Imatges de pàgina
PDF
EPUB

yn ei het, gan ei ysgwyd a thyrfu ag ef i hudo y march ato-ond wedi cael gafael yn ei fwng yn tynu y feed oddiwrtho. Mae gormod ysywaeth o wir yn y sylw, ond nid yw y cap yn eich ffitio chwi, oblegid wele yma feedio-ie extra

wedd. Nid bychan y clod a deilynga eglwys fechan, o bobl druain dlodion, fel a wnant i fyny yr eglwys hon-am, wedi addaw yn ol eu gallu, a thu hwnt i'w gallu hefyd, na chlybuwyd yr un brawd a fu yn ei gwasanaeth yn ei chyhuddo o gamattal ei gyflog. Mae genych ddangosiad-feedio, ar ol blynyddau o wasanaeth. Diolch i au odditan law fy mlaenafiaid a minau i brofi pe bai angen mor brydlon a chydwybodol y cyfJawnasoch y rhwymedigaeth hon. Buasai llawer gweinidog, da hefyd i Iesu Grist, yn ddiolchgar o galon i'w bobl law-gauedig am swm fel hyn wedi eu henill yn gyfiawn. Llawer mwy gan hyny y dylwn i deimlo felly am dano fel ffrwyth cariad ac ewyllys da.

2. EI BOD YN ANRHEG FAWR IAWN. Mawr iun meddaf wrth ei gyferbynu a derbyniadau arianol rhai o'm galwedigaeth yn gyffredin-ac yn enwedig wrth ystyried rhifedi ac amgylchiadau y rhai a'i gwnaethant. 'Rwy'n cofio darllen hanes am un o Ymerawdwyr Rhufain yn gwobrwyo cyfaill am ryw wasanaeth o gryn bwys iddo. Eich mawrhydi, ebe'r dyn mewn syndod, y mae hyn yn fwy nag a allaf ei dderbyn. Nid mwy, ebe yntau, nag a all Cesar roddi. Ymddengys i mi eich bod chwithau, gyfeillion, yn y weithred haelfrydig hon, wedi talu mwy o sylw i'r hyn sydd ddyledus i'ch cymeriad uchel eich hunain nag i haeddiannau yr hwn yr ewyllysiech ei anrhydeddu.

chwi eto, gyfeillion a chymydogion, am y prawf adnewyddol hwn o'ch serch ataf, a'ch prisiad o'm llafur-ac i'r Arglwydd am roddi yn eich calonau y tueddiad sydd yn tori allan mewn ffrwythau mor ddymunol.

-Canwyd y "Battle cry of Freedom" wedi hyny gan y Côr. Credwch fi yr oedd yn gyf arfod hyfryd drwyddo-a pha mor hapus bynag y teimla Mr. G. wrth dderbyn yr anrheg, barnem oddiwrth olwg foddus y rhai a'i gwnaethant i fyny mai dedwyddach yw rhoddi na derbyn. M. POWELL EDWARDS.

CYFARFOD TRIMISOL AC URDDIAD
GWEINIDOG YN NEWBURGH, O.

Ar y 1, 2 a'r 3 o Orphenaf cynaliwyd cyfarfod chwarterol Dwyreinbarth Ohio yn Newburgh, ac urddwyd William Watkins, B. A., o Athrofa Marietta, yn fugail ar yr eglwys yn y lle. Cymerodd y brodyr canlynol ran yn y cyfarfodydd, J. P. Thomas, Mineral Ridge; T. W. Davies, Youngstown; J. Edwards, Crabcreek: D. M. Evans, Palmyra; J. H. Jones, Coleg Hudson; D. Davies, Parisville; C. D. Jones, Racine, Wis.; E. Davies, Tynrhos; J. M. Thomas, Paddy's Run, a J. Moses (T. C.), Newburgh.

Cynaliwyd cynadledd dydd Sadwrn am 10, Davies, Youngstown, yn llywyddu, pryd y penderfynwyd :

1. Fod gwahoddiad caredig yn cael ei roi i'r brodyr Davies, Tynrhos, a Jones, Racine, i gydeistedd a chydweithredu â ni yn y gynadledd.

