Imatges de pàgina
PDF
EPUB

eryd lle, nag y bydd iddynt gael Macon Co. yn Morgan wedi ei chymeryd gan yr Undebwyr. Missouri.

Mae yn wir i ni gyfarfod a dau deulu serchog a charedig yn New Cambria, sef teulu Mr. E. W. Roberts a Mr. W. D. Roberts, pa rai sydd yn deilwng o bareh dau ddyblyg, am eu caredigrwydd a'u sirioldeb i'r rhai sydd yu ymweled â'r lle. Ond nid yw hyny yn gwella dim ar ansawdd a sefyllfa y wlad.

Wrth derfynu, dymunaf ddweyd gair wrth y cyfeillion hyny, o Illinois a Wisconsin ac Ohio ag oedd wedi bwriadu dyfod i'r sefydliad hwn i gartrefu yr haf presenol, oni buasai iddynt glywed drwy lythyrau cyfrinachol fod y Cymry yma yn son am werthu allan i fyned i Missouri. Bydded hysbys i chwi oll, frodyr, fod y swn hwnw wedi darfod yn awr, ac nad yw yn debyg y clywir ef mwy. Yr ydym ni ar ol dyfod yn ol o New Cambria yn meddwl yn well o lawer am ein sefydliad, ac yn teimlo yn well tuag ato nag erioed o'r blaen, ac yn fwy penderfynol i gartrefu ynddo, gan wybod gyda sierwydd fod genym lawer gwell gwlad na dim a ellir gael yn New Cambria, Missouri.

Georgetown, Lorca.

W. WILLIAMS.

[blocks in formation]

Gwirfoddolion Remsen a Steuben.-Mae y rhai hyn bron yn hollol, os nid yn gyflawn wedi eu cael, fel na bydd angen yma am weithrediad y Draft.

Atlanta.-Sefyll ar wyliaduriaeth y mae y Cadf. Sherman y dyddiau hyn, gan edrych beth a ddaw o ryw symudiadau o bwys mewn manau eraill.

Heddroch a dilead caethiwed.-Mae boneddwr cyfrifol o dalaeth Georgia (conservative) yn anog dros ddilead graddol a chwbl o'r felldith gaeth o'n tir ac ail gadarnhad yr Undeb yn gyffredinol, yn ol yr egwyddorion a'r mesurau a gynygir gan y Llywydd Lincoln.

Y Reilffordd o Weldon i Richmond sydd yn aros mewn gafael lled gadarn gan filwyr Grant y dyddiau hyn.

Yr ymosodiad ar Memphis, Tenn.,-Awst 21, dan Forrest, a drodd yn gwbl fethiant o du y gelynion.

O ganlyniad bydd dinas Mobile yn ddiau yn meddiant ein milwyr yn fuan. Mae y Llynges wr Farragut wedi llwyddo i sicrhau gwasanaeth y peirianwr medrus yr hwn oedd wedi bod yn gosod i lawr y torpedoes dros y gelynion, ac y mae yn awr yn brysur yn eu cymeryd i fyny.

Richmond.-Y peillied yn Richmond a gododd tua $100 y baril yn ei bris, pan ddeallwyd yno fod y Weldon Railroad wedi ei chymeryd,

Angen Cymorth mewn dillad cyn y gauaf.-Hysbysir y bydd cannoedd ie filoedd lawer o'r negroaid sydd yn dyfod yn barhaus i ryddid yn debyg o ddyoddef caledi mawr o eisiau dillad at y gauaf nesaf, oddieithr i ymdrechiadau ffyddlon a alled gyffredinol gymeryd lle yn y peth hyn. Anogir fod casgliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i brynu defnyddiau dillad, a bod merched a gwragedd dyngarol yn mhob ardal yn gwneud dillad yn brysur, yn enwedig i wragedd a phlant y freedmen sydd mewn eisiau -a'u danfon i foneddwyr o ymddiried a drefnir i'w derbyn a'u dosbarthu.

Y for ladrones, Tallahassee, sydd yn parhau i wneud dinystr mawr ar longau ein masnachwyr ar ein gororau. Ond y mae Agerlongau arfog grymus allan mewn ymchwiliad am dani. Yr Electric Spark, mor-ladrones arall a ganfyddwyd yn ddiweddar ar y môr, ar gyfer Nassau.

Y Tallahassee a ddinystriodd ar ei gwib-deithiau lladronig dros gant o longau ein marsiandwyr-ar un diwrnod, Awst 16, llosgodd 25 o longau pysgota, ac yna agerddodd oddiwrth ein gororau tua'r dwyrain.

Y clefyd melyn yn Brooklyn, New York.Dywedir fod aml un wedi cael ei gymeryd gan y clefyd melyn yn Brooklyn yn ddiweddar, mewn canlyniad i ddyfodiad llong i mewn i'r porthladd, a'r cystudd hwn ar ei bwrdd.

Y ddeddf bostswyddfaol newydd, i hwylysu danfoniad arian o le i le trwy "post office order," sydd yn dyfod i weithrediad y dydd laf o Hydref nesaf.

