Imatges de pàgina
PDF
EPUB
[blocks in formation]

Yn ddiweddar, wrth waith Rockwell, yn Providence township, Pa., o'r darfodedigaeth, yr anwyl a'r caredPeiriannydd ig frawd, DAVID JAMES, yo 38 ml. oed oedd wrth ei gellyddyd. Mab ydoedd i Jobu a Jennett James o Felin y Dyulont, Ystradgyulais. Ymfudodd i'r wlad hon tua 10 mlynedd yn ol. Daeth dan argyhoeddiadau am ei gyflwr anser yn ol, a rhoddodd ei hun i'r Arglwydd ac i'w bobi-a threuliodd weddill ei oes yn ei gariad cyntaf. Yr oedd yn oleu yn ei brofiad, yn ymorphwys ar Grist fel ei unig sylfaen. Gadawodd weddw a 5 o blaut i alaru eu colled mawr ar ei ol Pregethodd yr ysgrifenydd yn ei angladd oddiwrth Ruth 1: 20. E. B. EVANS.

Chwef. 23, yn Tamaqua, Pa, MARY JANE JAMES, yu 2 f., 11 mis a 15 diwrnod oed. Bu farw yn sydyn iawn. Gobeithio y caiff ei rhieni nerth i godi eu peuao uwchlaw y don bresenol-a chofio

"Nad ocs un angel yn y nef
Ddyrchata gan o wychach lef
Na Mary Jane a whaed yn wyn
Drwy rinwedd gwaed Calfaria fryn."

E. R. PRICE.

Chwef. 23, yn Delaware ger Minersville, Pa., yn 63 mlwydd oed, Mrs. ELIZABETH DIVIES, gwraig Mr. William Davies, Yuysgion. fel y gelwir et. Claddwyd hi yn mynwent y Bedyddwyr yn Minersville, pryd y gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd. Yr oedd wedi dyfod i'r wlad hon o Blaenaton, Mynwy, tuag 11 mlynedd yn ol. Yr oedd ein chwaer yn grefyddol er yn ieuanc. Derbyniwyd hi yn aelod i'r Eglwys Gynulleidfaol yn Bizenalon, gan y Parch. Mr. Griffith's a glynodd yn ei phroffes hyd y diwedd Fel Cristion yr oedd yn heddychol, ffyddlon, a theimladwy. Cafodd lawer o brofedigaethau yn ei bywyd, a dyoddefodd gystudd trwm am rai misoedd. Ond yr oedd wedi dysgu bod yn foddlon. Wedi byw i Grist fel yna am fynyddau meithion bu marw yn elw iddi. Parotoer ei phriod a'i phlant i fyned i'r un wlad ddedwydd a bithau. JOHN E. JONES.

Mawrth 10, ar Folly Island C. Dd., y milwr da DAVID JONES o Trenton, N. Y., perthynol i'r cwmoi F, catrawd 117, N. Y. Vol. Ei gystudd oedd chronic diarrhea. Er mwyn ei weddw draliodus, a pherthynasan a chyfeillion eraill, gallaf ddweyd iddo gael pob cymorth meddygol a allasid roddi yn yr amgylchiad, gan ein meddyg H. W. Carpenter o Holland Patent, a phob ymgeledd tyner a allasid roddi, gan ein cyfaill Thos Williams o Floyd, yn ngofal yr hwn yr oedd yn ei gystudd Cymerodd y gofal goreu am dano. Teimlwn yn ddiolchgar i'r Dirprwy aeth iechydol (Sanitary Commission) am eu rhoddion haelfrydol a phri odol i'r cleifion. Bydded i'r boneddigesau Cymreig barhau yn eu hymdrechion ffyddion yn hyn.

JOHN T. THOMAS.

1st. Lieut. Co. C, 117th, Regt, N. Y. Vol. Chwef. 24. yn Camptonville, swydd Yuba, Cal., Mrs. MARGARET GRIFFITHS. priod Mr. David J. Griffiths, yn 33 ml oed, gan adael priod a 4 o blant yn nyffryn wylotain i alaru ar ei bol Ei chystudd oedd y darfodedigaeth. Yr oedd yn enedigol o Benycae, Mynwy. Yotudodd i'r dalaeth hon 5 mlynedd yn ol o Llewelyn. Pa. Yr oedd mewn undeb à phobl yr Arglwydd cyn ymadael â'r byd hwn. Galwodd ei rhai bach at ochr ei gwely yn ei dyddian olaf, a rhoddodd gynghorion buddiol i'w hauwyl briod. Enwodd dri emyn o Ganiadau y Cysegr i'w canu ar ddydd ei bangladd, sef

Yn y dyfroedd mawr a'r tonan, &c.

Pa'm carai'r byd a'i wagedd mwy, &c. O Dduw rhoi im' dy hedd, &c. Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth i dorf luosog o Gymry ac Americaniaid, gan y Parch. Mr. Baker o San Juan a'r ysgrifenydd. WM. O. WILLIAMS.

