Imatges de pàgina
PDF
EPUB

Ar orpheniad y gwaith, yn mhen tua thair blynedd, penodwyd ef yn arolygydd cyffredinol, } ac wedi hyny yn llywydd, y rhan ddwyreiniol o Reilffordd yr Ohio a'r Mississippi.

Wedi toriad allan y gwrthryfel yn 1861, tra yn preswylio yn Cincinnati, appwyntiwyd ef yn gadfridog gan Lywodraethwr Ohio, a phrysurodd i ddysgyblu ac ymgorffoli y milwyr naw mis yn y ddinas ar y pryd. Yn Mai, 1861, ffurfiodd Mr. Lincoln ranbarth milwrol yn y gorllewin, a dewiswyd McClellan i lywyddu yn nhalaethau Ohio, Indiana, ac Illinois.

Ar y 26ain o'r un mis, symudodd y Cadfridog ei fyddin i Virginia Orllewinol, i gyfarfod llu o wrthryfelwyr oeddynt yn difrodi y wlad ac yn dinystrio pob peth o'u blaenau. Ei weithred. gyntaf wedi i'w filwyr gyrhaedd Virginia-a thra ei hunan eto yn nhawelwch Cincinnati -ydoedd cyhoeddi anerchiad at breswylwyr y parth hwnw yn eu sicrheu fod Llywodraeth y Talaethau Unedig yn barod i ymladd, os byddai raid, tros ddiogelwch y sefydliad o gaethiwed negroaidd.

Yn nechreu Mehefin ymladdodd ac enillodd ei filwyr Frwydr Philippi, a gwnaed ef yn gryn wron o'r herwydd. Ar yr 20fed o'r un mis cymerodd feddiant o lywyddiaeth y llu yn bersonol; ac yn mhen tri diwrnod wele gyhoeddiad arall fel yr un y soniasom am dano o'r blaen.

Ar yr 11eg o Orphenaf gorchfygwyd nifer fechan o'r gwrthryfelwyr tan y Milwriad Pegram yn Mrwydr Rich Mountain, ac enillwyd rhai manteision dibwys yn y dyddiau dilynol. Wrth gwrs, erbyn i'r hanes am y gwahanol ysgarmesau hyn ymddangos yn ngholofnau y newyddiaduron, yr oeddynt wedi cyrhaedd maintioli buddugoliaethau gogoneddus a diail ―cymaint ydyw yr ysgrif-bin a'r wasg yn fwy galluog na'r cleddyf-ac yr oedd pawb yn udganu clod llywydd y fyddin a'u henillodd.

Ar yr 21ain o Orphenaf dygwyddodd Brwydr { Bull Run, yr hon fydd yn enwog tros byth o herwydd y rhedeg a gymerodd le ar yr achlys

ur.

Cof gan ein darllenwyr am yr ofn mawr a ddaeth ar bawb, pan oedd ein milwyr yn dianc o faes y gwaed, ac yn gwneud am Washington am y cyntaf. Yr oedd pawb yn crynu, ac ychydig a wyddent pa beth i'w wneud. Yn yr argyfwng yma wele alwad am McClellan i'r brifddinas, a gwnaed ef yn ddioed yn brif gadlywydd Byddin y Potomac.

Yn union ar ol cymeryd meddiant o'r swydd trodd y Cadfridog ei sylw at ail-ymffurfiad ei fyddin, a dechreuodd yn ol ei dystiolaeth ei hun-barotoi at weithrediadau dyfodol. Ar y 4ydd o Awst, 1861, gosododd ei gynlluniau o flaen yr Arlywydd. Gwyr ein darllenwyr pa fath oeddynt y cynlluniau hyn, ac yr ydym oll er ys llawer dydd wedi dysgu trwy brofiad chwerw nad oeddynt y rhai goreu yn y byd.

Ar y laf o Dachwedd, 1861, gwnaed y Cadfridog McClellan yn brif gadlywydd holl fyddinoedd y Talaethau Unedig. Yehydig a wnaeth am hir amser wedi derbyn yr anrhydedd uchel hwn heblaw anfon gorchymynion i'w is-swyddogion i beidio ag archolli teimladau a cholledu y gelyn trwy ymyraeth â'i eiddo dynol. Ar ddechreuad y flwyddyn 1862, fodd bynag, yr oedd y wlad yn dyfod i flino ar ei hir oediad, a derbyniodd ef orchymyn pendant i wneud rhywbeth. Ond yn fuan canfyddwyd fod gwahaniaeth barn rhyngddo ef a Mr. Lincoln, gyda golwg ar y ffordd i gymeryd Richmond. Mynai y Cadfridog fyned ar draws y wlad o Urbana, ar lan ddeheuol y Rappahannock, a mynai yr Arlywydd ffordd Manassas. O'r diwedd, ar ol llawer o ysgrifenu o'r ddwy ochr, cytunwyd ar ffordd Caerfa Monroe. Yn y cyfamser-ar y 9fed o Fawrth-derbyniwyd y newydd fod y gelyn wedi cilio yn ol o Manassas, Centreville, a glanau y Potomac.