Yr Indiaid yn aflonyddu.-Aflonyddwch tebyg i'r hyn a gymerodd le yn Minnesota yn ddiweddar sydd yn ymgodi ar y Plains i'r gorllewin i Kansas ac yn y rhan orllewinol o Kansas a Nebraska. Ger Fort Riley, ar y Little Blue River, tri o dai ffermwr (runches) a losgwyd yn ddiweddar, yr anifeiliaid a ladratawyd, a'r perchenogion a lofruddiwyd. Cafwyd cyrff o 60 i 70 o ddynion gwynion rhwng y Milesburg a'r Little Blue. Pedair o gerbydresi o wageni ar eu ffordd tua'r gorllewin a gymerwyd gan yr Indiaid ar y Little Blue, a'r oll o'r anifeiliaid yn cynwys tua 450 o dda corniog a llawer o fas tard-mulod a yrwyd ymaith. Ofnir y canlyniad o'r terfysg cynhyrfus hwn.

Y Guerrillas ydynt yn parhau yn eu hymosodiadau lladronaidd a gwaedlyd, ar lanau y Mississippi a manau eraill.

O Mobile.-Y newyddion pwysicaf, tebygem, yn nghorff y mis diweddaf yw llwyddiant ein harfau ar gyfer Mobile. Fort Powell a gymerwyd, Fort Gaines a roddodd ei harfau i lawr ac a gymerwyd, gyda garrison o dros wyth cant o wyr, a'r Hwrddlestr gref y Tennessee, yr hon oedd y gryfaf a feddai y gwrthryfelwyr, a gymerwyd yn llwyddiannus. Costiodd y Tennesee filiwn a haner o ddoleri. Nid oes genym ond un llong-y New Ironsides-sydd rymusach na hi. Diweddarach o Mobile.-Ar ol gosod yr uchod, hysbysir trwy y Richmond Faminer fod Forty rhoddir terfyn arnati

Ein carcharorion mewn caledi mawr.-Mae dros 30,000 o'n milwyr yn garcharorion rhyfel yn Andersonville, Ga., mewn cae agored o tua 30 erw, ffens uchel a gwylwyr arfog o'u deutu, heb ddim cysgod oddiwrth wlaw na gwres, nos na ddydd, laweroedd o honynt heb blankedi na nemawr ddillad, a'u hymborth yn wael a phrin iawn. Maent yn marw yn ol y cyfartal o tua chant y dydd! O wrthryfel creulawn! pa bryd

GANWYD,

Awst 11, yn Evansville, Warren Co., N. J., merch i John J. Williams a'i briod, a gelwir hi JANE.

PRIODWYD,

Gor. 8, yn nhŷ Mr. Thos. Evans, gerllaw Nebo, Perry township. swydd Gallia, O., gan y Parch. J. A. Davies, Mr. DAN. DAVIES o Portsmouth, swydd Scioto, a Miss JANE W. JONES o'r lle uchod. oedd y gwr ieuane yn ddyfodol o gerilaw Llandilo, swydd Gaerfyrddin er ys tua 3 blynedd yn ol.

Yr

Ar ol ysgrifenu y blaenorol daeth cenad ataf i'm ceisio i gladdu y dyn icuane, Dan. Davies, sef y priodfab a enwais. Bu farw yn Portsmouth, dydd Mawrth, Awst 16.

Ger. 12, yn Prospect, N. Y., gan y Parch. D. J. Williams, yn ei dŷ ei hun, Mr. GEORGE LEWIS, Llanbadarn, a Miss JENNETT THOMAS, o Reisen.

Gor. 19, yn Syracuse, Ohio, gan y Parch. Wm. Edwards, Mr. WILLIAM VAUGHAN a Miss MARY EVANS, y ddau o Syracuse.

Awst 11, yn yr un ardal, a chan yr un gweinidog, Mr. CHARLES EDWARDS, a Miss MATILDA DAVIS, y ddau o Nashport City, Va.

Awst 4. yn Birmingham, Pa., gan y Parch. R. R. Williams, J. J. Davis, ysw., a Miss MARIE ADIE ADAMS.

Awst 24, yn Utica, gan y Parch, Jas. Griffiths, Mr. WHITLEY PRESTON a Miss SOPHIA THOMAS, oll o Utica.

Awst 16, yn West Utica, gan y Parch. William Rowlands, D. D., Mr. CHARLES STEVENSON O Chicago, Ill., a Miss ANIE C. REED O Utica.

Awst 20, 1864, yn Charleston, Pa., gan y Parch. P. Peregrine, Mr. JOHN D. EVANS a Miss MARGARET JONES, ill dau o Charleston.

BU FARW,

Mai 20, yn 22 oed, Mr. THOMAS HUGHES, gerllaw Cloyd Mountains, Va. Yr oedd ein cyfaill yn fab i Mr. Lewis Hughes a'i briod, Centreville, swydd Jackson, O. Yinunodd fel milwr a'r 91 Gatrawd T. F. Gwirfoddolion Ohio. Perthynai i Co. A. Yn mhlith ei gydlilwyr bu Thomas yn ffyddlon a gwrol yn eu holl frwydrau a'u rhyfelgyrchoedd. Yu Cloyd Mountains cymerodd ran yn y frwydr a ymladdwyd yno Mai 9fed, tan arweiniad y Cadf. Hunter. Wedi ei archolli yn drwin bu yno dan ofal meddyg hyd yr20fed o'r un mis pan yr chedodd ei ran anfarwol at Dduw yr hwn a'i rhoes. Mae ei weddillion ef yn gorphwys yn agos i'r He uchod. Yr oedd ein cyfaill ieuane yn un o blant yr ysgol Sabbothol-yn hynod yn ei lawddgarwch a'i ufudddod i'w rieni. Prin raid i ni ddyweyd fod ei fam, y plant a'r perthynasau oll mewn galar dwys ar ei ol. Yn y tywydd garw hwn bydded Duw yn nerth EBEN D. JONES. iddynt yw gweddi