2. Fod y brawd W. Watkins yn cael ei dderbyn yn aelod o'r Undeb cwarterol hwn.

3. MAI NID TRWY GYMELL, OND O BARODRWYDD MEDDWL Y GWNAED HI. Sylw da oedd hwnw o eiddo y Parch. W. Hughes, Racine, yn y Drych ryw amser yn ol ar y Donations-sef bod rhai eglwysi yn eu gwneud yn y fath fodd nas gall gweinidog o ddim hunanbarch lai na theimlo eu bod yn ddarostyngol iddo. Ond da genyf feddwl na fu dim yn nglyn â gwneuthuriad i fyny yr anrheg hon, ac nad oes dim yn nglyn a'i chyflwyniad ychwaith, a rydd glwyf i falchder cyfreithlon fy natur. Mae yr ystyr iaeth mai eich ewyllysgar offrymau a'i gwnaethant i fyny-i'r swm gael ei godi bron i gyd mewn tua deng mynyd yn eich plith eich hunain, neu i ddefnyddio cydmariaeth dlos o eiddo Awstin-That your gifts have come at the gentle { pressure of Christ's bidding, even as the sweet and golden colored oil which runs freely from the fruit, almost before the press has touched it, not as the lees, the dark and vile amurca, which is 6. Ein bod yn ymgynghori ag eglwysi y cylch wrung out at last by the force of a harsh con- erbyn y cwrdd cwarterol nesaf gyda golwg ar straint, yn ei gwneud yn ddeg mwy gwerth-benderfynu yn mha leoedd y cynelir y Gymanfa fawr yn fy ngolwg nag a fuasai tan amgylchiadau eraill.

4. Mai oddiwrth hen gyfeillion a phobl fy ngofal gweinidogaethol y pedair blynedd diweddaf yr rgf yn ei derbyn. Y brawd Price o Newark, ys da yr wyf yn cofio, a wnaeth sylw fel hyn mewn cyfarfod urddiadol ryw dro yn Nghymru-Fod eglwysi weithiau wrth alw rhai i'w gwasanaethu yn yr efengyl, yn debyg iawn i hostler yn myned i ddal ceffyl i'r cae gyda dyrnaid o geirch

3. Fod y cyfarfod cwarterol nesaf i fod yn Mineral Ridge.

[ocr errors]

4. Fod y brawd Watkins, Newburgh, i bregethu yn y cwrdd cwarterol nesaf ar Werthfawredd Heddwch."

5. Fod y pwnc o "Ffyddlondeb Crefyddol" i fod dan sylw yn y gynadledd nesaf.

y flwyddyn ddyfodol.

Yna ymdriniwyd â'r pwnc, "Perthynas yr Eglwys a'r Weinidogaeth," yn gynes ac adeiladol.

Cymerodd urddiad Mr. Watkins le boreu Sabboth yn y drefn ganlynol,-am 8, cadwyd cyfarfod gweddi; am 9, dechreuwyd yr odfa gyhoeddus trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Edwards, Crabcreek; pregethwyd ar Natur Eglwys gau Mr. Davies, Parisville; holwyd y

ww

gofyniadau arferol gan Mr. Davies, Youngstown, i'r rhai y rhoddwyd atebion priodol a boddhaol gan Mr. Watkins; darllenwyd tystlythyrau Mr. Watkins gan Mr. Thomas Paddy's Run, a gofynodd am i'r bobl roddi arwydd o'u dewisiad o Mr. Watkins i fod yn fugail arnynt, ac am arwydd o'i gydsyniad yntau â'u galwad; gweddiwyd yr urddweddi gan Mr. Thomas, Mineral Ridge, gydag arddodiad dwylaw yr henuriaeth; pregethwyd ar Ddyledswydd y gweinidog gan Mr. Davies, Tynrhos, ac ar Ddyledswydd yr Eglwys gan Mr. Jones, Racine;-dwy bregeth gyffrous a nerthol.

Dechreua Mr. Watkins ar ei weinidogaeth yn Newburgh dan amgylchiadau tra gobeithiol a chefnogol. Bendith Duw orphwyso ar y gweinidog a'r eglwys, a bydded iddynt fod yn gysur ac yn fendith i'w gilydd.

Cafwyd pregeth gan Mr. Davies, Youngstown, ar y pwnc gosodedig sef Anffyddiaeth yr oes bresenol; ônd o herwydd i'r urddiad gymeryd cryn lawer o amser y cwrdd, ni chafodd chwareu teg i'w thraddodi yn gyflawn, ond gorfodwyd ef i gwtogi cryn lawer arni, ond gobeithio y gwna trwy gyfrwng y CENHADWR ei phregethu yn ddigwtogiad i holl Gymry y Talaethau. Parisville. D. DAVIES, Ysg.

CYFREITHWR IEUANC O GYMRO YN POTTSVILLE.