Chwef. 27, yn Mhenymynydd, Steuben ar ol llai na phythefnos o gystudd, Mrs. ELIZABETH P. JGOES,

gweddw y diweddar Wm. P. Jones, yn yr oedran mawr o 93 ml. a 4 mis. Yr ydym dan brofedigaeth o roi math o Gofiant lled faith am y chwaer anwyl a ffyddlon hon; ond gan y byddai yn ei bywyd yn arwyddo dymuniad na byddai nemawr yn cael ei ddweyd am dani ar ol ei hymadawiad, rhaid ymattal. Dywedai, Peidiwch dweyd dim ond fy mod wedi marwbydd hyny yn llawn ddigon." Merch ydoedd i Humphrey ac Elinor Thomas. Peiswyn, (Gil làn) plwyf Llanengan, Arfon. Daeth drosodd i America gydag ewythr iddi yn ngwanwyn fl. 1794, yn 23 oed. Yn y fl. 1795 ymdaenodd y clefyd melyn (yellow fever) am y waith gyntaf yn New York. Cafodd bithau a chwaer iddi y clefyd-bu ei chwaer tarw, cafodd hithau fyw a gwelthau. Ymunodd mewn priodas à Mr. Wm. P. Jones yn New York (y Parch John Williams yn gweinyddu) Medi 9, 1797, a daeth i fyny gyda ei phriod i Steuben y flwyddyn hono. Buont yn byw ychydig flynyddan ar dir a feddiannwyd wedi hyny gan y Dr. Daniel Roberts, yna symudasant i'r lle a brynasant yn Mbenymynydd, lle y treuliasant flynyddoedd maith eu hymdaith, ac y bu iddynt deulu lluosog. Derbyn iwyd hi yn aelod o'r eglwys yn y Capel Ucha', Steuben, tuag amser ffurfiad yr eglwys houo. a pharbaodd ei chysylltiad yno, ac yn eglwys Penymynydd o'i furfiad cyntaf hyd ei hymadawiad. Yr oedd yn ddiwyd a llafurus yn ei bamgylchiadau. Yr oedd yn hoff iawn o ddarllen, a darllenodd lawer-yn ddiysgog yn ei hymlyniad wrth ei hegwyddorion a'i phroffesyn ffyddlon i'w chydgynulliad yn un dirion a gwasanaethgar yn ei chymydogaeth-yn anwyl yn ei theulu ac yn yr eglwys. Gorphenodd ei gyrfa mewn tangnefedd. Claddwyd hi yn mynwent Peuy my n ydd wrth ochr ei phriod, a gweinyddwyd gan y brodyr M. Roberts a R. Everett.

Mawrth 8, yn ei hanedd ar State Road, Penymynydd, Steuben, Mrs. CATHARINE MORRIS, priod Mr. Wm. Morris, tua 77 ml. oed. Yr oedd Mrs. Morris yn ferch i Mr. John a Jennett Evans, o Cae 'r Miner, plwyf Bythynog. Lleyn, Arfon. Ymunodd mewn priodas à Mr. Wm. Morris ychydig ddyddiau cyn eu cychwyniad i America, o borthladd Pwllhelli, yn y f. 1818. Daethant dros y môr mewu 10 wythnos o'r pryd y cododd y llong ei hangor yn mhorthladd Pwllheli, ac yn fuan daethant ymlaen i swydd Oneida. Bu iddynt dri o blant, dau fab a fuont feirw yn eu babandod, ac un, sef Morris Morris, ysw., sydd yn fyw, yn nheula yr hwn y mae y tad yn awr yn cartrefu. Derbyniwyd Mrs. Morris yn aelod eglwysig yn y Capel Ucha', Steuben, tua'r flwyddyn 1825, dan weinidogaeth y Parchn. W. Pierce ac Evan Roberts, a bu yn aelod o'r eglwys hono ac o eglwys Peny myn ydd o'i ffurfiad cyntaf hyd ei hymadawiad yn angau. Yr oedd yn wraig barchus yn ei chymydogaeth, ac yn aelod cymeradwy yn eglwys Dduw. Bu farw gan ymddangos fod ei phwys yn dawel a diys rog ar y Gwaredwr. Claddwyd hi mewn beddrod ar y tyddyn a ddewiswyd ganddi hi a'i phriod er's blynyddau lawer yn ol, a gweinyddwyd gan y brodyr Mr. Fint a R. Everett.

Mawrth 17, ger pentref Remsen, o glefyd y galon a gwaeleddau eraill, Miss GWEN JONES, merch i'r diweddar John G. Jones, ysw., tua 45 mlwydd oed. Claddwyd hi yn mynwent Prospect, a gweinyddwyd gan y brodyr Parry, James ac Everett.

Mawrth 20, yn Batavia, N. Y., o'r darfodedigaeth, Mr. JOHN R. JONES, yn agos i 25 ml. oed. Claddwyd ef yn mynwent Capel y Nant, Steuben, a gweinydd. wyd gan R. Everett.