Tua diwedd mis Mawrth trosglwyddodd McClellan ei fyddin i Gaerfa Monroe; ac wedi cryn lawer o lythyru at yr Arlywydd a'r Ysgrifenydd Rhyfel, yn cwyno o herwydd lleihad ei fyddin a miloedd o bethau eraill, dechreuodd warchae Yorktown ar yr 17eg o Ebrill. Mai y 4ydd gwaghaodd y gwrthryfelwyr eu gweithiau yn y fan hono, a chymerodd yr Undebwyr feddiant o honynt. Ar yr un dydd dygwyddodd Brwydr Williamsburg, ac ymgiliodd y gelynion yn y nos. Dilynwyd hwy, ac erbyn y 19eg yr oedd pencadlys ein byddin o fewn ugain milltir i Richmond, a dechreuwyd gwarchae y ddinas hono cyn pen hir.

Rhaid cyfaddef fod cryn rwystrau ar ffordd dygiad yn mlaen yr anturiaeth yma. Derbyniasai y Cadfridog orchymyn pendant yr Arlywydd i ymgadw i'r gogledd a'r dwyrain o Richmond, a dinystriasid pob moddion i grocsi y Chickahominy o'r cyfeiriadau hyny. Felly dechreuodd y fydin Undebol adeiladu pontydd, ac mewn canlyniad dechreuodd yr ochr arall adeiladu gweithiau amddiffynol.

Tra yr ydoedd hyn yn myned yn mlaen, yr oedd y Cadlywydd yn galw am adgyfnerthion yn barhaus. Anfonwyd y Cadfridog McDowell i gydweithredu ag ef, ond gydag addysgiadau i beidio a dynoethi Washington. Ond y pryd hwn ymddangosodd yr enwog Stonewall Jackson yn Nyffryn y Shenandoah, a bu raid i McDowell edrych ar ei ol ef. Yn y cyfamser yr oedd y pontydd yn dechreu tynu at orpheniad.

Ar y 23ain o Fai croesodd blaenfyddin y Cadfridog McClellan y Chickahominy. Ar yr 28ain cyrhaeddodd adran y Cadfridog Casey Fair Oaks, tua saith milldir o Richmond. Ar yr 31ain ymosododd y gelyn ar y safle hon, ond gwrthwynebwyd ef yn llwyddiannus gan filwyr dewrion Heintzelman, Keys a Sumner, a'r dydd canlynol erlidiwyd ef o'r maes gyda lladdfa fawr.

Yn y llawenydd mawr a ddilynodd y fuddugoliaeth hon, gobeithiai y wlad yn gryf nad oedd ond dechreuad cyfres o weithrediadau ysblenydd; a'r dysgwyliad cyffredin oedd y gwnai McClellan y defnydd goreu o'r fantais a enillasai. Ond eto, rywfodd, ni ddeuai y newydd fod un symudiad yn cymeryd lle. Yn hytrach na myned i'r maes, dewisai y Cadfridog dreulio yr amser gwerthfawr i bellebru ac ysgrifenu i Washington, gan feio y llifeiriant a galw am ychwanego wyr. Gallwyd ei foddio i ryw raddau trwy chwyddo ei fyddin, ond nid oedd gan y Swyddfa Rhyfel-na neb arall, gallesid credu-un awdurdod ar dueddiadau Natur yn Virginia; ac mor sicr a bod y Cadfridog wedi cyhoeddi ei fwriad i ssmud ar ryw bryd neillduol, byddai y dydd pennodedig yn sicr o ddwyn gydag ef rwystrau anorchfygol.

Fedi, a chiliodd y gelynion i sefyllfa ar Antietam Creek. Yma eto, ar yr 17eg, gorchfygwyd hwy trwy ddewrder di-ildio milwyr Hooker, Meade, Franklin, a Burnside. Collwyd o du yr Undebwyr yn yr ymladdfa hon tua deuddeg mil o wyr, ond gorfodwyd y Deheuwyr i groesi y Potomac i Virginia.