Da oedd genyf weled yn y Miner's Journal fod y Cymro ieuanc talentog Mr. David A. Jones wedi ei gymeradwyo gan brif Lys swydd Schuylkill, Pa., fel cyfreithiwr, a'i fod wedi agor swyddfa yn ymyl y Pennsylvania Hall ar brif heol Pottsville. Efrydodd y gyfraith o dan arweinyddiad yr Anrh. Farnydd Parry, un o brif gyfreithwyr y dalaeth, a bydd Mr. Parry yn barod bob amser i'w gynorthwyo ar bynciau dyrus. Adwaen i Mr. Jones o'i blentyndod a gwn yn dda ei fod yn meddu un o'r meddyliau mwyaf llewyrchus. Mae gan y Cymry yn swydd Schuylkill lawer o waith rhyngddynt i gyfreithwyr, gyda golwg ar Deeds, Bonds, Llythyrau cymuniaethol, gweinyddiadol &c., ac ar brydiau gwynion i'w cyflwyno i'r llys. Hyderwn y troant at y Cymro ieuanc hwn, ac y cymeradwyant ef hefyd i genedloedd eraill, fel bachgen gonest a thrwyadl yn y gyfraith. Yr oedd pump o brif gyfreithwyr Pottsville wedi eu neillduo gan y llys i'w brofi â chwestiynau er cael allan ei addasrwydd i fod yn gyfreithiwr, ac yn lle treulio o leiaf 4 neu 5 o oriau fel yr arferant, dywedodd un o honynt cyn haner awr "foneddigion, yr wyf fi wedi cael boddlonrwydd;" atebodd y lleill "felly ninau," a phallodd eu hysbryd ofyn ychwaneg. Cofied y Cymry yn swydd Schuylkill am dano pan fyddo ganddynt orchwyl i gyfreithiwr. Mae angen eu nodded arno wrth gychwyn, a bydd

[blocks in formation]

AMGYLCHIADAU EGLWYS MIDDLE
GRANVILLE, N. Y.

Mr. Everett-Dymunem fel eglwys a chynull eidfa gydnabod Duw am ei ddaioni a'i ofal tadol o honom, ac erfyniwn am gymorth i ymdawelu pan mae 'n gweled yn dda i ddoeth ddybenion edrych arnom weithiau megis drwy y cwmwl du, a gwneyd i ni wylo mewn distawrwydd wrth edrych ar gynlluniau yn cael eu dyrysu, a'r gobeithion uchaf yn cael eu troi yn siomiant. Yr ydym yn teimlo yn ofidus o herwydd i ni golli un a'n gwasanaethodd mor ffyddlon, gyda'r fath wroldeb, ond eto yn llawn o'r gwyleidd-dra hwnw sydd yn gweddu i weinid. ogion y cysegr. Ni phetruswn ddweyd ddarfod i wr mawr yn Israel syrthio o bod ei gwymp yn achos o ofid a galar i'r defaid druain sydd wedi eu gadael yn yr anilwch.

Ond y mae arwyddion eto fod Duw am osod arnom fugail arall, a disgwyliwn ef yma o hyn i ddiwedd Awst. Gwelsom gymeradwyaeth uchel iddo yn 'Baner ac Amserau Cymru' ac i bobl M. Granville hefyd fel dynion o chwaeth, Y mae hyny wedi ei brofi yn amlwg yn newisiad y brawd anwyl Howell, ac er iddo gael ei dori ymaith gan angau yr ydym eto yn ei anwylo, ac yn bendithio y dydd y gwelsom ef gyntaf erioed. Derbyniasom lythyr oddiwrth y Parch. Samuel Jones, Bethesda, Arfon, yn cydsynio a'n cais i ddyfod yma i'n bugeilio, Bwriadwn gael ei ardeinio tuag adeg Cymanfa Oneida, J. D. JONES.

COFIANTAU BYRION.

DAVID W. WILLIAMS, DEERFIELD, N. Y. Ar yr 8fed o Orphenaf, bu farw DAVID W, WILLIAMS. Mab ydoedd i y Parch. Wm. D, Williams o Deerfield, ei fab ieuangaf a'r ieuangaf o'r teulu, a'i unig fab gadwedig iddo, ac yn awr mae yn gwbl ymddifad o'i feibion, y gweddill yn awr o'r plant ydyw ei ddwy ferch,

Cafodd Dafydd fel yr ieuangaf o'r plant ei fagu yn anwyl a thyner, ei fagu yn grefyddol yn y teulu, yr Eglwys, ac yn ngwahanol foddion gras a arferid yn yr ardal, a byddai yn siriol gydweithredu yn yr ysgol Sabbothol, canu, ac yn nghyrddau yr Eglwys. Ond ryw fodd, rhwng ei fod ef yn ifanc a hwythau yn arafaidd, ni chafodd ei dderbyn fel aelod yn yr eglwys.

