Hyd a allo, gosod gwarchae ar Richmond a wna yn awr, gan gadarnhau ei wersylloedd. Y Parch. J. D. Jones, (Eryr Meirion) a ordein. iwyd gan y Cynulleidfawyr Americanaidd yn Brooklyn ychydig wythnosau yn ol-mae yn gaplan yn awr yn y gatrawd 117eg, N. Y. Damwain angeuol yn Trenton, N. Y.-Tafl wyd y pentref hwn i ddychryn disymwth Gorph 13, trwy foddiad Rowland, bachgen 9 mlwydd oed i Thomas a Margaret Jones. Cymerodd yr amgylchiad le trwy iddo ef a phedwar o fechgyn llai nag ef fyn'd a gadael yr ysgol a myn'd at yr afon i ymdrochi, ac aeth ef i le rhy ddwfn iddo, a'r canlyniad fu iddo foddi, trwy nas gallai efe na yr un o'r lleill nofio. Y cyntaf ddaeth yno oedd ei dad, yr hwn a'i dygodd allan yn y fan, ond yr oedd wedi bod yn y dwfr tua haner awr. Haws o lawer yw dychymygu teimladau y rhieni na'u darlunio. Yr Arglwydd a'u dyddano, a grymus Dduw Jacob a'u cynalio, gan mai ofer yw ymwared dyn. Tranoeth hebryngwyd ei weddillion i dy ei hir gartref, a gweinyddwyd gan yr ysgrifenyd4.-R. F. JONES. Eto yn Minnesota.-Mehefin 25, yn y prydnawn, yn Butternut Valley, aeth dau fab i Mr. Crisp, (un yn 10 a'r llall yn 12 mlwydd oed) a John, mab Mr. Morris Lewis, 11 oed, i afon Minnesota i ymdrochi. Boddodd y tri! Tarawyd yr ardal â syndod a galar. Teimladau y rhieni yn y fath amgylchiad nis gellir eu darlunio.-J. JENKINS. Ytywydd a'r cnydau.-Y cwyn sydd yn dyfod atom o bob rhan o'r wlad ydyw fod y tywydd wedi bod yn anarferol o ran sychder yr wythnosau a'r misoedd diweddaf-y borfa yn brin a'r anifeiliaid yn brefu am ddwfr ac yn anhawdd ei gael iddynt mewn llawer ardal. Eto ar y cyfan, nid yw y cnydau mor wael ag a allesid ddysgwyl dan y fath amgylchiadauy gwenith a rhyg y gauaf sydd yn lled dda-y gwair sydd yn weddol mewn llawer man—yn ysgafn mewn manau eraill-a'r Indrawn yn argoeli na bydd yn ysgafn iawn. Trugarog a graslawn yw yr Arglwydd-mewn barn cofio trugaredd a wna. Dyfais newydd ddefnyddiol.-Golygydd yr Utica Morning Herald, yn ei Bapyr buddiol a chlodfawr, Gorph. 27, a ddywed:-Mr. Owen Williams o Governeur, Sir St. Lawrence, N. Y., sydd ddyfeisydd a meddiannydd breintlythyr ar ddyfais newydd o gauadlen (window blind), yr hwn sydd debyg o ddyfod i ddefnyddiad cyffredin. Gyda chranc bychan a chnwb yn cael ei sicrhau o'r tufewn i'r ffenestr agorir neu ceuir y gaeadlen, yn gwbl neu mewn rhan, a saif felly yn y ffurf a ddymunir. Cyffyrddiad ysgafn â'r cranc bychan a effeithia hefyd ar ystyllod y gaeadlen i ollwng mwy neu lai o oleuni i'r ystafell, trwy eu codi neu eu gostwng. Mae y ddyfais yn syml a chelfyddgar ac yn ateb i'r hyn y teimlid ei eisiau yn fawr yn y peth bach ond buddiol hwn. Gellir dweyd am y ddyfais hon fel am y rhan fwyaf o ddyfeisiau cyffelybrhyfedd na buasai rhyw un wedi ei chanfod yn gynt. Derbyniodd Mr. Williams ei freintlythyr yn Ebrill diweddaf, ac yr oedd yn dangos ei ddyfais newydd yn Utica y dydd o'r blaen. Meddyliem na bydd un barnydd deallus yn amheu ei defnyddioldeb a'i dymunoldeb. Marwolaeth yr Henadur Cantwell.