Gor. 9, yn Bradford Co., Pa., Jons M. JONES, yn 9 ml. 3 mis a 17 d. oed. Cafodd gystudd trwm am ychydig ddyddiau. Mab ydoedd i James a Mary Jones. Cawsant ergyd trwm oblegid ei fod yn llawer o gymorth iddynt. Dysgir ni i beidio ymddiried mewn braich o gnawd. Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y Parch. Mr. Thomas a'r S. A. WILLIAMS. ysgrifenydd.

Gor. 22, yn Carbondale, Pa., Mrs. ANN RICHARD, yn 73 mlwydd oed. Ei chlefyd oedd diffyg anadl a gwendid. Daeth i'r wlad hon 13 mlynedd yn ol. Treuliodd y rhan fwyaf o'i hamser yn y wlad hon yn Carbondale, a bu yn aelod ffyddlon o'r eglwys Annibynol yn y lle er pan daeth i America hyd ei marwolaeth. Derbyniwyd hi yn aelod i'r hen eglwys yn Tredegar, oedd dan ofal y Parch. Hugh Jones a bu yn aciod crefyddol am 30 miyaedd. Yr oedd yn dawel ac amyneddgar yn ei chystudd, ac yr oedd pob arwyddion yn dangos fod angau yn elv iddi. Bu farw yn nhy ei merch lle yr oedd yn

wwwww

cartrefu, a chladdwyd hi yn mynwent Carbondale. Gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Salisbury (T. C.) L. WILLIAMS.

Gor. 10, yn Pittsburgh, Pa., Mrs. ELIZABETH J. B. JONES. Yr oedd yn enedigol o Monachdy Bach, Daeth plwyf Llanbadarniach, sir Aberteifi, D. C. i Pittsburgh yn 1840 ac unodd a'r eglwys Gynulleidfaol o dan ofel y Parch. T. Edwards. Symudasant fel teulu yn 1652 i ardal Ebensburgh. Cyfarfyddodd Mrs. Jones a'r brofedigaeth yn 1857 o gladdu ei phriod. Yn 1861 dychwelodd gyda'i mab a'i merch i'r ddinas hon, ac unodd eto a'r eglwys Gynulleidfaol. Derbyniwyd hi yn forcu i eglwys Dduw gan y Parch. Dr. Phillips, Neuaddlwyd, a gwnaeth broffes dda yn mhob ardal y buodd. Syrthiodd dros fur ger y tý Meh. 29 o 6 throedfedd o ddyfnder a chafodd ei hanafu yn ddrwg, ond meddianid gobeithion eryfion o adferiad iddi, ond trodd y cwbl yn siomedigaeth. Ehedodd yr ysbryd anfarwol i fyd yr iechyd a'r hawddfyd.

Gor. 28, yn Pittsburgh, Pa., MARGARET JANE, merch David a Margaret Evans, yn 20 mis oed.

Awst 2, yn Pittsburgh, Mrs. ELIZABETH HUTCHINSON, yn 38 ml. oed. Cafodd gystudd hir a blin. Awst 5, yn South Pittsburgh, Pa., ESTHER, merch Edward ac Elizabeth Davis, yn 11 mis oed. Awst 6, yn Pittsburgh. THOMAS, mab Shadrach a Margaret Davis, 4 wythnos oed.

Gor. 20, yn Spring Green, Wis., JOHN, mab Henry ac Elizabeth J. Jones, yn 2 fl. 1 mis ae 21 diwrnod oed. Ei afiechyd oedd y flux. Claddwyd ef yn mynwent y Cymry a phregethwyd ar yr achlysur gan y Parch. W. F. Phillips ar Job 14: 10.

Gor. 23, yn Columbus, Ohio, mab i Mr. Evan Lloyd a'i briod, tua 24 oed. Yr whooping cough oedd dechreu ei glefyd, a chododd yn fath o dwymyn i'w ben, a therfynodd yn augau iddo. Claddwyd ef yn y Green Loan Cemetery a gweinyddwyd gan y Parch. Mr. Randall (B.)

Gor. 25, mab arall i'r un teulu, o'r un clefyd, tuag 11 mis oed, a chladdwyd ef yn ymyl ei frawd. Yr Arglwydd a fendithio y tro i'r teulu trallódus a galarus hwn,

Gor. 27, yn yr un ddinas, mab bychau i Mr. Robert Bellis a'i briod, tua 4 mis oed. Claddwyd ef yn yr un Gladdfa, a gweinyddwyd gan ddau o weinidogion y T. W. D. DAVIES.

