof fi." Dyma air yr Arglwydd-nac amheuwch-digon yw yn mhob cyfyngder. "Myfi a fyddaf yn Ddnw i chwi." Felly fe fydd yn Dduw i chwithau a'ch pedwar plentyn anwyl. Racine. C. D. JONES. YCHYDIG O HANES MARTHA ANN Martha Ann Jones ydoedd ferch i Mr. Thomas G. a Mrs. Elizabeth Jones, Ridge, ardal Gomer, swydd Allen, Ohio. Ganwyd hi Hyd. 1840. Derbyniwyd hi yn aelod o eglwys Gynulleidfaol Gomer, Chwef. 4, 1855. Felly bu farw Mehefin 11, 1864, yn 24 ml. oed, onid 4 mis, wedi bod yn aclod crefyddol, gan gyson a dichlynaidd arddel Iesu Grist yn Gyfaill a Gwaredwr tua 9 mlynedd a 4 mis. Yr oedd ein chwaer ieuanc Martha yn feddianol ar feddwl cryf, a chof da, ac ar lawer o rinweddau teilwng o'u coffhau-ac i eraill eu hefelychu. Yr oedd yn wylaidd & gostyngedig, yn caru tangnefedd a thawelwch yn mhob lle a chymdeithas. Yr oedd y rhinweddau hyn fel yn argraffedig yn llinellan eu gwynebpryd, ac yn tanbeidio yn hyfryd yn ei golygon siriol a chyfeillgar. Nis gallai anadlu yn awyr athrod, cenfigen a chroes-ddadleuon; ond yn awyr bur cariad, cyfeillgarwch ac ewyllys da, yr oedd fel yn ei helfen. Priodol gellir dweyd am dani hi, fel dywedodd Hiraethog am ryw chwaer: 'R oedd lledneisrwydd yn ei thymer, Yn ei llais ac yn ei pliryd, Yn ei golwg, yn ei moesau, Ond liedneisrwydd oedd hi gyd." Yr oedd ei ffyddlondeb a'i gofal am yr ysgol Sabbothol, a'i phryder dros gynydd y rhai oedd dan ei gofal, mewn gwybodaeth ysbrydol, yn ganfyddadwy i bawb o'i chyfeillion. Pan yn nechreu ei chystudd, ac yn methu myned i gyfarfod a'i dosbarth ieuanc i'r ysgol Sabbothol i Bethel, crybwyllai wrth ei mam yn anwyl a thyner am danynt. Un tro yn neillduol, pan yn siarad am ei "dosbarth bach," dywedai, “O na allwn argraffu rhywbeth arosol-rhywbeth na allai dim ei ddileu ag a wnai les am bythar feddyliau y chwiorydd ieuaine sydd yn fy nosbarth." Gallesid yn hawdd ddeall beth oedd ei theimladau a'i phryder am danynt, wrth y dagrau gloewon oedd yn boddi ei golygon. Soniai yn siriol wrth ei mam am ryw ychydig o arwyddion oedd wedi weled (yn enwedig ar un neu ddwy) eu bod yn sylwi ac yn craffu ar ei dywediadau a'i chynghorion, a'u bod yn ymddangos fel yn awyddu i ddal arnynt. O mor werthfawr i rai ieuainc gael athrawon ac athrawesau o'r un teimlad, ac yn llawn pryder a gofal am iachawdwriaeth y rhai ieuainc fydd dan en gofal-yn ymdrechu ac yn llafurio i wneud lles tragwyddol i'r rhai fyddant yn eu dysgu. O na welid holl swyddogion yr ysgol Sabbothol yn ymdrechu mwy at hyn. Nis gallwn lai na chrybwyll fod rhywbeth neillduol i'w weled bob amser yn ei dull syml a difrifol hi yn yr addoliadau crefyddol. Yr oedd ei golwg yn profi bod ei meddwl ar lawn waith. Pwy bynag fyddai yn dyfod i mewn neu yn myned allan, ni allesid deall arni hi ei bod