-Yr Henadur Cantwell a fu farw yn dra sydyn yn Utica ddydd Mawrth, Gorph. 26, o'r parlys mud. Brodor o'r Iwerddon ydoedd, ond yn cymeryd dyddordeb mawr yn amgylchiadau ei wlad fabwysiedig. Bu am flynyddau yn Henadur yn y Ward gyntaf yn Utica. Perthynai dros amser i'r blaid Whigaidd-wedi hyny i'r un Werinol. Yr oedd yn ddinasydd cyfrifol, a'i farwolaeth ddi-rybudd a effeithia yn ddwys ar y cyhoedd. Llin a chotum.-Mae y Felin Lin a Chotwm yn Brockport, N. Y., yn awr yn rhedeg nos a dydd-mwy o archebion yn cael eu derbyn nag ellir yn hawdd eu hateb. Pum can mil yn cael eu galu allan eto.-Mae yr alwad am 500,000 eto o filwyr i'r maes yn ein taro â dwysder mawr. Rhoddir 50 o ddyddiau, yn ol Deddf y Gydgynghorfa, i ymofyn am wirfoddolion, a bydd y tymor hwn yn terfynu y 5ed o Fedi, pryd y bydd yn rhaid defnyddio y Drafft, os na bydd y nifer priodol wedi eu cael trwy y drefn o alw am wirfoddolion. MARWOLAETHAU YN NGHYMRU. MEHEFIN 4, Thomas Parry Croesaubach, ger Croesoswallt, a brawd i'r diweddar Henry Parry, Llanrhaiadr yn Mochnant. 6, Mr. John Thomas, Ty newydd, Llanymawddwy, yn 18 ml. oed. 6, wedi byr gystudd, yn 25 oed, Mr. Richard John Williams, Tyddyn canol, Llanllechid. 7, yn 97 oed, Mrs. Mary Lewis, Pont-y-wal-ddu, ger Castellnedd. Yr oedd yn un o'r aelodau hynaf gan yr Annibynwyr yn Soar. 8, Mr. Evan Jones, Ty capel, Pontmorlais, Merthyr Tydfil, yn 100 ml. oed. 9, o'r darfodedigaeth, yn 18 oed, Mr. Benjamin Jones, Tan y foel ger Bethesda. 11, yn 79 oed, Mary, priod W. Hughes, Ty'n y Coed, ger Bethesda. 12, yn 14 oed, Margaret, merch Wm. Roberts, Pen y bont, ger Bethesda (gynt o Giltwllan, Llanllechid). 13, Edmund Thomas, Cwmafon, wedi 7 mis o gystudd o'r asthma. 15, Mr. Richad Hughes, Ffactri, Llanllechid, Arfon. 16, o'r darfodedigaeth, yn 19 oed, Margaret, merch Mr. Robert Jones, Llidiart y gwenyn, ger Bethesda. 16, yn Bryneiriol, Môn, yn 32 oed, Mr. Sam- } uel Prytherch James, mab y Parch. D. James, Rhosymeirch, Mon. 16, Thomas Evans, o'r Commins, plwyf Trefeglwys, yn 93 oed. 16, ar enedigaeth efeilliaid, priod W. Lewis, yr Efail Bach, ger Bethesda, Arfon. 19, o'r scarlet fever, yn 42 oed, Grace. priod Evan Griffiths, Llidiart y gwenyn, ger Bethesda. 10, y Parch. J. R. Chambers, gweinidog y Wesleyaid yn Llandysul, Ceredigion, ar ol hir gystudd. 12, yn 64 oed, Mr. Robert Lloyd, Ty nant, Bala. 19, Mr. Morgan Morgans, Llanddewibrefi, yn 60 ml. oed. 14, ar ol hir gystudd, yn 74 ml. oed, Mr. John Thomas, amaethwr, Pyllauduon, ger Rhymni. PERERIN-GAN. 25, Mrs. Gaenor Williams, Clwt-y-bel, Llan dinorwig, yn 72 ml. oed. Mam i'r Parch. Wm Rowlands, Ebenezer. 