iau mewn un diwrnod. Diau fod y safon yn bur uchel wrth ei chymharu âg ymddygiad y rhan fwyaf o grefyddwyr yr oes hon. Ond beth bynag ydyw ymddygiad neu farn crefyddwyr yn yr oes hon, mae y pwnc yn bwysig iawn; ac y mae brenin Seion wedi gosod ei sêl wrtho fwy nag unwaith, ie, gellir dweyd ei fod wedi gwneyd ei oreu er cael gan bob aelod dalu sylw iddo. Os oes rhyw grefyddwr na fedr faddeu i'w frawd gyda'r parodrwydd mwyaf, bydded i'r cyfryw ystyried yn ddifrifol y geiriau canlynol o eiddo yr hwn y proffesa ei wasanaethu. "Oblegyd os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddeu hefyd i chwithau. Eithr oni faddeuwch i ddynion en camweddau, ni faddeu eich Tad eich camweddau chwithau. Matt. 6: 14, 15. Nid oes dim amheuaeth ar y pwnc, mae Duw yn maddeu i'r rhai a faddeuant i eraill; ond os yw neb yn anfaddengar, nid oes dim maddenant iddo yntau gan Dduw; onid gwell yw darostwng yr ysbryd balch hunanol, na fforffetu ffafr Duw am dragywyddoldeb. Ond dichon na theimla brawd fyddo wedi pechu duedd i ddyfod o hono ei hun i geisio maddeuant. Pa beth wneir o hono yn wyneb hyn? Dylai fod ysbryd maddeu mor gryf yn mhob Cristion, nes peri iddo fyned allan, a cheisio cyfleusdra i faddeu. "Dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun. Os efe a wrendy arnat, ti a ynillaist dy frawd." Gallwn yma sylwi na ddylai yr eglwys ar un cyfrif, gymeryd sylw o gwerylon personol, hyd nes byddo yr achwynwr wedi gwneyd ei oreu i gael gan ei frawd edifarhau. Os, fel y gwneir yn aml, y daw rhyw un i achwyn fod ei frawd wedi pechu yn ei erbyn, ac yn haeddu cerydd; y gofyniad cyntaf ddylid roddi iddo yw,-A fuoch chwi yn ymddiddan âg ef? Os dywed naddo, yna dylid gwrthod cymeryd ei achos i fyny nes y gwna hyny. Barna Calfin, fod Crist yn golygu yma bob math o bechodau na byddont wybyddus ond i ryw un, yn gystal a'r rhai fyddont yn uniongyrchol yn erbyn un; eithr ymddengys i mi mai pechod yn erbyn person yn unig a olygir yma; a diau y byddai yn well eu rhanu-pechodau yn erbyn person, a phechod yn erbyn cymdeithas, yn lle fel y gwneir yn aml pechodau dirgelaidd, a phechodau cyhoeddus, gan fod y gwahaniaeth yma yn ddigwyddiadol, yn hytrach nag o ran natur. Er enghraifft, dyma ddyn yn lledrata; nid yw o bwys ai un ai cant ddarfu ei weled; mae ei bechod ef yn erbyn cymdeithas yr un fath er nad oedd ond un tyst, a phe buasai pawb wedi ei weled; ac ni fyddai y ffaith nad oedd ond un yn gwybod, yn rhoddi hawl i'r un hwnw faddeu iddo ar ei edifeirwch am hyny; nis gall fod rhwymau ar ddyn a welodd frawd yn cyflawnu pechod oedd yn taro yn erbyn cymdeithas, fyned i ymddiddan a'r cyfryw cyn ei hysbysu i'r eglwys, gan nad oes a fyno ef ddim mwy âg ef, na rhyw aelod arall o'r eglwys. Byddai yn dda iawn i'n haelodau yn gyffredin, gofio y gwahaniaeth hyn. Dywed Calfin, nad yw Crist yn gorchymyn ar fod i bob un a becho, gael ei argyhoeddi yn ddirgelaidd heb un tyst. Canys y mae llawer medd efe na chaniatant geryddu yn gyhoeddus, hyd nes y byddys wedi siarad âg ef yn bersonol yn gyntaf. Ond y mae Paul yn gorchymyn, ar fod i'r hwn a becho yn ngwydd pawb, gael ei geryddu yn ngwydd pawb. 1 Tim. 5: 20. A diau y byddai yn beth ffôl iawn i frawd fyddo a'i drosedd wedi dyfod yn gyhoeddus ger bron pawb, gael ei geryddu gan bob brawd yn bersonol.