Yn niwedd y flwyddyn 1863 ymrestrodd yn filwr gwirfoddol yn y fyddin. Yr oedd hyny yn gryf ar ei feddwl er's mwy na blwyddyn yn ol; ond fod ei dad a'r teulu oll i raddau yn an

foddlawn. Ond y pryd hyny torodd drwyddi ac ymunodd, a darfu i'r teulu ddistewi i raddau a gadael iddo gael ei ddymuniad. Nid ydoedd yn fachgen cryf, ond yn un eiddil, tyner; ac wrth bob tebyg cafodd oerfel yn fuan, ac felly y parhaodd tra y buodd mewn Fort ger N. Y. dros y gauaf. Symudwyd hwy oddiyno at fyddin y Cadf. Grant i Spottsylvania, a'r nos gyntaf ar ol iddo ef ac eraill oedd yn wael ac yn methu cadw i fyny gyda eu cyd-filwyr a chyrhaedd y lle, daeth y rebels ac a'u cymerasant yn garcharorion, a Dafydd yn eu plith.

Ond yr oedd ef a rhai eraill gan afiechyd a gwendid yn methu a cherdded, a hwythau heb ddim i'w cludo, a darfu iddynt eu "parolio," ac felly darfu iddynt yn eu gwaeledd ymlusgo tua Fredericksburgh, ac oddiyno daethant i Alexandria, a symudwyd ef oddiyno i New York i'r Central Park Hospital. Ac mor gynted ag y gellid aeth ei anwyl dad i'w weled, a chafodd ef yn llawer gwaelach nag y meddyliai, ei afiechyd } a'r oerni wedi troi yn dropsi drosto, yn enwedig yn ei ben. Yn mhen ychydig ddyddiau trwy lawer o ymdrech cafodd ei ryddhau o'r fyddin, ac yna gyd a'r brys mwyaf deuwyd tua ag adref a chyrhaeddodd adref heb fod nemawr gwaeth, a buodd fyw gyd a'i anwyl deulu tua 10 niwrnod, a gorphenodd ei yrfa ddaearol gan adael y teulu oll mewn dwfn alar ar ei ol. Ei oedran oedd 18 ml. a 10 mis a rhai dyddiau. Claddwyd ef wrth ochr ei frawd Thomas yn mynwent Salem, a gweinyddwyd yn ei angladd gan y brodyr James Griffiths, Morris Roberts, a R. Everett. Yr ydoedd colli Dafydd yn brofedigaeth chwerw i'w dad a'i fam a'i ddwy chwaer -colli ar ol colli; colli ei Dafydd ieuanc a'r ieuangaf, ei golli ar ol cael ychydig o'i gyfeillach, a'i golli am byth yn y byd hwn, mae lle Dafydd yn wag yn mhob lle daearol mwy.

Ond er hyny yr oedd iddo gael dyfod yn rhydd o afael y Rebels, dyfod adref yn fyw, a chael ei dendio am ychydig ddyddiau, ac iddo gael marw yn eu gwydd gartref a'i gladdu lle y gwyddant lle y mae ei fedd, yn lleddfu llawer ar y brofedigaeth. Ac yn fwy na'r cwbl i'w dad gael ynddo a chanddo achos i obeithio a hyderu fod ei gystudd a'i dreialon wedi ei bendithio i fod yn lles i'w enaid, er ei ddwyn i ddarllen ei Feibl ac i weddio ar ei Dduw, a Duw ei dad a'i fam, a throi ato yn ei gyfyngder, ie ei fawrion gyfyngderau, a theimlai a chyffesai yn hyderus iddo gael trugaredd, a'i fod yn myned i wlad y dedwyddwch at ei gyfoedion a'i ffryndiau oeddynt yno o'i flaen, i fyw byth. Gan hyderu y bydd y tro hwn yn fendith i'r teulu galarus ac i gyfoedion Dafydd sydd "eto yn fyw, ydwyf yr eiddoch,

MORRIS ROBERTS.

MR. JOHN THOMAS MADISON CO., N. Y.

mis oed, Mr. JOHN THOMAS, mab i Mr. David Thomas a'i briod, a brawd i Thomas Thomas a Benjamin Thomas, pa rai fuont yn filwyr yn myddin yr Undeb. Bu y tri brawd feirw o fewn ystod blwyddyn i'w gilydd yr hyn sydd wedi bod yn donau mawrion o drallod i'w galarus berthynasau ac eraill o'u cydnabod.