27, yn 22 oed, o'r darfodedigaeth, Mr. William Hughes, mab ieuengaf Mr. Edward Hughes, hatter, Stryt Henllan, Dinbych. 21, Mr. George Jones, Winsor, Liverpool, yr hwn oedd yn aelod ffyddlawn gyda'r Annibynwyr yn nghapel Salem. 29, Mrs. Jones, Tanllan, Llanfihangel, sir Drefaldwyn. GORPHENAF 1, yn 70 ml. oed, Mr. Robert Roberts, Ochr y foel, Dyserth. 2, o'r darfodedigaeth, yn 17 oed, Margaret, merch Mr. David Jones, Llandefeiliog. 3, Mr. William. Thomas, C. M., Cymmer, ger Pontypridd, yn 22 ml. oed. Peroriaeth. M. B. C. Buddugol yn Eisteddfod Mineral Ridge, Ohio, Nadolig 1863. Gan "YMDEITHYDD,"-Shadrach Thomas, SOPRANO. Y CENHADWR AMERICANAIDD. CYF. 25, RHIF. 9. MEDI, 1864. Buchdraithodaeth. COFIANT Y PARCH. L. D. HOWELL, UTICA. Hen arferiad addas a buddiol iawn ydyw cadw mewn coffadwriaeth bersonau a dreuliasant eu hoes ar lwybrau rhinwedd a defnyddioldeb; canys y mae hyn yn cynwys esiampl i'r byw, cof-golofn i'r marw, ac yn foddion i ddangos goludoedd trefn gras. Ganwyd gwrthddrych y cofiant hwn Ebrill 5 yn y flwyddyn 1812. Ei rieni oeddynt David a Jane Howell, Tymawr, plwyf LlanuwchHlyn, G. C. Ac fel y cyfryw efe a gafodd ei ddwyn i fyny mewn teulu cwbl grefyddol, cafodd addysgiadau da yn moreu ei ddyddiau, ac yr oedd yn dechreu ei oes ar gyfnod neillduol o ymchwiliadol i bynciau athrawiaethol gyda golwg ar eu dylanwad ymarferol, yr hyn yn ddiamheu a fu yn foddion i ddenu ei feddwl i dalu priodol sylw ar bethau Duw pan yn ieuanc. Dechreuodd fyned i'r gyfeillach grefyddol yn Llanuwchllyn, ond cyn iddo gael ei dderbyn yn gyflawn aelod, daeth ef a'i anwyl fam ac eraill o'r teulu drosodd i'r wlad hon. Bu hyn yn y flwyddyn 1832, ac ymsefydlodd ef yma yn Utica yn mysg amryw o'i hen gydnabyddiaeth, a phan gafodd gyfleusdra ymunodd â'r gyfeillach eglwysig, a chyn diwedd y flwyddyn hono cafodd ef a'r diweddar John W. Jones, Floyd, eu derbyn ar yr un Sabboth i gyflawn gymundeb yr eglwys drwy dderbyniad deheulaw cymdeithas gan y Dr. Everett, pan oedd ysgrifenydd y llinellau hyn wedi derbyn galwad gan yr eglwys ond heb ei ordeinio. Heb fod yn faith cafwyd boddlonrwydd fod y brawd L. D. Howell yn ddyn ieuanc ag oedd yn debyg o fyned rhag ei flaen mewn crefydd. Dechreuodd ef ac eraill o'i gyfoedion gadw cyfarfodydd gweddi ar y Sabboth am bump o'r gloch y boreu yn yr haf, am y byddai cwrdd gweddi yr eglwys am naw, ac nad oedd yr amser hwnw un adeg arall mor gyfleus. Gwnai ei oreu hefyd gyda yr ysgol Sabbothol, a dewiswyd ef yn un o'r “Building RIIF. OLL 297. Committee" i gynorthwyo yn nygiad yn mlaen y gorchwyl o adeiladu yr addoldy presenol ar Whitesboro Street. Daeth yn fuan