Wedi yr ymgais oruwchnaturiol hon iddo ef, nid hir y bu McClellan cyn dychwelyd i'w hen lwybr o oedi. Yr oedd hyn yn bur anmhleserus i deimlad y wlad, oblegyd yr oedd pawb yn credu-fel y credant eto-nad oedd buddugoliaeth o unrhyw werth os na ddefnyddid yr achlysur i anmharu y gelyn fel nas gallai wneud llawer o niwed wedi hyny. Felly ar y 26ain o Hydref, gorfodwyd y Cadfridog i symud i Warrenton, ac yn mhen tua deuddeg niwrnod cymerodd feddiant o'r lle hwnw. Gallasai malwoden gerdded yn brysurach.

Tua'r 27ain o Fehefin, dechreuwyd gwneud parotoadau i newid safle y fyddin i'r Afon James. Cyn iddo gyrhaeddyd pen ei siwrnai-diolch Afreidiol nodi y gyfres o drychinebau a ddilyn- i ryw ysbryd daionus-ar y 5ed o Dachwedd asant yr ymgais. Wedi saith niwrnod o ym-dangosodd yr Arlywydd ei drugaredd tuag at ladd tost, gorfodwyd ein milwyr i ymgilio i Harrison's Landing, ar ol colli tua phymtheg mil o wyr mewn gwahanol foddau.

yr holl wlad trwy gymeryd oddiarno lywyddiaeth y fyddin. Gorchymynwyd ef i Trenton, New Jersey, dinas a thalaeth enwog am bobl

mewn cwmni pur briodol.

Dyna hanes bywyd milwrol y Cadfridog McClellan.

Ar y 7fed o Orphenaf ysgrifenodd y Cadfridogaraf a phenau copr, lle y treuliodd gryn amser ei lythyr nodedig at yr Arlywydd, yn mha un y ffafria y byd trwy yr argraffwasg â'i olygiadau neillduol ar bynciau y dydd. Pe buasai yn ymladd yn myddin y Gwrthryfelwyr, buasai y farn a amlygir yn y papuryn hwnw yn un eithaf priodol.

Mae llawer iawn o olygiadau yn mhlith pobl pur gymhwys i farnu gyda golwg ar achos ei aflwyddiant. Nis gellir dywedyd nad yw yn feddiannol ar ryw fath o dalent-hwyrach athrylith; ond ymddengys nad yw ei alluoedd yn y maes o'r radd uchaf. Hwyrach hefyd fod rhyw sail i farn Mr. Greeley-mai cynllun McClellan o adferu yr Undeb ydoedd peidio a niwweidio "ein brodyr deheuol" fwy nac a ellid,

ain yn gaethweision iddynt am byth.

Awst y 3ydd, 1862, derbyniodd McClellan orchymyn oddiwrth y Cadfridog Halleck i drosglwyddo ei fyddin i Aquia Creek. Yn lle ufuddhau, dechreuodd yr "ail Napoleon" ymresymu. Yn mhen yr wythnos ymladdodd y Cadfridog Pope Frwydr Cedar Mountain. Addysgwyd McClellan i'w adgyfnerthu; ond ar yr achlysura'u dwyn yn ol i'r Undeb trwy wneud ein hunhwn-fel ar brydiau blaenorol-yr oedd yn bur hwyrfrydig. O'r diwedd galwyd am dano i Alexandria, yr hwn le a gyrhaeddodd yn mhen hir amser. Yma anfonwyd ei fyddin i gynorthwyo eiddo Pope, a gadawyd ef am y tro cyntaf yn y sefyllfa y dylasai erioed fod ynddi-heb un milwr tan ei awdurdod. Ond nid oedd Pope fawr yn well nac ef. Os oedd yn feddiannol ar fwy o awydd i wneud rhywbeth tros ei wlad, yr oedd ei alluoedd yn llai, os gall y fath beth fod yn bosibl. Buan y gorfodwyd ef i droi ei wyneb tua Washington, a'i fyddin yn y fath annhrefn fel y pennodwyd McClellan unwaith eto-ar y laf o Fedi-i'w llywyddu. Cenfydd ein darllenwyr oddiwrth hyn pa mor ddychrynedig ac anmhwyllus ydoedd pawb ar y pryd.