yn gwybod dim am danynt, pa un bynag ai oedd felly mewn gwirionedd ai nad oedd, yr oedd ei hymddygiad y fath na allwn lai na dymuno ein bod oll, fel rhai yn proffesu ein bod yn ddilynwyr yr Oen, yn tebygoli iddi yn hyn. Hefyd crybwyllwn bod ei sel a'i gofal am y grefydd deuluaidd y darllen a'r gweddio hwyr a boreu-yn amlwg bob amser. Ni allai oddef esgeuluso y "Ddyledswydd." Soniai yn aml wrth ei mam am bwysigrwydd y pethau y byddai ei thad yn gweddio am danynt. Yr oedd yn dueddol o son am y pwys o fod neges neillduol gan bawb wrth weddio, a bod teimlad dwys genym am lwyddo yn ein negesau pwysig o flaen yr Arglwydd. Gallwn fel crefyddwyr gael llawer o addysg oddiwrth ei phryder a'i theimladau yn hyn. Rhaid gadael llawer o bethau allasid grybwyll yn ychwaneg o'i rhinweddau a'i rhagoriaethau, gan geisio crybwyll am ychydig o lawer o'i dywediadau a'i phrofiad yn y misoedd diweddaf y bu byw. na thalai fy nghrefydd ddim-dim crefydd bersonol, brofiadol, ond O! mami bach, 'rwyf yn meddwl fy mod yn gweled Iesu Grist yn bob peth heddyw, bron na feddyliwn fy mod yn ei weled yn bersonol. O! nid oes arnaf ddim ofn marw heddyw." Dywedai wrth ei mam, "Peidiwch byth ag wylo ar fy ol i." Pan ddywedai hithau, "Pa fodd gallaf beidio, fy ngeneth fach" "O" dywedai, "cofiwch fod genyf fi Gyfaill llawer gwell, er cystal ydych chwi; nis gall mam garu bob amser, dim ond weithiau yr ydych chwi yn gallu caru, ond mae Iesu yn caru bob amser, yn mhob man, a phob amgylchiad." A chariad tragwyddol y'th gerais." Yr oedd ei gofal a'i thynerwch tuag at ei thad yn hynod amlwg a diragrith. Yr oedd ei wneud ef yn gysurus yn brif hyfrydwch ganddi bob amser. Byddai er ys rhai blynyddau yn ol yn teimlo weithiau, gan feddwl ei fod braidd yn Er ys agos i flwyddyn yn ol, bu farw ei brawd Moses. Effeithiodd hyny yn fawr ar ei meddwl, yn enwedig wrth feddwl am ei chwiorydd a'i brawd arall oedd wedi marw ychydig flynyddau cyn hyny, "Wel," meddai wrth ei mam, "My-rhy gaeth yn ei reolau tuag ati, wrth arwyddo fi sydd i fyned nesaf." Pa ymdrech bynag gymerid at ei pherswadio a'i chysuro-nad oedd raid iddi ofidio am hyny, y gallai hi gael oes hir-blynyddau lawer i fyw, a phethau cyffelyb, nid oedd modd ei hargyhoeddi o'i chrediniaeth mai "hi fyddai'r nesaf," ac yn eithaf cyson â'i chrediniaeth defnyddiai bob adeg, cyfleusdra a moddion er gwneud ei hun yn barod, er trwsio y lamp, gofalu am yr olew, fel gallai fod yn barod i gyfarfod â'r alwad pa bryd bynag y deuai. O mor ddiwyd yr oedd yn ceisio casglu trysorau erbyn byd tragwyddol, ac yn ymdrechu am gael ei hun mewn heddwch â'i Duw, cyn i'r adeg fyned drosodd. Llafuriodd yn ddwys, diwyd ac ymdrechgar er cael "llawn sicrwydd gobaith," "bywyd wedi'i guddio," &c., a'i henaid mewn gafael