yn mlaen i fod yn flaenor yn y canu yn absenoldeb yr hen frawd Edward Roberts, yr hwn oedd a'i lais fel y gloch arian. Ac yn mhen ychydig flynyddoedd dewiswyd ef i fod yn un o ddiaconiaid yr eglwys, yr hon swydd a wasanaethodd hyd oni chymerwyd i fyny ei amser gan bregethu. Yn y flwyddyn 1836 ymunodd mewn priodas â Miss Lydia John, merch Mr. Simon John, tyddynwr yn Marcy yn agos i Utica, a bu hi yn gymborth mawr iddo ddringo i'r lan i sefyllfa gysurus yn y byd, yn gryfhad i'w freich iau yn ei lafur gyda chrefydd, ac yn ymgeledd gymhwys iddo hyd lan yr Iorddonen. Tuag ugain mlynedd yn ol cafodd anogaeth i arferyd ei ddawn fel pregethwr cynorthwyol: yn yr hyn fel mewn pethau eraill y daeth yn mlaen yn raddol nes bod yn wir ddefnyddiol. Cafodd gynyg mewn amrywiol fanau, yn enwedig pan oedd ef a'i briod allan yn y Gorllewin, ar fod yn weinidog sefydlog; ond ar y cyfryw amser nid oedd modd iddo symud o Utica heb gwbl ddyrysu ei amgylchiadau. Ar y cyfryw amser daeth ef ac Eglwys Middle Granville i adnabyddiaeth â'u gilydd, a chymerodd eu gofal ar yr amod iddo fod mor aml ag y medrai yn eu plith; a chan fod y daith gyda yr agergerbydau mor hwylus byddai yn gallu myned o gartref tua chanol dydd dydd Sadwrn a bod gyda phobl ei ofal am wyth yn yr hwyr. Bu yn ffyddlon iawn iddynt, a gwnaeth ran bugail da â hwynt, a hwythau hefyd yn bobl weithgar ac effro iawn, ac felly bu eu perthynas a'u gilydd yn hynod o ddedwydd, ac ni bu eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd, a bydd ei gynghorion, ei ffyddlondeb a'i ymdrech mewn coffadwriaeth parchus gan hen ac ifaine am hir amser yn yr ardal hono. Pan na fyddai y brawd Howells ffwrdd yn Middle Granville, byddai yn myned fynychaf i Floyd, a bu yn dderbyniol a defnyddiol iawn yno hefyd, ac ni fyddai gartref yn Utica ond pur anaml ar y Sabbothau, ond byddai yn ein plith fel un gyda ei denlu ei hun yn y cyfarfodydd gweddi a'r gyfeillach eglwysig, ac mewn hwyl dda braidd bob amser yn anog pawb i fyw yn dduwiol, gan gynorthwyo y gwan a'r ofnus a chefnogi y diwyd a'r llafurus. } Ac nid ar y Sabboth ae yn yr addoldy yn unig yr oedd ei ddefnyddioldeb yn ganfyddadwy, ond hefyd yr oedd ei dŷ yn agored a'i deulu yn barod i fod yn gynorthwyol i ddyeithriaid ddydd a uos, yn enwedig pregethwyr a gweinidogion y gair. Yr oedd yn troi hefyd mewn cylch helaeth iawn fel trysorydd amrywiol gymdeithasau, ac yr oedd yn gwneud mwy o latur di-dal nag un Cymro yn y ddinas -yr oedd yn was i bawb mewn angen cymhorth a chyfarwyddyd yn mysg ei genedl o'r dref a'r wlad, nes nad oedd dim gorphwysdra iddo na dim pen draw ar ei drafferthion. Ond yn nghanol yr oll o'i ddefnyddioldeb dyfod i fyny o Middle Granville. Cyn cychwyn y corff o'r tŷ gweddiodd y Parch. E. W. Jones, York