Mewn llai o amser nac y gwnaethai unrhyw beth o'r blaen, aeth y Cadlywydd newydd i Virginia Orllewinol i geisio y Gwrthryfelwyr. Yr oeddynt erbyn hyn yn Maryland, a chyfarfyddodd y byddinoedd ger South Mountain. Ymladdwyd brwydr yn y fan hono ar y 4ydd o

Un peth yn ychwaneg :---Sonir cryn lawer yn y dyddiau hyn am wneud gwrthrych ein sylw yn ymgeisydd am yr Arlywyddiaeth, a digon tebyg y derbynia gymaint o bleidleisiau yn Nghynadledd Chicago ag un dyn arall. Haera ei edmygwyr nad oes yn y wlad hon-druan o'r wlad!-ei ail fel milwr nac fel gwleidiadwr. Yr ydym wedi cael prawf arno yn y maes, ac ystyriwn fod y rhan flaenaf o'r haeriad wedi ei wrthbrofi ganddo ef ei hun. Am y rhan ddiweddaf: nid ydym yn cofio i ni erioed gael un prawf o'i hawl i'r cymeriad heblaw traddodiad araeth neu ddwy-ysgrifenedig gan rywun arall, efallai-ar bynciau o'r fath. Hwyrach fod hyny yn ddigon i'w wneud y dyn mwyaf galluog yn y wlad yn ngolwg rhai, ond y mae eu llygaid hwy wedi eu ffurfio yn hollol wahanol i'r eiddom ni.

Haeriad arall o eiddo cyfeillion McClellan ydyw, ei fod yn bleidiwr gwresog a chydwybodol i ryddid yn mhob modd. Nid ydym ni

yn perffaith ddeall pa bryd na thrwy ba ryw foddion yr enynwyd y fath gariad yn mynwesau y gwyr hyn at yr egwyddor o ryddid. Y maent wedi bod yn bur enwog yn yr amser a aeth heibio, mewn cysylltiad a'u meistriaid Deheuol, am eu triniaeth led anfoesgar-a dywedyd y lleiaf-o bawb a feiddient gymeryd y rhyddid i lefaru eu barn ar bynciau neillduol. Ond, wrth gwrs, mae gan bob dyn hawl i edifarhau ac i ddechreu bywyd newydd ; ac os yw y fath gyfnewidiad dymunol wedi cymeryd lle mewn gwirionedd yn y personau a nodasom, nid oes neb a lawenha o'r herwydd yn fwy na ni. Ond, rywfodd, nis gallwn ganfod pa hawl neillduol sydd gan eilun diweddaf y "Great Unwashed" i'r cyfenwad o❝gyfaill rhyddid.” Fel yr ydym wedi dangos yn barod, y mae diogelwch y "sefydliad neillduol" yn un o'r erthyglau cyntaf a mwyaf pwysig yn ei gred, ac ystyria ryddhad y caethion yn un o'r trychinebau mwyaf galarus a allai ddygwydd. Rhywbeth yn bur debyg hefyd ydyw y serch a deimla at yr egwyddorion o ryddid ymadrodd a rhyddid y wasg. Er efallai na fyn y rhai a'u pleidiant gofio y ffaith, eto y mae yn wirionedd anwadadwy iddo fwy nac unwaith orchymyn cymeryd meddiant milwrol o swyddfa newyddiadur a rhwystro ei gyhoeddiad, heb fod ganddo un gallu cyfreithlawn i wneud hyny. Ar fwy nac un amgylchiad hefyd, gwelodd yn dda geisio defnyddio yr hyn a dybiai ei briodol awdurdod fel prif gadlywydd er daioni i'r rhai a ystyriai yn gyfeillion personol a pholiticaidd, ac er niwed i eraill.

Haeriad arall o eiddo rhai pobl anwybodus { ydyw, fod y Cadfridog McClellan, tra yn llywyddu y fyddin ac wedi hyny, wedi dioddef yr erledigaeth dostaf a mwyaf di-ildio oddiar ddwylaw Mr. Lincoln, Mr. Stanton, ac, yn wir holl aelodau y blaid Werinol, a hyny yn fwyaf neillduol o herwydd ei wladgarwch a'i alluoedd. Nid ydym yn gwybod am un ffaith a brofa wirionedd yr haeriad uchod. Gwir i'r "merthyr" hwn gael ei oddef yn y swydd uchaf yn y fyddin am fisoedd ar ol i'r wlad flino ar yr aflwyddiant a'i dilynai yn mhob man; a gwir hefyd ei fod heddyw yn derbyn ei dâl fel Cadfridog yn myddin yr Undeb heb gyflawni y gwasanaeth lleiaf, pan y gwyr pawb fod gan y Swyddfa Rhyfel awdurdod gyfreithlon i ddwyn ei gommission oddiarno. Os "erledigaeth" yw hynyna, y mae geiriaduron newyddion yn bur angenrheidiol. Mewn perthynas i'r ystori am araeth West Point a'i chanlyniadau-mae hono wedi ei gwneud mor gelwyddog fel nad oes yr un aelod lleiaf o honi yn aros erbyn hyn, ac ni feddyliasai neb ond rhai ar ddarfod am danynt am y fath beth.