Mawrth 16, yn Westmoeland, N. Y, JOHN J PARRY, hynaf, yn 69 ml. oed. Yr oedd wedi bod yn aeled o eglwys Dduw gyda'r Cynulleidfawyr a'r Henaduriaethwyr tua haner canrif-ei ymadawiad oedd dangnefeddus a bnddugoliaethus ar y gelyn olaf

Chwef. 14, yn Pittsburgh, MARY ANN, merch y diweddar Isaac Williams, yn 5 ml oed. Fel hyn ychwaengir at alar y fam a'r weddw, sef Mrs. Ann Williams. R. R. WILLIAMS, bir yn

Chwef. 18, yn St. Albans, O., ar ol bod yn nychu yn darfodedig ath, Mr. BENJAMIN REES, yn agos i 66 ml oed. Ganwyd ef yn y Caeau, plwyf Trelech, Caerfyrddin, Mawrth 24, 1798. Priododd å Miss Mary Davies, Berthlwyd, o'r un plwyf yn 1820. Derbyn. iwyd ef a'i briod yn aelodau eglwysig gan y Parch.

Morgan Jones. Trelech, er's dros 40 mlynedd, a pharhaodd yn Gristion proffesedig a ffyddlon hyd y diwedd. Gadawodd i alaru ar ei ol, ei weddw, 3 o blant a 15 o wyrion.

Awst 28. 1863. ger Emporia, Kansas, MARY ANN LEW18, merch Mrs. Rachel Lewis, gweddw y diwedd. ar Barch. George Lewis, yn 10 ml. a 5 mis oed, o'r congestive chills. Claddwyd hi yn mynwent y Cym ry ar Dry Creek, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. W E. Evans. R. D. THOMAS.

Rhag. 10, o'r chronic diarrhea, yn yr Ysbytty yn New Orleans, JONADAB R. JONES, mab i Rowland J. Jones a'i briod. o Lexington, Ill., yn 22 ml. oed.

Yn banes y marwolaethau, a rhai banesion eral, yr ydym wedi gorfod tallyru llawer, yr hyn Bydd waith anhyfryd a buderus.-GoL.

YN ARDAL EBENSBURG, BU FARWMawrth 4, 1863. Mr. HuзH TUDOR уn 75 oed. Ganwyd ef Chwef. 18 1788. mewn lle o'r enw Nantyfyda, plwyf Penegos Maldwyn, G. C. Tebygol yw, yn ol yr euw. fod Mr. Tudor yn Gymro glân gwreiddiol, os nad oedd o'r teulu brenhinol hwnw, wedi hanu o rai o'r Tudoriaid Cymreig a fuout mor enwog ar facs hanesyddiaeth y cynoesoedd. Ac fel hen sefydlwr yr oedd wedi ei adael yn un o weddiliou ben batrieich cyfrifol a pharchus y sefydliad Cymreig hwu. Cyn ei symudiad i'r wlad hon, yn y f 1814. ymbriododd á Miss Jane Owen, merch Mr. Dafydd Owen, Cefuchreafol. Yn y fl. 1817 cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Aberhosan, gan y Parch. D. Morgan, Machynlleth gynt.

Ar y 15fed o Mehefin, 1819, ymadawodd a gwlad ei enedigaeth, a chychwynodd tua'r wlad bon, a glauiodd yn Baltimore, ac wedi aros yno ychydig amser, daeth yn mlaen a chyrhaeddodd Ebensburg Medi 9 o'r un flwyddyn. Bu iddo ef a'i anwyl briod deulu parchus a lluosog o 7 o blant5 o ferched a 2 fab. Pedair o'r merched fuont feirw-y ddwy hynaf a'r ddwy ieuengaf-fel nad oes ond 3 o'r plant yn awr yn fyw, sef y meibion, a'r chwaer barchus Mrs. Breese. Yn mhen tua 9 ml. wedi ymsefydlu yma, Gorphenaf 24, 1828 bu farw Ms. Tudor, fel y disgynodd holl ofal y teulu ar y tad yn unig. Yr oedd Mr. Tudor, yn mhob perthynas, fel tad, fel dyn, fel dinasydd, ac fel crefyddwr a Christion didwyll, yn wr tawel, llonydd, call a chysou, a hynod o heddychlon. Ni chlywid byth son am dano ef mewn unrhyw ym. rafael ac ymryson, ac felly y daliodd ef ei gwys yn wastad a chyson byd derfyn ei yrfa A gwedi hir wendid a methiant tra chystuddioi, bu farw fel y bu e' byw mewn tangueledd, ac aeth i daugnef edd tragywyddol. Cymerais Matt. 22: 31, 32, yn destyu ar achlysur ei farwolaeth.

Mehefin 21, 1863, DAVID W. PRYCE, yn 60 oed. Ganwyd ef yn yr ardal hon Meh. 1, 1803. Mab ydoedd i Mr. a Mis. William a Grace Pryce. Yn when rhai blynyddau ar ol marwolaeth ei anwyl dad, (tebyg iddo golli ei fam yu bur ieuanc.) ymbriododd â Miss Catharine Evans, yn y fl. 1849, yr hon a adawyd yn weddw alarus gyda 3 o blant bychain ar ei ol el. Yn y f. 1825, pan oedd tua 22 oed. cafodd ei dderbyn yn aelod o'r eglwys hon, a'i gwys a ddaliodd yn gyson hyd derfyn ei yrfa. Yr oedd ein hanwyl frawd D. Pryce yn wr parchus a chyfrifol gan bawb a'i had waeuai. Felly caed ef yu mhob sefyllfa fel dyn mwyn, llariaidd a hawddgar erioed o'i febyd,-fel pen teulu yr un modd oedd ef,-fel cymydog parod oedd wrth law bob amser; ac fel Cristion, didwyll ydoedd-tawel A heddychlou yu ei holl ffyrdd, yu y byd ac yn yr eglwys hefyd. Parod y ceid ef mewn cymwynasgarwch, fel dyn caredig a haelionus at bob achos da. Felly teimlai yr holl ardaloedd, ond yn enwedig y frawdoliaeth grefyddol yn nghyd a chylch