Mills. Yn yr addoldy ar gongl Columbia a Broadway dechreuwyd y gwasanaeth gen y Parch. E. Davies, Waterville,; yna pregethodd Dr. Everett yn Saisoneg oddiar eiriau Eli, “Yr Arglwydd y w efe, gwnaed a fyddo da yn ei olwg," a phregethodd y Parch. M. Roberts, Remsen, am y gwas doeth a ffyddlon yr hwn a osododd ei Arglwydd ar ei deulu i roddi bwyd iddynt mewn pryd-"Gwyn ei fyd y gwas hwnw yr hwn y caiff ei Arglwydd ef pan ddel yn gwneuthur felly." Rhoddwyd allan yr hymnan gan weinidog y lle a therfynwyd y cyfarfod gan y Parch. D. E. Prichard, Rome, ac awd a'r corff i dŷ ei hir gartref yn Marcy, Mynwent Cleaver, Ffordd yr Afon, lle gorwedd yn dawel amryw o'r perthynasau yn nghyd a llawer iawn o hen Gymry a drigent yn yr ar a'i ymdrechiadau, ofnai rhai personau llygad-daloedd yma flynyddoedd lawer yn ol. Ar graff fod Howell wedi ei nodi allan gan Angau, a chredent yn gryf ei fod dan effaith Darfodǝdigaeth. Gwnaeth ef ac eraill gryn ymdrech am gael adferiad iechyd, ond yn gwbl ofer. Yr oedd ei gystudd gwedi gafaelu yn rhy gryf i un ddyfais ddynol fedru ei symud. Yehydig flynyddoedd yn ol bu taith iddo ef a'i briod trwy Gymru yn fuddiol i gryfhau ei iechyd. Oblegyd hyny cymerodd ef a'i anwyl briod daith yn nechreu Mehefin diweddaf i dŷ ei chwaer a'i frawd-yn-nghyfraith, sef Mr. E. M. Jones, Danbury, Connecticut, i'r dyben o newid hinsawdd, a bu oddicartref am dair wythnos; ond yr holl amser hwn yr oedd yn gwanhau yn gyflym. Daeth yn ei ol wythnos cyn marw. Erbyn hyn yr oedd mor waned fel nad oedd yn addas ei atlonyddu ag ymweliadau. Y dyddiau hyn yr oedd yr hin yn boeth iawn. Soddodd yn raddol heb boen na chyfnewidiad hyd nos Fercher, 13eg o Orphenaf, ac am 11 o'r gloch yn y nos safodd y peiriant yn esmwyth ac yn hollol, ac ehedodd yr enaid i fyny at Dduw yr hwn a'i rhoes ef. Ac felly gorphenodd y brawd Howell ei ddydd gwaith-noswyliodd yn gynar ac aeth oddiwrth ei waith at ei wobr pan oedd yn 52 ml. 3 mis ac 8 diwrnod oed, gan adael priod alarus yn nyffryn Baca, a nifer fawr o berthynasau yn y wlad hon a'r hen wlad, yn nghyd a thorf fawr o gyfeillion crefyddol mewn gwahanol ranau o'r Unol Dalaethau i alaru ar ei ol. Erbyn canol dydd dydd Sadwrn, Gor. 16eg, ymgasglodd tyrfa fawr yn nghyd o bell ac agos, ac yn eu mysg yr oedd amryw gwedi lan y bedd, ar ol rhoddi y corff yn y gwely pridd, areithiodd y Parch. W. D. Williams, Deerfield, a therfynodd y Parch. J. R. Griffiths, Bethania, drwy weddi. Yna ymadawsom bawb i'w fan mewn galar a dagrau. Dranoeth, ar brydnawn y Sabboth, yn ol y drefn a'r addewid, yn yr Addoldy ar gongh Columbia a Broadway, pregethwyd gan yr ysgrifenydd gyda golwg ar yr un amgylchiad oddiar eiriau Paul wrth yr Hebreaid, sef"Meddyliwch am eich blaenoriaid y rhai