Y cwbl a allwn ddywedyd am sefyllfa bresenol y Cadfridog yw, ei bod yn bur annymunol.

Ymddengys ei fod er ys llawer dydd wedi gwerthu ei hun, enaid, gorff, a botasau, i Fernando Wood a blaenoriaid eraill y blaid Ddemocrataidd―am y gobaith gwan o'r Gadair Lywyddol. Ac yn wir, un o'r pethau digrifaf a welsom erioed ydyw y drafferth y mae ynddi yn wastadol i geisio swnio eu shilLcleth. Y maent hwy wedi ymarfer cymaint a gwaith Jim Crow, nes y maent erlyn hyn yn ei wneud yn bur hwylus. O ymraniad i undeb, o heddwch i ryfel, o gaethiwed i ryddid, ac yn ol eilwaith a thrachefn-nid yw hyn oll ond chwareu plant iddynt hwy; ond i un anhyfarwydd a stategy ond mewn pethau milwrol, y mae yn gamp anhawdd iawn ei chyflawni.

-Y mae ein "munud" olaf y tro hwn wrth law, ac yma rhaid i ni adael y Cadfridog George Brinton McClellan, gyda'i holl weithredoedd a'i holl obeithion. Yn ei fywyd cyhoeddus y mae wedi bod yn ymgnawdoliad o'r gair "humbug," ac yn ei ddysgwyliadau bydd yn debyg o deimlo trwy brofiad ystyr chwerw y gair hwnw. Gobeithiwn ni y derbynia gan ei gydwladwyr y drugaredd fwyaf iddo ef-anghof tragywyddol; ac ar gareg ei fedd yr ysgrifen fwyaf priodol fyddai: 'Died of Strategy and Presidential aspirations."

[ocr errors]

CYFARCHIAD AT Y PARCH. W. D.

WILLIAMS.

Derbyniais y llythyr canlynol oddiwrth fy hoff gyfaill y Parch. David Price, Newark, Ohio, ar ol marwolaeth fy anwyl a'm hunig fab. Dymunaf iddo gael ci argraffu yn y CENHADWR, ai fy mod yn credu y dichon iddo beri cysur a dyddanwch i lawer eraill, megys ag y bu i minau a'm hanwyl briod a'm dwy ferch, yn ein mawr drallod. Deerfield. W. D. WILLIAMS. Gorph. 20, 1864.

At y Parch. W. D. Williams:

Fy awwyl Fraud trallodus,—Daeth eich llythyr torcalonus a galarus, yn cynwys hysbysiad am farwolaeth eich anwyl a'ch unig fab, i'm llaw yn ddiogel. Yr oedd y newydd trwm wedi cyraedd yma, (ataf fi a'ch brawd yn hwyr nos Sadwrn, mewn llythyr oddiwrth Mr. Owen, myfyriwr yn Ngholeg Granville, yr hwn sydd yn awr ar ymweliad yn Utica,) ac nis gallaf ddarlunio i chwi y teimladau a gynyrchodd y fath newydd anisgwyliadwy yn fy mynwes. Yr oeddwn yn penderfynu ysgrifenu atoch, cyn derbyn eich llythyr, ond nis gwyddwn yn y byd pa fodd i ddechreu na pha beth i'w ddywedyd. Gwyddwn eich bod chwi a'ch anwyl briod, mewn teimladau dolurus y tu hwnt i ddisgrifiad, a bron mewn agwedd anghymwys i sylwi ar na llythyr na chynghor, ond y mae deall fod genych ganoedd o gyfeillion yn gallu cydymdeimlo a

[ocr errors]

CYFARCHLAD AT Y PARCH. W. D. WILLIAMS.

273

yn ddyn, se yn wadarwr? a mwy na hyny oni chow sochi sedia cody en izdu ci fod yn Gristion, ac yn etifedd bywy trawyddol; a bod marw yn elw iddo; Faint bynag yw eich galar oblegyd ei golli, y mae cysur cryfach yn gyferbyniol am eich bod wedi ei gael.