-Calfin ar Matt. Nis gall fod Crist yn golygu dim heblaw pechod yn erbyn person yma, gan ei fod yn gorchymyn i'r person a'i hargyhoeddo, faddeu i'r troseddwr ar ei edifeirwch; ac y mae yn amlwg nad oes hawl gan un person i faddeu i'r hwn fyddo wedi troseddu yn erbyn yr holl eglwys. Os efe ni wrendy arnat, cymer gydâ thi un ueu ddau fel yn ngenau dau neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy. Hyny yw, fel y byddo genyt dystion erbyn delo y mater o flaen yr eglwys, dy fod wedi cynyg maddeuant iddo ar ei edifeirwch; ac felly dy fod yn deilwng i fod yn aelod cymdeithas, pan fyddo efe yn cael ei dori allan. Os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys. Rhaid cofio eto mai cynyg at ddwyn i edifeirwch sydd i fod yma hefyd, ac nid cael gwared o'r troseddwr. Os edifarha o flaen yr eglwys, er wedi parhau yn gyndyn yn wyneb goruchwyliaethau eraill, maddeu iddo yw y gorchymyn eilwaith. Ond os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, dyma y cynyg diweddaf i'w droi, mae yn dyfod yn wrthddrych disgyblaeth eglwysig, ac i gael ei dori allan, a'i ystyried fel y cenedl ddyn, neu y Publican yn hollol anaddas i gael un fraint yn yr eglwys. Os gofynir yma beth sydd yn ei wneyd yn wrthddrych disgyblaeth eglwysig, Atebwn mai anufudd-dod i gais yr eglwys yn benaf, yn nghyd a'r prawf a rydd ei fod yn ddiystyr o deimladau ei frodyr. Mae yn tros-. eddu rheolau y gymdeithas. Mae yn amhosibl i unrhyw gymdeithas fodoli, heb i bob aelod ymostwng i wrando ar lais y lluaws; a phwy bynag a fyno ddal ei farn ei hun yn groes i'r holl eglwys, rhaid iddo ymadael o'r eglwys hono, cyn y gellir dwyn pethau yn mlaen yn rheolaidd. Heblaw hyn, mae peidio edifarhau am droseddu yn erbyn ei frawd, yn wyneb cynifer o gymhelliadau, yn brawf pur amlwg nad yw ei galon yn uniawn ger bron Duw. I'w barhau. V Genhadaeth. MADAGASCAR. Y mae y genadaeth yn lled lewyrchus yn mhob cwr o'r maes. Yn fwyaf neillduol yr ydym yn awr yn edrych i Madagascar; a chyda llawer o bryder yr ydym yn edrych ar bob cronicl cenadol, rhag y bydd y newydd a rydd yn annymunol ac anffafriol. Y newyddion diweddaf oeddynt hynod gysurus. Y mae y llywodraeth yn sefydlog, a'r frenines yn sicr ar ei gorsedd, heb argoel am un cyffro. Y cenadau a gant berffaith lonyddwch a rhyddid i fyned yn mlaen a'u gwaith. Y mae ychwanegiadau lluosog at yr eglwysi bob mis, a'r cynulleidfaoedd ydynt yn gorlenwi yr addoldai eang lle yr ymgynullant. Y mae yr argraffwasg yn bwrw allan ei thraethodau lluosog bob mis, ac yn taenu goleu yn mhell ac agos; ac y mae yr ysgolion yn lluosog. Y mae pump addoldy yn y brif ddinas, a dau ereill oddeutu cael eu hadeiladu, a phob parodrwydd yn y bobl i dderbyn yr efengyl. Y mae rhai o'r addoldai yn cynwys mil o ddynion ac yn eithaf llawn. Y maent yn gyffredin iawn-y muriau ydynt o glom, a thoir hwynt â brwyn. Maent yn gwneud y tro yn eithaf: ond y maent yn dysgwyl yr addoldai coffadwriaethol yn fawr. Ni bu y bobl erioed yn fwy diofn yn addoli. Y mae rhai o'r swyddogion uchelaf yn mynychu yr adeiladau; a bu y prif weinidog unwaith neu ddwy yn ddiweddar; ac y mae ei weled ef yn rhoddi hyder gyffredin y pery y tawelwch, oblegyd y mae ei ddylanwad ef yn fawr iawn. Caniataodd y frenines i saith neu wyth mil o Gristionogion i fyned i gyntedd y palas dydd Nadolig diweddaf, i dalu eu gwarogaeth iddi. Derbyniodd hwy yn roesawgar, a chanasant amryw ddarnau Cristionogol iddi am awr o