Gor. 26, yn nhŷ ei frawd Mr. John Jones, Brushy Forks, ger Granville, Ohio, Mr. THOMAS A. JONES, Columbus. Y dydd Ian canlynol yngasglodd tyrfa fawr o berthynasau a chyfeillion i hebrwng yr hyn oedd farwol o hono i gladdfa y teulu ar y Weish Hills, pryd y gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. David Price. Yr oedd Mr. Jones yn Darchus iawn gan bawb a'i hadwaenai, ac yn aelod yn yr eglwys Henaduriaethol yn Columbus. Cafodd gystudd trwm a maith yr hwn a ddyoddefodd Daeth i'r wlad i chwilio am yn amyneddgar. adferiad iechyd ond angau a'i cyfarfyddodd. Gadawodd weddw a thri o amddifaid ar ci ol. Pregethwyd iddynt hwy a thyrfa fawr eraill yn Granville, yr ail Sabboth ar ol y claddedigaeth, gan y gweinidog, oddiar Jer. 49: 11. "Gad dy amddifäid, mi a'u cadwaf hwynt yn fyw, ac ymddirieded dy weddwon ynof fi."

Gor. 26, yn Granville, Ohio, HANNAH JANE, merch Mr. Griflith D. a Mary Jones, yn un flwydd ac un diwrnod oed. Gweinyddwyd yn y claddededigaath gan y Parch. David Price.

GAIR AT EI RHIENI.

'Roedd colli Hannah gu,
Pan oedd yn gwenu 'n llon,
Ar fynwes tyner fam,

Wrth addfwyn sugno'r fron
Yn brofedigaeth fwy, a loes,
I chwi na dim fu yn cich oes.

Bydd hiraeth ar ei hol,

A choro 'i hawddgar wedd, Yn dwyn eich meddwl prudd, Yn fynych aty bedd, Ond uwch y bedd edrychwch chwi I'r wlad lle 'r aeth ei henaid hi.

Un flwydd a diwrnod du Fu gyda chwi 'n y byd, Gadawodd boenau 'r oes,

A'i chroes ar fin ei chryd,

Mae 'n awr mewn gwlad heb arni glŵy'
Yn iach yn mlaen, na wyiwch mwy.
Pan dry yr olwyn fawr
Sy'n awr dan gwmwi du,

A chael gwir eglurhad,

Ar fryniau'r wlad sydd fry,
Cydfloeddio wnewch mewn goleu llawn,
"Ein Duw a wnaeth bob peth yn iawn."
DEWI DINORWIG.

Gor. 30, ar Old Man's Creek, ger Iowa City, Iowa, yn 49 ml. oed, o'r darfodedigaeth, Mrs. JANNETT GRIFFITH, Sef priod Mr. Richard Griffith, o'r lle uchod. Yr oedd yn haner chwaer i Morris Davydd, Dolgellau, (Meirig Ebrill).

Eto GRIFFILI W. GRIFFITHS, sef unig fab Mr. Richard Griffith a nodwyd, yn 20 ml. ocd, o glefyd y gwaed. Bu farw yn mhen 5 diwrnod ar ol ei daro gan y clefyd, yn y Post Hospital Bermuda Hundred, Va. Yr oedd yn aelod yn y Co. I, 2zain Gatrawd, Iowa Gwirfoddolion. Bu inewn llawer, brwydr galed, ond daeth allan heb gael niwaid, nes i'r gelyn diweddaf fyned i ymladd ag ef. Yr oedd yn filwr dewr, ac efe a aeth i'r fyddin oddiar serch at ei lywodraeth, fel yr aeth miloedd eraill. Cyfrifai elynion ei wlad yn elynion iddo yntau. Yr oedd ef a'i fam yn aelodau o'r eglwys Gynulleidfaol ar Old Man's Creek. Mae genym brotion diwrthddadl, ei fod ef a'i fam wedi cyfarfod yn y nefoedd.-Hynod! Bu Grifith farw y 30ain o Orphenaf, sef yr un dydd a'i fam. Bu Grifith farw am 9 yn y boreu, a'i fam am 2 yn y prydnawn.

Eto, RICHARD THOMAS, unig fab ei fam, a hono yn weddw, yn 22 oed, o'r dolur rhydd, yn Nghlafdy Carrollton, ger New Orleans. Bu farw yn Medi, 1863. Yr oedd yntau yn aelod o'r Co. Å., yn yr 22ain Gat. Iowa Gwirfoddolion. Yr oedd yn aelod o'r un eglwys â Grifith, yn wr ieuane distaw, ac a hoffid yn fawr gan bawb yn y fyddin a chartref hefyd. Mae gan yr eglwys uchod amryw o'i phlant eto yn y fyddin, a'u cymeriad yn uchel fei milwyr da dros eu gwlad, ac i Iesu Grist hefyd. Mae wedi danfon llawer mwy na'i quota i ymladd à gelynion eu gwlad, ac heb un gwangalon yn eu plith. Ev. GRIFFITH.