a draethasant i chwi air Duw, flydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Ac yn mysg eraill yr oedd y breyr o Middle Granville yn ein plith, a bu un honynt yn arwain y gynulleidfa mewn gwei yn nechreu y moddion prydnawnol, ac arall yn nechreu y moddion hwyrol. Yn y gair fe ddywedir wrthym am fod yn ddilynwyr i'r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yr awrhon yn etifeddu yr addewidion, ac un o brif amcanion y cofiant hwn yw arwain eraill i wneuthur yr un modd a'n brawd ymadawedig. Pan oedd ef a'i iechyd yn gwaelu, dywedai yn ddigon tawel, Dichon y bydd yr afiechyd hyn yn diweddu yn ́angau, os felly bydd nid wyf yn ofni dim am y canlyniadau. Dro arall dywedai, Ewyllys yr Arglwydd a wneler. Amser arall dywedai, Nid wyf ddim mewn un math o drafferth gyda golwg ar fater fy enaid, y mae y cwbl wedi ei sefydlu. Yr wyf wedi crefydda yn fy mywyd mewn amser hawddfyd ac iechyd. Lle gwelwn mai gwir yw yr addewid yn mhob oes o'r byd, "Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd a'i feddylfryd arnat, am ei fod yn ymddiried ynot." Yn ngwyneb angen mawr yr oes am ddoniau gweinidogaethol, nid hawdd cael digon o weinidogion ag a fyddo gwedi mwynhau holl fanteision dysgeidiaeth i ddiwallu angenion Seion; onid addas fyddai agor ychydig yn ngwyneb yr angen ar ddrws y weinidogaeth, ac i weinidogion ac eglwysi wneud mwy o sylw o'n brodyr anwyl a weinyddant fel pregethwyr cynorthwyol. Gallant fod o fawr leshad yn yr oes hon yn gystal ag mewn oesoedd a aethant heibio, ond iddynt ymddwyn yn ffyddlon a synwyrol, ac yn benaf dim eu bod yn ofalus am fod yn Gristionogion gwir ioneddol. Prif ragoriaethau ein brawd ymadawedig oeddynt ffyddlondeb a gwyliadwriaeth, gwnelai yr hyn a allai, ac yr oedd yn ofalus iawn rhag diddymu â'i law aswy yr hyn oedd ei ddeheulaw yn adeiladu, na gwneud niwed i berchenogion eneidiau drwy adrodd hen storïau llygredig i beri chwerthiniad ynfyd yn y teuluoedd lle byddai yn lletŷa, yr hyn nid yw dda i ddim ond i ddinystrio eneidiau y gwrandawyr, a gyru y golomen nefol ar ffoedigaeth o'r eglwysi, ac agor y drws i bob aderyn aflan. Er colli un o weinidogion Cynulleidfaol ieuangaf swydd Oneida, ac nad oes gan amryw o honom sail nad yw ein taith ninau yn mron a dod i'r terfyn, melys yw meddwl er colli rhai o'r is-fugeiliaid fod y Penbugail ar y maes o hyd, a'i fod a'i olwg ar ei braidd, hyd yn nod ar y diwrnod mwyaf cymylog a niwliog. Na ddigaloned neb wrth newid y gweithwyr-aiff yr adeilada mlaen yn barhaus yr un fath. Yr allewid ᎩᎳ, "Ar y graig hon yr adeiladaf fy wys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi.” Ulica, Gor. 29, 1864. JAMES GRIFFITHS. Duwinyddiaeth. Y LLUSERN. led yn Llusern yw dy air i'm traed a llewyrch i'm llwybr. Hefyd