â Chyfaill a lynai, pan byddai yn gorfod ffarwelio â chyfeillion anwylaf dacar. A gwerthfawr genym ddweyd fod ei llafur wedi troi yn "elw mawr," yn "gysur cryf" i'w henaid, yn nghanol tonau geirwon cystudd, ac yn lifeiriant hen afon dywyll marwolaeth. Er dechreuad ei hafiechyd a'i chystudd diweddaf, teimlai yn anfoddlawn iawn i neb wenieithio iddi, trwy ddweyd y gallai wella, ni fynai son am hyny, er y byddai weithiau yn lled wangalon, ofnus ac isel, gan ofyn yn aml, Beth oedd ganddi wedi ei elwa erbyn angau, barn a byd tragwyddol. Soniai yn ddifrifol iawn, "A oedd wedi gwneud iawn dderbyniad o Iesu Grist yn Waredwr?" Ond fel yr oedd ei chyfansoddiad yn gwanhau, ei nerth corfforol yn darfod, yr oedd ei meddwl yn cryfhau, y serchiadau yn ychwanegu fwy fwy at bethau nefol a thragwyddol. Fel y llong dan ei llawn hwyliau, wedi myned i'r môr mawr, yn ofni ac yn colli golwg ar y tir, felly yr oedd hithau yn misoedd olaf ei bywyd yn llwyr golli golwg ar bethau amser, a'i henaid yn ymeangu mewn myfyrdod, syndod a mwynhad o bethau nefol ac ysbrydol. Unwaith dywedodd wrth ei mam, “Ofnais lawer ei anfoddlonrwydd iddi i fyned i bob man, a chael pob peth yn ol ei hewyllys. Ond trwy fisoedd olaf ei hoes, diolchodd lawer am ei ofal drosti a'i gynghorion tadol iddi. Ni allai fynegi i foddlonrwydd mor rhwymedig oedd i'w thad a'i mam am y gofal a'r tynerwch, yr ymdrech a'r pryder a gymerasant, i'w dwyn hi (a'i brodyr a'i chwiorydd eraill) i fyny yn grefyddol. Yr oedd ei nith fach, (merch ei chwaer Mary, yr hon oedd wedi marw er ys tro,) yn cael llawer o'i sylw a'i gofal parhaus. Dysgodd iddi lawer o bennillion ac adnodau. Un o'r diwrnodau olaf y bu byw dysgodd iddi y 7 a'r 8 adnodau o'r 40fed o Esaiah, "Gwywa y gwelltyn," &c. Rhoddodd gryn siars i'w mam goffhau y rhai hyny yn aml wrthi, pan byddai hi yn y bedd; ac yn wir lled effeithiol ydyw clywed y lodes fach yn eu hadrodd mor gyson a phwysleisiol. Teimlai yn ddwys neillduol yn achos ei hanwyl frawd Abraham, sydd yn yr Army. Gweddiai yn daer ac aml drosto. Ofnai yn fawr rhag iddo yn nghanol holl brofedigaethau y milwr golli ei archwaeth at bethau gwir grefydd, rhag iddo wrth ymladd dan faner ei wlad anghofio anrhydeddu ac amddiffyn baner Capten ein hiachawdwriaeth. "O!" meddai, "gobeithio ar ol iddo glywed fy mod i wedi marw, y bydd y newydd o fendith fawr iddo, er ei wneud yn fwy ymdrechgar fel milwr da i Iesu Grist.'" Cynghorodd lawer ar ei chwaer ieuanc (sydd yn awr mewn hiraeth) am iddi ofalu am fyw yn dduwiol a chrefyddol, a pharotoi i gael cyfarfod â hi (a'i pherthynasau eraill sydd yn y nefoedd). Diau na anghofir ei chynghorion dwys a difrifol -ond y byddant yn fendithiol ac yn destynau myfyrdod parhaus, trwy yr oes yma ac am byth yn yr oes