Gor. 31, yn Youngstown, Ohio, yn 2 fl. a 10 mis oed, a'r scarlet fever, wedi rhwng dwy a thair wythuos o gystudd trwm, THOMAS B. DAVIES, mab bychan a'r ieuangaf o blant y Parch. Thomas W. Davies a'i briod. Gwelir fod y rhieni trallodus yma wedi claddu dau o'u hanwyliad o fewn cylch rhyw ddwy wythnos o amser, yr hyn sydd faich trwm ac anhawdd i'r meddwl ei ddwyn heb gymorth gras y nef.-Dacarwyd rhan farwol yr un bach yn yr Youngstown Cemetery, ac yno inae John a Thomas y ddau frawd bychain yn tawel huno hyd foreu y codi cyffredinol. Mae y lle hwnw yn y cemetery yn fan cysegredig iawn gan ein brawd a'n chwaer yn ddiau a dych'mygaf en gweled nawr ac eilwaith yn cyrchu yno a thywallt aml ddagrau ar fedd eu hanwyliaid. Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol yn y giaddedigaeth gan y brodyr Edwards, Crab Creek a'r ysgrifenydd. Yr oedd yn adeg effeithiol yn y tŷ eyn cychwyn pan yn canu y penill canlynol o waith y tad galarus ar yr amgylchiad,

Engyl gwynion y gogoniant

A gludasant y rhai bach,

Draw i Salem, gwlad y moliant

Yno byddant byth yn iach,

Yn eich galar, hoff rieni,

Wrth en hebrwng tua'r bedd,
Cofiwch heddyw macut yn canu

Gyda 'r Iesu Brenin hedd.

Hysbyswn fod iechyd y teulu nawr yn obeithiol, yr hyn sydd lawenydd i'r ysgrifenydd a llawer eraill. Bydded i'r amgylchiad gael yr effaith briodol arnom oll yw gwir ddymuniad

J. P. THOMAS, Mineral Ridge, O.

[ocr errors]

ww

Awst 2, yn Blossburg, Pa., LEWIS HARRIS, mab i Mr. William Harris a'i briod yn 1 ml. ac 8 diwrnod oed. Ei afiechyd oedd clefyd rhydd. Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan yr ysgrifenydd. P. PEREGRINE.

Awst 12, yn ei hen gartref ger Melin Hinkley yn mhlwyf Rennsen, Mrs. GWEN OWENS, gweddw y diweddar Richard Owens, wedi cyraedd ei 77 ml. o'i hocdran. Claddwyd hi yn Penycaerau, a gweinyddwyd yn ei hangladd gan Wm. R. Jones a Morris Roberts. Gadawodd i alaru ar ei hol ei hunig ferch a'i gwrae amryw o berthynasau a chyfeillion. Cafodd gystudd am amryw fisocdd, ac yr ydoedd yn ol ei thystiolaeth wrth amryw yn barod i farw. Yr ydoedd y chwaer hon wedi ymuno à chrefydd yn ei hieuenctyd. Derbyniwyd hi i'r eglwys yn Llanuwchlyn yn amser y Dr. Lewis yn y diwygiad grymus iawn fu yno tua'r 11. 1507. Glynodd yn yr eglwys hyd y diwedd. Yn eglwys Steubeu y treuliodd ei hamser fwyaf yn America. Ond yn ddiweedar ymunodd a'r Eglwys yn Prospect, à bu yn ffyddlon a haelfrydol iawn i'r achos yn ei wendid yno fel hen fam yn Israel a theimlir colled ar ci hol. Bu dan lawer o anfanteision er ei chysur a'i chynydd crefyddol, rhwng trafferthion y byd hwn, a phellder yr eglwys oddiwrth ei chartref, hyd yn ddiweddar, ac erbyn i'r achos mawr ddyfod yn nes ati hi yr oedd gwendid a gwaeledd hen ddyddiau wedi ei goddiweddyd.

Awst 13, JANE, merch fechan 2 fl. oed, plentyn i Richard a Hannah Davies, o ger Hopkinsville. Claddwyd hi yn Bethel-gweinyddwyd gan Morris

Roberts.

Awst 14, Miss MARY ANN THOMAS, merch ieuengaf Mr. John J. ac Ann Thomas, Carog, ger Bethel. Ei hafiechyd oedd y darfodedigaeth, bu yn glaf am dros flwyddyn a haner a dynenodd ei gyrfa ddaearol yn 19 ml. a 6 mis. Dyoddefodd ei chystudd yn hynod dawel a dirwgnachi. Yr ydoedd yn proffesu crefydd dros rai blynyddoedd yu eglwys Bethel a hyderai am fywyd tragywyddol yn unig trwy Grist, drwy ei holl gystudd hyd y diwedd. Yn awr mae yn gorwedd gyda thair o'i chwiorydd yn y fynwent ger capel Bethel. Gweinyddwyd yn ei hangladd gan y brodyr Mr. Manly o Boonville yn Saesneg a Salisbury a'r ysgrifenydd.

MORRIS ROBERTS,

Awst 13, yn Pittston, Pa., Mr. SAMUEL BAKER, yn 64 ml. oed. Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o sir Forganwg, D. C. Symudodd i'r wlad hon o Bontardawe, ae ymsefydlodd gyda a'i deulu

Carbondale yn y ll. 1832. Cafodd yr hen frawd Iwn gystudd mawr. Bu dros flwyddyn yn ngafael y darfodedigaeth, yn ddioddefgar iawn yn ei gystudd. Cydnabyddai oruchwyliaeth yr Arglwydd yn dda tuag ato er y cwbl oll, a byddai yn diolch am ei gystuddio yn fynych. Bum gyda ag ef ddegau o weithiau yn darllen a gweddio ac yn ymddiddan am werth crefydd, a rhoes dystiolaeth amlwg ei fod ef yn ngafael a'i grym hi. Bu farw mewn hyder yn Nghrist. Ei Ciriau olaf wrthyf oedd ei fod yn gwel'd afon angau heb 'run don ynddi. Gadawodd ar ei ol yn nyffryn galar wraig a thri o feibion i wylo am dano, mae un yn byw yn Carbondale ac un yn y rhyfel gyda'r fyddin a'r llall gartref gyda a'i fam. Yr Arglwydd a gyfarwyddo y weddw a'r plant i ymddiried yn ei drugaredd of. Gweinyddodd yr ysgrifenydd yn y tŷ wrth gychwyn a'r Parch. Lewis Williams, Carbondale, wrth y bedd. Pregethir ei bregeth angledd y Sabboth nesaf yr 21 o'r mis gan yr ysgrifenydd.