Nid ydyw eich profedigaeth yn un ddieithr ac anghyffredin. Pe buasech ar eich pen eich hun yn eich trallod, a bod yr Arglwydd wedi ymweled a chwi mewn ffordd nad ymwelodd

y mae.

chwi, yn esinwythau ychydig ar eich baich trwm o drallod. Y mae distawrwydd weithiau yn dangos mwy o gydymdeimlad na llefaru, a phan laferir wrth y trallodedig, rhaid llefaru pethau cymwys ac yn cyfodi oddiar brofiad a chariad. Pan ymwelodd cyfeillion Job ag ef yn ei gystudd a'i drallod, eisteddasant gydag ef ar y ddaear, am saith niwrnod heb ddywedyd dim wrth eu gilydd nac wrtho yntau "Canys gwelent fyned o'i ddolur ef yn fawr iawn." Byddaf yn ceisio cofio pan yn cyng-felly a neb o'ch cydnabod, buasai rhyw reswm hori y trallodedig, mai nid diffyg gwybod yw i chwi ymollwng ac anobeithio, ond nid felly ei ddiffyg ef ond diffyg nerth i ymgynal o dan Y mae lluoedd o rieni wedi colli eu ei faich, a diffyg gallu i ddyfod allan i gael hunig fab heblaw chwi. Paham y gallwn ni anadl awyr y gwyr efe, a fyddai yn iechyd i'w ddisgwyl ymdaro yn well na'n cym'dogion? enaid. Gellir gofyn i'r sawl sydd yn tybied hyn "Pwy wyt ti yn dy wneuthnr dy hun? a'i mwy wyt ti na'n Tad Jacob?" Y mae natur heb ei sancteiddio yn barod i wrthod y cysur hwn, a dywedyd "Nid ydyw fod eraill yn dioddef yn rhoddi un nerth i mi o dan fy maich." Gwir, ond y mae yn nerth i ymdawelu wrth weled uniondeb goruchwiliaethau y nef, ac nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb. Y mae gair Duw yn rhoddi yr ystyriaeth hon yn ddefnydd diddanweh. 1 Pedr 4: 12. Gellir gofyn i'r sawl sydd yn ei wrthod "Ai bychan genyt ti ddiddanch Duro?"

Dywedwch yn eich llythyr "Anwyl Fraid, gweddiwch trosom ni, ac os gelluch rhoddwch ryw air o gysur, yn y dydd trallod hun.” Gallaf eich sicrhau fy mod yn ymdrechu gwneud y cyntaf, sef gweddio trosoch. Os ydwyf yn gwybod dim am neshau at Dduw, y mae eich achos genyf yn aml wrth orsedd gras. Mewn cynghorion a defnyddiau cysur, nis gallaf ddywedyd dim nad ydych yn gwybod am danynt; ond gallaf ddwyn ar gófi chwi, ychydig nodiadau a allent fod yn gynhaliaeth meddwl i chwi, ond i chwi eu gosod at eich ystyriaeth.

[ocr errors]

Y mae llawer iawn o dynerwch Dwyfol yn gysylltiedig a'ch profedigaeth. Diau eich bod wedi sylwi ar hyn. Gallasai farw trwy archoll cleddyf y gelynion a chael ei gladdu heb arch nac amdo yn nghorsydd lleiding Virginia. Gallasai farw, o newyn yn ngharchar y teyrnfradwyr gwaedlyd neu mewn pabell oer, dan yr enw meddygdy, heb gâr na chyfaill i wein