helaeth o berthynasau, hiraeth dirfawr ar ei ol. Caem ef bob amser trwy yr hir gystadd a gafodd yu dawel a boddlongar i ewyllys ei nefal Did, er iddo yn ei gystudd diweddaf on fod dyoddef poenau dirfawr ar amseran trwy doriad a lledaeniad math o orthy fiad ar ei ystlvs tebyg i'r ddyfa leu wyilt, fel y torwyd ef i lawr o gyfansoddiad cryf i'r gwendid mwyaf ac eto yn raddol y gwanychodd hyd amser ei ymddattodiad. Cawsom er hyny arwyddion amlwg mai fel oedd y dyn oddi allan yn pallu fod y dyn ocdimewn yn cry than o dilydd i dyd byd y diwedd Testun ei brege`li ang

laddol ef oedd Col. 3: 3 4.

Gorphenaf 2, 1863 Mr EVAN T. JONES. yn 73 oed. Ganwyd ef yn y fl. 1790 yn mhlwyf Llanbrynmair. Maldwyn, G. C. Muddd i'r wlad hon yn y fl. 1830. Rai biyuddau cyn ei ymadawiad a'r hen wlad priododd Miss Aun Davies o'r un plwyf, a thoa yr un amser derbyniwyd bwy ill dan yn aelodau eglwysig yn Llanb yumair gau y Parch. J. Roberts. Hauedd Mr. J. o deulu tra Hluosog, cyfrifol, a chrefyddol hefyd, a thebyg pe buasai en plant i gyd yn fyw eto, buasai iddo yu tau a'i briod sydd yn awr yn weddw, deulu pur luosog. Claddwyd rhai o'u plant yn Nghymin; ac amrai wedyn yn y wlad hou, fel nad or s hedd yw yn weddill ond 5 o huynt; tri mab a dwy ferch, wedi eu gadael gyda'r fam yn fyw.

Ar ei sefydliad yn yr ardal hon, cvineradd ei le fel aelod yn yr eglwys hon. ac felly y parhaold hyd y diwedd Ac er fod ei iechyd yn wanaidd iawn er ys amrai flyuyddan; canys blinid ef ya fawr yn enwedig ar ddiwedd ei oes gau gaethauad (asthma) yr hwn a'i dilynodd hyd yr analiad olaf, ac er ei fod yn byw allan yn y wlad dair milldir o'r dref, gwnai ymdrech teg yn aml er cyrhaedd moddion gras haf a gauaf, fel Cristion gonest a ffyddion, yn ol ei allu a'i amgylchiadau, hyd y diwedd. Testun y bregeth angladdol oedd Salm 23: 4.

Hydref 23 1863, Mr. JOHN HUMPHREYS yn 67 ced Ganwyd ef yn ardal Machynlleth. Maldwyn, G. C.. yn y f 1796. Yn y f. 1817. pan yu 21 oed. cafodd ei dderbyn yn aelod eglwysig yn Nghapel y Graig Machynlleth, gan y Parch. D. Morgan. Yn y f. 1832. ymbriododd â Miss Eleanor Ellis o'r un plwyf. Yn y f 1841 ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon. Bu iddo ef a'i anwyl briod 10 o blant, saith o feibion a hair o ferched, pa rai sydd e o yn fyw i gyd ond un mab, sef y brawd siriol a char ladus hwow gau bawb, Mr. Hugh Humphreys, am yr hwn y rhoddwyd coffadwriaeth fer yn y CENHADWR gyda'r lleill o'u brodyr ieuainc parchus a syrthiasant ar faes y frwydr fyth gofiadwy hono ger Fredericksburg, Rbag. 13. 1862. Yr oedd Mr. H., en hanwyl dad, o naturiaeth deg yn ddyn iach ac o gyfansoddiad cryf ac nis gellir enwi braid neb yn y sefydliad hwn a weithiodd yn galetach ac a ddaliodd ati ar bob math o dywydd gystal ag ef; ond yn dra disymwth y cyfarfo ef a'r un cyffelyb afiechyd â'i ddwy chwaer Eleanor a Mar garet, er nad yr un amser, y fath a'i torodd ef i lawr megys ar unwaith. ac eto er nad oedd ei gystudd ond byr cafodd ddioddef poenau caledion lawn Oud daliodd ei hyder yn gadaru a phur oleu yn ei Waredwr hyd y diwedd. Gadawodd weddw hiraethlon a 9 o blant, 6 mab a 3 merch, ar ei ol, er eu bod oll mewn amgylchiadan cysurus a chan mwyaf wedi priodi a chanddynt hwythau deuluoedd llwyddianus a chynyddol. Oud mwy na'r cyfan cafodd weled y rhai'n i gyd yn bir cyn ei ymadawiad dan yr iau ac mewn ffordd obeithiol i fod yn ddefnyddiol yn ngwasanaeth eu Harglwydd a thyna yw ein taer weddi drostynt oll. Testun ei bregeth angladdol oedd Salm 116: 7.