amser, ac yna yr Anthem Genedlaethol, yn dymuno bendith ar y frenines. A safodd Rainimainon Jisoa cadweinydd y prif weinidog, ac anerchodd ei mawrhydi yn enw ei gyd-Gristionogion yn ddoniol a chymhwys dros ben, gan sicrhau iddi deyrngarwch à diolchgarwch y Cristionogion am eu rhyddid a mwyniant eu breintiau. Diolchodd y frenines mewn modd cymhwys a byr iddynt am eu ffyddlondeb. Synai y pendefigion a'r swyddogion milwraidd wrth glywed canu peroriaethus y Cristionogion. Y mae rhyddid crefyddol perffaith yma, a chrefydd yn ffynu yn anarferol, a pha fwyaf luosogo y Cristionogion, mwyaf annhebyg a fydd i erlidigaethau dori allan.-Y Tywysydd a'r Gymraes. Barddonol. POMPEII. GAN G. H. HUMPHREYS, IXONIA, WIS. Vesuvius gryf a safai Iddi'n nawdd, a chyraedd wnai A'i ddefnydd oedd creigydd cry' A tyn gydiwyd hwy'n gadarn Er pob cynwrf neu dwrf dig. Heb air Naf o'i wiwber Ne'. Lle anwyl oedd i'r llwynog Ei ochr noeth; a chware wnai Gopa yn wech dyrfa dan Yn hyf wrth eu hochrau; Apennines yn wympion oedd I bur ddal pob oeraidd ias-ddwyreiniol A'i lawn lif o lan i lan Ymwingai am eangiad-i'w derfyn Hardd unwyd mawredd anian Ar bob llaw mewn gwychder ban; Ac yno yn y canol-y ddinas Ocdd enwog ryfeddol; Meddianai mewn modd iawnol-anrhydedd Addien gampuswaith oedd yn gwmpasog A claer ddyrchai pinaclau ardderchog Ac ynddi gerddi a gaid, A gwull enwog eu llonaid; A than with bendith di baid-y tyfent Tirfion resau o bob rhywiau O rosynau o sawr swynol Welid yno yn blaguro, Gan wiw fritho'r gain fro ethol. Awel dyner ledaenai Ei chweg aroglau'n chwai I ffroenau'r hoff wyr anwyl Ac yno caid cu wenyn-yn hel mel O'i mewn y ceid almonau-ac eirin Oll yn heirdd, er llawenhau-a'u bwytent, Dihafal aurafalau-a ffigys Hoff, hygar eu lluniau, A grawn wrth eu hochrau'n grog; Ac anian ar ei gwyneb-goruwch hon A gair o alwad, milwyr gwrolion Yn mysg gwiw seiniau llon miwsig swynol; O'i âlon garai y milyn gwrol; A mathru a'i rym uthrol-deyrnasoedd A dwyn y bydoedd o dan ei bedol. Ef â dewrfost wnai i'r dref derfyn A'r mad ddinasyddwyr,am hyn-oll oeddynt Y plant oeddynt wymp luon tueddol A siarad wnai'r meib siriol-am urddas Byrion deithiau weithiau oedd Ar frith amrywiaethau'r fro, A chael yn rhydd ffrwythydd ffrau Tai dail i fwyta diliau-hael oeddynt, (I'w orphen yn y nesaf.) CARIAD CRIST YN EIN CYMHELL NI I FYW Os drosof fi dyoddefodd Crist Os rhodd e' ei wiwlan waed difai Tedded fy nghalon i bob tro Wrth gofio ei ddyoddefiadau, O Iesu mawr! rho imi o'th ras LLYWELYN AP GWILYM. ANGAU Y GROES. Mor fawr dy boenau, Iesu hardd, Dyoddefaist hefyd angeu loes, Dy wiwdlws gorff groeshoeliwyd, Gan ddynion anwir drwy wir frad Dy werthfawr waed dywalltwyd. Wrth gofio am danat, Iesu cu, LLYWELYN AP GWILYM. TY HYNOD. Gwelais filwaith wych adeilad Ar y graig nid ydyw chwaith, Ar y ddau, do lawer gwaith. Mae y deiliad yn preswylio Gyda'r fath fedrusrwydd mawr, Brwd ac oer trwy'r byd yn grwn, Er ei guro gan ystormydd, 'Does ond un all ddymchwel hwn! Nid yw'r tŷ ond 'chydig werth. Fel gwna'r fam ei baban bach; Hefyd ar y moroedd mawr, Weithiau bydd mewn awyr-gerbyd, Yn rhoi tro rhwng nef a llawr. Os bydd rhywun mewn amheuaeth A oes tŷ o'r fath yn bod; Craffed ar ei GORFF ei hunan! Caiff esboniad yn ddioed, Craffed arno nes edmygu 'R Adeiladydd mawr ei hun; Craffed arno nes y gwela, Ardderchawgrwydd pabell dyn. Craffed hefyd nes