JOHN R. WILLIAMS.

Awst 14, yn Utica, WILLARD C. JONES, mab Mr. R. T. Jones a'i briod, gynt o'r York House, yn 7 mlwydd, 6 mis a 7 niwrnod oed. Cafodd y typhoid fever chwech mis yn ol, a bu am y rhan fwyaf o'r amser oddiar hyny yn dihoeni. Y dydd cyn ei farwolaeth gellsid meddwl ei fod yn gwelllau yn gyflym; yr oedd allan ar negesau gyda ei anwyl fam, yn canu pan yn y tŷ ac yn ei holi am y nefoedd; ond yn ddisymwth gwywodd yr hardd flodeuyn yn nwylaw oerion angan ac aeth yr enaid lle yr oedd yn sychedu ac yn ewyllycio cyrutand

[ocr errors]

cymaint o wybodaeth mewn perthynas iddo. Dydd ei gladdedigaeth cyn codi y corph allan dechreuwyd y moddion gan y Parch. G. Griflichs, Milwaukee, a rhoddwyd ychydig o gynghorion ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd, ac awd a'r gweddillion ir fynwent yn ymyl addoldy ffordd yr afon, Marcy. JAMES GRIFFITHS.

Gor. 22, ar Summit Hill, Pa., o'r rhyddni, yn 5 mis oed, JOHN MORGAN, inabi Mr. Hugh L. a Mary Davies. Gweinyddwyd ar achlysur y gladd- } edigaeth gan y Parchi, J. A. Morton.

Awst 12, yn Ashton, Pa., o'r frech goch yn 1 fi. ac 8 mis ocd, MARGARET, merch Thomas a Maria Thomas. Claddwyd hi yn nghladdfa yr Annibynwyr yn Tamaqua. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Daniel D. Thomas, St. Clairs.

Awst 14, yn Ashton, Pa., o'r frech goch, yn flwydd a mis oed, THOMAS, mab George a Mary Phillips. Claddwyd ef yn nghaddfa yr Annibynwyr Tamaqua. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd. THOMAS PUGH.

Awst 16, yn 4 mis oed, yn Middle Granville, N. Y., SAMUEL D. JONES, bachigen bychan y Parch. Samuel Jones a'i briod. Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y Parchn. Wm. R. Jones a John Jones.

JOHN D. JONES.

Awst 21, gerllaw Corry, swydd Erie, Pa., o'r } dyfrglwyf, Mrs. SARAH MARIA C. EVERETT, priod Mr. John R. Everett o Osawatomie, Kansas, a merch yn nghyfraith i Olygydd y CENHADWR, yn agos i 35 ml. oed. Hunodd yn dawel yn yr Iesu, a chladdwyd hi yn nghaddfa ei rhieni wrth ochr ei hanwyl fam yn yr ardal hono. Crybwylliad ychydig yn helaethach yn y nesaf.

MARWOLAETH MILWR CYMREIG.

Priodol yn ddiau yw mynegu am farwolaeth ein milwyr, y rhai a roddasant eu heinioes dros eu ac ein gwlad a'n cartrefydd. Un o'u nifer oedd Mr. PHILIP EVANS, yr hwn oedd yn enedigol o Gymru ac yn fab i Mr. John a Mrs. Margaret Evans, West Schuyler, Herkimer Co., N. Y., yn 23 ml. ac 1 mis oed. Cafodd ergyd angeuol ar ei ben tra ar ymgyrch yn Virginia yn erbyn Lee, ar y 19 o Fai, 1864. Y mae i'r teulu galarus a hynaws hwn ddau fab arall yn y rhyfel icuangach na'r un a enwir uchodyr hynaf a dderbyniodd niwed ysgafn trwy gael ei glwyfo, ond gobeithir yr arbedir ei fywyd ef a'i frawd ac y deuant adref yn ddiangol o'r holl beryglon.