LLEWELYN R. POWELL.

Yr Eglwys yn St. Louis.—Mae yr Eglwys Gym. reig yn St. Louis, Mo., yn cydnabod gyda diolch. garwch dderbyniad y rhodd anmhrisiadwy o 19 o Feiblau Cymreig a 19 o Lyfrau Hymnau Cymreig i ddefnyddiad yr eglwys, gan ein cyfaill caredig Robert L. Jones, ysw., St. Louis-rhodd werthfawr mewn dydd o augen. Hefyd, trwy law J. B. Evaus, cyfreithiwr, oddiwrth Mr. D. T Davies, Rhif 118 heol Genesee, Utica, y rhodd hardd o Feibl Pwlpit a Llyfr Hymuau, am yr hyn oll y dymuna yr eglwys ddychwelyd diolchgarwch o galon gynhes-a bydded i'r Arglwydd fendithio y cyfranwyr. E. EDWARDS, Gweinidog,

D. DAVIES, Trysorydd yr eglwys. Gair oddiwrth eglwys Duncanville Pa-Dymunir ar i'r gweinidogion o wahanol enwadau anfou eu cyhoeddiadau dair wythnos o leiaf ymlaen, oblegyd fod y P esbyteriaid yn pregethu yn y capel bob trydydd Sabboth. Bydd hyny yn debyg o arbed llawer o drafferth a thraul, ac y mae yn aughyfleus iawn i dderbyu neb yma ar yr wythnos. Cyfeirier, Mr. Wm. J. Richards, Duncanville, Blair Co., Pa.

Cambria Newydd.-Yr ydym wedi ein sicrhau gan y Meistri J. M. a W. B. Jones, eu bod wedi llwyddo i gael oddiamgylch y manteision i'r Trefedigion, o herwydd pa rai yr aeth un o honynt eilwaith i Missouri, ac y bydd Hysbysiaeth gyflawn oddiwrthynt yn ein rhifyn nesaf.

Galwad i weinidog -Rhoddodd eglwys Gynulleidfaol Ashton, Summit Hill, Pa., alwad i'r Parch. Thomas Pugh, Allentown, Pa., i ddyfod yn fugail arnom, a darfu Mr. Pugh ei hateb yn gadarnhaol, a dechreuodd ar ei lafur gweinidogaethol mis Chwefror diweddaf. Ein dymuniad yw ar i'r Arglwydd fendithio ei ddyfodiad ef i'n plith a'i lafur yn ein mysg, fel y byddo Seion yn cael ei hadeiladu a llawer o'n cenedl yn cael eu dwysbigo, trwy fod Duw yn arddel ei weinidogaeth yn ein mysg. EVAN E. JONES.

Symudiad gweinidog.-Bydd fy nghysylltiad â'r Eglwys Fedyddiedig yn Freedom, sir Cattaraugus, N. Y., yu terfynu diwedd y mis hwn. Mae yr ymadawiad yn daugnefeddus, a'r cysylltiad wedi bod yn ddedwydd. Cefais alwad unfrydol i ailgymeryd eu gofal wedi eu rhybuddio o'm bwriad i ymadael; ac yn ngwyneb fod y cysylltiad gweinidogaethol yn terfynu, eto amlygasant eu bod yn gwerthfawrogi ein llafur drwy ein hanrhegu ar y 29 o Ionawr â llawn gaut o deugain o ddoleri ($140), gan mwyaf mewn atian. "Preswylydd y aroso yu eu plith, ac a arddelo 'r Bugail dyfodol uty ut.

berth"

Bwriadwyf gymeryd gofal yr Eglwys Fedydd. iedig yu Hyde Park ar y laf o Ebrill. A bydded gwyneb yr Arglwydd ar y cysylltiad newydd. Cyfeirier ataf o hyn allan, Rev. J. P. Harris, Hyde Park, Luzerne Co., Pa. J. P. H.

Mawrth 16, 1864.

Cadwaladr Richards yn symud i dy newydd.-Yr ydym wedi derbyn gair oddiwrth Mr. Cadwaladr

wwwwww

Richards, ei fod yn gorfod symud i dŷ mwy hel. aeth, ac yn meddu cyfleusderau ychwanegol. Dymuna gyflwyno ei ddiolchgarwch gwresocaf i'w aneirif gyfeillion, am ei cefnogaeth barhaol, a sicrhau iddynt yn ei Dŷ Newydd fwy o gyfleusderau a chysurau teuluoedd nag o'r blaen, er, a chasgiu oddiwrth eu hymlyniad wrtho, eu bod wedi eu boddio yn eithaf yr amser a aeth heibio.

Wedi y cyntaf o Fai, cyfeirier pob godebiaeth fel hyn:-Cadwaladr Richards, 403 Greenwich st., New York.