Nid oedd John yn gwbl iach er ys deuddeg mlynedd. Gwelid yn amlwg y blynyddoedd diweddaf ei fod dan effeithiau y darfodedigaeth; ond er hyny daeth i derfyn ei daith yn hynod ℗ ddiarwy bod. Boreu dydd Llun, Gor. 11, deffrodd ei anwyl briod o'i chwsg am tua 3 o'r gloch y borau yn hynod sydyn gan ddweyd "Oh, Ellen! Ellen!" ac ni fedrodd ddweyd dim gair ychwaneg. Deallodd hithau erbyn hyn fod ei waed yn rhedeg o'i enau a'i ffroenau-gwnaeth ei gorau i'w gynorthwyo, ond bu farw yn y fan yn union cyn iddi allu galw am gymorth neb o'i chymdogion. Ac nid bychan oedd ei thrallod i'w adael ef yn gorph raarw a myn'd ffwrdd i alw cymdogion nesaf yr hyn oedd gryn bellder iddi orfod deithio ar y fath adeg ryfeddol o flinder.

Dydd Mercher canlynol daeth tyrfa fawr iawn yn nghyd i ddangos eu parchedigaeth i'r marw a'u cydymdeimlad â'r byw a dwyn y corph i dy ei hir gartref yn ymyl addoldy y Cynulleidfawyr Cymreig yn Madison. Dygwyd yn mlaen y gwasanaeth crefyddol yn y ty, yn yr addoldy ac ar lan y bedd gan D. Rowlands, John R. Lewis a'r ysgrifenydd.

Yr oedd yn olygfa ag oedd yn ddigon i ddolurio y teimladau, i weled beddau y tri brawd yn mlodau eu dyddiau, y tri wedi bod yn filwyr ac yn swyddogion milwraidd, Thomas a a Benjamin gwedi bod ar faes y gwaed ganoedd o filldiroedd o gartref, a John yn dal perthynas â'r Home Guard.

Bendithied yr Arglwydd y rhieni gofidus a'r tair chwaer alarus yn nghyd ac eraill o'u perthynasau, ac yn neillduol y wraig weddw ieuanc a fu yn ymgeledd gymwys mor dyner a gofalus am dano drwy ei holl gystudd, yr hwn a ddioddefodd yn dawel a dirwgnach, ac na foed iddynt dristau fel eraill y rhai nid oes ganddynt obaith-yw dymuniad ei cyfaill yn nyffryn Bacha. JAMES GRIFFITHS.

MORGAN B. LEWIS, MINERAL RIDGE, OHIO. Meh. 9, 1864, yn ychydig dros 29 ml. oed, yn Mineral Ridge, O., bu farw MORGAN B. LEWIS, wedi tua deuddeg mlynedd o nychdod ac wyth wythnos ar hugain o gystudd trwm a derfynodd yn ddarfodedigaeth. Claddwyd ef yn ymyl yr eglwys Annibynol yn Palmyra-gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol gan yr ysgrifenydd.

Yr oedd ein brawd ymadawedig yn fab i'r diweddar Barch. Benjamin Lewis, yr hwn a orphenodd ei yrfa yn y fl. 1859, gweinidog yr

Bu farw yn Madison, Gor. 11, yn 35 ml. a 9 eglwys Annibynol yn Palmyra.

Yr oedd y tad a'r fam wedi gweddio llawer dros eu plant yn ddiau; ond daliodd Morgan yn gyndyn yn wyneb y cyfan y rhan fwyaf o'i oes. Ond cafodd y fraint o roi arfau gwrthryfel i lawr yn ei gystudd olaf, ac ymgyflwyno i'r Arglwydd. Cafodd ei dderbyn yn aelod o'r eglwys Gynulleidfaol yn Mineral Ridge yn ddiweddar-a gallem nodi amryw brofion yn fyr ei fod wedi cael ei dderbyn fel y cyfryw gan yr Arglwydd.

1. Teimlodd ei fod yn bechadur mawrgwasgodd mater ei enaid gwerthfawr yn drwm iawn ar ei feddwl fel yr ystyriai ei hun fel Paul yn un o'r rhai penaf o bechaduriaid.