Perthynai yr ymadawedig i Co. E., 2il Artillery Gwirfoddolion E. N. Ymrestrodd i'r fyddin tair blynedd i'r Hydref nesaf yn Utica. Bu yn aros ryw gymaint o amser yn Staten Island yn gyfagos i ddinas Caerefrog Newydd yn dysgu y filwriaeth. Wedi hyny symudodd i Fort Worth, yna i Fort Bennett, y ddau le nid yn nebpell o Washington, Cafodd ei gymeryd yn garcharor yn nghyd ag eraili ddwy flynedd yn ol, a bu yn y sefyllfa hono am tua dau neu dri o fisoedd nes idd ei gyfnewid, Fe ganiatawyd iddo furlough i ddod adref y gauaf diweddaf, a bu gartref yn nghylch mis ac yna aeth yn ol. Cychwynodd o'r Fert Bennett sonicdig Mai 15, a'r 19 o'r un mis yr oedd ei ran anfarwol yn nhragwyddoldeb. Felly y diwedd am yr un firion a thyner galon hwn, pa un a berchid gan bawb a'i hadwaenai, yw “Efe a fu farw," er mae'n wir na chyfarfyddodd a llawer o ymladdfeydd fel y dywedai mewn un llythyr, "Yr ydwyf yn mwynhau iechyd da, ac wedi meddiannu hyny yn barhaus, ac nid wyf wedi fy niweidio o gwbl." Ond daeth y tro a'r ymdaith olaf i'w ran megys agi luoedd ereill; eithr hyderir fod ei enaid heddyw yn y wlad hyfryd a dedwydd hono lle nad oes ac na fydd un gwrthryfel o'i mewn ac na raid ymadael mwy. Yna er rhoi ei gorff

"Mewn llety gwely gwaeledd-yn dawel

Yn ddiau i orwedd;

Cyfyd o lwch y ceufedd,

Olun wael yn lân ei wedd."

Gair oddiwrth y Parch. J. A. Davies, Patriot, 0.-Mae amryw iawn o refugees ynghyd a deserters o fyddin Jeff. Davies yn galw heibio ini?

y dyddiau hyn. Bu un yma heddyw-ac mae y rhai oll a ymddiddenais â hwy yn cyd dystio mai unig obaith y South yw newidiad y Llvwydd-ac os ail etholir Lincoln (yr hyn gredant hwy na wneir) fod eu gobaith ar ben, ac nas gallant ddal allan fawr yn hwy-bod eu dynion a'u resources yn lleihau yn gyflym-bydd ail etholiad Lincoln felly yn fwy at derfynu y rhyfel na chymeriad Richmond nac Atlanta.

MARWOLAETHAU YN NGHYMRU.

MEHEFIN

24, y Parch. Rowland Jones, Llanwrin, ger Machynlleth, yn 84 oed, wedi bod yn pregethu o ddeutu 55 o flynyddoedd gyda'r 'Ť. C.

25, yn 81 oed, Anne, gweddw y diweddar R. Evans, Penannar, Dolyddelen.

26, yn 31 oed, Mary, priod David Harries, Nelson Village, Llanfabon, ger Pontypridd, a chwaer hynaf D. Bowen (Ab Owen), Llanelli.

26, David, mab hynaf Jonathan Phillips, Ferryside.

27, Thos. Edwards, llongwr, Aberdyfi, oed 45. 28, yn 55 oed, Grace, priod William Parry, Carmel, Caellwyngrydd, ger Bethesda.

29, yn 17 oed, Jane, merch Robert Davies, Caellwyngrydd, ger Bethesda.

29, yn nhy ei brawd a'i chwaer, Holt Hill, Birkenhead, Margaret, priod y Parch. John Williams, Talybont, ger Conwy, a merch hynaf Richard Williams, Birkenhead.

30, Robt. Roberts, Murtalwrn Gwaen y Bala, yn 79 oed.

30, T. Jones, Crydd, Caellwyngrydd; oed 52.

GORPHENAF

1, Grace, merch Robert Lewis, Garneddwen, ger Bethesda, yn 22 oed.

4, yn 28 ml. oed, David Goodman Roberts, argraffydd, Dinbych.

4, H. Thomas, masnachydd, Trefor, sir Flint, yn 52 oǝd.

3, yn 22 ml. oed, W. Thomas, Pentyrch, mab Robert a Catharine Thomas, Berthlwyd.

9, Mrs. Taylor, gweddw y diweddar Simon Taylor, Trinity Hall, Frith, ger Wrecsam.

11, Thomas Griffiths, Rhosllanerchrugog, 62. 11, yn 28 ml. oed, Richard Jones, ysw., Mount Pleasant, Talysarn, ger Caernarfon. Yr oedd yn fab i'r diweddar H. Jones, ysw., Coed Madoc.

12, y Parch. Jas. Bowen, cenhadwr perthynol i'r M. C., yn Earlswood, sir Fynwy. Llafuriodd yn galed am yr amser byr y bu ar y maes cenhadol. Gadawodd dystiolaeth dda ar ei ol

16, yn 1 May st,. Liverpool, priod E. Jones, athraw yr liberian school yn y dref uchod, a chwaer i Mr. Pitman, o Bath, awdwr phonography.

22, yn 61 oed, Cadben Thos. Tiddy, Abergele, diweddar o Pen'rallt, Amlwch.

24, yn 84 oed, Morris Jones, Cwmbiga, ger troed Plinlimon, ac agos i darddle yr Hafren. 24, yn 16 oed, Margaret, merch Thos. Walters, Heolfelen, Waunnarlwydd.

26, yn 68 oed, E. Williams, Corwen.

27, Thos. Williams, tailor & draper, High st., Bangor, yn 29 oed.

27, yn Penrhiwllan, Ceinewydd, Cad. Thomas Davies, o'r scwner Favorite, yn 67 oed.

[graphic][merged small][merged small][merged small]

Duwinyddiaeth.