dragwyddol yn y nef. Un o'r diwrnodau olaf, dywedai, "Mam, mae rhywbeth rhyfedd arnaf, beth ydyw'r achos bod fy nhraed mor oer, fy mreichiau a'm dwylaw fel hyn wedi oeri?" "Wel," meddai y fam, "mae yn ddigon tebyg mai arwyddion angau ydynt." "O" meddai hithau, "pob peth yn dda, deued pan y delo." Eilwaith dywedai, "Mami, 'rwyf fi fel pe bawn i wedi mendio-yn gwbl iach. A ydyw ein holl gwbl ni wedi darfod am byth yn y byd hwn? A ddarfu y cydymddyddan-y cyd-rodio i dy Dduw, a'r cydaddoli? A ddarfu yr hen gyfeillachu dedwydd, fu rhyngom ni ein dwy gartref?-yr holl ymlynu yn ein gilydd-yr holl anwyldeb a'r cariad -a ydyw y cwbl wedi darfod?" Newidiodd ei gwedd drachefn, a dywedodd gyda nerth adnewyddol, “O! na, cawn ail gyfarfod eto, cawn well cyd-addoli―gwell cyfeillachu yn y cartref dedwydd yn nhy ein Tad." Teimlai fel yn rhy lawn o deimladau i allu chwareu allan ei gor foledd yn y meddwl am "yr ail gyfarfod.” Crybwyllai yn gynes am amryw o gyfeillion, (megys ei pherthynasau a'i diweddar weinidog y Parch. J. Parry,) pa rai y dysgwyliai eu hail gyfarfod, a gofynai, "A fyddai hi yn eu hadnabod yno?" Gwenai pan yr atebid "y byddai." Ychydig oriau wedi hyny dywedai, “O! yr wyf yn sal iawn, beth yw hyn, mami?" "Angau, fy ngeneth anwyl, ydyw," atebai hithau. Gofynai hithau, "Pa le mae y lamp?" Pan atebid bod hono yn goleuo, gofynai, "Beth yw hyn?" Dywedai y fam eilwaith. "Angau! Martha Ann fach." Dywedai hithau, "Ai dyma angau?" a dechreuodd ganu, neu yn hytrach bwysig adrodd yr hen benill: "Yn y dyfroedd mawr a'r tonau," &c. A choffhaodd yn hynod bwysig yr oll o'r 23ain Salm. Ail ddywedai; "Pan ddel angau, chwi flowch ymaith, Wedi hyny aeth dros y rhan fwyaf o'r 32 Salm. Adroddai yr adnodau, sef y 1, 2, 6 a'r 7, gyda rhyw ddwysder a nerth na allwn ei ddarlunio. Yna galwodd ar ei chwaer i'w chynghori, a'i chusanu, ac i roddi iddi ei ffarwel olaf. Yna ffarweliodd â'i thad a'i mam gyda rhyw ddwysder a gafael tu hwnt i gyffredin. Anhawdd i'r rhieni galarus allu dal, pan oedd ei breichiau oerion yn ymglymu am y gwddf, gan eu cofleidio yn anwyl a'u gwasgu yn dŷn, pan oedd hi ei hun yn cael ei gwasgu yn mreichiau angaudiau nad anghofiant ei "ffarwel," a'i “last kiss," fel y dywedai, tra byddant byw. Yn fuan ar ol ffarwelio â'i thad a'i mam ac â'i chwaer, a gorchymyn anfon ei dymuniadau at ei brawd, trodd ac ymollyngodd i gyfarfod â'i hymddattodiad, a dywedodd, “O Iesu anwyl, brysia! brysia!" a sisidlodd gyda'r anadl olaf, "Can this be death!" Gyda hyny ehedodd ei henaid i fynwes gynes y Gwaredwr, i fyw byth yn ngwedd ei wyneb, a'i wasanaethu mewn perffeithrwydd yn dragywyddol. Nis gallwn beidio dywedyd eto fel Hiraethog: Ai i wlad o ddiogelwch, Gabriel ddaeth a chipiodd hi." Mehefin 12, ymgasglodd tyrfa