2. Cyfaddefodd ei fod yn bechadur mawr.-Yr oedd yn dda genym ei glywed yn addef mewn dwys deimlad wrth yr Arglwydd ei fod yn bechadur mawr ac anhaeddianol o drugaredd, a diolchai fod yr Arglwydd yn medru maddeu beiau er mwyn ei anwyl Fab, a bod gobaith iddo ef gael trugaredd a chael ei dderbyn yn "gymeradwy yn yr Anwylyd."

Yr

3. Hoffai gymdeithas pobl grefyddol. oedd yn dda iawn ganddo weled dynion da o bob enwad yn talu ymweliad ag ef yn ei gystudd, a'i hyfrydwch penaf oedd siarad am grefydd a dyrchafu yr lesu.

4. Dangosai awydd mawr am wneud arddeliad o Grist cyn ymadael. Wedi i'n brawd gael ei ddwyn i ystyriaeth briodol o'i gyflwr, teimlai awydd neillduol i gydffurfio ag ewyllys ei Waredwr-a chafodd y fraint o sefyll i fyny yn nhy yr Arglwydd i wneud arddeliad cyhoeddus o Grist-nid oedd cywilydd ganddo Fab Duw yr adeg hono a chredwn na fydd cywilydd gan y Gwaredwr mawr ei arddel yntau fel ei eiddo yn y dydd diweddaf.

5. Yr oedd yn awyddns i wneud daionicynghorai ei gyfoedion ac eraill yn ddwys pan ar ei wely angau. Dymunai ar y rhai fu yn cyd bechu ag ef i wrando ar ei gynghorion ac ymaflyd mewn crefydd,

6. Yr oedd yn hoff iawn ganddo gael brodyr crefyddol i gyd weddio ag ef. Buodd amryw o'i frodyr yn yr Eglwys yn ffyddlawn iawn i gadw cwrdd gweddi gydag ef yn ei gystudd olaf, ac yr oeddynt yn cael cyrddau dymunol

iawn.

7. Yr oedd yn hynod ddioddefgar yn ei gystudd.-Yr oedd wedi llwyr ymroddi i ewyllys yr Arglwydd, ac er fod ei gystudd yn drwm, eto dywedai fod yr Arglwydd yn dirion iawn wrtho. Credai ei fod wedi cael trugaredd a bendithiai yr Arglwydd am ei gystudd diweddaf mewn modd neillduol-a chredwn ei fod wedi myned i wlad sydd well i fyw.-Mae ei fam yn alarus ar ei ol, ond yn diolch am y gobaith sydd ganddi ei fod wedi dianc ar bob gofid.

Bendithied yr Arglwydd ei ymadawiad, er gwneud ei fam a'i chwaer grefyddol yn fwy felly, ac er dwyn y brawd sydd ar faes y gwaed

a'r chwaer sydd gartref i ymofyn am grefydd yn nghyd a'r holl berthynasau a'r ardal yn gyffredinol i geisio yr Arglwydd tra gellir ei gael ef a galw arno tra fyddo yn agos-yw dymuniad yr ysgrifenydd.

D. P. THOMAS.

MRS. MARGARET THOMAS, MINERSVILLE, PA. Ganwyd y chwaer uchod Mawrth 1806, mewn lle a elwir Ystradgynlais, swydd Forganwg, D. C. Merch ynoedd i Morgan a Mary Harris. Pan yn 21 oed ymunodd mewn priodas â Mr. Benjamas D. Thomas. Yn fuan, wedi hyny ymfudasant i'r wlad hon, ac ymsefydlasant yn Carbondale, swydd Luzerne, Pa. Wedi treulio ychydig flynyddau yno symudasant i Pottsville, Pa., ac oddiyno i Beaver Meadow, swydd Car bon, 24 mlynedd yn ol. Yma y tueddwyd ein chwaer i roddi ei hunan i'r Arglwydd ac yna i'w bobl. Derbyniwyd hi i'r eglwys Gynulleidfaol gan y Parch. E. B. Evans, Pottsville, yn awr Hyde Park. Yn mhen rhyw dymor dychwelasant i ardal Minersville, Pa., lle y buont hyd nes aeth yr ymadawedig i ffordd yr holl ddaear. Cafodd gystudd lled drwm am rai wythnosau cyn i angau roddi terfyn ar ei hoedl, ond dyoddefodd y cwbl yn dawel. Dywedai nad oedd ganddi ddim i bwyso ei henaid arno ond Iesu Grist. A dymunai weithiau gael myned ato, yr hyn a gafodd ni hyderwn ar y 17ef o Fehefin, 1864. Ymgasglodd tyrfa luosog o Gymry ac eraill yn nghyd i'w chladdedigaeth a daearwyd ei gweddillion marwol yn nghladdfa y Cynulleidfaolion yn Minersville, pryd y gweinyddwyd gan y brodyr Morgans, Pottsville, Thomas, St. Clair, a'r ysgrifenydd. Teimlir colled ar ol Mrs. Thomas yn y gymydogaeth hon. Yr oedd yn gymydoges garedig, ac yn hynod o letygar. Yr oedd ei drws yn agored i genhadon hedd bob amser, ac ymhyfrydai mewn gweini arnynt. Gwelir ei heisiau hi yn yr eglwys hefyd. Bu yn ffyddlon i fynychu moddion gras cyhyd a gallodd. Yr oedd yn rhaid fod rhwybeth yn rhyfedd cyn y buasai ein chwaer yn absenol. Bu iddi hi a'i phriod 8 o blant, o ba rai y mae 5 yn fyw. Cymwyser hwy a'u tad i gyfarfod a'i ymadawedig yn y J. E. JONES,