Dilead caethiwed o'r holl wlad.-Mae y cwestiwn o ddilead by thol ar gaethiwed yn yr holl wlad, trwy wellhad ar y Cyfansoddiad cyffredinol ("Magna Charta" America) dan ymdriniaeth difrifol y Gydgyughorfa y dyddiau presenol. Traddodwyd areithiau rhagorol ar hyn gau Trumbull o Illinois a Wilson o Massachusetts yn y Senedd, ddeu ddydd neu dri yn ol, yu dangos mai y gwir achos o'r rhyfel a'i erchyllderau yw bod laeth caethiwed yn y wlad, ac mai yr unig ffordd i sierhau heddwch sicr a pharhaol ydyw trwy gwbl ddilead o'r ffieidd-dra cywilyddus hwn, ac y gellir gwneud hyny yn effeithiol trwy y gwellbad crybwylledig. Dysgwylir yn hyderus y gellir llwyddo yn hyn, ond nid heb lwyr orchfygu ar yr un pryd y terfysgwyr bradwrol a safant ar y maes heddy w yn eu barfau angeuol yn erbyn ein gwlad. Bydd yn rhaid cael dwy ran o dair o'r ddau Dŷ i gymeradwyo y cynygiad, ac yna cael dwy tan o dair o'r holl dalaethau, trwy eu deddfwriaethau (legisla tures) i'w gadarnhau. Oud hyderir fod y wlad yn addfed bellach i gwblhau y gwrthrych hwn.

Yr ymosodiad ar Paducah, Ky-Y gelynion dan y Cadf. Forrest a wnaethant rudr-ymosodiad ar dref Paducah, Ky., ddydd Gwener, Mawrth 25. Gorfodwyd hwy i gilio yn ol gan y gwufadau a'r milwyr Uudebol yn yr amddifyuta, oud uid cyn iddyut allu lladrata nwyddau lawer o'r masnachdai a'r aneddau &c., a chymeryd ymaith lawer o geffylau. Llosgwyd rhan fawr o'r dref, a chollwyd bywydau amryw.

Yr alwad am 200 000 yn ychwanegol-Mae yr alwad hon yn debyg o gael ei hateb trwy ymestr iad mewn handiroedd eang yn y wlad-y cyf lenwad sydd wedi ei wuendi fyny eisus yn mhlwyf Steuben ac amryw fanau o fewn cylch ein hadnabyddiaeth.

Anrheg i weinidog yn Big Rock, Ill.—Dymunwn trwy gyfrwng y CENHADWR gyflwyno fy niolchgarwch i Gymry Big Rock, Ill., ac yn neillduol i'r eglwys sydd dan fy ngofal am eu caredigrwydd i mi a'm teulu nos Fercher Chwef. 17. 1864. Yr oedd y darpariadau yu deilwng o'r boneddigesau, hen ac ieuainc, a gymerasant mewn llaw y rhan hyny o'r gwaith; yr un modd y canu, a'r adroddiadau, ac yr oedd y rhodd yu deilwng o'r cyfranwyr. Trefnwyd y cyfarfod gan y brawd J. Pierce, a chynorthwywyd ef gan y brodyr Benj. Davis, Evan Evans, Edward Willding, a John Edwards. Cafodd pawb eu boddio yn enwedig yr eiddoch, OMICRON.

y

Ymadawiad gweinidog -Dymuna eglwys Gyn. alleidfaol Pittston hysbysu fod ei gweinidog y Parch. Edward R. Lewis, wedi ymadael a myned i dalu ymweliad â Chymru. Ar ei ymadawiad bu dealldwriaeth a gaulyn rhyngddo a'r eglwys. Am fod amser ei ddychweliad yn ansier rhoddodd Mr. Lewis yr eglwys at ei rhyddid i roddi galwad i'r neb a fyddai yn ddewis i gymeryd ei gofal; ac am fod Mr. Lewis yn awr yn abseuol oddiwrthym am agos i uaw mis, a uiuau yn amddifad o weinidogaeth, penderfynwyd ein bod yn ol y dealldwriaeth uchod yn ymryddhau oddiwrth Mr. Lewis, ac yn benderfynol i roddi galwad i ryw un cymwys i gyflawni y swydd bwysig, a gobeithio y gwna yr Arglwydd ein cyfarwyddo, i ddewis un a fyddo wrth fodd ei galon Ef. Dymunwn hysbysu mai ansicrwydd dychweliad Mr. Lewis ydyw yr unig achos fod yr eglwys yn ymryddhau oddiwrtho, a'r angen ydym yn ei weled bob dydd am weinidogaeth sefydlog yu en plith. Dichou na fyddwn mor llwyddiannus a chael un o gymwysderau ein diweddar weinidog, eto yr ydym yn ystyried mai ein dyledswydd ydyw gwneud ein goreu dros yr achos yn y lle. Arwyddwyd gan

[blocks in formation]

Cwrdd mawr dirwestol yn New York.-Bwrtedir cynal Cynadledd o Genhadon Dirwest yn y Coop. er Institute yn New York, ar y 12fed a'r 13eg o Fai nesaf, mewn cysylltiad â'r American Temperance League. Gobeithir y bydd rhyw fesurau pwysig yn cael eu mabwysiadu 1 attal y ffrydlif fellidigedig gynyddol o anghymerolder a gaufyddir mor amlwg yn ein gwlad y dyddiau hyn.