luosog o'r cymydogion i'w hebrwng i'r bedd' mewn hiraeth a galar, wrth feddwl ei cholli o ein plith ni, byth mwy i gael ei gweled ar y ddaear. Ond er mewn galar yn yr ystyr hyny, mewn gobaith o ddedwyddach cyfarfod, melusach mwynhad, a pherffeithiach cymdeithas, tu draw i'r bedd. Gweinyddwyd wrth y ty gan Mr. Ebenezer Davies, ac wrth y bedd gan ddau o ddiaconiaid yr eglwys. A'r Sabboth Gor. 24, pregethodd y Parch. G. Griffiths, Milwaukee, bregeth ar achlysur ei marwolaeth oddiwrth Heb. 12: 22, 23. Ac wele yn canlyn lythyr yn cynwys ei dystiolaeth yntau am dani, gan ei fod wedi cael llawer o gyfeillach â hi pan bu yma o'r blaen yn ymweled â ni. JOSIAH BRYNMAIR. Pan yna gyda chwi yn Ebrill diweddaf, cefais gryn lawer o gyfeillach Martha Ann Jones -oedd y pryd hyny yn rhosydd Moab-neu yn hytrach wedi esgyn yn lled uchel lethrau Pisga. Derbyniais lawer o gysur i'm meddwl fy hun wrth ymddyddan gyda hi am bethau crefyddol. A gwyddwn, oddiwrth ei sirioldeb ar y fath achlysuron, a'i hawydd am fynychach cyfleusderau i hyny, fod ei henaid wrth ei fodd-ac yn ei elfen ei hun--pan yn siarad am lesu. Ar fy mynediad cyntaf i blith y teulu, teimlai dipyn yn shy. Lluddiwyd hi, gan wylder, naturiol iddi, i fawr ychwaneg nag atob ambell i ofyniad a roddwn iddi yn nghylch ei phrofiad yn ei chystudd. Ond wedi fy mod yn ei chyfeillach am ddiwrnod neu ddau, gwisgodd y rescree hwnw ymaith; ac o hyny hyd amser fy ymadawiad â'r ardal, teimlai yn hollôl rydd i draethu ei meddwl wrthyf-ei gobeithion a'i hofnau-ei hymdrech â gelyn ei henaid, a'i goruchafiaeth arno trwy yr Hwn a'i carodd. Fel plentyn a'ch arweiniai trwy ardd i ddangos i chwi welyau perlysiau y meddyliai lawer o honynt, ac y disgwyliai i chwithau hefyd eu hedmygu a'u canmol-felly y cymerai hithau finau erbyn fy llaw trwy feusydd yr Ysgrythyr au-gan nodi allan wrth basio addewid felys yma ac un arall werthfawr acw, â pha rai y cynaliai y Gwaredwr ei chalon rhag llesghau pan yn rhodio ar hyd glyn cysgod angau, ac yn swn rhyferthwy yr hen Iorddonen. Cof genyf fod y drydedd a'r hugain a'r ddeuddegfed ar hugain o'r Salmau, a'r bumed pennod o'r ail lythyr at eglwys Corinth yn mysg y darnau mwyaf dewisol ganddi y gofynodd i mi eu darllen wrth erchwyn ei gorweddfa. Anrhegais hi ryw Sabboth wrth gychwyn gyda'r teulu i'r addoliad â sypyn o draithodau crefyddol, gan ddatgan fy nymuniad am iddi gael llawn cymaint o fwynhad wrth ddarllen y rhai hyny ag a gaem ninau yn y Cysegr. Diolchodd yn wresog am danynt, a thystiodd wedi hyny iddi gael llawer o fwynhad wrth eu darllen a gwran ww daw ar eraill yn eu darllen iddi. Ac wrth droi dalenau yr hen Feibl teuluaidd yn fy ail ymweliad a'r "Ridge" daethym o hyd iddynt, a gwelais farciau amlwg darlleniad beunydd o honynt