[ocr errors]

"wlad well,"

MRS. LAURA GRIFFTHS, PROSPECT, N. Y. Mae cyhoeddi bywgraffiadau wedi myned yn beth mor gyffredin fel y mae yn anhawdd iawn eu dwyn i ddigon o ddyddordeb i'r cyffredin i'w darllen, a mwy fyth yw yr anhawsder i'w gwneud yn fuddiol wedi eu darllen. Tardda y diffyg yma o un o ddau le-naill ai diffyg teil. yngdod y gwrthrych a gofir, neu ddiffyg athrylith y bywgraffydd. Ac os methiant fydd tynged yr hyn a ganlyn, bydd y bai ar yr ys. grifenydd, oblegyd credwn fod yn y gwrthrych hynodion teilwng.

Merch ydoedd Laura Griffiths i Griffith ac Ann Jones gynt o Leyn, sir Gaernarfon. Daethant i'r wlad hon pan oedd hi yn ieuanc iawn. Treuliodd y blynyddoedd cyntaf gyda ei rhieni yn ardal Penygraig. Wedi iddi ddod i ddechreu ymdaro drosti ei hun bu yn gwasanaethu gyda Mrs. James Owens, ac oddiyno aeth i wasanaeth y Parch. Morris Roberts, ac enillodd iddi ei hun radd dda yn mhob man fel merch ieuanc rinweddol. Ond pa ryfedd? gan mai hen osodiad y Duw digelwyddog yw, Benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod.

Pan yn 26 oed, ymunodd mewn priodas gyda William Griffiths, a threuliasant 24 o flynyddoedd yn ngrym yr ymrwymiad hwnw, ac nid oedd un awdurdod yn ddigon gyymus i'w dori ond awdurdod o'r byd anweledig. Cawsant fywyd fel luaws plant dynion, sef am a blin gystuddiau.

Ni welodd Duw yn dda eu cynysgaeddu â phlant o'r eiddynt eu hunain ; eto gwnaeth Mrs. Griffiths ei rhan yn magwraeth amddifaid ei brawd, a chafodd fyw i weled claddu tair o honynt a gweinyddodd iddynt yn ofalus hyd y diwedd; ac y mae yn hynod, ni bu yn iach ddiwrnod byth wedi marw Louisa yn Mawrth diweddaf.

Yn awr gadawaf ei hanes fel hyn yn ei symudiadau ar hyd y byd, i sylwi ar ei chymeriad. Nid llawer o'r byd yma a welodd ei Thad nefol yn dda roi iddi, gan ei fod yn meddwl ei gwneud yn etifedd byd gwell na'r ddaear yma, “Bywyd trag'wyddol a etifedda efe."

Yn awr edrychwn arni mewn gwahanol sefyllfaoedd fel y caffem fantais i'w gweled yn well dewiswn dri safle i edrych arni, sef ei chymeriad, ei hathrylith, a'i chrefydd.