Mae yn gysur i chwi gofio fod y fath un a David eich mab wedi bod yn eiddo i chwi. Nid llawer sydd yn gallu sugno cysur o'r ffynon hon, ond yr achos yw am nad ydynt yn ei chanfod. Dywedodd un, wedi colli trwy farwolaeth un oedd yn anwyl iawn ganddo, “O na buasai heb fod erioed neu na buasai heb farw byth." Nid ydyw yr iaith hon yn deilwng i Gristion sydd yn cydnabod llywodr-yddu iddo, dàl ei ben, na sy chu oerchwys aeth Duw, a pharhad bodolaeth dyn yn y byd marwolaeth oddiar ei rudd. Ond nid felly y a ddaw. Y mae yn wir fod colli mab, anwyl bu. Bu farw ar obenydd ac nid ar faes y fab, mab wedi dyfod i oedran cyfaill, ac unig gwaed. Bu farw gartref. Bu gofal tad yn fab, yn brofedigaeth chwerwach nag y gwyr ei wilio, a dwylaw tyner mam yn gweini iddo neb am dani ond y profiadol, ond er hyny y yn ei frwydr fawr à brenin dychryniadau. mae yr ystyriaeth ein bod wedi bod unwaith Gwyddoch pale y mae ei fedd, a ehynesodd yn feddianol ar y fath un yn destyn cysur. ei fynediad yno, y llanerch, lle yr ydych Y mae yn gysur i mi gofio fy mod yn dad i chwithau yn disgwyl cael gorphwysfa i'ch PAMELA fy merch fechan a gladdwyd wrth corph luddedig yn niwedd y daith. Y mae ystlys eich meibion chwi yn mynwent Deer- yn wir mai efe oedd eich unig fab, ond gellwch field, er nad ydoedd wedi cyraedd ei thair gantod yn fynych "unig fab ei fam a hono blwydd oed, pa faint mwy y dylech chwi yn weddw” yn cael ei gludo i'r bedd. A ymgysuro, wrth feddwl fod genych unwaith mwy na hyn oll, y mae lle i ofni fod miloedd David yn fab? Onid ydyw yn well genych ei o wyr ieuaine ein gwlad wedi marw y fiwyddfod unwaith yn eich meddiant na phe buasai yn hon, heb obaith ganddynt ac heb Dduw heb fod erioed? Mi a wn fod yn well genych. yn y byd, ond y mae genych chwi gysur cryf Oni chawsoch yr anrhydedd o'i fagu, gweddio a hyder ei fod ef wedi huno yn yr lesu a ardrosto, a'i ddwyn i fynu yn ofn yr Arglwydd? { ddelodd yn ei fywyd, a'i fod wedi ei gael yn Oni welsoch chwi y baban bychan wedi tyfu Waredwr ffyddlawn yn awr marwolaeth.

[ocr errors]
[blocks in formation]

Bu farw heb lychwino ei gymeriad na gwaradwyddo ei deulu. Gallasai droseddu cyfraith ei wlad a marw mewn cadwynau, neu dreulio ei oes yn y cost dy anobeithiol. Gwn am rai gweinidogion yr efengyl a gyfarfyddodd a phethau felly oddiwrth eu plant. Bu gorfod iddynt ostwng eu pennau o`ʼn herwydd yn y byd, a syrthio mewn goldisu o'u herwydd yn anamserol i'r bedd. Nid oes gwahaniaeth rhwng plant neb a'u gilydd, ond a wnaeth rhagluniaeth a gras. Cawsoch chwi eich gwaredu oddiwrth yr holl drilled'on hyn. Nid oedd neb yn nghylch ci arabyddiaeth yn cael ei garu yn fwy na David, yr oedd diniweidrwydd yn yur' letledig yn ei natur. Cadwodd lwybr glan wrth ymgadw yn ol gair Duw. Ni chlywir gair drwg oddiwrth un am dano byth. Ymrestrodd yn wirfoddol i fyddin ei wlad, a chollodd ei iechyd wrth amddiffyn rhyddid a chyflawnder, a gwasanaethodd, nid yn unig ei genedlaeth ei hun ond cenedlaethau lawer sydd cto heb ddyfod i fodolaeth.

Ni ddaw yn ei ol mwyach ac ni charai ddyfod pe canindheid iddo. Dymunaf i chwi gael nerth i ddilyn ymddygiad brenin Israel, wedi marw 'r bachigen, yndaweld, ymwroli, addoli, a dywedyd mewn pwyll a difrifoldeb

[ocr errors]

Myfi a aj ato efcond ni ddychwel fe ataji."

Yr oedd genyf y teimladan anwylaf tuag at eich anwyl fab a chwi a wyddoch fod ganddo yntau deimladan cyffelyb tuag ataf finau. Y noswaith yr ymadewais gyda'in teulu o Utica, Hydref 3, 1863, yr oedd ef yn mysg ein cyfeillion lluosog yn ein hebrwng i safle y rheilffordd, ac efe oedd y diweddaf un a larweliodd a ni wedi. i'r gerbydres fywiogi i gychwyn. Cefais inau y fraint o dreulio y rhan fwyaf o'r diwrnod y cychwynodd yntau i'r fyddin gydag ef a chwithau sef Rragfyr 22, 1864. Brwydr fawr fu rhyngddo a'i deimladau y diwrnod hwnw, ond gorchfygodd hwynt, yr hyn oedd yn brawf o gymwysder meddwl i wynebu brwydrau ei wlad. Ysgrifenodd lythyrau teimladau a chrefyddol ataf o'r Fyddin ac ysgrifenais inau droion ato yntau ond y mae yr ohebiaeth wedi darfod am byth. Teimlais awydd i gyfansoddi Galargan i gofio am dano, ond yr ydwyf yn fyr o anser a hwyl i gyfansoddi dim sydd deilwng ar ol y fath gyfaill anghydmarol. Nid oes genyf ond diweddu y llythyr hwn gyda y llinellau canlynol,