SANCTEIDDIAD ENW YR ARGLWYDD.

Sancteiddier dy enw.-MATT. 6: 9.

Rhan o Weddi yr Arglwydd yw geiriau y testun. Cynwysa y weddi hon saith o erfyniadau. 1. Sancteiddier dy Enw. 2. Deled dy deyrnas. 3. Gwneler dy ewyllys, megys yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd. 4. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. 5. Maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninau i'n dyledwyr. 6. Nac arwain ni i brofedigaeth. 7. Gwared ni rhag drwg. Y tri erfyniad blaenaf ydynt am bethau perthynol i Dduw, megys gogoniant ei enw, a llwydd ei deyrnas. Dysgir ni yma gan Grist mai dyna ddylai fod flaenaf genym yn ein crefydd ac yn ein gweddiau. Gogoniant a pharch a dyrchafiad yr Anfeidrol, llwyddiant ei achos, ffyniant ei wirionedd, lled-daeniad ei efengyl, a'i derbyniad cyffredinol yn mhob man, ddylai fod yn flaenaf genym; ac ac ol hyny gallwn wrth weddio fyned at ein pethau ein hunain, megys ein cynhaliaeth dymhorol, maddeuant o'n pechodau, diogelwch rhag profedigaethau, &c.

Yr ydym ni ddynion yn greaduriaid hunanol, yn rhai tueddol i dynu atom ein hunain, golygu ein lles ein hunain, digoni'n hangen ein hunain, a boddhau ein chwaeth ein hunain fel y pethau blaenaf; ond dysga Gweddi yr Arglwydd ni yn wahanol, dysga ni i edrych ar fawrhad, gogoniant a pharch enw Duw, a llwyddiant ei waith, fel y pethau blaenaf; ac yna ar ol hyny gallwn edrych ar ein hangenion ein hunain, fel ail bethau. Nid iawn fyddai dywedyd mai hunanoldeb yn Nuw yw ceisio ei ogoniant ei hun yn mlaenaf. gogoniant Duw yn bwysicach i'r bydysawd na dedwyddwch mil-myrdd o'i greaduriaid; ond tra byddont hwy yn ngafael a'r hyn a'i gogonedda ef, y sicrheir eu dedwyddwch hwythau; ac fe fyn Duw amddiffyn ei ogoniant er gorfod amgau lluosog fyrdd o'i greaduriaid dan gadwynau tragywyddol.

Y mae

Y pedwar erfyniad blaenaf yn Ngweddi yr Arglwydd ydynt yn erfyniadau am yr hyn

RHIF. OLL 298.

sydd dda, a'r tri olaf yn erfyniadau am ymwared oddiwrth yr hyn sy' ddrwg. Ei bechodau yw y peth cyntaf y sonia ambell un am dano ar weddi; ond nid felly y dylai fod; enw Duw a'i ogoniant, a llwydd ei waith, a'n hymddybyniad arno, ddylai ddyfod yn gyntaf; ac yna gallwn fyned at ein pechodau. Yn ol i ni yn gyntaf godi Duw yn uchel yn ein gweddi, a chael ein codi yn agos ato trwy hyny, bydd genym lawer gwell mantais i ganfod pechod yn ei liw a'i echryslonrwydd priodol, a llefain yn ffyddiog am ymwared oddiwrtho. Dyrchafu ei feddwl at Dduw, a'i osod i ymwneud yn ddiwyd a phethau daionus, yw y ffordd oreu i ddyn ymgadw rhag pechu; ac os byddwn yn ddiwyd gyda'r hyn a berthyn i ogoniant Duw, a llwydd ei achos, diau na bydd genym gymaint o waith llefain am faddeuant o flaen yr orsedd.

Dysga Gweddi yr Arglwydd ni y dylem fod yn drefnus yn ein gweddiau. Ni feddylir wrth hyn nad yw yr Arglwydd wedi gwrando llawer gweddi annhrefnus. Diau ei fod wedi gwrando llawer gweddiwr fyddai yn cymysgu haner dwsin o bethau mewn llai na hyny o fynudau o flaen yr orsedd; ond ar yr un pryd gwell ganddo weddi drefnus. Y mae Gweddi yr Arglwydd yn gynllun neillduol o weddi drefnus. Un trefnus yw Duw yn ei waith, a dyweda wrthym ninau am wneuthur pob peth yn weddaidd ac mewn trefn. Sylwn ar y testun yn y drefn ganlynol. I. Beth ydym i ddeall wrth enw Duw? II. Beth yw cynwysiad y weddi, Sancteiddier dy Enw? III. Pa hai y dylem weddio y weddi yma?

I. BETH YDYM I DDEALL WRTH ENW Duw? Sonir yn aml yn yr ysgrythyrau am enw Duw, galw ar ei enw, canmol ei enw, &c. Beth olygir wrth enw Duw yn y manau yna? Gwyddom beth sydd i'w ddeall wrth enw dyn. Yr enw sydd yn gwahaniaethu y naill ddyn oddiwrth y llall, nes yw y dyn yn cael ei adnabod wrth ei enw. Byddwn weithiau yn adwaen dyn o ran gwedd ei wyneb a'i ymddangosiad allanol, ond pan ofyno rhywun; "Pwy yw y dyn yna?" rhaid ateb, "Nin

« AnteriorContinua »