Y gelynion-a Tennessee.-Byddindorf o 2000 o'n gelynion a ymosodasant ar Union City, Tenn., Mawrth 25, ac a'i cymerasant. Dywedir fod y fyddin elynol yn gref yn Dalton, Ga., a'i golwg ar ymosod yn fuau ar Tennessee. Yuo ac ar lanau y Rappahanock, Va., y maent yn casglu eu grym mwyaf, tebygid, yn yr ymgyrch presenol.

Hanesiaeth Dramor.

Y Rhyfel yn Ewrop.-Nid oes dim symudiadau o bwys mawr gyda golwg ar y rhyfel rhwng Denmark a'r Germaniaid wedi cymeryd lle yn ddiweddar. Swir am Gyuadledd o'r Galluoedd Ewropaidd, a gobeithir trwy y cyfryw y gellir atial a rhoddi terfyn ar y rhyfel cyn bʊ hir.

Yr Archdduc Maximilian oedd yn Llundaia Mawrth 11,-aeth ymlaen yn uniongyrchol i'r Marlborough House i dalu ymweliad a Breuin y Belgiaid, tad yr Archdduces.

Mab Tywysog Cymru a fedyddiwyd yn Mhalas Buckingham Mawrth 10fed.-Ei nain Victoria a'i henwodd Albert Victor Christian Edward.

Brenin Bavaria sydd wedi marw, a'i fab yw ei olynydd i'r orsedd.

CYMRU.

Prif ysgol i Gymru.-Mae Tywysogaeth Cymru wedi ei hesgeuluso yn fawr gyda golwg ar foddion addysg o'r radd uchaf. Tra y mae tri Choleg Brenhinol a Phrif Ysgol Frenhinol yn yr Iwerddon, a thra y mae pedair o Brif Ysgolion yn Ysgotland, lle y mae 4000 o'i meibion yn derbyu addysg ddyddiol o'r cymeriad uchaf, yn Nghymru nid oes un Brif Ysgol mewn bod, er fod ein cenedl yn

Marwolaeth yr Anrh Owen Lovejoy-Y gwr enwog hwn a fu farw yu ninas Brooklyn, N. Y., Mawrth 25, yn 53 ml. oedd. Yr oedd yn aelod o Dŷ ein Cynrychiolwyr, o'r 5ed rhanbarth yn Illinois, er's 10 mlynedd-wedi ei ethol yno bum waith yn oly nol. Yr oedd yn bleidiwr gwresog ac yn weithiwr llafurus a ffyddlon dros achos y caeth. Ei oes a gysegrwyd i'r achos hwn, a'i goff-gwneud i fyny dros filiwn a chwarter o boblogasib adwriaeth fydd fendigedig gan gyfeillion rhyddid mewn oesoedd a ddeuant eto. Llofruddiwyd brawd iddo yn Alton, D., tua 27 mlynedd yn ol gan derfysglu caethbleidiol.

y deyruas gyfunol. Mae yn dda genym gaufod oddiwrth newyddion diweddar fod deffroad ar yr achos yn mhlith prif ddynion ein cenedl, a bod Pwyllgor o Foneddwyr wedi ei neillduo i drefnu mesurau i gyrhaedd yr amcan teilwng hwn, i

rhyngddi â'r Eglwys Wladol, uac â ueb o'r Coleg. au presenol yn y Dywysogaeth.

Cyfeillion haelfrydol yn Utica ydynt yn gweithsefydlu Prif Ysgol yn Nghymru-heb un cysylltiad redu mewn danfou cymorth i'r dyoddefwyr yn Tennessee. Hon. William J. Bacon, Utica yw y Trysorydd i law yr hwn y dymuuir ar gyfeillion yr achos hwn ddanfon eu rhoddion.

Y for-ladrones, Florida oedd yn mhorthladd Funchal, Madeira, yuys berthynol i Portugal, ar y 27 o Chwefror, yn cymeryd i mewn ei chyflenwad o lộ &c. Y Sloop-of-war Americanaidd, St. Louis, oedd hefyd yn y porthladd ar yr un pryd, ond gan mai hwyl-long yw y St. Louis, nis gallai wneud dim.

Deiscbau i attal y fasnach mewn diodydd meddwol a anfonir yn brysur i Senedd Prydain Fawr y dyddiau hyn. Cynulleidfaoedd ac Ysgolion Subbothol Cymru a weithredant yn effro yn yr achos hwn. Golygyddiou Bauer Cymru a gefuogaut y symudiad.

Marwolaeth y Parch. John Prydderch (M. C )→ Nos Sabboth, Chwef. 28, yu 90 ml, oed, bu farw y gweinidog enwog hwn yn ei anedd yn Talwrn, Mon. Yr oedd yn mhlith y rhai hynaf, os nid yr hynaf oll o weinidogion ymneillduol Cymru.

[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small]

Felly er chwerwed oedd, hi brofodd gyda'r athrofa oreu a gafodd e' yn ei oes; ac nid llawer a ddychwelant adref o athrofeydd duwinyddol i ddangos cymaint o rân ac o yspryd crefyddol ag a ddangosodd ef ar ei ddychweliad yma.