Amhenol y'ch a'i marw wnaeth
Dychmygwch glywed swn ei droed,
Yn d'od i'r ty rol bod ar daith,
Mor inch a siriol ne erioed,

A gwn y gwelwch lawer yn y dref
Rur fath o'r bron, neu 'n debyg iddo ef.

Pan wrth y gwely lle bu 'n glaf
Yn dioddef loesau mawr diri'
A chwithau yn penlinio i lawr,
Mewn gweddi daer a'ch dagrau 'n lli'
Prin gellwch goelio, nad yw yno 'n awr,
Neu wedi newid lle i wely 'r llawr.

Pan glywoch lais o gylch y ty,

Dychyinyg dd'wed, llais David yw,"
Wrth wel'd ei ddillad ar yr hoel
Meddyliwch fod eich mab yn fyw
Dirdynir felly, deimlad tad a nam

Ond nid rhyw orchwyl mawr yw dwey'd paham.
Ond amser wisga 'r teimlad hwn
A synwyr dd'wed ei fod yn ffol
Mae 'ch anwyl fab mewn tawel fedd
Ae ni ddaw adref byth yn ol;

A gobaith dd'wed, "mae 'i enaid eto 'n fyw,
'Nawr yn y nef, mor làn ac angel Duw."

Fy hoff gyfeillion, cym'rweh bwyll
Ni chollwyd ef, yn mlaen y mae
Cyrhaeddodd wlad dedwyddwch llawn
Lie nad oes rhyfel, poen na gwae,
Cewch gwrdd ag ef ar fyr tel teulu 'n nghyd
Daw 'r galar du, yn ganu oll i gyd.

[blocks in formation]

AT Y CADET J. E. GRIFFITHS.

Newark, Ohio, Gorph. 27, 1864. Fy anwyl Gyfaill,-Meddyliais na byddai yn annerbyniol genych dderbyn llythyr oddiwrth un sydd yn gyfaill ffyddlawn i'ch tad er's llawer o flynyddau cyn eich geni chwi; ac sydd hefyd oddiar amryw ystyriaethau yn eich caru chwithau, yn gweddio dros eich llwyddiant, ac yn gwir ddymuno eich cysur a'ch dedwyddwch yn y ddau fyd. Yr ydwyf yn teimlo yn llawen am eich bod wedi ymrestru i Fyddin eich gwlad ac wedi ymorchestu, i gyraedd y fath dderchafiad a hynodrwydd. Yr ydych wedi bod yn destyn syndod gan lawer, oblegid eich dewrder a'ch Ilwyddiant ar faes y gwaed. Cawsoch gyfleustra i enwogi ein cenedl ni, a da genyf ddeall fod llawer eraill o'n bechgyn dewrion wedi bod yn anrhydedd iddi. Y mae cylch helaeth o'ch cydnabyddiaeth yn cydlawenhau oblegyd eich dderchafiad i brif athrofa filwriaethol y Talaethau Unedig, a hyny 'n fwy am eich teilyngdod personol yn y Fyddin a ddarfu eich derchafu, ac nid uchder amgylchiadau tymhorol na phlaid boliticaidd a roddodd i chwi yr anrhydedd. Cyraeddasoch y sefyllfa anrhydeddus yr ydych ynddi, ar hyd ffordd arw a pheryglus wedi ei chochi â gwaed.

Y mae rhai yn llefaru yn grefyddol iawn (?) yn erbyn y fath sefydliad a'r hwn yr ydych chwi ynddo. Siaradant yn uchel yn erbyn rhyfel, ond chwythant wenwyn aspaidd i amddifyn gwrthryfel ar yr un pryd. Soniant yn fynych am yr hysbysiad gobeithiol hwnw, "ac ni ddysgant ryfel mwyach;" ond ni soniant byth am y cyfarwyddyd ysgrythyrol, “ymddarostynged pob enaid i'r awdurdodau goruchel.” A pha faint bynag o ormes a thraws awdurd d sydd yn perthyn i lywodraethau Pendefigol

« AnteriorContinua »