Ei chymeriad personol. Dynes ydoedd o sylw manwl a barn graff-nid oedd yn ffurfio ei barn yn fuan am ddim na neb, ond tarddai ei barn { oddiar ymchwiliad a phrawf. Yna fel y gellid tybied yr oedd yn anhawdd iawn ei symud. Yr oedd yn hynod ddistaw ac yr oedd yn meddwl mwy o lawer nac oedd yn ei siarad, a gwyr pawb mai cymeriad anfynych yn mhlith merched y byd yw hyny. Meddai ddirnadaeth helaeth ar wahanol gangenau gwybodaeth yn neillduol mewn Duwinyddiaeth a Barddoniaeth. {

Hyn a'n harweinia yn naturiol i sylwi ar ei hathrylith, sef ei gallu meddyliol. Yn hyn yn ddiamau yr oedd yn rhagori ar y cyffredin. Pan yn ieuanc yr oedd yn meddu gallu neillduol i ddysgu y Beibl allan, dysgai bennod neu ddwy bob wythnos, a dysgodd Holwyddoreg y Parch. Mr. Charles pan yn ieuanc iawn. Ac nid yn unig dysgai, ond hefyd fel yr oedd yn dod i oedran addfetach yr oedd yr hyn a ddysgodd yn ei hieuenctyd yn dod i ymffurfio yn Egwyddorion yn ei meddwl, ac nid credu peth am ei bod wedi ei glywed yr oedd, ond am ei bod wedi ei brofi a'i gael yn ffaith. Felly daeth yn dracth

odyddes a bywgraffyddes a barddones dda, ac y mae ei gwaith yn aros yn gof-golofn ar ddalenau y CENHADWR pan y mae ei chorph yn cymysgu â llwch y llawr.

Ond ei chrefydd-dyma ydoedd gogoniant ei holl ragorion eraill. Crefydd a wareiddiodd ei hieuenctyd, a lywodraethodd ei bywyd yn ei haml brofedigaethau, ac yn y diwedd a'i gwnaeth yn gref i farw a'i phwys ar fynwes yr Iesu. Cafodd ei magu gyda chrefydd a theimlodd argraffiadau crefyddol yn ieuanc iawn fel mae yn anhawdd dweyd pa bryd y cafodd afael arni; ond gallwn fod yn sicr ei bod ganddi, oblegyd byw yn dduwiol oedd amean mawr ei bywyd, a myfyrio yn ei gyfraith ef oedd ei hyfrydwch penaf. Felly dysgodd fod yn Gristion profiadol, yn gymydoges dduwiol ac yn wraig hynod rinweddol. Yr oedd mewn gwirionedd yn goron i'w gwr,-yr oedd yn bob peth iddo y gallasai gwraig fod.

Dyoddefodd gystudd trwm am amryw fisoedd, a hyny yn dawel ac ymostyngar i ewyllys Duw ; a dyma oedd y man yr ymorphwysai ei henaid arno. "Ac ni chyfargollant byth." Felly ar ffyddlondeb yr hwn a addawodd ehedodd ei henaid i wlad y bythol wynfyd-bu farw yn dawel, Ionawr 29, 1864.

Hebryngwyd ei gweddillion i gladdfa Bethel. Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan yr ysgrifenydd a'r Parch. Mr. Roberts-heddwch i'w llwch a diddanwch i'w phriod i orphen ei yrfa ar y ddaiar, a nefoedd iddo yntau yn y diwedd, R. F. JONES.

MRS. JANE JONES, FREEDOM, CATTARAUGUS, E. N,

Gynt o Dyddyn y Gareg, plicyf Dolgellau.
Utica, Ebrill 23, 1864,

At y Parch, C. Jones, Dolgellau,—Barchedig Fraud,-Er nad ydwyf yn bersonol gydnabyddus a chwi, yr ydwyf dros eich hen gyfaill Robt. Jones, a'i blant, yn defnyddio y llwybr hwn i osod eu dymuniad ger eich bron; sef, ar fod i chwi ysgrifenu ychydig o gofiant i'r hen wraig Mrs. Jane Jones, yr hon a fu yn aelod gyda chwi yn Rhydymain, a hen gapel y Crynwyr, hyd oni ddaeth drosodd i'r America, ac oddiar hyny hyd ddydd ei marwolaeth hi a fu yn aelod ffyddlon gyda mi yn Cattaraugus, talaeth Efrog Newydd.

Hen gydnabyddiaeth ac hen anwyldeb rhyngoch chwi a Mr. Robert Jones a'i deulu, yw yr achos eu bod yn gofyn y gymwynas hon genych; yna ar ol i'r cofiant ddod allan yn yr Annibynwr, a'r Dysgedydd, y mae y Parch. R. Everett, D. D., i'w osod yn y CENHADWR.

I'r dyben i'ch gwneyd yn gwbl adnabyddus o'r amgylchiad, nodaf allan ychydig bethau. Y wraig ydwyf yn son am dani ydoedd Mrs. JANE JONES, gwraig Robert T. Jones, o blwyf Freedom, swydd Cattaraugus, talaeth Efrog New

« AnteriorContinua »