arswydo Rhag anurddo tỷ mor wiw, Gan ei droi yn flau ellylion! Yn lle temil Ysbryd Duw; Cofied hefyd fod 'r un natur Ar orseddfaine nefoedd fry; Uwch cerubiaid a serafliaid, Mewn tragwyddol barch a bri. Beth allasai dan y nefoedd Mae y dyfroedd i mi'n chwerw, Colli un a'm carai'n fawr, 'R oedd ei heisiau mewn gogoniant Middle Granville, Meh. 10, 1864. GALARGAN. Er coffadwriaeth am HANNAH HUGHES, anwyl wraig Nych a dolur och a'm daliodd, Am ei theulu yn ei thŷ. Er pan 'mrwymais mewn priodas, Ymgeledd gymwys, perl oedd burlys, Nes y darfu'r cyfnod hirfaith A'i llaw ddeau dan fy mhen. A'i chrefyddol ddenol ddawn, Llaith yw'n dwyrudd, lletha'm dawn. Iddi hi 'roedd marw'n elw, Er mor chwerw oedd i'w chwaeth, Cadd y gelyn heb ei golyn Er mor sydyn oedd ei saeth. Ond yn awr yn nyffryn wylo, Nid oes glefyd, nid oes glwy', Ar yr wythfed dydd o Ionawr, Fu'n hyfrydwch flwyddan maith; 'N dyddiau beno i'n dwyn o'r byd. Y MARW. Gwir f anwylyd, rhaid yw symud Ni gawn eto ysgwyd dwylo Brysio wnelo'r hyfryd wawr, (medd y byw.) EI GWR GALARUS. GWEL Y MEDDWYN. Arglwydd tirion, agor lygaid Gwel ei wraig sydd dan ei chleisiau, Gwel ei dda sy'n myn'd ar wasgar, I dragwyddol boen a gwae! CYFARFOD CHWARTEROL WATERVILLE. Cynaliwyd y cyfarfod uchod ar y 13 a'r 14 o'r mis hwn, Mehefin. Dangoswyd cydymdeimlad â'r Parch. E. Davies a'i briod yn eu trallod, trwy eu bod wedi colli trwy oruchwyliaeth angau ddau o'u plant, pa rai oeddynt fechgyn bach anwyl a gobeithiol. Yr Arglwydd a gynalio eu meddyliau, ac a'u dyddano â'r dyddanwch sydd yn Nghrist. Adroddodd y Parch. E. W. Jones ei deimladau gyda golwg ar yr afiechyd ag y bu ef a'i deulu ynddo, yr hyn oedd yn cynal ei feddwl, a'i benderfyniad i ymddiried yn ei Dduw pa beth bynag a'i cyfarfyddo. Gwnaed crybwylliad am y brawd Parch. L. D. Howell yn ei gystudd, ei fod yn dymuno rhan yn ein gweddiau, a'i fod yn gynhes ei feddwl at achos ei Dduw. Pen. 1. Ein bod fel cyfarfod yn dymuno amlygu yn rhwymau yr efengyl ein cydymdeimlad â'n brawd yn ei afiechyd, gan fawr obeithio ei adferiad buan, er cysur i'w anwyl briod, ac er mantais iddo yntau i fod yn ddefnyddiol eto yn ngwinllan ei Arglwydd. Pen. 2. Fod y Parchn. M. Roberts, a R. Everett, D. D., a Mri. G. O. Griffith a W. W. Thomas, Remsen, a G. T. Jones, Trenton, i edrych i mewn i sefyllfa y ddyled ar Gapel Prospect. Pen. 3. Ein bod yn penderfynu cynal cymanfa flyneddol eto y flwyddyn hon-bydd yn dechreu yn Rome ar y 13 a'r 14 o fis Medi nesaf. Utica y 15 a'r 16. Steuben a Bethel yr wythnos ganlynol. Dymunir ar y gwahanol eglwysi wneud casgliad prydlon er cynorthwyo cynal y Gymanfa. Pen. 4. Fod y Parchn. Thos. D. Rees a J. R. Williams i gael llythyrau cymeradwyaeth oddiwrthym fel Cymanfa, gan eu bod wedi symud o'n plith i Eglwysi yn Nhalaeth Pennsylfania. Pen. 5. Fod yr ail Sabboth yn y mis nesaf (Gor.) i gael ei neillduo genym i weddio yn achos ein gwlad, ar i'r Arglwydd oruwchlywodraethu amgylchiadau er attal y tywallt gwaed, ac er adferiad heddwch a sefydliad rhyddid trwy yr holl wlad yn fuan. Pen. 6. Ein bod yn anog ein cyfeillion i fod yn ffyddlon i gynorthwyo y Sanitary Commission, sef y Gymdeithas werthfawr sydd wedi ei ffurfio er cynorthwyo y milwyr yn eu clwyfau a'u hafiechyd, trwy ein cyfraniadau a'n gweddiau, a chofier fod eu clwyfau hwy yn hawlio ein pocedau ni, a'u tywydd garw yn hawlio ein gweddiau. |