canfyddir unrhyw berygl wrth lewyrch y lusern a ddichon fod ar neu yn ymyl y ffordd. Nid yn hawdd y gall y morwr dewr hwylio y llong yn ddiogel i'r hafan ddymunol ar noswaith niwliog dymhestlog, pan y bydd y gwynt yn groes a thonau yr eigion yn codi yn uchel, y duon gymylau yn gwisgo y nefocdd â braw, swn yr ystorm yn dechreu llanw calonau â phryder am fywyd, pan na fydd yr un seren fach i'w chanfod fel arweinydd, a nodwydd y cwmpawd yn chware yn afreolus ar y pegwn, pan y mae y mellt fforchog yn rhwygo y cwmwl du, a thrwst y daran yn siglo y môr-pan y mae yn rhaid myned i mewn i'r porthladd rhwng creigiau peryglus nid yn hawdd y gall wneud heb gael gweled llewyrch goleuni y wylfa ar y lan, wrth oleu pa un yr arwain y pilot ei lestr yn ddiogel i'r porthladd dymunol. Felly hefyd nid hawdd a diberygl y gall y pcrerin gwan sydd ar for tymhestlog bywyd, ac ar lwybrau culion peryglus taith yr anialwch, ar hyd anialdir llygredigaeth pechod, temtasiynau, a thir y gelyn, nid yn hawdd y gall ganfod a gochel y croes-lwybrau sydd yn arwain i rwyd-faglau Satan, dull y byd hwn a'i chwantau, heb oleuni grasol gair Duwllewyrch llusern oleu fawr ysbrydoliaeth, fel y gall ganfod pa le i roddi ei droed i lawr yn ddiogel rhag llithro a syrthio oddiar lwybr cul y bywyd. Gair Duw yw y llusern fendigedig sydd yn llewyrchu ffordd y Cristion tua'r ddedwydd fro tu hwnt i'r bedd-ac oddiwrth oleu y gair y mae yn derbyn ei brif gysuron pan yn cerdded llwybrau geirwon tywyll profedigaethau, erledigaethau, temtasiynau, cystudd a galar, tylodi a dirmyg, anobaith ac ofnau-pan yn taro ar groes lwybrau gelyn ei enaid, llwybr gostyngeiddrwydd, dyffryn Baca a thywyll lwybr cysgod angau-neu weithiau drwy faesydd rhosynog cyfoeth a hawddfyd, haul llwyddiant yn tywynu ar ei ffyrdd, mae iddo dai a thiroedd, aur ac arian lawer, cyfeillion ffyddlawn a phob peth yn dawel o'i amgylch: eto clywaf ef yn dweyd yn nghanol cyfoeth, "Gwell i mi gyfraith dy enau na miloedd o aur ac arian;" ac yn llwybr tywyll cystudd a thylodi mae yn adrodd y testun, "Llusern yw dy air i'm Nid yn hawdd y gellir rhodio yn uniawn a diogel ar noson ddu dywyll mewn lleoedd dyrus ac anial-ar hyd llwybr cul peryglus-traed a llewyrch f'm llwybr." yn arwain drwy ganol dyffryn lleidiog llawn o dyllau dyfnion, cyrs a siglenydd neu dros greigiau serth a thrwy wyllt anialwch-heb lusern goleuedig i lewyrchu ar y llwybr, fel y gall yr ymdeithydd weled pa le i roddi ei droed i lawr mewn man diogel rhag syrthio. Yr oedd Dafydd, peraidd ganiedydd Israel, yn gwybod yn dda am lewyrch y llusern pan yn fachgen ieuanc gyda'r praidd ar fryn Misar-pan ar lwybr y frwydr fawr yn nyffryn Ela-pan yn ffoi rhag Saul i Gath y Philistiaid -i anialwch Ziph ac Engedi-i fryn Hachi |