yn enwedig y rhai canlynol: Poor Joseph, The amiable Louisa, What is it to believe in Christ? Blind Betsy, or Comfort for the af flicted, Do you want a Friend? Peace to the troubled, The act of faith, Obstacles to conversions. Yr wyf yn credu yn gydwybodol am dani y gwyddai trwy brofiad yn gystal ag fel pwnc o athrawiaeth beth ydyw credu yn Mab Duw, a'i fod Ef yn Gyfaill iddi a lynodd gyda hi pan nad allai hyd yn nod dad a mam ond sefyll yn edrychwyr torcalonus arni yn yr ymdrech â brenin dychryniadau. Amlygodd ei hawydd i gael cofio unwaith yn rhagor ar y ddaear am angau'r groes. Cafodd hyny, yn nghwmni pedwar neu bump o honom, y bore y troais tuag adref. Credaf nad anhofir y tro yn fuan gan y rhai oeddynt bresenol yn yr ystafell. Teimlem yn drist yn wir wrth feddwl na chaem gydgymuno â hi mwyach hyd nes y cyfarfyddwn yn nheyrnas ein Tad. O'r cwmni i gyd Martha Ann oedd y lawenaf. Er yn hyderus yn gyffredin, eto nid bob amser y canfûm hi felly. Blinid hi weithiau gan ofnau rhag nad oedd ganddi sail dda dan yr enaid. Gyrid hi gan bryder felly i chwilio yn fanylach i'r mater, a'r canlyniad o hyny oedd fod ei gafael yn tynhau yn yr hyn oedd ganddi, a'i llwybr yn myned oleuach oleuach hyd nes yr amgylchwyd hi â goleuni perffaith ddydd. o'r ardal yna oedd ar y pryd mewn Academy oddicartref. Gomer, Chwefror 9, 1563. "ANWYL FFRYND,--Daeth cieh llythyr am Ion. 23 i'm llaw ddydd Gwener diweddaf, yn yr hwn yr erchwch i mi ysgrifenu yn fuan. Nis gwn yn iawn beth i'w ysgrifenu wrth edrych ar fy anwyl frawd Moses, yr hwn, os na ddaw cyfnewidiad er gwell cyn bo hir a fydd wedi ein gadael. Mor fawr yw ein rhwymedigaethau am iechyd! Dylem ystyried ein bod yn marw o hyd-eto nid ydym yn meddwl hyny. Mae angau yn ein rhybuddio-ond yn ofer Crist yn galw arnom a ninau heb glywed. O! ymbarotown i well gwlad na hon-gwlad lle nad aiff gorthrymder na chystudd byth i mewn iddi. Gweithiwn tra y mae yn ddydd, gan ystyried fod nos yn dyfod yn yr hon ni ddichon neb weithio.' Gomer, Allen Co., Ebrill 23, 1963. ANWYL FFRYND,-Ymdrechaf, wedi maith oediad, ysgrifenu ychydig linellau mewn atebiad i'r eiddoch ataf ryw amser yn ol. Ni theimlais rywfodd awydd ysgrifenu at neb am yspaid wedi marw fy mrawd Moses. Teimlwn yn hynod o isel fy yspryd. Nid oeddwn yn gofalu am ddim yn y byd hwn wrth weled fy mrodyr a'm chwiorydd yn cael eu cymeryd y naill ar ol y llall o hono. Mae ein teulu yn awr mor Heied wrth yr hyn a fu-dim ond fy chwaer a minau gartref o saith o blant. Gobeithio y bydd i drallod ar ol trallod ein gweithio yn nes at Dduw. Mor ddiolchus y dylem deimlo I'r Hollalluog am ein hiechyd a'i ofal cyson o honom. Hyderaf y caf y fraint o gyflwyno fy hun i'r Arglwydd, a bod tan ei aden ef beth bynag a'm cyferfydd. Y mae