Hydref 2, 1863, bu farw Mr. JOHN H. JONES, yn 27 oed. Ganwyd ef Awst 16, 1836, yn hen drigfan y teulu y dydd heddyw, o fewn tua milltir i'r dref hon, (Ebensburg.) Mab ydoedd i Mr. Daniel Jones a Mrs. Margaret Jones, (a elwir yn awr Mrs. Williams, priod Mr. John Williams.) Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys hon yn y flwyddyn 1848, pan nad oedd ond 11 oed. Yn fnan gwed'yn, gan weled fod yn ddo awydd tu hwnt i gyffredin am ddysg a gwybodaeth, cymerais ef gydag ychydig o feibion ieuainc eraill, er eu gosod ar y ffordd i fyned yn mlaen, ac yn y flwyddyn 1853 cy-Arglwydd o barotoi ei hun trwy gael ychwan

chwynodd i Jefferson College, Cannonsburg, lle y parhaodd yn fyfyriwr diwyd a gobeithiol dros ddwy flynedd. Gwedi dychwelyd adref, am ryw dymor, yr un syched parhaus hwnw am wybodaeth a'i cymhellodd ef gyda'i gyfaill ienainc Mr. Lewis J. Jones i gymeryd rhyw ferdaith trwy'r wlad ar draed, er bod yn fwy manteisiol i weled mwy o honi, gan ymweled ▲ Philadelphia, parthau o Delaware, New Jersey a New York, ac oddiyno i Boston. Meddyliodd yno y mynai weled ychwaneg o'r byd, a chymerodd fordaith ar fwrdd Moranwr (whaler,) rhwymedig i ororau Affrica, a gwedi cyrhaedd Cape Verde Islands, cymerodd long arall oedd i fyned i fyny yr afon Gambia.

Profodd y fordaith hon yn chwerw iawn iddo trwy lawer o ystormydd a chaledi, a mwy felly eto i'w rieni a'i anwyl berthynasau oedd gartref mewn dagrau pryderus yn ei gylch, ac yn ei gyflwyno nos a dydd am y cyfnod hwn yn eu taer weddiau drosto rhag iddo golli ei argraffiadau crefyddol wrth ddilyn cwmpeini annuwiol, a throi allan fel y gwnaeth canoedd, yn fachgen gwyllt ac annuwiol. Ond trwy ras Duw a'i dily-nodd trwy'r daith hirfaith hon, profodd yn fendith i'w enaid, er iddi wanychu ei iechyd ef am ei oes.

Gwelsom trwy ei lythyrau adref nad oedd e' yn mhlith y morwyr annuwiol ond megys Lot yn Sodom, yno yn poeni ei enaid gwirion.

Yn niwedd y flwyddyn 1858, cychwynodd drachefn i Oberlin, (lle cymhwys iawn iddo,) lle parhaodd hyd Medi 1862, pan fygythiwyd ac y dychrynwyd Cincinnati gan y gwrthryf elwyr, ac yr aeth ef allan gyda yr O. V. M. Ar y pryd hwn, wedi i'r dychryn fyned heibio, gweithiwyd ei feddwl bywiog a gweithgar ef i ryw ddau fath o deimlad-teimlad gwladgarol dros ei wlad a'i tueddai yn rhwydd i wneud ei oreu drosti, a theimlad ymroddol i waith ei

eg o wybodaeth feddygol (medical science) i fyned allan fel cenhadwr meddygol. Y ddau ddyben hyn a'i cymellodd i ymrwymo fel mamaeth (nurse) mewn ysbytty (hospital) yn Cincinnati. Ond ei iechyd a ballodd yno a dychwelodd i Oberlin Medi 1, 1863.

Teimlai ei iechyd yn gwanhau yn raddol o hyd, a rhoddodd dro o ymweliad â'i ewythr Mr. Daniel Jones yn Poland, O. Ar ei ddychweliad i Oberlin Medi 4, 1863, y term nesaf arosodd rai dyddiau yn y camp gyda'r milwyr yn Cleveland; cafodd ei wlychu yno yn drwi iawn gan ystorm o wlaw, ond ni wnaeth hyny ond peri i'w hen afiechyd angeuol ddod yn mlaen yn gynt hwyrach, a chymeryd gafael cryfach ynddo eto, ac yn mhen ychydig wythnosau wedi dychwelyd cynghorodd ei feddyg iddo adael y cyfan a dychwelyd adref yma yn ddiatreg. Hyny a wnaeth ef yn union deg, ac yn Pittsburgh cymerodd y ticket i Cresson, 8 milldir oddiyma, ond ar y ffordd cododd y dwymyn boeth hono i'w ben ef, a chymerwyd ef yn ddiarwybod bob cam i Philadelphia. Eto ryw fodd yn rhagluniaethol arweiniwyd ef i dŷ ei gefnder Mr. Ezekiel Hughes, lle y cafodd bob angeledd am y pythefnos olaf hwnw o'i oes, ac oddiyno am 11 y borcu ehedodd ei yspryd anfarwol Hydref 2, 1863, i fynwes ei Dad nefol. Dranoeth dygwyd ei gorff ef i fyny yma, lle claddwyd ef ar y 4ydd dydd

« AnteriorContinua »