cryn gyfnewidiadau yma er pan adawsoch. Y mae Elizabeth Edwards ar ymyl byd arall. Mor drwm yw gweled yr ieuaine yn marw! O! ymroddwn i ymbarotoi erbyn yr amgylchiad, yna ni waeth yn y byd pa bryd y'n gelwir ni i ffordd. Gallaf ddweyd heb betruso fy mod yn awr yn cael mwy o bleser wrth orsedd gras nag a gefais erioed o'r blaen-a hyderaf y parhaf felly.' Ond craffu ar gynwysiad yr ohebiaeth uchod, deallir yn hawdd ddirgelwch ei hyder yn awr Nis gallaf draethu haner fy llawenydd wrth ei hymddattodiad, a pha le yr oedd cuddiad ei glywed am ei hymadawiad gorfoleddus â'n byd chryfder yn yr ymdrech â'r gelyn diweddaf. ni, a'i mynediad helaeth i mewn i'r hafan ddy. Dywedir yn un o lyfrau brenhinoedd Israel i wr munol. Dyma y geiriau a redent i fy meddwl a gleddid yn meddrod Elisëus, pan aeth ei weth ystyried diwedd ei hymarweddiad, “Awn weddillion marwol i gyffyrddiad ag esgyrn yr ninau hefyd, fel y byddwn feirw gydag ef." hen brophwyd ddadebru a chyfodi ar ei draed! Mae rhywbeth i'w chwenychu yn marwolaeth Nid oes amheuaeth yn fy meddwl, pe cymdeithgwir Gristion. Mae ei dawelwch a'i wroldeb asem ninau fwy â'r meirw-ped ymwelem yn yn yr amgylchiad cyfyng hwnw yn anamgyffamlach â'u gorwedd-leoedd yn y mynwentydd, redadwy i'r digrefydd. Gwn y carai y gweddill er cadw yn ein meddwl yr ystyriaeth mai rhai o'i pherthynasai hithau, ac o'i brodyr a'i chwiar ein taith yno ydym ninau hefyd―na byddai .ørydd crefyddol yn Gomer gyrhaedd ei phrofiad { hyny yn foddion i'n hadfywio ninau gyda chref yn awr ei hymddattodiad, ac yr hoffent wybodydd, a'n cynhyrfu i fwy egni i ymbarotoi erbyn y modd y daeth hi yn feddianol arno. Gallaf eu hyspysu o hyny. Gwn y dirgelwch. Dysgasai hi fare be anydd. Dysgasai gyfrif ei dyddiau—ac felly dug ei chalon i ddoethineb. Ni phellhaodd y dydd drwg oddiwrthi, ac felly ni ddaliodd y dydd hwnw hi yn annysgwyliadwy. Edrychasai angau gynifer o weithiau yn ei wyneb nes trwy gynefindra a'i wedd, nad arswydai o'r diwedd yr olwg arno, pan yn llaw yr hwn a dynodd ei golyn y nesai at ei gastell, ac y gofynai yn hoew, neu mewn gwawdiaith sanctaidd, Is this death?" Yn canlyn wele brawf} digonol o hyny mewn dyfyniadau o lythyrau a anfonwyd ganddi at chwaer grefyddol ieuanc 66 awr marwolaeth. G. GRIFFITHS, MARWOLAETH MILWYR. MR. BENJAMIN JONES, PARIS, OHIO. Awst 6, yn 24 oed, cafodd Benjamin Jones, Paris, Ohio, ei ladd ger Atlanta, Georgia. Yr oedd yn fab i'r diweddar Thomas Jones, o'r lle uchod, gynt o Pantybettws, Ceredigion, D. C. Perthynai i gwmni D, catrawd 104 o draedfilwyr gwirfoddol Ohio. Yr oedd yn fachgen hardd, tawel a serchus, ac yn aelod er ys rhai blynyddau yn eglwys Annibynol Parisville. Treuliodd tua dwy flynedd yn y fyddin. Ar ol bod yn dysgu am bythefnos yn y gwersyll yn |